Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Jane Hutt AS
  • Rebecca Evans AS
  • Mick Antoniw AS
  • Vaughan Gething AS
  • Julie Morgan AS

Mynychwyr allanol

  • Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan
  • Y Cynghorydd Anthony Hunt, CLlLC
  • Chris Llewellyn, Prif Weithredwr, CLlLC
  • Andy John, Archesgob Cymru
  • Ruth Marks, Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Ellie Harwood, Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant
  • Paul Slevin, Cadeirydd Gweithredol, Siambrau Cymru
  • Abdul-Azim Ahmed, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Cyngor Mwslimiaid Cymru

Ymddiheuriadau

  • Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, CLlLC
  • Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmonds, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Adran Ailgychwyn ac Adfer
  • Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Adferiad COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (Cofnodion)

Eitem 1: Cyflwyniad gan bartner cymdeithasol - Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan

1.1 Croesawodd y Prif Weinidog Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan a’i gwahodd i gyflwyno i'r grŵp. 

1.2 Roedd y Sefydliad wedi cynnal arolwg o safonau byw yng Nghymru yn ystod mis Gorffennaf ond nododd fod y sefyllfa sylfaenol wedi dirywio'n sylweddol ers hynny.

1.3 Yn hanesyddol, roedd gan Gymru incwm aelwydydd canolrifol is o'i gymharu â gweddill y DU, gyda chyfran uwch o bobl yn dibynnu ar fudd-daliadau a phensiynau. Yn ogystal, dioddefodd Cymru o effeithlonrwydd ynni is yn y stoc tai, mwy o aelwydydd oddi ar y grid, mwy o gwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu, rhai o'r prisiau ynni uchaf yn y DU, ynghyd â chostau bwyd a thrafnidiaeth uwch mewn rhai ardaloedd gwledig. Gyda'i gilydd, roedd hyn yn golygu bod Cymru'n fwy agored i effeithiau'r argyfwng costau byw.

1.4 Roedd yr arolwg a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf yn nodi aelwydydd mewn tri chategori eang, lle'r oedd gan 48% ddigon ar gyfer yr hanfodion a rhai pethau ychwanegol, roedd gan 32% ddim ond digon ar gyfer yr hanfodion, ac nid oedd gan 13% ddigon ar gyfer yr hanfodion ychydig o’r amser neu drwy'r amser. Roedd nifer y rhai heb ddigon ar gyfer yr hanfodion ac ond yn gallu fforddio hanfodion wedi cynyddu ers yr arolwg diwethaf.

1.5 Aelwydydd incwm isel oedd y rhai gafodd eu taro waethaf, gyda'r rhai oedd yn cael budd-daliadau, y rhai mewn llety rhent, teuluoedd unig riant, aelwydydd gyda niferoedd mwy o blant a phobl anabl yn dioddef fwyaf.

1.6 Roedd yn amlwg o'r arolwg fod pobl yn torri nôl ar wres, dillad a bwyd i oedolion, trafnidiaeth, nwyddau ymolchi a chostau rhyngrwyd a digidol. Yn bryderus, roedd lleiafrif sylweddol wedi dweud eu bod wedi torri'n ôl ar eitemau i blant gan gynnwys bwyd, teganau a chewynnau, yn enwedig rhieni sengl a theuluoedd mwy.

1.7 O ran cynilion a dyled, dywedodd dros hanner yr ymatebwyr naill ai nad oedd ganddynt unrhyw gynilion, neu eu bod wedi defnyddio eu holl gynilion neu o leiaf rywfaint o'u cynilion i ymdopi. Roedd lefelau dyled wedi aros yn sefydlog, ond disgwylir i hyn godi dros y gaeaf.

1.8 Roedd pryderon cynyddol ymhlith tenantiaid preifat a chymdeithasol a rhai morgeiseion am golli eu cartref oherwydd yr argyfwng.

1.9 Roedd hyn oll wedi arwain at effaith negyddol ar iechyd meddwl a chorfforol pobl, gyda chyfran uwch o'r rhai oedd yn dioddef o anableddau yn cael eu heffeithio.

