Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Mick Antoniw MS

Ymddiheuriadau

  • Vaughan Gething AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig,
  • Kate Edmonds, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Adfer wedi COVID a Llywodraeth Leol
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jonathan Price, Prif Economegydd
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Grŵp Adfer wedi COVID a Llywodraeth Leol
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (Cofnodion)

Eitem 1: Cyflwyniad

1.1 Croesawodd y Prif Weinidog bawb i gyfarfod cyntaf Pwyllgor y Cabinet ar Gostau Byw.

1.2 Roedd diben y Pwyllgor wedi’i nodi yn y Cylch Gorchwyl a’i nod oedd darparu cyfeiriad strategol i ymateb parhaus Llywodraeth Cymru i’r argyfwng costau byw, gan ymgysylltu’n helaeth â phartneriaid cymdeithasol, busnesau a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â’r argyfwng yng nghyd-destun Cymru.

Eitem 2: Diweddariad ar y rhagolygon economaidd

2.1 Fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wahodd y Prif Economegydd i ddarparu’r rhagolygon economaidd diweddaraf, a fydd yn eitem rheolaidd ar y rhaglen waith yn y dyfodol.

2.2 Adroddwyd bod Banc Lloegr wedi tan-ragfynegi pa mor sylweddol fyddai’r cynnydd diweddar mewn chwyddiant, ond bod y rhain wedi’u hachosi gan argyfwng byd-eang na ellid bod wedi ei ragweld ac wedi’i sbarduno gan ffactorau nad ydynt yn economaidd.

2.3 Roedd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi codi 9.9% yn y 12 mis hyd at fis Awst 2022, i lawr o uchafbwynt o 10.1% ym mis Gorffennaf; roedd y CPI gan gynnwys costau tai perchen-feddiannwyr (CPIH) wedi codi 8.6% yn y 12 mis hyd at fis Awst 2022, i lawr o 8.8%ym mis Gorffennaf.

2.4 Roedd y Gwarant Pris Ynni (EPG) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn debygol o leddfu chwyddiant, ac yn debygol o gadw chwyddiant ar lefel o tua 10%, ond roedd Banc Lloegr yn poeni y gallai chwyddiant ymwreiddio.

2.5 Roedd yn anochel y byddai effeithiau mwyaf chwyddiant uwch yn waeth ar yr aelwydydd incwm isaf, a fyddai’n gwario’r rhan fwyaf o'u hincwm ar ynni a bwyd.

2.6 Er hynny, roedd peth newyddion mwy cadarnhaol o ran ynni a bwyd, ac eithrio prisiau nwy, gan bod pris olew crai Brent (y gasgen) wedi disgyn o’r pris uchaf ym mis Gorffennaf o $120 i oddeutu $93 y gasgen. Hefyd, roedd gostyngiad bychan ym Mynegai’ Prisiau Bwyd y Sefydliad Bwyd ac Amaeth dros y misoedd blaenorol, er bod bwyd yn rhoi pwysau ar y CPI a oedd yn gwneud iddo gynyddu yn y Deyrnas Unedig.

2.7 Ystyriodd y Pwyllgor oblygiadau cyllidol yr EPG, a oedd yn anodd eu rhagweld gan eu bod yn ddibynnol ar bris nwy, a oedd ar hyn o bryd yn ansefydlog oherwydd y rhyfel yn Wcráin.

2.8 Nodwyd y gallai'r EPG gostio rhwng £100bn – £200bn dros y ddwy flynedd nesaf, ond pe bai'r pris fesul 100 metr ciwbig o nwy naturiol (therm), a oedd eisoes wedi haneru o'i uchafbwynt i 330c, yn haneru eto, gallai’r EPG ddod yn gost niwtral. Fodd bynnag, roedd y gost fesul therm am ynni yn dal yn uchel iawn o’i gymharu â’r lefelau cyn 2021.

2.9 Roedd yn amlwg bod pwysau ar gyflogau yn parhau, gyda chyflogau yn y sector cyhoeddus ond wedi codi 2.2% o flwyddyn i flwyddyn. Roedd y sector preifat wedi gwneud ychydig yn well, gyda chyflogau'n cynyddu 6.2% ar gyfartaledd. Mewn termau real fodd bynnag, gyda chwyddiant CPIH ar 8.8%, roedd cyflogau'n gostwng drwyddi draw ac roedd hyn yn annhebygol o fod yn gynaliadwy.

2.10 O ganlyniad i'r gostyngiad mewn safonau byw, roedd twf yn debygol o fod yn wan iawn, gyda phosibilrwydd o ddirwasgiad. Roedd potensial hefyd i ddiweithdra gynyddu, er bod hynny ar linell sylfaen isel iawn o 3.6% yn y cyfnod diweddaraf.

2.11 Ar y cyfan, roedd economegwyr yn rhagweld cyfnod estynedig o dwf araf ac isel. Gallai'r EPG ac unrhyw ymyriadau cyllidol pellach gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig leddfu hyn, ond roedd  yn annhebygol y byddai’r economi yn gwella’n sylweddol o ganlyniad i unrhyw gyhoeddiadau yn ddiweddarach yr wythnos honno.

2.12 Roedd risgiau ychwanegol i'r economi oherwydd dewisiadau cyllidol posibl gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys unrhyw gynnydd pellach mewn cyfraddau llog, dibrisiant Sterling ac israddio posibl gan yr asiantaethau sgoriau. Roedd yna hefyd fater yn dod i'r amlwg o ran anweithgarwch sy'n gysylltiedig â salwch yn y gweithlu, rhai o bosibl o ganlyniad i Covid hir.

