Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Julie James AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Mick Antoniw AS
  • Vaughan Gething AS
  • Julie Morgan AS

Mynychwyr allanol

  • Torsten Bell, Prif  Weithredwr, Resolution Foundation

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmonds, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr yr Is-adran Ailgychwyn ac Adfer
  • Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr y Grŵp Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (Cofnodion)

Eitem 1: Diweddariad arbenigol: Torsten Bell, Prif Weithredwr – Resolution Foundation

1.1 Croesawodd y Prif Weinidog Torsten Bell, Prif Weithredwr y Resolution Foundation i’r cyfarfod gan ei wahodd i wneud cyflwyniad i’r grŵp.

1.2 Roedd chwyddiant yn codi’n sylweddol oherwydd y cynnydd digynsail mewn biliau ynni, sy’n cael ei achosi’n bennaf gan y rhyfel yn Wcráin a’r effeithiau ar y cyflenwadau nwy i’r farchnad fyd-eang.

1.3 Roedd y Warant Pris Ynni wedi bod yn hanfodol i ddiogelu aelwydydd agored i niwed ac aelwydydd incwm canolig rhag cynnydd anghynaliadwy mewn biliau ynni, ond roedd hon bellach wedi cael ei byrhau o ddwy flynedd i chwe mis, gydag adolygiad gan y Trysorlys yn cael ei gynnal cyn mis Ebrill 2023. Byddai hynny’n peri pryder i aelwydydd ledled y wlad, a byddai Cymru’n teimlo’r effeithiau’n waeth oherwydd ei demograffeg a nifer y tai hŷn yn ei stoc tai.

1.4 Roedd y mini-gyllideb, a gyhoeddwyd gan y cyn Ganghellor ar 23 Medi, wedi bod yn gam yn ôl, drwy geisio gyrru twf mewn modd sy’n seiliedig ar y ddelfryd o dorri trethi i’r rhai mwyaf cyfoethog mewn cymdeithas. Fodd bynnag, oherwydd adwaith y farchnad i’r straen a allai ddeillio o fenthyg o bosibl dros £100bn, roedd y toriadau wedi eu gwrth-droi mewn un o’r troadau ariannol pedol mwyaf i ddigwydd yn y DU erioed.

1.5 Er mwyn ceisio rheoli chwyddiant, roedd Banc Lloegr yn debygol o barhau i gynyddu cyfraddau llog. Nid oedd modd osgoi bod hyn wedi arwain at gynnydd mewn biliau morgais i’r rheini sy’n symud o gyfraddau a oedd wedi eu gosod i drefniadau newydd, yn ogystal â’r rheini ar gyfraddau morgais sy’n amrywio. Roedd hynny yn ei dro yn achosi mwy o straen ar gyllidebau aelwydydd, ochr yn ochr â’r cynnydd mewn costau byw megis costau bwyd, deunyddiau, ynni, a thai.

1.6 O ganlyniad nid oedd modd osgoi gweithredu toriadau mewn gwariant ar draws y sector cyhoeddus, fel yr awgrymwyd gan y Canghellor newydd. Byddai budd-daliadau, ac o bosibl pensiynau, yn dioddef toriadau sylweddol mewn termau real os nad oeddent yn cael eu codi i gyd-fynd â chwyddiant, a fyddai’n golygu bod y rheini sydd â’r lleiaf, megis pobl anabl, yn dioddef yr effeithiau gwaethaf. Byddai difrifoldeb yr effeithiau ar Gymru yn anghymesur unwaith yn rhagor, gydag incwm pobl yn disgyn hyd at 15% i’r aelwydydd tlotaf os oedd budd-daliadau’n codi’n unol â’r cyflog cyfartalog yn hytrach na chwyddiant.

1.7 Mewn ymateb, roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw am ddileu’r cap ar fudd-daliadau gan uwchraddio credyd cynhwysol £25, ochr yn ochr â cheisio rhoi sylw i’r nifer o bobl sy’n defnyddio meteri talu ymlaen llaw a oedd yn datgysylltu eu hunain rhag cael gwres a phŵer gan nad oeddent yn gallu fforddio rhoi arian yn y meteri hyn.

1.8 Diolchodd y Pwyllgor i’r Resolution Foundation am ei asesiad arbenigol o’r sefyllfa.

Eitem 2: Cynhwysiant Ariannol a Thariffau Band Eang Cymdeithasol

2.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y papur, a oedd yn rhoi diweddariad ar weithgarwch cynhwysiant ariannol gan amlinellu’r sefyllfa bresennol o ran darparu tariffau band eang cymdeithasol. Roedd yn nodi’r heriau gan amlinellu’r opsiynau i’w hystyried, gyda’r nod o helpu pobl i barhau yn gysylltiedig yn ddigidol yn ystod yr argyfwng costau byw.

