Neidio i'r prif gynnwy

Os caiff y Bil ei basio gan y Cynulliad yn ddiweddarach eleni, y bwriad ar hyn o bryd yw y byddai'r isafbris uned yn cael ei gyflwyno 12 mis ar ôl i'r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Cyn trafodaeth yn y Cynulliad ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol fis Hydref y llynedd, mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol i wasanaethau camddefnyddio sylweddau. 

Yn ddiweddarach heddiw, bydd Aelodau'r Cynulliad yn penderfynu a ddylai'r Bil basio ei gyfnod deddfwriaethol cyntaf, a symud ymlaen i gyfnod 2 – sy'n cynnwys ystyriaeth fanwl gan bwyllgorau'r Cynulliad. Os caiff y Bil ei basio gan y Cynulliad yn ddiweddarach eleni, y bwriad ar hyn o bryd yw y byddai'r isafbris uned yn cael ei gyflwyno 12 mis ar ôl i'r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron £50m y flwyddyn i gefnogi pobl sy'n camddefnyddio sylweddau. Mae bron hanner y cyllid hwn yn mynd yn uniongyrchol i'r saith Bwrdd Cynllunio Ardal sy'n comisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i'w rhanbarth. 

Wrth ymateb i alwadau i ddyrannu adnoddau ychwanegol i wasanaethau camddefnyddio sylweddau, mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi cadarnhau y bydd y cyllid camddefnyddio sylweddau sydd wedi'i glustnodi i fyrddau iechyd yn cynyddu bron £1m, i dros £18m o 2018-19. 

Wrth siarad cyn y drafodaeth, dywedodd Vaughan Gething: 

"Mae’n broblem yng Nghymru bod alcohol rhad a chryf ar gael yn rhwydd, fel sy’n wir am lawer o wledydd eraill y Gorllewin. 

"Nid yw isafbris uned yn fwled arian, ond bydd yn offeryn pwysig newydd wrth inni fynd ati i leihau lefelau yfed alcohol. Drwy gyflwyno isafbris, fe allwn wneud gwahaniaeth – fel rydym wedi’i wneud drwy wahardd smygu, gan ddangos ein penderfyniad i greu dyfodol gwahanol i bobl Cymru. 

"Rwyf wedi bod yn gwbl glir na fydd hynny ynddo’i hun yn gweithio. Mae angen mynd ati i ymdrin â'r polisi alcohol yng Nghymru mewn sawl ffordd, a thrwy wneud hynny, gallwn ysgogi newid. Dyna pam ein bod yn cefnogi pobl yng Nghymru i ddatblygu perthynas iachach ag alcohol, drwy ein Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau, a sicrhau nad yw pobl yn marw o yfed alcohol. 

"Rydyn ni'n gwybod bod digonedd o dystiolaeth o bob cwr o'r byd sy'n dangos bod y berthynas rhwng pris alcohol a lefelau yfed alcohol yn un glir. Mae ein deddfwriaeth arloesol yn helpu i fynd i'r afael â hynny. 

"Mae galw ers amser i Gymru newid ei pherthynas ag alcohol. Rwy'n disgwyl y bydd y Bil hwn yn gwneud cyfraniad hanfodol i leihau arferion yfed peryglus a niweidiol ac yn anad dim, y bydd yn helpu i achub bywydau."