Neidio i'r prif gynnwy

Cyd-ddatganiad

Image
Simon Coveney TD, Minister for Foreign Affairs and Minister for Defence  and Mark Drakeford MS, First Minister of Wales

Simon Coveney TD, Y Gweinidog Materion Tramor
Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Mae Cymru ac Iwerddon yn gymdogion agos. Mae ein perthynas gref a chadarnhaol wedi’i hadeiladu ar gysylltiadau hynafol a dealltwriaeth ddiwylliannol ddofn. Mae hi hefyd yn berthynas fodern a llewyrchus, sydd wedi’i seilio ar gysylltiadau a chydweithio ar draws meysydd gweithgarwch niferus ac amrywiol.

Golyga ein daearyddiaeth fod Iwerddon a Chymru yn rhannu hanes morol cyffredin. Mae Môr Iwerddon, sef y rhimyn tenau o ddŵr sy’n ein cysylltu yn hytrach nag yn ein gwahanu, wedi cael ei groesi gan ein pobloedd ers miloedd o flynyddoedd. Mae ein perthynas wedi tyfu o’r cysylltiadau hanesyddol hynny, ac mae wedi’i gwreiddio yn ein treftadaeth a’n diwylliant cyffredin a’n cysylltiadau agos o ran pobl, teulu a busnes a’n cysylltiadau academaidd, diwylliannol a chwaraeon. Cawn ein clymu ynghyd hefyd gan gysylltiadau economaidd a masnachu cryf, gan fod llawer iawn o allforio, buddsoddi a thwristiaeth yn bodoli rhyngom.

Ymhellach, rydym yn rhannu gwerthoedd a buddiannau cyffredin, a ninnau’n wledydd modern â chysylltiadau byd-eang. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cydraddoldeb a chynaliadwyedd, a hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol, ynghyd ag ymgysylltu â’r byd ehangach a Chymry/ Gwyddelod ar wasgar.
Ychydig dros ugain mlynedd yn ôl, crëwyd amgylchedd galluogi newydd ar gyfer Cymru ac Iwerddon.

Roedd Cytundeb Belfast / Gwener y Groglith 1998 yn cynnwys sefydlu’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig; a phan gafwyd datganoli ym 1997, fe arweiniodd hynny at greu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gwelwyd datblygiadau pellach yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac mae’r rhain wedi esgor ar egni newydd yn ein hymgysylltu: agor swyddfa Llywodraeth Cymru yn Llysgenhadaeth Prydain yn Nulyn yn 2012, ac ailagor Swyddfa Prif Gonswl Iwerddon yng Nghaerdydd yn 2019.

Ym mis Ionawr 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Ryngwladol ddiweddaraf, ac mae strategaeth Iwerddon ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol wedi’i phennu ym menter Global Ireland 2025. Mae’r datganiad hwn yn llifo o’r ddwy strategaeth hyn a’r ymrwymiad yn rhaglen Iwerddon y bydd y Llywodraeth yn dwysáu ei chysylltiadau gyda Chymru, ac fe’i lluniwyd er mwyn rhoi strwythur a mynegiant ymarferol i’n gweledigaeth o ran sut gallwn weithio gyda’n gilydd ar feysydd polisi cyffredin.

Mae’r datganiad hwn yn nodi ein hymrwymiad ar y cyd i ddod â Chymru ac Iwerddon yn nes at ei gilydd rhwng nawr a 2025, gan fynd ati o’r newydd i fuddsoddi yn y dasg o ddwysáu ein cydweithio a chryfhau ein cysylltiadau er budd cyffredin y ddwy wlad. Er mwyn delio â goblygiadau COVID-19, byddwn angen syniadau a chreadigrwydd newydd. Mae’r cymorth mae ar unigolion, busnesau, cymunedau a sectorau ei angen er mwyn eu galluogi i ailadeiladu mewn ffordd gynaliadwy yn mynnu ymrwymiad ac arloesi, ac mae’n cynnig cyd-destun cyffredinol i’n camau arfaethedig.

Mae ein haelodaeth gyffredin o’r UE a’n cyfranogiad ar y cyd yn rhaglenni’r UE wedi bod yn rym cadarnhaol o ran ein perthynas, ac yn y degawdau diwethaf mae hyn wedi hwyluso cydweithio llwyddiannus ar draws Môr Iwerddon. Yn ddi-os, bydd ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn newid ac yn ailffurfio’r berthynas rhwng Iwerddon a Chymru yn ystod y blynyddoedd nesaf. I Iwerddon, fodd bynnag, erys Cymru yn bartner naturiol, a bydd porthladdoedd Cymru yn dal i fod yn borth hollbwysig i’r DU a thu hwnt. I Gymru, Iwerddon fydd ein cymydog Ewropeaidd agosaf o hyd, a bydd yn parhau i fod yn bartner rhyngwladol â blaenoriaeth.

