Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil i ganfyddiadau darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau ar ganlyniadau posibl cyflwyno isafswm pris ar gyfer alcohol.

Y posibilrwydd y bydd pobl yn newid sylweddau

Ar gyfer y rhan fwyaf o yfwyr, mae'n debygol mai mewn perthynas ag alcohol y gwelir yr unig newid o ran defnydd  ac, i raddau helaeth, addasiad o hymddygiad presennol fydd hyn. Teimlwyd mai alcohol yw’r dewis amlwg i lawer o yfwyr ac nad yw newid i ddefnyddio cyffuriau eraill, yn enwedig ystyried cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n ymylu ar fod yn anghyfreithlon, yn opsiwn o gwbl.

Awgrymwyd bod rhai grwpiau penodol yn fwy tebygol o newid rhwng defnyddio un sylwedd i un arall. Cyfeiriwyd amlaf at bobl sy'n yfed yn y stryd a phobl â phrofiad blaenorol o ddefnyddio cyffuriau.

Pe bai rhywun yn newid o ddefnyddio alcohol, rhagwelwyd y byddai’n fwyaf tebygol o newid i ddefnyddio meddyginiaethau ar bresgripsiwn. Dim ond ychydig wnaeth awgrymu y gellid gweld newid i ddefnyddio cocên neu gyffur opiad.

Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o isafbris am alcohol

Roedd gan ychydig o'r ymatebwyr yn yr astudiaeth ddealltwriaeth fanwl, gadarn a chywir o'r isafbris am alcohol. Roedd tair agwedd amlwg yn gysylltiedig â hyn:

  • bod yr egwyddor o wneud rhywbeth ynghylch argaeledd alcohol a'r niwed y mae'n ei wneud yn 'beth da' ac yn dangos 'newid mewn diwylliant'  o ran y ffordd y caiff alcohol ei ystyried
  • na fyddai cyflwyno Isafbris Uned o 50c (y lefel y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio) yn gwneud llawer o wahaniaeth yn gyffredinol i arferion yfed y rhan fwyaf o bobl
  • mae'n bosibl mai'r grŵp o unigolion y byddai hyn yn effeithio fwyaf arnynt fyddai'r grŵp mwyaf agored i niwed

Ymdopi â rhoi'r isafbris ar waith

Ar gyfer yfwyr risg isel-canolig, teimlwyd yn gyffredinol y byddai unrhyw gynnydd mewn gwariant yn gallu cael ei ysgwyddo mewn cyllidebau presennol. Fodd bynnag, disgwyliwyd sefyllfa wahanol ar gyfer yfwyr 'risg uchel/tebygol o fynd yn ddibynnol', a rhagwelwyd amrywiaeth o ddulliau ar gyfer ymdopi. Roedd ychydig o bryder y gallai'r strategaethau hyn arwain at ganlyniadau negyddol ar gyfer yfwyr a'r cymunedau ehangach y maent yn byw ynddynt.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, ei bod yn bosibl na fydd y rhagfynegiadau gweddol negyddol hyn yn cael eu gwireddu ar ôl i'r ddeddfwriaeth gael ei rhoi ar waith. Mae gwaith ymchwil blaenorol mewn gwledydd lle cafodd pris alcohol ei godi wedi canfod bod rhai o'r strategaethau ymdopi niweidiol a awgrymwyd yn eithaf anghyffredin.

Casgliadau

Mae'n bwysig nodi mai diben yr astudiaeth hon oedd canolbwyntio'n bennaf ar safbwyntiau yfwyr sy'n ymgysylltu â gwasanaethau a staff sy'n rhoi cymorth iddynt. Mae'r canfyddiadau'n adlewyrchu'n glir gyd-destun y rheini a holwyd.

Dylid nodi hefyd bod llawer o'r data a gasglwyd yn safbwyntiau ar yr hyn a allai ddigwydd ar ôl cyflwyno isafbris am alcohol yng Nghymru. Felly, mae'r adroddiad yn awgrymu sefyllfaoedd posibl yn hytrach na sefyllfaoedd go iawn yn y dyfodol ar ôl rhoi'r isafbris am alcohol ar waith.

Adroddiadau

Ymchwil i'r potensial ar gyfer newid sylweddau ar ôl cyflwyno isafswm prisio ar gyfer alcohol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymchwil i'r potensial ar gyfer newid sylweddau ar ôl cyflwyno isafswm prisio ar gyfer alcohol: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 437 KB

PDF
437 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Janine Hale

Rhif ffôn: 0300 025 6539

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.