Cynhwysiant ariannol

2.2 Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau a rhanddeiliaid allweddol i weithredu Cynllun Gweithredu Cymru o dan Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol, er mwyn sicrhau newidiadau cadarnhaol i gyllid personol pobl.

2.3 I gyd-fynd â hyn, roedd gweithgor ar gyfer manteisio i’r eithaf ar incwm wedi cael ei sefydlu ym mis Mai 2022 drwy gyfuno grŵp Llywodraeth Cymru sy’n sicrhau bod pobl gymwys yn hawlio budd-daliadau, â’r grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer dyledion. Y nod yw sicrhau bod y gwaith sy’n mynd rhagddo yn y ddau grŵp hyn yn gydgysylltiedig.

2.4 Roedd y gweithgor ar gyfer incwm yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau megis Swyddfa Cymru National Energy Action, TUC Cymru, Sefydliad Bevan, Anabledd Cymru, CLlLC, a swyddogion Llywodraeth Cymru. 

2.5 Roedd hyblygrwydd y Gronfa Cymorth Dewisol, a ddarparwyd mewn ymateb i COVID, wedi cael ei ymestyn i gynnwys pobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol er mwyn lliniaru’r effaith o golli’r cyllid ychwanegol o £20. Byddai cyllid ychwanegol o £15m yn 2022-3 yn cefnogi pobl yr oedd angen cymorth brys arnynt yn ystod yr argyfwng costau byw. Rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Awst 2022, roedd dros 100,000 o ddyfarniadau wedi cael eu gwneud gan y gronfa hon, sef cyfanswm o dros £11.1 miliwn, i’r rheini sydd â’r angen ariannol mwyaf. Roedd bron i £7 miliwn yn daliadau arian parod brys i helpu pobl i dalu costau bwyd a thanwydd.

2.6 O ran yr undebau credyd, sicrhawyd bod £620,000 ychwanegol ar gael yn 2022-23 ar gyfer parhau ag ymgyrch farchnata ddigidol ddwys ac ehangu cwmpas eu benthyciadau er mwyn iddynt allu cefnogi mwy o bobl sy’n agored i niwed ariannol. Roedd hyn yn ychwanegol at y £500,000 sydd eisoes yn ei le i gefnogi gwaith yr undebau credyd. Roedd £1m yn ei le ar gyfer Cynllun Benthyca Dim Llog, a fyddai’n dechrau yng Nghymru y mis nesaf, ac a fyddai’n cael ei ddarparu gan Fanc Cymunedol Robert Owen, Purple Shoots a Plend. Byddai’n helpu mwy o bobl i gael mynediad at gredyd fforddiadwy pan oedd angen iddynt wneud hynny.

2.7 Menter arall oedd y Rheoliadau Lle i Anadlu, a gafodd eu cyflwyno yng Nghymru yn 2021. Roedd y rheoliadau’r darparu diogelwch cyfreithiol rhag credydwyr i’r bobl hynny sy’n wynebu anawsterau oherwydd dyledion, drwy atal y rheini sy’n rhoi benthyg iddynt rhag cynyddu eu dyledion na chymryd camau gorfodi cynnar yn eu herbyn. Roedd yn rhoi i’r unigolion hynny yr amser yr oedd ei angen i gael y cyngor priodol er mwyn iddynt allu dechrau cael rheolaeth dros eu cyllid.

2.8 Roedd cyfarfod diweddar gyda phartneriaid wedi ymchwilio ymhellach i syniadau ac atebion ar gyfer cefnogi aelwydydd yng Nghymru a oedd yn ei chael yn anodd cael hyd i gredyd, ac a arweiniodd at ymrwymiad gan Cartrefi Cymunedol Cymru i hwyluso deialog â benthycwyr cyfrifol a chymdeithasau tai ledled Cymru gyda’r nod o ymchwilio i ffyrdd o gydweithio. Ymrwymiad pellach gan y benthycwyr cyfrifol a oedd yn y cyfarfod oedd ymgorffori gwiriad i gyfrifo budd-daliadau yn eu proses ymgeisio am fenthyciad.