Er gwaethaf y newid anochel sydd o’n blaenau, ein dymuniad cyffredin yw creu’r berthynas agosaf a dyfnaf bosibl rhwng y DU ac Iwerddon, a rhwng Cymru ac Iwerddon. Rydym yn croesawu’r syniad o gynnal a diogelu’r Ardal Deithio Gyffredin yn y cyd-destun newydd hwn; golyga hyn y bydd dinasyddion Iwerddon a Phrydain yn parhau i allu byw, gweithio, astudio, pleidleisio a chael mynediad at ofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn y naill wlad a’r llall. Bydd y rhyddid hwn i symud a’r fframwaith hawliau cysylltiedig yn esgor ar gysylltiadau dyfnion ledled Iwerddon a’r DU, yn cynnwys rhwng Iwerddon a Chymru.

Rydym yn trysori cryfder a chadernid ein cysylltiadau hir sefydledig. Yn yr un modd, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau perthnasoedd sefydliadol cryf rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin, yn cynnwys trwy Gytundeb Gwener y Groglith. Croesawn y ffaith y bydd Cymru ac Iwerddon yn parhau i weithio ochr yn ochr yn fframwaith y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ac y bydd ein seneddwyr yn cyfarfod yn rheolaidd trwy’r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig.

Mae Iwerddon a Chymru yn cydnabod pa mor hollbwysig yw datblygu cynaliadwy, ac rydym wedi ymrwymo i roi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ar waith. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu ei huchelgeisiau trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a thrwy benodi Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd Iwerddon yn gydawdur y Nodau Datblygu Cynaliadwy yn y Cenhedloedd Unedig. Mae cynnydd o ran gwireddu’r nodau hyn yn hollbwysig i uchelgais Iwerddon ar gyfer ei thymor ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn 2021-22. Ystyriwn yr ymrwymiad cyffredin hwn i gynaliadwyedd fel maes y dylid mynd ati’n barhaus i gydweithio arno a rhannu arferion da yn ei gylch, a hefyd mae’n fframio ein blaenoriaethau ar gyfer gweithredu.

Yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf, mae rhaglen Iwerddon Cymru (rhaglen forol drawsffiniol dan faes Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd yr UE, Cronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop, sy’n cysylltu sefydliadau, busnesau a chymunedau arfordir gorllewin Cymru ag arfordir de-ddwyrain Iwerddon) wedi meithrin yr arfer o greu cysylltiadau unigryw o gryf a phenodol ar draws Môr Iwerddon, ar lefel leol a lefel sectoraidd. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n gilydd i gynnal y rhwydweithiau sydd wedi deillio o’r rhaglen.

Mae’r Cynllun Gweithredu lefel uchel ar y cyd sy’n dilyn yn pennu chwe maes ar gyfer cydweithio, sef meysydd y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb datganoledig drostynt. Dyma’r meysydd dan sylw:

  1. Ymgysylltu ar lefel wleidyddol a swyddogol
  2. Yr hinsawdd a chynaliadwyedd
  3. Masnach a thwristiaeth
  4. Addysg ac ymchwil
  5. Diwylliant, iaith a threftadaeth
  6. Cymunedau, cymry/gwyddelod ar wasgar a chwaraeon

Ymrwymwn i gyfarfod bob blwyddyn er mwyn adolygu’r cynnydd o ran gweithredu’r camau a nodir ym mhob maes, ac er mwyn adnewyddu’r Cynllun Gweithredu. Bydd Swyddfa Prif Gonswl Iwerddon yng Nghaerdydd a swyddfa Llywodraeth Cymru yn Nulyn yn arwain y gwaith o gyflawni’r cynllun hwnnw. Byddant yn cynnull ac yn cefnogi digwyddiadau er mwyn ategu cysylltiadau cadarnhaol a pharhaol. Bydd hyn yn cynnwys Fforwm Iwerddon-Cymru blynyddol newydd, ar lefel uchel, a fydd yn dod â rhanddeiliaid gwleidyddol, economaidd ac ehangach ynghyd i feithrin perthynas, trafod y cydweithredu sy’n digwydd ac ystyried cyfleoedd i gydweithio ymhellach.

Image
Signatures

Mawrth / Márta / March 2021

Cynllun gweithredu ar y cyd

Cyflwyniad

Er mwyn cyflawni ein Cydddatganiad ar gyfer 2021-2025, mae Llywodraeth Iwerddon a Llywodraeth Cymru wedi nodi a chytuno ar nifer o feysydd cyffredin lle gellir cydweithio’n agosach. Gan gwmpasu ymgysylltu gwleidyddol, economaidd a diwylliannol, caiff ein hagenda ddwyochrog uchelgeisiol ei phennu yn y Cynllun Gweithredu Lefel Uchel ar y Cyd hwn. Bydd y Gweinidogion yn cyfarfod bob blwyddyn i adolygu a diweddaru’r cynllun – sef cynllun a fydd yn adeiladu ar ein cydweithio parhaus ar draws ystod eang o feysydd polisi.

