Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Jane Hutt AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru 
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth 
  • Jonathan Price, y Prif Economegydd
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
  • Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (Cofnodion)
  • James Burgess, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Costau Byw
  • Heather O'Sullivan, Tîm Costau Byw
  • Christopher Morgan, Tîm Costau Byw

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cytunodd yr Is-Bwyllgor ar gofnodion 23 Ionawr.

Eitem 2: Diweddariad ar effeithiau economaidd a goblygiadau tymor hwy yr argyfwng costau byw

2.1 Croesawodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol bawb i'r cyfarfod a gwahodd Jonathan Price, y Prif Economydd i gyflwyno i'r grŵp.

2.2 O ran chwyddiant ar sail y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), y rhagamcan oedd y byddai hwn yn gostwng yn sydyn i ychydig o dan 4% erbyn diwedd 2023, gan fod yn arwydd o’r gostyngiad cyflym yn y pwysau o ran prisiau byd-eang a'r gostyngiad o ran cyfraniad prisiau ynni aelwydydd at chwyddiant CPI. Fodd bynnag, roedd Cornwall Insight, cwmni ymchwil, dadansoddeg ac ymgynghori ynni annibynnol, yn rhagweld y byddai prisiau ynni yn parhau ar lefel uchel dros y tymor canolig, gyda’r gost i aelwydydd tua dwywaith yr hyn yr oedd cyn y rhyfel yn Wcráin.

2.3 At hynny, roedd cryn ansicrwydd yn parhau o ran pwysau chwyddiant a gwirionedd y sefyllfa oedd bod costau ynni uwch yn effeithio mewn modd anghymesur ar y rhai ar incwm isel ac ar amrywiol grwpiau difreintiedig.

2.4 Roedd disgwyl i dwf cyflogau rheolaidd blynyddol y sector preifat ostwng o'r gwanwyn ymlaen, i tua 5% erbyn diwedd y flwyddyn. 

2.5 Yn ôl y rhagolygon, byddai chwyddiant CPI yn gostwng i lefel lawer is na'r targed o 2% yn y tymor canolig, wrth i farchnad lafur sy’n gwanhau leihau pwysau chwyddiant domestig ar gyflogau ac wrth i brisiau ynni syrthio yn ôl, er y byddent yn parhau ar lefelau uchel.

2.6 Adroddwyd bod y farchnad lafur yn dal i fod yn gymharol gryf, ond roedd lefelau anweithgarwch yn uwch o ganlyniad i nifer o ffactorau, gan gynnwys afiechyd ac ymddeoliad cynnar.

2.7 Fel y rhagwelwyd gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) a Banc Lloegr, o holl wledydd yr G7, roedd disgwyl mai’r DU fyddai’n cael y canlyniad gwaethaf o safbwynt Cynnyrch Domestig Gros (GDP) yn 2023. Er hynny, roedd y farchnad lafur wedi bod yn fwy gwydn na'r disgwyl yn ystod yr argyfyngau diweddar. Fodd bynnag, o ran y dirwasgiad a ragwelwyd, er nad oedd mor ddwfn â'r hyn oedd wedi’i ragfynegi yn wreiddiol, awgrymai’r amcangyfrifon canolog y byddai cynnydd mewn diweithdra o rhwng 15 - 20,000 yng Nghymru yn ystod 2024-25 ond, unwaith eto, roedd yn anodd rhagfynegi hyn yn fanwl gywir.

2.8 O ran safonau byw, roedd incwm canolrifol wedi gostwng o 0.6% dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, 2021-22. Roedd yn amlwg bod y bobl dlotaf bellach yn dlotach eto tra bod y bobl gyfoethocaf wedi ymgyfoethogi ymhellach. Roedd y ffaith bod achosion o ansicrwydd bwyd wedi mwy na threblu o'r lefelau cyn y pandemig yn dystiolaeth o hyn.

2.9 Roedd disgwyl i incwm canolrifol barhau i ostwng dros y flwyddyn ariannol hon a’r nesaf, cyn i'r twf ddychwelyd yn ystod 2024-25. Nid oedd y rhagolygon tymor hwy ar gyfer safonau byw yn argoeli’n dda o hyd, gyda thwf mewn cynhyrchiant blynyddol yn parhau i fod yn ystyfnig o isel.