Tariffau Band Eang Cymdeithasol

2.9 Roedd y pandemig COVID-19 wedi dangos yn glir bod cysylltedd digidol yn hanfodol ar gyfer sicrhau cadernid mewn cymdeithas fodern a’i gallu i barhau i weithredu. Roedd ffyrdd newydd o weithio a byw yn parhau i olygu bod angen i bobl gael mynediad at wasanaethau band eang a symudol cyflym a dibynadwy, wrth i gymdeithas ddod allan o’r pandemig.

2.10 Roedd tystiolaeth anecdotaidd gan bartneriaid yn y trydydd sector bod unigolion yn gorfod lleihau eu costau data, a oedd yn  cael eu hystyried yn wariant hanfodol. Gallai hynny arwain at waethygu anghydraddoldebau, wrth i’r rheini a allai gael eu datgysylltu, neu a allai ddatgysylltu eu hunain yn wirfoddol, fethu â chael mynediad i’r cyfleoedd neu wybodaeth orau sydd ar gael iddynt.

2.11 Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’n gyson i wella cysylltedd digidol lle bo hynny’n bosibl, er nad oedd polisi telathrebu wedi ei ddatganoli i Gymru, drwy lwyddo i gael cyllid gan yr UE a ffynonellau eraill i helpu dinasyddion a busnesau yng Nghymru.

2.12 Nododd y Pwyllgor y diweddariad a’r gwaith parhaus sy’n digwydd yn y maes hwn.

Eitem 3: Diweddariad ar Effeithlonrwydd Ynni a Fforddiadwyedd Dŵr

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur a oedd yn rhoi diweddariad ar Effeithlonrwydd Ynni a Fforddiadwyedd Dŵr.

Effeithlonrwydd Ynni

3.2 Amcangyfrifwyd bod hyd at 14% o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd yn ôl y sefyllfa fel yr oedd ym mis Hydref 2021, ac y byddai hyd at 45% o’r holl aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd yn sgil y newidiadau i’r cap ar bris ynni a ddigwyddodd ym mis Ebrill 2022.

3.3 Roedd y cap ar y pris a oedd wedi cael ei gyflwyno ar 8 Medi gan Lywodraeth y DU wedi digwydd mewn ymateb i gyhoeddiad gan Ofgem y byddai’r cap ar bris ynni domestig yn codi 80% ar 1 Hydref.

3.4 Oherwydd oed ac aneffeithlonrwydd thermol llawer o’r eiddo yng Nghymru, byddai pobl yng Nghymru yn talu mwy ar gyfartaledd na gweddill y DU.

3.5 Roedd Llywodraeth Cymru o’r farn bod mesurau presennol Llywodraeth y DU yn methu â thargedu cymorth ystyrlon tuag at yr aelwydydd mwyaf agored i niwed. Roedd Dadansoddiad Cyllidol Cymru yn nodi bod bron i 90% o’r enillion yn mynd i aelwydydd yn 50% uchaf y dosbarthiad incwm, gyda 40% yn mynd i aelwydydd yn y 10% uchaf.

3.6 Er gwaethaf hyn, roedd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi’n sylweddol mewn gwella llesiant y dinasyddion tlotaf drwy ei rhaglen cartrefi cynnes. Yn 2020-21, roedd y rhaglen cartrefi cynnes wedi rhoi cyngor diduedd am ddim i 15,557 o aelwydydd; roedd 4,559 o aelwydydd wedi cael mesurau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim; ac roedd bil ynni cyfartalog, a oedd wedi ei fodelu, yn dangos arbedion o £300 y flwyddyn yn seiliedig ar brisiau ynni 2020-21, ac roedd oddeutu £1m o gymorth wedi cael ei roi i gartrefi cymwys.

3.7 Roedd gwelliannau wedi cael eu gwneud i Gynllun Nyth y rhaglen cartrefi cynnes mewn ymateb i’r argyfwng costau byw. Roedd buddsoddiadau wedi cael eu gwneud mewn paneli solar ffotofoltaig, ôl-osod a batris storio, a fyddai’n galluogi cartrefi cymwys i fanteisio ar ffynonellau ynni yn y dyfodol.

3.8 Roedd ymgyrch tanwydd gaeaf mwy trylwyr, a oedd yn cael ei darparu drwy gynllun Nyth ac a oedd yn cael ei harwain gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, yn rhoi cyngor a chanllawiau ar effeithlonrwydd ynni a oedd wedi eu targedu at gynulleidfa ehangach, gan gysylltu ag ymgyrch Advicelink Cymru.