Mae datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag ymrwymiad i sicrhau dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb, wrth galon a chraidd ein dulliau penodol o ymdrin ag adferiad economaidd a chymdeithasol ar ôl COVID-19, ynghyd â’r argyfwng parhaus o ran yr hinsawdd a bioamrywiaeth. O gofio’r brys sydd ynghlwm wrthynt, bydd ein cydweithio’n canolbwyntio’n arbennig ar yr hinsawdd a chynaliadwyedd, a hynny ar draws chwech o feysydd cydweithio mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb datganoledig drostynt:

  1. Ymgysylltu gwleidyddol a swyddogol
  2. Yr hinsawdd a chynaliadwyedd
  3. Masnach a thwristiaeth
  4. Addysg ac ymchwil
  5. Diwylliant, iaith a threftadaeth
  6. Cymunedau, cymry/gwyddelod ar wasgar a chwaraeon

Yn ystod oes ein Cyd-ddatganiad ar gyfer 2021-25, byddwn yn hwyluso ac yn cefnogi cydweithio a fydd yn esgor ar ganlyniadau parhaus a chadarnhaol a all fod o fudd i’r ddwy wlad. Canolbwynt hyn fydd Fforwm Iwerddon-Cymru a fydd yn cael ei gynnull gan Swyddfa Prif Gonswl Iwerddon yng Nghaerdydd a swyddfa Llywodraeth Cymru yn Nulyn. Bydd y digwyddiad yn dod â rhanddeiliaid gwleidyddol, economaidd ac ehangach ynhyd, a bydd yn gyfle i feithrin perthynas a gwireddu potensial cyfleoedd yn awr ac yn y dyfodol.

Yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf, mae Rhaglen Iwerddon Cymru wedi meithrin yr arfer o greu cysylltiadau 
unigryw o gryf a phenodol ar draws Môr Iwerddon, ar lefel leol a lefel sectoraidd. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith prosiectau presennol o fewn y rhaglen, yn ogystal ag archwilio sut i gynorthwyo partneriaid y rhaglen i adeiladu ar ei llwyddiannau a chryfhau mwy ar ei rhwydweithiau.

Swyddfa Llywodraeth Cymru yn Nulyn a Swyddfa Prif Gonswl Iwerddon yng Nghaerdydd fydd yn arwain y dasg o roi’r Cynllun Gweithredu ar y Cyd hwn ar waith, gyda chymorth gan Adran Materion Tramor Iwerddon a Thîm Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag ystod eang o bartneriaid.

1. Ymgysylltu ar lefel wleidyddol a swyddogol

Mae ein perthnasoedd dwyochrog cryf a chadarnhaol wedi’u hadeiladu ar gysylltiadau hynafol a chydddealltwriaeth ddiwylliannol ddofn. Ers datganoli ym 1999, mae’r cysylltiadau hyn wedi dwysáu yn sgil cydweithio uniongyrchol ar lefel wleidyddol a swyddogol mewn amrywiaeth o feysydd polisi, gan gryfhau’r arfer o gydweithio a chyfnewid ar bob lefel ar draws meysydd cymdeithasol, diwylliannol, addysgol ac economaidd.

Ceir cysylltiad ffurfiol rhwng ein llywodraethau gan fod y ddwy wlad yn aelodau o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a sefydlwyd fel rhan o Gytundeb Gwener y Groglith. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ymgysylltu rhwng Gweinidogion a rhwng uwch-swyddogion wedi dwysáu ar y ddwy ochr ac ar draws sectorau. Ceir cysylltiad rhwng y seneddwyr trwy’r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, ac mae cyfleoedd i’w cael i ddyfnhau’r ddealltwriaeth a’r cysylltiadau rhwng Senedd Cymru a’r Oireachtas.

Er mwyn dwyn lleisiau’r holl sectorau ynghyd, yn 2021 byddwn yn lansio Fforwm Iwerddon-Cymru blynyddol fel ffordd newydd a phwysig o gynnal deialog a meithrin perthynas. Bydd y Fforwm yn cael ei gynnull gan Swyddfa Prif Gonswl Iwerddon yng Nghaerdydd a Swyddfa Llywodraeth Cymru yn Nulyn. Bydd themâu’r Fforwm cyntaf yn cael eu cytuno’n flynyddol, ac un o brif themâu’r fforwm gyntaf, ddiwedd 2021, fydd cynaliadwyedd ac adferiad gwyrdd, cyn Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) sy’n cael ei chynnal yn y DU.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Cynyddu nifer yr ymweliadau lefel uchel bob blwyddyn, gan adeiladu ar gyfarfodydd chwemisol y Taoiseach a Phrif Weinidog Cymru yn uwchgynadleddau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a chreu rhagor o gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu rhwng Gweinidogion.
  • Sicrhau y bydd y Gweinidog sy’n gyfrifol am Gysylltiadau Rhyngwladol yng Nghymru a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am Faterion Tramor yn Iwerddon yn parhau i ymgysylltu, gan gynnwys cyfarfod blynyddol i adolygu cynnydd y cynllun gweithredu hwn
  • Cynnal ymgynghoriadau dwyochrog blynyddol ar lefel llywodraeth, gan ganolbwyntio yn 2021/22 ar y meysydd canlynol: Cymry/Gwyddelod ar wasgar, cynllunio a gweithredu polisi iaith; addysg; tai; gweithio o bell a chynaliadwyedd. 
  • Cynnull Fforwm blynyddol cyntaf Iwerddon-Cymru yn 2021, gan ddod â Gweinidogion ac ystod eang o randdeiliaid at ei gilydd i feithrin perthynas, cyfnewid safbwyntiau polisi, rhannu dysg a sefydlu cynlluniau cydweithio i gryfhau’r berthynas ehangach rhwng Iwerddon a Chymru
  • Manteisio i’r eithaf ar agoriad swyddogol Swyddfa Prif Gonswl Iwerddon yng Nghymru yn ystod 2021 er mwyn dathlu ac arddangos ein perthynas ddwyochrog yng Nghymru ac Iwerddon
  • Dwysáu’r cysylltiadau seneddol trwy gynorthwyo Senedd Cymru a’r Oireachtas i archwilio cyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth am heriau cyffredin, fel deddfu ynghylch cynaliadwyedd, polisi iaith a chydraddoldeb
  • Cefnogi a hyrwyddo blaenoriaethau polisi ein cysylltiad cyffredin â sectorau gwaith y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, sef cynllunio gofodol cydweithredol; y diwydiannau creadigol; iaith; demograffeg; cynhwysiant digidol; y blynyddoedd cynnar; ynni; yr amgylchedd; tai; camddefnyddio sylweddau; cynhwysiant cymdeithasol a thrafnidiaeth
  • Archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhwng swyddfa gynrychioliadol Llywodraeth Cymru a chenhadaeth ddiplomyddol Iwerddon o dan ein themâu cyffredin, sef Cymry/Gwyddelod ar wasgar, cynaliadwyedd ac iaith.

