Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mark Drakeford AS
  • Jane Hutt AS (Cadeirydd)
  • Mick Antoniw AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jeremy Miles AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Mynychwyr allanol

  • Samantha James, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid DomestigW, Dŵr Cymru
  • Ruth Marks, CGGC
  • Naomi Alleyne, CLlLC
  • Shavanah Taj, TUC
  • Archesgob Andy John, yr Eglwys yng Nghymru

Swyddogion

  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth 
  • Jonathan Price, Prif Economegydd
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
  • Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • James Burgess, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Costau Byw
  • Heather O’Sullivan, Tîm Costau Byw

Ymddiheuriadau

  • Julie James AS
  • Lynne Neagle AS

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod diwethaf a chyflwyniad

1.1 Croesawodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol bartneriaid i’r cyfarfod a nododd mai hi fydd Cadeirydd yr Is-bwyllgor.

1.2 Gwnaethant adrodd bod Gweinidogion wedi cwrdd yn ddiweddar â’r Grŵp Arbenigol Costau Byw, a sefydlwyd er mwyn helpu i lywio ymateb y Llywodraeth i’r argyfwng.

1.3 Rhoddodd y Grŵp Arbenigol adborth o ran y ‘gofynion’ i Lywodraeth y DU cyn Datganiad y Gwanwyn, a oedd yn canolbwyntio ar bryderon ynghylch chwyddiant, ynni, a chyllidebau negyddol. Gwnaethant ystyried hefyd beth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi’r bobl sy’n cael yr amser anoddaf. Cytunodd y Grŵp fod yr argyfwng ymhell o fod ar ben.

1.4 Roedd sawl partner yn y cyfarfod heddiw yn aelodau o’r Grŵp, a diolchodd y Gweinidog iddynt i gyd am eu cyfranogiad.

1.5 Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion o 13 Mawrth.

Eitem 2: Cyflwyniad gan Ddŵr Cymru ar gymorth ariannol

2.1 Gofynnodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i Samantha James, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Domestig Dŵr Cymru, roi cyflwyniad i’r grŵp am y cymorth ariannol a’r tariff cymdeithasol sydd ar gael ar gyfer y rhai hynny sy’n cael trafferth talu eu biliau dŵr.

2.2 Gwnaethant adrodd bod Dŵr Cymru yn bwriadu cynnig darpariaeth sy’n arwain y diwydiant ar gyfer y rhai hynny sy’n wynebu anawsterau ariannol. Ar y pryd, roedd ganddynt tua 127,000 o gwsmeriaid ar eu tariff cymdeithasol ‘HelpU’, gyda chapasiti ar gyfer 40,000 arall pe bai angen.

2.3 Cyfrannodd y cwmni £60 miliwn tuag at gymorth tariff cymdeithasol dros bum mlynedd, a llwyddodd y tariff HelpU ostwng biliau i £291 yn flynyddol, sy’n haws ei reoli o gymharu â bil cyfartalog aelwydydd o £499.

2.4 Yn ogystal, roedd Dŵr Cymru yn cefnogi 30,000 o gwsmeriaid gyda’i gynllun ‘WaterSure Cymru’, sy’n cefnogi pobl sy’n defnyddio lefelau uchel o ddŵr.

2.5 Roedd y cwmni nid-er-elw ar y pryd yn monitro gwaith Llywodraeth y DU ar gyflwyno tariff cymdeithasol unigol ar draws y diwydiant, ond roedd pryderon cynnar ynghylch a fyddai’r cynigion cychwynnol yn cynnig llai o gymorth i’r cwsmeriaid sydd fwyaf agored i niwed.

2.6 Roedd Dŵr Cymru wedi lansio cynllun treialu yn ddiweddar, sef ‘Cymuned’, yn ardaloedd Awdurdodau Lleol Rhondda Cynon Taf a Sir Ddinbych. Roedd y cynllun hwn ar gyfer y cwsmeriaid hynny a oedd yn gweithio, ac felly ddim yn gymwys am gymorth tariff cymdeithasol, ond a oedd yn dal i brofi prinder sylweddol o ran cyllideb. Roedd y prinder hwn yn golygu nad oedd talu eu biliau dŵr yn flaenoriaeth uchel.