3.9 Roedd rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru, y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, yn darparu llwybrau effeithiol ac ymarferol ar gyfer sicrhau bod cartrefi’n gwireddu eu hôl troed carbon isaf posibl. Ar hyn o bryd, roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar y tai cymdeithasol sy’n bodoli eisoes, drwy fod y cynllun yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol ddarparu gwres fforddiadwy drwy sicrhau bod cartrefi’n elwa ar effeithlonrwydd ynni ac yn rhatach i’w rhedeg.

3.10 Mae cyllid grant o oddeutu £70m eisoes wedi cael ei ddarparu drwy’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Roedd £60m wedi cael ei ddarparu ar draws yr holl landlordiaid cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol hon, sef cynnydd o £10m ar y blynyddoedd blaenorol.

Fforddiadwyedd Dŵr

3.11 Trafododd y Pwyllgor fforddiadwyedd dŵr gan nodi bod gan bob cwmni dŵr gynllun ar waith i gynnig cymorth i gwsmeriaid nad oeddent yn gallu fforddio eu biliau. Os oedd cwsmeriaid yn ei chael yn anodd talu eu bil ar unrhyw adeg, roeddent yn cael eu cynghori i gysylltu â’u cwmni dŵr ar unwaith.

3.12 Roedd y cwmnïau dŵr yn gallu helpu mewn llawer o ffyrdd, megis drwy sefydlu cynlluniau ar gyfer talu; rhoi cyngor ar arbed dŵr; rhoi cyngor ar adnoddau a allai fod ar gael o gronfeydd eraill i helpu cwsmeriaid; neu gyfeirio cwsmeriaid at gyngor ariannol am ddim gan Cyngor ar Bopeth Cymru neu wasanaethau cyngor ariannol eraill.

3.13 Roedd Dŵr Cymru yn cynnig un o’r pecynnau cymorth mwyaf hael, ac ym mis Chwefror, fe wnaeth neilltuo £12.4 miliwn ychwanegol ar gyfer 2022-2023 i helpu hyd at 54,000 o gwsmeriaid cymwys ychwanegol.

3.14    Nododd y Pwyllgor fod negeseuon gweladwy iawn am ddigwyddiadau cymunedol a sut i gael cymorth yn ddwy o’r dulliau yr oedd Dŵr Cymru yn eu defnyddio i roi gwybod i’r cyhoedd am y cymorth yr oedd yn ei gynnig.

3.15    Nododd y Pwyllgor y diweddariad.

Eitem 4: Adroddiad diweddaru ar effeithiau’r argyfwng costau byw ar dai

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor nodi’r pwysau ar dai, a’r ystod o ymyriadau a oedd yn canolbwyntio ar atal pobl rhag colli eu cartrefi.

4.2 Roedd yr argyfwng costau byw yn creu risgiau a heriau penodol i’r sector tai. Yn sylfaenol, roedd unigolion, teuluoedd, busnesau, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Awdurdodau Lleol, a sefydliadau cymorth yn y trydydd sector i gyd yn debygol o gael llai o gyllid, er iddynt wynebu costau uwch. Yr effaith uniongyrchol fwyaf tebygol a sylweddol fyddai pobl yn colli eu cartrefi, ac felly y byddai angen llety dros dro arnynt, neu byddent yn ddigartref.

4.3 Er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau yn y system, roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi neilltuo £10m o gyllid ychwanegol ar gyfer Awdurdodau Lleol i ddarparu llety dros dro i gefnogi ei pholisi o sicrhau nad oes ‘neb yn cael eu gadael allan’, a £6m ychwanegol i awdurdodau lleol ar gyfer Cronfa Atal Digartrefedd yn ôl Disgresiwn. Roedd yn ymddangos bod y cyllid hwn eisoes wedi cael ei ddefnyddio’n llawn gan lawer o Awdurdodau Lleol.

4.4 Roedd yr angen am gyllid ychwanegol i atal digartrefedd wedi cael ei waethygu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy fod honno wedi lleihau cyllid Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai a oedd yn cael ei ddyfarnu i awdurdodau lleol Cymru yn 2022-23, sef gostyngiad o 27% o’i gymharu â 2021-22. Roedd hyn ar ben y gostyngiad o 18% yn 2021 o’i gymharu â 2020/21. Roedd hyn wedi effeithio ar gyfraddau’r Lwfans Tai Lleol a oedd yn cael ei dalu i’r rheini ar fudd-daliadau, mewn perthynas â thai, ac a oedd yn sylweddol is na’u rhenti.