2. Yr hinsawdd a chynaliadwyedd

Newid hinsawdd yw her fyd-eang ddiffiniol ein cyfnod, ac mae’r angen dybryd i gymryd camau yn safbwynt a gaiff ei rannu gan Iwerddon a Chymru. Byddwn yn blaenoriaethu camau gweithredu ar y cyd a fydd yn ategu datblygu cynaliadwy, trwy addasu i newid hinsawdd a lliniaru newid hinsawdd, twf gwyrdd, a phontio i economi carbon sero net ac economi gylchol. Credwn y gall gwneud ein priod economïau’n fwy gwyrdd sbarduno datblygiadau cymdeithasol ac economaidd a chynorthwyo i adfer ar ôl COVID-19, yn ogystal â chynnig cyfleoedd ar gyfer buddsoddi a thwf.

Bydd cyflenwad dibynadwy o ynni diogel a glân yn hanfodol wrth gael gwared yn raddol â thanwyddau ffosil yn ystod y degawdau nesaf, a bydd yn ganolog o ran creu economïau cryf a chynaliadwy. Mae datblygu mwy ar gapasiti ynni gwynt ar y môr yn faes a chanddo botensial enfawr o ran cydweithio a thwf, yn enwedig yn y maes ymchwil a datblygu. Mae ecosystemau’r môr a’r cefnfor yn hollbwysig hefyd, a byddwn yn parhau i gefnogi’r arfer o gydweithio ar draws Môr Iwerddon a chymunedau arfordirol.

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn cynnig fframwaith cyffredinol ar gyfer ein cydweithio yn y maes hwn, ac mae Iwerddon a Chymru fel ei gilydd wedi ymrwymo i roi’r Nodau Datblygu Cynaliadwy ar waith yn rhyngwladol, a gartref hefyd. Y rhai agored i niwed a’r rhai ar y cyrion fydd yn dioddef effeithiau gwaethaf newid hinsawdd, ac wrth i Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn 2021 (COP26) nesáu, byddwn yn gweithio er mwyn sicrhau y bydd eu lleisiau nhw, ynghyd â lleisiau pobl ifanc a chymunedau lleol, yn cael eu clywed yn y drafodaeth.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Cyfnewid yr hyn a ddysgwyd ynglŷn â’r cynnydd tuag at weithredu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy, yn cynnwys gwybodaeth am ddeddfu ynghylch datblygu cynaliadwy yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a datblygu dangosyddion i fesur cynaliadwyedd a llesiant
  • Sefydlu trefniant cydweithio rhwng Academi Arweinwyr y Dyfodol yng Nghymru a Rhaglen Cynrychiolwyr Ieuenctid y Cenhedloedd Unedig yn Iwerddon ar gyfer materion sy’n effeithio ar bobl ifanc
  • Archwilio cyfleoedd i gydweithio wrth weithredu ar y newid yn yr hinsawdd a rhoi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ar waith yn rhyngwladol, trwy gael Rhaglen Cymorth Tramor Iwerddon (Irish Aid) a’i phartneriaid, ynghyd ag asiantaethau a sefydliadau Cymru, i weithio er mwyn cyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy dramor.
  • Parhau i hyrwyddo a thynnu sylw at effaith a chanfyddiadau prosiectau sy’n delio ag addasu i newid hinsawdd a chymunedau arfordirol ym Môr Iwerddon, dan raglen INTERREG Iwerddon-Cymru
  • Defnyddio ein rhwydweithiau i feithrin cysylltiadau a chynorthwyo sefydliadau sy’n archwilio cyfleoedd i gydweithio ym maes ynni adnewyddadwy Môr Iwerddon, o ran ymchwil a datblygu; o ran twf y gadwyn gyflenwi; a mynd ati i arddangos rhagoriaeth ymchwil mewn ynni adnewyddadwy (yn cynnwys ynni gwynt sefydlog ac arnofiol ar y môr, ynni’r tonnau, ynni ffrwd lanw ac ynni amrediad llanw)
  • Cynorthwyo i ddatblygu Memorandwm Cydddealltwriaeth Cynghrair y Môr Celtaidd 2019 rhwng Iwerddon, Cymru a Chernyw, sy’n cynnwys Ynni Môr Cymru, y Marine Renewables Industry Association (MRIA) a Phartneriaeth Mentrau Lleol Cernyw ac Ynysoedd Sili (LEP)
  • Annog y gwaith o gyflawni prosiect rhynggysylltydd Greenlink rhwng Wexford a Sir Benfro.