2.7 Darparodd y cynllun saib ariannol i gwsmeriaid, lle roedd ffioedd yn cael eu canslo am hyd at dri mis, er mwyn galluogi pobl i reoli eu harian yn well. Cafodd gynllun cyfeirio ei sefydlu â phartneriaid, gan gynnwys Cartrefi Clyd a NEST, i nodi’r rhai hynny sy’n gymwys.

2.8 Gwnaethant y pwynt y byddai codi ymwybyddiaeth o dariffau cymdeithasol yn allweddol i sicrhau bod aelwydydd ac unigolion yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt. Cafodd partneriaid eu hannog i godi proffil tariffau cymdeithasol gyda’u rhwydweithiau a dylai dull tîm Cymru gael ei ddefnyddio i gynnwys Cynghorau Gwirfoddol Cymunedol, Awdurdodau Lleol, darparwyr cronfa gynghori sengl ac undebau credyd, ymhlith eraill.

2.9 Diolchodd yr Is-Bwyllgor i Samantha James am y cyflwyniad.

Eitem 3: Diweddariad gan bartneriaid ar gostau byw

3.1 Gofynnodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i bartneriaid roi’r wybodaeth ddiweddaraf am amrywiaeth o effeithiau costau byw gan nodi ymyriadau defnyddiol gan fyfyrio ar Gyllideb Gwanwyn Llywodraeth y DU.

3.2 Gwnaethant adrodd nad oedd effeithiau’r argyfwng costau byw yn lleihau yn gyffredinol, a’u bod yn gwaethygu mewn sectorau penodol. Er enghraifft, nid oedd gan y trydydd sector fwy i’w gynnig. Mae elusennau’n dibynnu ar gronfeydd wrth gefn ar gyfer costau rhedeg yr elusen o ddydd i ddydd, wrth i wytnwch ddiflannu yn ystod y pandemig a thu hwnt.

3.3 Roedd Cyngor ar Bopeth Cymru yn cofnodi’r niferoedd mwyaf erioed o bobl mewn dyled, gyda‘r canran o bobl yn adrodd cyllidebau negyddol yn cynyddu o 38% i 48%.

3.4 Roedd diffyg cyflenwadau gan elusennau bwyd ac o ystyried hyn i gyd gwnaethant nodi bod anghydraddoldeb yn cynyddu yn y gymuned.

3.5 Gwnaethant awgrymu mai’r ymyriadau mwyaf effeithiol oedd cymorth ariannol uniongyrchol i deuluoedd, megis drwy Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru. Roedd disgwyl i gynllun cymorth ynni Llywodraeth y DU, a oedd yn lleihau biliau yn llygad y ffynnon, ddod i ben a byddai biliau’n cynyddu dros dro o fis Ebrill ymlaen.

3.6 Roedd sefydliadau wedi dechrau cynllunio ar gyfer anawsterau tebyg y gaeaf nesaf, oherwydd, er gwaethaf y gostyngiad rhagamcanol mewn chwyddiant, ni fyddai’n gostwng yn ddigon cyflym i lawer osgoi effeithiau gwaethaf costau uchel presennol bwyd ac ynni. Roeddent yn disgwyl y byddai gan y teuluoedd tlotaf feichiau dyled sylweddol ar ddechrau’r gaeaf nesaf.

3.7 Gwnaethant y pwynt bod hybiau clyd wedi cael eu croesawu, gyda chyllid Llywodraeth Cymru o £1 miliwn yn helpu i’w sefydlu ledled Cymru. Roedd mwy na 10,000 o bobl wedi defnyddio’r hybiau yng Nghaerdydd a mwy na 1200 ym Mlaenau Gwent. 

3.8 Cytunodd yr Is-bwyllgor bod angen casglu data ar effeithiau ymyriadau penodol ar draws y sectorau, ac y byddai gwaith yn parhau i gasglu cymaint o dystiolaeth â phosibl i lywio rhaglenni a gwaith cynllunio yn y dyfodol.