2.10 O ran benthyciadau a dyledion, roedd cynnydd mewn cyfraddau morgeisi wedi arafu cyn y cynnydd diweddaraf yn y gyfradd llog ond roeddent yn debygol o gynyddu eto. Yng Nghymru, dangosodd adroddiad diweddaraf Sefydliad Bevan mai pobl sy’n derbyn budd-daliadau oedd y grwpiau sydd fwyaf tebygol o fod mewn dyled – yn enwedig pobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, pobl anabl y mae eu cyflwr yn cyfyngu llawer arnynt, pobl sy'n byw mewn aelwydydd â phlant, oedolion iau o oedran gweithio, gofalwyr a thenantiaid tai cymdeithasol.

2.11 Byddai costau tai yn codi i bawb, a thenantiaid y sector rhentu preifat oedd yn fwyaf tebygol o brofi anhawster sylweddol wrth dalu costau tai yn ystod yr argyfwng. Roedd aelwydydd yn torri yn ôl ar wariant, gan ddefnyddio arbedion neu fenthyca arian i fodloni anghenion tai sylfaenol, ac, o’r DU gyfan, gan Gymru oedd y gyfran uchaf o aelwydydd sy'n ei chael hi’n anodd talu costau tai.

2.12 Roedd nifer yr hawlwyr budd-daliadau anabledd newydd wedi dyblu, ac roedd hyn yn cyd-fynd â'r cynnydd yn y ffigurau anweithgarwch a welwyd ar draws y DU. Gwelwyd cynnydd yn yr hawliadau anabledd ar gyfer anhwylderau corfforol yn ogystal â meddyliol, ac roedd cynnydd wedi bod mewn afiechyd hunangofnodedig ar draws ystod eang o gyflyrau.

2.13 Diolchodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i'r Prif Economegydd am y cyflwyniad, er mai neges ddigon anodd ei chlywed oedd ganddo, a nododd y byddai'r sleidiau yn cael eu rhannu â’r Aelodau.

Eitem 3: Diweddariad ar y ffordd yr oedd effeithiau dyled yn dod i’r amlwg drwy ymyriadau Llywodraeth Cymru

3.1 Rhoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddiweddariad ar y dystiolaeth ddiweddaraf o’r effeithiau yr oedd yr argyfwng costau byw yn eu cael ar lefelau dyled, yn enwedig i’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

3.2 Roedd tueddiad a oedd yn peri pryder o ran nifer y bobl sy'n byw mewn sefyllfa o ddiffyg cyllidebol, gan olygu felly nad oedd eu hincwm yn bodloni gwariant hanfodol. Roedd elusen dyledion StepChange wedi adrodd bod un o bob tri chleient newydd yn byw mewn diffyg cyllidebol.

3.3 Amlygodd Adolygiad Costau Byw Cyngor ar Bopeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf hefyd fod cyfran y bobl a oedd yn gofyn am gyngor ynghylch diffyg cyllidebol wedi cynyddu o 39% yn ystod 2019-20 i bron i 50% yn 2022.

3.4 Roedd y rhai sydd fwyaf tebygol o fod mewn diffyg cyllidebol yn cynnwys pobl sengl, rhieni sengl, rhentwyr preifat, pobl anabl, a phobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor.

3.5 Adroddwyd bod hanner y cleientiaid dyled sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn byw mewn diffyg cyllidebol, ond ymhlith cleientiaid dyled nad ydynt yn derbyn unrhyw fudd-daliadau yr oedd y cynnydd cyfrannol mwyaf dros y tair blynedd flaenorol, sef cynnydd o 13 pwynt canran. Dangosai’r dystiolaeth hefyd fod nifer cynyddol o gleientiaid dyled sy'n byw mewn diffyg cyllidebol mewn cyflogaeth.

3.6 Roedd darparwyr y Gronfa Gynghori Sengl wedi adrodd nad oedd gan nifer cynyddol o bobl ddigon o arian i fodloni eu gwariant hanfodol, hyd yn oed ar ôl ymdrechion i gynyddu eu hincwm.

3.7 Yr unig ddatrysiadau dyled a oedd ar gael i bobl mewn diffyg cyllidebol oedd y rhai a oedd yn golygu dileu dyled drwy Orchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO). Er bod hyn yn datrys problemau dyled uniongyrchol unigolyn, ni fyddai DRO yn mynd i'r afael â’r materion sylfaenol, felly gallai dyledion newydd gronni, a byddai pobl sy'n cael DRO yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar gredyd fforddiadwy.

3.8 Nododd y Pwyllgor mai Llywodraeth y DU biau’r rhodd o gymryd camau ar unwaith i leddfu rhywfaint o bwysau ar aelwydydd mewn diffyg cyllidebol, ac roedd Llywodraeth Cymru wedi galw am roi terfyn o 5% ar ddidyniadau a dynnir yn awtomatig o daliadau Credyd Cynhwysol a gostwng didyniadau cronnol o 25% i 15%.