3. Masnach a thwristiaeth

Mae llif masnach yn ganolog i’r cysylltiadau economaidd cryf rhwng Iwerddon a Chymru, ac mae llwybrau fferïau trwy ein porthladdoedd, yn awr ac yn y dyfodol, yn allweddol o ran y cysylltiad rhwng pobl a rhwng nwyddau. Ar hyn o bryd mae rhyw 85 o gwmnïau Gwyddelig yn gweithredu yng Nghymru, gan gyflogi oddeutu 6,770 o bobl, ac yn 2019 roedd allforion Cymru i Iwerddon yn werth £1.69 biliwn.

Yn ychwanegol at gysylltiadau masnach uniongyrchol, mae’r sarn gyswllt rhwng Iwerddon a marchnadoedd eraill yr UE yn chwarae rôl bwysig i’r ddwy economi. Bydd Iwerddon a Chymru yn cydweithio i helpu busnesau i addasu i’r cyd-destun newydd yn sgil y CytundebMasnach a Chydweithredu rhwng yr UE a’r DU, ac i liniaru unrhyw heriau. Yn ogystal, bydd ein priod gyrff ar gyfer hyrwyddo masnach a buddsoddi yn cynorthwyo busnesau Cymru ac Iwerddon i ganfod cyfleoedd newydd i ddatblygu allforio, ynghyd ag ychwanegu gwerth at gadwyni cyflenwi cyfredol ac annog cysylltiadau newydd ‘busnes i fusnes’.

Gan ein bod yn agos at ein gilydd a chan fod ein heconomïau’n debyg, ar brydiau mae sectorau’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, naill ai am gyfran marchnad neu fuddsoddiad rhyngwladol; serch hynny, mae cyfleoedd cryf i’w cael i integreiddio cadwyni cyflenwi, yn ogystal â chydweithio, yn cynnwys o ran ymchwil a datblygu.

Mae twristiaeth yn sector strategol allweddol a chanddo fanteision pwysig i ddatblygu rhanbarthol yn y ddwy economi, a hefyd mae’n darparu llawer o waith. Wrth i’r diwydiant twristiaeth geisio adfer ar ôl effaith COVID-19, bydd Iwerddon a Chymru yn gweithio gyda’i gilydd i rannu gwersi wrth ymateb i’r her hon.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Cynorthwyo a gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys asiantaethau hyrwyddo masnach a Siambrau Masnach, er mwyn cynorthwyo i gyflawni teithiau masnach, yn cynnwys ymweliadau rhithwir, mewn sectorau allweddol
  • Rhannu dulliau polisi a hybu cydweithredu ar gyfer adferiad gwyrdd o effaith COVID-19, gan gynnwys yn rhanbarthol yng Nghymru drwy Fargen Ranbarthol Gogledd Cymru, ac fel rhan o ranbarth ehangach y Northern Powerhouse
  • Cynorthwyo ein cydweithwyr a’n hasiantaethau menter i ddeall, ymgyrraedd at ac ymgysylltu â chyrff y sector cyhoeddus, yn ogystal ag arweinwyr barn a phenderfynwyr mewn sectorau â blaenoriaeth, 
  •  sef ynni adnewyddadwy, gwyddorau bywyd/gofal iechyd, technolegau digidol, adeiladu a seilwaith, awyrofod, bwyd a diod, y sector cyhoeddus a’r diwydiannau creadigol
  • Cefnogi’r twf mewn cydweithio rhwng Iwerddon a Chymru yn y maes awyrofod, yn cynnwys gweld Swyddfa Llywodraeth Cymru yn Nulyn yn cymryd rhan yn yr uwchgynhadledd hedfanaeth yn Nulyn yn 2021, a fydd yn canolbwyntio ar hedfanaeth a’r amgylchedd
  • Cefnogi a datblygu cyfleoedd i gydweithio rhwng ecosystemau technegol Cymru ac Iwerddon, megis y 
  •  cydweithio llwyddiannus rhwng Cyber Ireland a Seiber -Gymru yn Nulyn yn ystod Wythnos Cymru 2020
  • Parhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cytundeb partneriaeth rhwng y Guinness Enterprise Centre a Tramshed Tech, gan ymestyn y cysylltiadau gyda hybiau gwledig trwy’r ddwy wlad er mwyn hyrwyddo opsiynau ‘glanio ysgafn’ ar gyfer cwmnïau Cymru ac Iwerddon fel ei gilydd
  • Hyrwyddo cydweithio diwydiannol priodol yn niwydiannau gwyddorau bywyd Iwerddon a Chymru, yn cynnwys trwy’r Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN), dan arweiniad Prifysgol Abertawe (Caiff CALIN gefnogaeth gan raglen INTERREG Iwerddon Cymru a chaiff ei arwain gan Brifysgol Abertawe gyda’r partneriaid NUI Galway, The Tyndall National Institute, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd)
  • Rhoi trafodaethau ymchwiliol ar waith i feithrin y potensial o gydweithio a chydweithredu rhwng ein priod asiantaethau twristiaeth, sef Fáilte Ireland, Tourism Ireland a Croeso Cymru.

