Neidio i'r prif gynnwy

Mater

1. Mae'r Cworwm a'r Gweithdrefnau Drafft ar gyfer Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru ("y Gweithdrefnau"), yn nodi'r trefniadau gweinyddol a gweithredol ar gyfer y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ("y CPG"), a'u bwriad yw sicrhau bod y CPG yn gallu cyfarfod a gweithredu'n effeithiol ac yn effeithlon.

2. Rhoddwyd copi o'r Gweithdrefnau i aelodau'r CPG adeg eu penodi, a dywedwyd y byddai'r rhain yn cael eu hystyried yng nghyfarfod cyntaf y CPG.

Cefndir

3. Mae adran 7(4) o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ("y Ddeddf") yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion nodi a chyhoeddi'r cworwm ar gyfer cyfarfodydd y CPG, a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan y CPG. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhain gynnwys y gweithdrefnau ar gyfer trefnu cyfarfodydd, gan gynnwys y rhybudd i'w roi i'r rhai sy'n bresennol a sut y gall mynychwyr ychwanegu eitemau at yr agenda ar gyfer cyfarfodydd, y weithdrefn ar gyfer datrys anghytundeb rhwng aelodau sy'n ymwneud ag arfer swyddogaethau'r CPG a'r gweithdrefnau ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru.    

4. Mae'r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion, ar ôl ymgynghori â'r CPG, ddiwygio unrhyw beth a bennir yn y Gweithdrefnau a chyhoeddi unrhyw ddiwygiadau o'r fath.

5. Mae Gweinidogion yn cynnig y dylai'r Gweithdrefnau gael eu hadolygu bob tair blynedd. Fodd bynnag, gall diwygiadau i'r Gweithdrefnau gael eu gwneud unrhyw bryd yn dilyn ymgynghoriad rhwng Gweinidogion Cymru a'r CPG, a bydd unrhyw ddiwygiadau o'r fath yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Argymhelliad

6. Gwahoddir aelodau'r CPG i wneud sylwadau ar y Gweithdrefnau.