2.13 Roedd ymchwil gan y Resolution Foundation wedi dangos mai’r EPG fyddai’n cael yr effaith fwyaf ar aelwydydd ar draws y sbectrwm incwm, ond byddai polisïau posibl Llywodraeth y DU fel codi trothwy’r Yswiriant Gwladol a chanslo'r Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fudd anghymesur i'r aelwydydd cyfoethocaf ac yn atgas eu natur. Dangoswyd hefyd mai taliadau costau byw oedd y mwyaf blaengar o'r ymyriadau hyd yma.

2.14 Ystyriodd y Pwyllgor rai cymariaethau rhyngwladol gan nodi bod angen twf ar y Deyrnas Unedig, ond hefyd gostyngiad mewn anghydraddoldeb rhwng y cyfoethog a'r tlawd er mwyn bod mewn sefyllfa debycach i rai o wledydd Ewrop a'r Gymanwlad.

2.15 Adroddwyd bod rhagolygon cyllidol y Deyrnas Unedig wedi gwaethygu'n sylweddol ers y rhagolygon diwethaf gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ym mis Mawrth, a oedd yn rhagweld hyblygrwydd o tua £30bn. Roedd hi'n annhebygol y byddai'r rheolau cyllidol presennol yn cael eu cyrraedd ac mae'n ddigon posibl y byddant yn cael eu dileu yn gyfan gwbl gan Lywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig.

2.16 O ran rhagolygon cyllidol Cymru, roedd y sefyllfa yng Nghymru yn debygol o fod yn waeth o £4bn y flwyddyn o ganlyniad i bwysau chwyddiant, a oedd yn ostyngiad sylweddol yn y cyllidebau a ragwelir ar gyfer 2023-24 a 2024-25.

2.17 Wrth ddiolch i’r Prif Economegydd am yr adroddiad, nododd y Pwyllgor fod anghydraddoldeb incwm yn uchel yn y DU gan fod anghydraddoldeb incwm y farchnad yn uchel a bod y Deyrnas Unedig yn ymgymryd â llai o ailddosbarthu arian na llawer o wledydd eraill.

Eitem 3: Y cyd-destun ariannol

3.1 Rhoddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol drosolwg o sefyllfa ariannol bresennol Llywodraeth Cymru.

3.2 Roedd gwaith dadansoddi mewnol yn nodi bod y setliad ar gyfer 2023-24 £1.5bn yn llai na’r hyn a ddisgwyliwyd yn wreiddiol oherwydd pwysau’n ymwneud â chwyddiant. Gallai cyllideb Llywodraeth Cymru fod 3-4% yn is mewn termau real yn  2023/24 na’r flwyddyn bresennol – gostyngiad fwy nag unrhyw flwyddyn arall yn ystod y cyfnod o gynni.

3.3 Roedd sawl maes lle byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi eu huchelgeisiau, gydag unrhyw gyllid canlyniadol yn deillio o Ddatganiad y Canghellor yn ddiweddarach yr wythnos honno.

3.4 Awgrymwyd bod naratif clir wedi’i ddatblygu ar y pwysau ar Gyllidebau yn y blynyddoedd sydd i ddod.

3.5 Byddai'r Pwyllgor yn cadw golwg fanwl ar y cyhoeddiadau a wneir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ddiweddarach yr wythnos honno.

Eitem 4: Y dull gweithredu gweithredol

4.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y flaenraglen waith a oedd yn rhoi trosolwg i'r Pwyllgor o strwythur y cyfarfodydd, y rhai a fyddai’n bresennol, a'r dulliau llywodraethu.

4.2 Nodwyd y byddai partneriaid cymdeithasol ac aelodau allanol eraill a fyddai’n dod i’r cyfarfodydd yn cael eu gwahodd yn rheolaidd.

4.3 Anogwyd Gweinidogion Cymru i gynnwys costau byw drwyddi draw yn eu rhaglenni gwaith ac agendâu cyfarfodydd ar draws eu portffolios, o ystyried natur wirioneddol drawsbynciol y gwaith a’i amcan i helpu pobl yng Nghymru trwy’r argyfwng.

4.4 Byddai'r Undebau Masnach a Chredyd yn gyfranwyr pwysig a byddai'n hanfodol sicrhau naratif a dull cydlynol o ymdrin â'r gwaith ar draws y Llywodraeth.

4.5 Byddai'n hanfodol tynnu sylw at y gwaith ataliol a’r ymyrraeth gynnar sy'n cael ei gyflawni gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, a byddai gwaith gwahanol bwyllgorau'r Senedd ar gostau byw, tlodi tanwydd ac ynni yn elfennau pwysig i'w cynnwys.

4.6 Awgrymwyd y byddai modd gwneud gwaith pellach i ymchwilio i'r potensial am dariff cymdeithasol i fynd i'r afael â thlodi dŵr.

4.7 Nododd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Cyfathrebu

5.1 Nododd y Pwyllgor bod angen hysbysu pobl ar frys am yr effaith ar Gyllidebau, gan fod £4 biliwn yn ostyngiad sylweddol iawn mewn termau real.

5.2 Nodwyd y byddai’r ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’, sydd wedi cael ei dderbyn yn dda hyd yn hyn, yn cael ei haddasu i egluro beth roedd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn ei gyflawni ar gyfer pobl yng Nghymru.

5.3 Byddai grwpiau ffocws yn cyfarfod yn fuan a gofynnwyd i arweinwyr cyfathrebu ledled Llywodraeth Cymru i ddod â'r llinynnau gwaith ynghyd.

5.4 Awgrymwyd bod angen rhagor o waith ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol ym mhob maes, yn enwedig gydag Undebau Llafur.

5.5 Nododd y Cabinet y papur.

Eitem 6: Cylch gorchwyl

6.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y Cylch Gorchwyl drafft.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor Cabinet i’r Cylch Gorchwyl drafft.