4. Addysg ac ymchwil

Ers cyfnod y mynachod, mae ysgolheigion wedi symud yn rheolaidd rhwng Cymru ac Iwerddon – traddodiad a adlewyrchir yn fwy diweddar yn yr arfer o gyfnewid myfyrwyr, disgyblion, ymchwilwyr, hyfforddeion ac academyddion rhwng sefydliadau Iwerddon a Chymru.

Mae nifer o’r cysylltiadau cryf a buddiol a welir eisoes rhwng sefydliadau academaidd wedi’u gwreiddio yn rhaglenni’r UE, fel y Rhaglenni Ymchwil Fframwaith (Horizon 2020), Erasmus+, Rhaglen Iwerddon Cymru, a rhaglenni cydweithio ymchwil y DU-Iwerddon. Wrth i ni addasu i’r berthynas a fydd rhwng yr UE a’r DU yn y dyfodol, rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo sefydliadau i archwilio pob llwybr er mwyn cynnal y cydweithio cryf hwn.

Ceir cyfleoedd ‘dysgu gan gymheiriaid’ ar gyfer ysgolion yng Nghymru ac Iwerddon sy’n wynebu heriau a chyfleoedd tebyg, yn enwedig o ran iaith, dysgu digidol, ac mewn ymateb i COVID-19. Mae ysgolion Cymru wedi cynnal cyfleuster hwb ar gyfer gweithwyr rheng flaen, ochr yn ochr â chymorth ar gyfer dysgwyr trwy blatfform digidol cenedlaethol; mae’r ddau brofiad yn cynnig cyfleoedd dysgu i bob rhan o’r ynysoedd hyn.

Mae gan Gaelscoileanna ac ysgolion cyfrwng Cymraeg y potensial i ddysgu ar sail heriau a phrofiadau cyffredin yn ymwneud â gweithredu mewn iaith leiafrifol oddi mewn i gymunedau dwyieithog ehangach, a gwneud y gorau o’r datblygiadau cyflym mewn cyfleoedd ar-lein ar gyfer cymorth ieithyddol a diwylliannol.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Cefnogi mwy o gydweithio rhwng Gweinidogion ac Adrannau Addysg, ac ysgolion, yn cynnwys cydweithio o ran platfformau digidol cenedlaethol, iaith a diwylliant
  • Pennu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cydweithio, symud a chyfnewid rhwng academwyr a rhwng myfyrwyr. 
  • Archwilio’r posibilrwydd o sefydlu cymrodoriaethau ymchwil newydd rhwng Cymru ac Iwerddon
  • Hwyluso a chefnogi digwyddiadau/gweithdai cydweithio academaidd yn y ddwy wlad, sy’n archwilio opsiynau i gynnal y cysylltiadau cryf rhwng y byd academaidd a busnes
  • Trwy gyfrwng Swyddfa Prif Gonswl Iwerddon yng Nghymru a swyddfa Llywodraeth Cymru yn Nulyn, byddwn yn mynd ati ar y cyd yn 2021 i sefydlu darlith flynyddol lefel uchel yng Nghymru ac Iwerddon – sef darlith “Padrig Sant a Dewi Sant” – a gynhelir bob yn ail flwyddyn, gan gefnogi’r arfer o gyfnewid arweinwyr agweddau ac academyddion arweiniol;
  • Cyfrannu at drafodaethau ehangach parhaus yn ymwneud â chefnogi ymgysylltu agosach, mwy penodol rhwng prifysgolion Cymru ac Iwerddon, gyda rhanddeiliaid eraill, yn cynnwys Siambr Prydain ac Iwerddon, Science Foundation Ireland (SFI) a Prifysgolion Cymru
  • Cymryd rhan fel arsyllwyr yng ngweithgor Siambr Fasnach Prydain Iwerddon ar Addysg ac Ymchwil, a chefnogi ac adeiladu ar y gyfres “Cysylltiadau Celtaidd”, sy’n cynnwys gwaith ymchwil a digwyddiadau.

5. Diwylliant, iaith a threftadaeth

Mae Iwerddon a Chymru yn elwa ar dreftadaeth ddiwylliannol gyffredin sy’n ffynnu ym mhob un o’r ddwy wlad. Mae gan artistiaid rôl hollbwysig yn y ddwy wlad, gan ddiogelu ffurfiau celf traddodiadol yn ogystal ag ailddychmygu a chynrychioli ein cymdeithasau cyfredol trwy lens fodern a chreadigol.

Drwy’r byd, rydym yn hyrwyddo ein hunaniaeth trwy gyfrwng ein perfformwyr diwylliannol; a gartref, mae’r diwydiannau creadigol yn hollbwysig i’n heconomi ac i’n cymdeithas. Mae’r sector economaidd diwylliannol a’r sector economaidd treftadaeth wedi wynebu cryn her yn sgil y pandemig, a byddant angen mwy o gymorth i adfer a ffynnu.