4.5 Roedd £65m eisoes wedi cael ei ddarparu ar gyfer Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i weithredu’n gyflym i gynyddu capasiti’r llety dros dro a llety parhaol o ansawdd da a oedd ar gael ar draws Cymru fel rhan o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro.

4.6 Er gwaethaf yr ymyriadau hyn, roedd y pwysau sylweddol yn parhau yn y system digartrefedd a thai, gyda chyfradd uchel o bobl newydd yn cysylltu ar lefel a oedd yn peri pryder, ac Awdurdodau Lleol yn dweud eu bod yn ei chael yn anodd gweinyddu’r cynlluniau gan roi’r cymorth yr oedd ei angen i unigolion a theuluoedd, oherwydd materion yn ymwneud â chapasiti.

4.7 Roedd yn hanfodol cadw pobl yn eu cartrefi lle bo hynny’n bosibl, a mesurau ataliol oedd y dull gweithredu mwyaf cost-effeithiol.

4.8 Gyda’r nod hwnnw mewn golwg, byddai’r Ddeddf Rhentu Cartrefi, pan fyddai’n cael ei gweithredu ym mis Rhagfyr, yn darparu ar gyfer cyfnod hysbysu o 6 mis mewn achosion lle’r oedd tenant yn cael ei droi allan heb fai, er na fyddai hyn ond yn berthnasol i denantiaethau newydd. Roedd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar gynnig i ymestyn hyn i gynnwys tenantiaethau sy’n bodoli eisoes o fis Mehefin 2023.

4.9 Drwy ddefnyddio Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai a chyllid y Gronfa Atal Digartrefedd yn y modd mwyaf effeithiol, gellid helpu pobl sy’n ei chael yn anodd bodloni rhwymedigaethau eu tenantiaethau. Roedd y Gronfa Atal Digartrefedd yn rhoi’r hyblygrwydd mwyaf posibl i Awdurdodau Lleol o ran sut maent yn defnyddio’r cyllid i atal digartrefedd. Gallai hyn gynnwys darparu cyllid ar gyfer bond, rhent ymlaen llaw, eitemau o ddodrefn neu helpu i glirio ôl-ddyledion rhent.

4.10 Yn ogystal â’r uchod, darparwyd cymorth achub morgeisi drwy’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol ers 2008. Roedd y cynllun presennol wedi helpu’r rheini sy’n dioddef caledi ariannol i osgoi colli eu cartrefi drwy fod eu cartrefi’n cael eu hadfeddu, er mwyn atal digartrefedd.

4.11 Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad gan nodi’r gwaith a oedd yn mynd rhagddo i helpu’r rheini sy’n wynebu anawsterau mawr o ganlyniad i’r argyfwng costau byw ac ynni i aros yn eu cartrefi lle bo hynny’n bosibl.

Eitem 5: Adroddiad diweddaru ar fesurau costau byw

5.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur a oedd yn rhoi diweddariad ar y gyfres o fesurau costau byw a oedd wedi cael eu nodi gan y Cabinet yn flaenorol ar gyfer gwneud gwaith pellach arnynt. Roedd y papur yn amlinellu egwyddorion a blaenoriaethau a oedd wedi cael eu diweddaru i lywio gwaith y Pwyllgor, gan gynnwys diweddariad ar fesurau a oedd wedi cael eu nodi gan y Cabinet yn flaenorol a chrynodeb o raglenni sy’n ymateb i bwysau costau byw. Hefyd roedd drafft gyntaf o grynodeb o dystiolaeth mewn meysydd o flaenoriaeth.

5.2 Roedd y meysydd lle’r oedd y risgiau mwyaf i unigolion, plant a chymunedau wedi cael eu blaenoriaethu a’u diweddaru, ac roeddent yn cynnwys:

  • Gwresogi: lleihau costau ynni a helpu pobl i aros yn gynnes y gaeaf hwn
  • Bwyta: sicrhau bod pawb yn gallu cael bwyd iach yn rheolaidd
  • Llety: helpu i gadw pobl yn eu cartrefi, gan sicrhau eu bod yn gallu ymdopi yn ariannol ac yn gallu talu costau’r aelwyd
  • Byw: helpu pobl i barhau i gynnal cysylltiadau ac i wneud mwy na dim ond goroesi
  • Teithio: helpu pobl i fynd i’r gwaith, cael nwyddau a gwasanaethau, ac ymweld ag eraill.