3.9 Er bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod lleddfu’r pwysau ar bobl fel hyn, roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant i gasglu rhagor o dystiolaeth o'r caledi a oedd yn cael ei achosi gan y polisi didyniadau.

3.10 Roedd y Pwyllgor yn cydnabod mai Advicelink Cymru oedd y llwybr gorau i bobl gael mynediad at adnoddau a chymorth sydd wedi bod drwy weithdrefnau sicrhau ansawdd, fel yr amlygwyd gan yr ymgyrchoedd 'Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi' ac 'Yma i Helpu gyda Chostau Byw’.

3.11 Adroddwyd bod y Gronfa Gynghori Sengl wedi helpu bron i 10,000 o bobl i fynd i’r afael â dros 25,000 o faterion lles cymdeithasol yn hanner cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol, a chodwyd pryderon am yr effaith anghymesur y mae’r argyfwng yn ei chael ar grwpiau difreintiedig.

3.12 Croesawodd y Pwyllgor y cynnydd o bron i 250% yn y defnydd o wefannau Undebau Credyd Cymru, yn dilyn yr ymgyrchoedd a’r ymweliadau Gweinidogol i godi eu proffil.

3.13 Roedd Undebau Credyd wedi codi pryderon dilys am y defnydd o Orchmynion Rhyddhau o Ddyled a Chytundebau Gwirfoddol Unigol i fynd i’r afael â materion yn gysylltiedig â dyledion llai o faint. Gallai hyn gael effaith andwyol ar deilyngdod credyd yn y dyfodol ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda'r sector ar gyfer darparu'r datrysiadau cywir ym mhob sefyllfa. Byddai hyn yn cael ei fwydo yn ôl i Gyngor ar Bopeth Cymru.

3.14 At hynny, roedd cynllun benthyciadau di-log yn cael ei dreialu gan gwmni Fair for All Finance, gyda £1m o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Roedd y consortiwm Credyd Cymdeithasol yn darparu benthyciadau di-log i'r rhai a gafodd eu cyfeirio atynt drwy'r rhoddwr benthyciadau ar-lein, Plend.

3.15 Nododd yr Is-bwyllgor y diweddariad.

Eitem 4: Diweddariad ar yr effaith yr oedd yr argyfwng costau byw yn ei chael ar ôl-ddyledion morgeisi a rhent

4.1 Rhoddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ddiweddariad ar yr effaith yr oedd yr argyfwng yn ei chael ar ôl-ddyledion morgeisi a rhent.

4.2 Rhagwelwyd y byddai ôl-ddyledion morgeisi yn cynyddu yn ystod 2023 a 2024 oherwydd bod cyfraddau llog yn dal i godi ond rhagfynegwyd y byddai’r rhain yn cyrraedd uchafbwynt yn ystod y flwyddyn hon.

4.3 Roedd pob opsiwn yn cael ei ystyried i ehangu cymorth achub morgeisi, gan gynnwys drwy gefnogi pobl cyn iddynt wynebu sefyllfa o adfeddu. At hynny, nodwyd bod anawsterau o ran dynodi awdurdodau lleol yn ddarparwyr, oherwydd y meini prawf benthyca llymach a gyflwynwyd ers yr argyfwng ariannol.

4.4 O ran ôl-ddyledion rhent, roedd cymorth eisoes ar gael i denantiaid drwy'r Gronfa Atal Digartrefedd, Cynllun Lesio Cymru, cyllid ar gyfer Cyngor ar Bopeth Cymru i sefydlu llinell gymorth dyledion y Sector Rhentu Preifat, a'r Cynllun Cymorth Tanwydd.

4.5 O ran digartrefedd, roedd bron i 9,000 o bobl mewn llety dros dro, gyda 3,000 o'r rhain yn blant, ac roedd tua 1,400 o gyflwyniadau newydd y mis. Roedd Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n helaeth mewn gwasanaethau atal digartrefedd a chymorth tai, ynghyd â'r Grant Cymorth Tai.

4.6 Gwirionedd y sefyllfa oedd bod cyfanswm cost digartrefedd yn tua £1,300 yr wythnos i’r awdurdodau lleol, tra bod rhoi cymorth i bobl aros yn eu cartrefi yn llawer mwy effeithlon yn ariannol.

4.7 Cydnabuwyd bod amddiffyniadau pellach a nodwyd yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, gan gynnwys y cyfnod hysbysu hwy ar gyfer codiadau rhent a’r cynnydd yn y cyfnod troi allan heb fai hefyd o gymorth i denantiaid.

4.8 Nododd yr Is-bwyllgor y diweddariad.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2023