Mae nifer o’n sefydliadau diwylliannol cenedlaethol a lleol yn cymryd rhan mewn ystod eang o fentrau sy’n cynorthwyo artistiaid, awduron, perfformwyr a grwpiau cydweithredol i weithio gyda’i gilydd. Mae arweinwyr sefydliadau diwylliannol ac artistig yn symud yn ddilyffethair rhwng Iwerddon a Chymru, a cheir cysylltiadau cryf rhwng sefydliadau lleol – er enghraifft, mae Iwerddon yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol trwy gyfrwng Conradh na Gaeilge, ceir digwyddiadau cyfnewid lleol yn ymwneud â cherddoriaeth a dawns, a cheir cangen o Comhaltas yn Ne Cymru.

Rydym yn trysori’r amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol yn yr ynysoedd hyn, a gwyddom y gall y naill ddysgu gan y llall yng nghyswllt dwyieithrwydd a datblygiad polisi iaith.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Cefnogi’r berthynas gref a chynyddol sydd rhwng ein Cynghorau Celfyddydau, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Culture Ireland, trwy gyfrwng rhith- gyfarfod grŵp rhanddeiliaid er mwyn datblygu a gwella’r cydweithio ymhellach
  • Parhau i wella’r cydweithio ar gyfer arddangosiadau artistig mewn gwyliau, yn cynnwys Gŵyl Padrig Sant, 
  •  WOMEX, Horizons a’r Eisteddfod Genedlaethol, sefydliadau llenyddol, cyhoeddwyr, awduron a rhanddeiliaid allweddol eraill, fel Poetry Ireland, yr Irish Writers Centre, Llenyddiaeth Cymru, Academi, er mwyn gwella cyfleoedd i gydweithio a chyfnewid ym maes llenyddiaeth
  • Ceisio cefnogi’r cysylltiadau cynyddol rhwng ein llyfrgelloedd a’n hamgueddfeydd cenedlaethol, yn cynnwys rhannu gwybodaeth a gwrthrychau rhwng Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru ac Iwerddon, fel y nodir yn y Memorandwm Cydddealltwriaeth a arwyddwyd ym mis Mawrth 2019
  • Parhau i gefnogi a hyrwyddo’r bartneriaeth dair blynedd a roddwyd ar waith yn 2019 gyda’r Ŵyl Other Voices a Lleisiau Eraill rhwng South Wind Blows, Theatr Mwldan a Triongl TV. Ceisio datblygu cyfleoedd i ymgysylltu ag Ireland’s Edge, sef cyfres o ddigwyddiadau creadigol amlddisgyblaethol sy’n rhan o ŵyl gerddoriaeth a syniadau Other Voices
  • Cefnogi mentrau a phrosiectau presennol sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth a gwybodaeth am ein hanes cyffredin a’n treftadaeth adeiledig, ac annog sefydliadau â diddordeb i ganfod cyfleoedd newydd, yn cynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â’r “degawd canmlwyddiannau”, RMS Leinster, y Gofeb Newyn yng Nghaerdydd, a Frongoch ger y Bala
  • Cefnogi’r gwaith o greu partneriaethau rhwng ein sefydliadau ieuenctid sydd, yn eu tro, yn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg a’r Wyddeleg; ac yn benodol, mynd ati i hwyluso a hyrwyddo’r rhaglen bartneriaeth dair blynedd rhwng Coláiste Lurgáin ac Urdd Gobaith Cymru er mwyn rhannu arferion gorau a’r hyn a ddysgwyd o ran technoleg ddigidol
  • Parhau i weithio trwy ffrwd waith y Cyngor Prydeinig Gwyddelig ar ieithoedd lleiafrifol er mwyn cynorthwyo i ddatblygu polisi ar gyfer ieithoedd brodorol a chydweithrediad yn y maes
  • Rhoi mwy na €150,000 i gynorthwyo’r arfer o addysgu Gwyddeleg ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd yn 2020/21 a 2021/22, a rhoi ysgoloriaethau Llywodraeth Iwerddon i fyfyrwyr sy’n dilyn y cyrsiau hyn ac sy’n dymuno treulio cyfnod o amser yn astudio yn y Gaeltacht.

6. Cymunedau, cymry/gwyddelod ar wasgar, a chwaraeon

Mae cysylltiadau rhwng pobl â’i gilydd wrth galon ein perthynas agos. O’r cyfnod Celtaidd, trwy’r cyfnod Normanaidd, y chwyldro diwydiannol, a hyd heddiw, mae teuluoedd ac unigolion wedi symud yn ôl a blaen rhwng Iwerddon a Chymru, ac o amgylch y byd, naill ai trwy ddewis neu o reidrwydd i geisio bywyd gwell.

Mae’r ffaith fod y darllediad radio cyntaf yn y Gymraeg wedi’i wneud o Ddulyn yn arwydd o gysylltiadau mwy modern, heb anghofio’r clybiau cerddoriaeth, chwaraeon a chymdeithasol Gwyddelig niferus sydd wedi ffynnu ledled Cymru.

Mae’r cysylltiad rhwng Gogledd Cymru ac ardal Dulyn/ Wicklow yn eithriadol o gryf, ac felly’r cysylltiad Abertawe/Corc, a byddwn yn canolbwyntio ar dynnu sylw at y cysylltiadau hyn.