1.10 Roedd lefelau ymwybyddiaeth amrywiol o gynlluniau Llywodraeth Cymru wedi'u hadrodd, er bod y gwaith cadarnhaol a wnaed gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ymddangos fel pe bai'n cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith rhentwyr cymdeithasol.

1.11 O ystyried bod y sefyllfa wedi gwaethygu'n sylweddol ers i'r arolwg gael ei gynnal, y disgwyl oedd nad oedd niferoedd cynyddol o bobl yn debygol o allu fforddio'r hanfodion, gan arwain at amddifadrwydd difrifol mewn rhai achosion, cynnydd posibl mewn digartrefedd, effeithiau ar iechyd meddwl a chorfforol a chynyddu’r galw ar wasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector. 

1.12 Bu'r Pwyllgor yn trafod y camau cadarnhaol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hyd yma, gan nodi bod 185,000 o daliadau £200 o gynllun cymorth tanwydd y gaeaf, o blith amcangyfrif o 400,000 o aelwydydd cymwys, eisoes wedi'u gwneud.

1.13 Atgoffwyd y Pwyllgor o'r cyd-destun cyllidol eithriadol o heriol ar hyn o bryd, a oedd yn golygu na fyddai Llywodraeth Cymru'n gallu gwneud yr holl bethau yr hoffai eu gwneud. Yr amcangyfrif oedd bod Cyllideb Llywodraeth Cymru hyd at £4 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod y llynedd, a’r flwyddyn nesaf byddai’n werth £1.5 biliwn yn llai.

1.14 Roedd Partneriaid Cymdeithasol yn cydnabod y dewisiadau cyllidol anodd y byddai'n debygol y byddai'n rhaid i Weinidogion eu gwneud yn y Gyllideb sydd i ddod ac roeddent yn croesawu'r cynllun i gyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft cyn y Nadolig.

1.15 Diolchodd y Pwyllgor i Sefydliad Bevan am ei gyflwyniad.

Eitem 2: Cyflwyniad gan bartner cymdeithasol - Chris Llewellyn, Prif Weithredwr, CLlLC

2.1 Yna symudodd y Pwyllgor ymlaen at gyflwyniad gan Chris Llewellyn, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

2.2 Adroddwyd bod CLlLC wedi sefydlu grŵp costau byw i gydlynu gweithgarwch mewnol ar draws pob maes polisi. Roedd gwaith archwilio’n parhau i nodi darpariaeth ar draws Cynghorau ac i sicrhau bod yr arferion gorau'n cael eu rhannu.

2.3 Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda Rhwydwaith Swyddogion Trechu Tlodi ac Anghydraddoldeb Cymru ac i ddatblygu strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr ar gostau byw. Roedd tîm digidol CLlLC yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i symleiddio mynediad at eu gwasanaethau drwy gefnogi dull "dim drws anghywir" i gael mynediad at gymorth. Roedd sicrhau bod pob cyswllt â'r cyngor yn cael ei gyfrif yn flaenoriaeth, ochr yn ochr â chodi ymwybyddiaeth o rannu data a chyfleoedd cydweithio.

2.4 Nododd y Pwyllgor fod Awdurdodau Lleol yn gweithio i gefnogi eu preswylwyr drwy bum prif faes: llywodraethu ac atebolrwydd; targedu a chydlynu cymorth; hygyrchedd cynhyrchion a gwasanaethau fforddiadwy; ymyrraeth gynnar ac atal argyfwng; a chodi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth.

2.5 Nodwyd bod cymorth uniongyrchol i bobl wedi cael ei groesawu ar draws yr Awdurdodau Lleol, ynghyd â chymorth ymarferol ar gyfer llesiant staff a gwirfoddolwyr.

2.6 Diolchodd y Pwyllgor i CLlLC am ei chyflwyniad, gan groesawu'r cydweithio cadarnhaol rhwng yr holl bartneriaid.