3.9 Gwnaethant nodi bod cymunedau yn teimlo rhywfaint yn ansicr ynghylch eu hawliau am gymorth. Felly, roedd negeseuon clir yn hanfodol.

3.10 Roedd yr ymyriadau cyffredinol gan Lywodraeth y DU ar gymorth ynni wedi colli cyfleoedd i dargedu cyllid ar gyfer y rhai hynny sydd ei angen fwyaf. Hefyd, ni chynigiodd Cyllideb y Gwanwyn lawer i Gymru o ran gofal cymdeithasol i oedolion na chymorth iechyd meddwl a llesiant.

3.11 Roedd pryderon hefyd yn bodoli ynghylch cyllid ar gyfer cyflogau ysgolion a’r sector cyhoeddus wrth i negodiadau barhau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

3.12 Gwnaethant nodi bod rhai o staff Awdurdodau Lleol Cymru a oedd ar y cyflogau isaf yn cael cymorth gan fanciau bwyd, a bod llawer o Gynorthwywyr Addysgu yn ei chael hi’n anodd byw ar yr isafswm cyflog. Roedd tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod rhai unigolion wedi troi at werthu eiddo personol megis ceir, neu ailforgeisio lle bo hynny’n bosibl, i leihau’r pwysau. 

3.13 Ynghyd â hynny roedd y pwysau parhaus ar chwyddiant bwyd, ac roedd yn glir bod angen i Lywodraeth y DU roi hwb i nawdd cymdeithasol er mwyn helpu’r bobl hynny sy’n dioddef fwyaf.         

3.14 Bu sgileffeithiau i'r celfyddydau yng Nghymru, gyda chostau tanwydd yn cynyddu i'r lefelau uchaf erioed, er iddynt ostwng ychydig yn ddiweddar, ac roedd artistiaid a cherddorion yn ei chael hi'n anodd fforddio costau trafnidiaeth.

3.15 Er eu bod yn elwa o'r cyflog byw gwirioneddol a oedd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, cafodd gweithwyr gofal eu heffeithio hefyd gan y cynnydd mewn costau tanwydd. Yn ogystal, roedd y gweithlu gofal preifat yn aml yn cael ei ddal gan gyflogau isel, diffyg tâl salwch neu ad-daliad am dreuliau teithio.

3.16 Cafodd ei nodi bod pŵer gwario Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn cael ei niweidio'n gyson gan chwyddiant uchel ac roedd angen cymorth ychwanegol gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod modd cynnal gwasanaethau ar y lefelau presennol.

3.17 Cafodd ei nodi bod y galw am fanciau bwyd wedi parhau'n uchel, a’r gefnogaeth iddynt wedi dechrau gostwng, er i'r gefnogaeth ariannol gan aelodau'r Eglwys yng Nghymru barhau'n gyson.  

3.18 Roedd achosion wedi bod o bobl yn torri i mewn i fanciau bwyd a'r cynhyrchion yn cael eu hailwerthu ar y farchnad ddu, sy'n dangos lefel yr anobaith ymysg rhai cymunedau.

3.19 Er hyn, roedd enghreifftiau calonogol ledled y wlad o fanciau bwyd a hybiau clyd yn cyfuno eu hadnoddau i gefnogi eu cymunedau lleol.

3.20 Diolchodd yr Is-bwyllgor i bartneriaid am y wybodaeth ddiweddaraf a gwnaethant gytuno y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud ar ddarparu data sy'n dadansoddi effeithiau ymyriadau a ddefnyddiwyd yn ystod yr argyfwng costau byw.

3.21 Yn ogystal, byddent yn cadw llygad ar newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-daliadau anabledd a byddai partneriaid yn cael eu hannog i wneud sylwadau ar y cyd â Llywodraeth Cymru am unrhyw effeithiau niweidiol yn sgil sancsiynau, yn enwedig ar fenywod.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2023