Rydym wedi ymrwymo i rannu ein profiadau o ran ymgysylltu â Chymry/Gwyddelod ar wasgar, gyda’r naill yn dysgu gan y llall er mwyn dwysáu a chyfoethogi ein cysylltiadau â’n cymunedau Cymry/Gwyddelod ar wasgar dros y dŵr.

Mae Cymru ac Iwerddon yn danbaid dros chwaraeon o bob math, o chwaraeon cymunedol llawr gwlad i chwaraeon elît ar lefel broffesiynol. Mae ein polisïau’n hyrwyddo’r arfer o gymryd rhan mewn chwaraeon, er lles unigolion a chymunedau. Mae’r adfywiad a welir yng Nghymru ar hyn o bryd yng nghlybiau’r Gymdeithas Athletaidd Wyddelig (GAA) yn arwydd pellach o’r hanes hir sydd gan gymunedau Gwyddelig yn y wlad.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Archwilio’r posibilrwydd o drefnu secondiad i swyddog o Lywodraeth Cymru i’r Uned Gwyddelod Tramor yn Adran Materion Tramor Iwerddon er mwyn dwysáu’r wybodaeth a’r arbenigedd a gyfnewidir rhyngom o ran ymgysylltu uniongyrchol ac anuniongyrchol gyda Chymry/Gwyddelod ar wasgar
  • Mynd ati i ymgysylltu gyda chymunedau Cymry/ Gwyddelod ar wasgar, yn cynnwys trwy gyfrwng digwyddiadau ar y cyd
  • Trwy Swyddfa Prif Gonswl Iwerddon yng Nghymru, hyrwyddo ymwybyddiaeth o gyllid Rhaglen Cymorth i Allfudwyr Llywodraeth Iwerddon ar gyfer sefydliadau sy’n cynorthwyo cymunedau Gwyddelig yng Nghymru
  • Rhannu’r arferion gorau o ran cynyddu cyfranogiad a chynwysoldeb mewn chwaraeon er mwyn hyrwyddo canlyniadau iechyd a llesiant ehangach ar draws cymdeithas
  • Mynd ati ar y cyd i nodi a hyrwyddo cysylltiadau presennol, fel trefi, ysgolion a chlybiau chwaraeon sydd wedi’u gefeillio, trwy gyfeirio cymunedau â diddordeb at gymorth priodol gan awdurdodau lleol a chymorth o fath arall
  • Adeiladu ar y cysylltiadau pwysig sy’n bodoli rhyngom o ran chwaraeon, gan gynnwys trwy feithrin cysylltiadau rhwng mudiadau chwaraeon a chynnal digwyddiadau a fydd yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i greu cysylltiadau a rhwydweithiau, fel y gemau Chwe Gwlad bydenwog ar gyfer dynion a menywod, yn ogystal â mathau eraill o chwaraeon
  • Trwy gyfrwng Swyddfa Prif Gonswl Iwerddon yng Nghymru, parhau i gefnogi twf a datblygiad gemau Gwyddelig yng Nghymru, trwy gyfrwng clybiau GAA cymunedol.

Ffeithluniau

Cynrychiolaeth

Ailagorodd Iwerddon swyddfa ei Chonswl Cyffredinol yng Nghaerdydd yn 2019.

Agorwyd Swyddfa Gynrychioliadol Llywodraeth Cymru yn Iwerddon yn 2012.

Academia

Mae’r Rhwydwaith Geltaidd Arloesi Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN), gyda chefnogaeth rhaglen INTERREG Iwerddon Cymru ac a arweinir gan Brifysgol Abertawe, yn dwyn ynghyd ragoriaeth busnes, academaidd a chlinigol i annog twf ac arloesedd ar draws y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru a Iwerddon.

Masnach

Mae 85 o gwmnïau o Iwerddon yn gweithredu yng Nghymru, gan gyflogi tua 6,770 o bobl (Llywodraeth Cymru).

Roedd allforion Cymru i Iwerddon yn werth £1.69 biliwn yn 2019, sy’n golygu mai Iwerddon oedd 4ydd partner masnachu mwyaf Cymru (Llywodraeth Cymru).

Datblygu Cynaliadwy

Cyd-gadeiriodd Iwerddon y trafodaethau rhynglywodraethol ar Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Mae Cymru wedi deddfu i weithredu Nodau’r Cenhedloedd Unedig drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

Diwylliant a Threftadaeth

Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth 2019 rhwng Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru ac Iwerddon i rannu dysg a gwrthrychau yn enghraifft o'r cysylltiadau cynyddol rhwng ein hamgueddfeydd cenedlaethol a'n llyfrgelloedd.

Cymunedau a Chwaraeon

Mae'r  Gaelic Athletic Association (GAA) wedi cael ei chynrychioli gan glybiau cymunedol yng Nghymru ers ymhell dros 60 mlynedd.

Mae Côr Meibion Cymru Dulyn wedi’i sefydlu ers dros 50 mlynedd ac mae ei wreiddiau yn dyddio nôl i Gymdeithas Dewi Sant, a ffurfiwyd ar ddiwedd y 19eg Ganrif.

Bob dwy flynedd, mae clybiau rhwyfo o Iwerddon a Chymru yn cystadlu yn ras rwyfo 150km yr Her Geltaidd o Arklow i Aberystwyth.

Image
Irish and Welsh government logos