Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mark Drakeford AS
  • Jane Hutt AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Jeremy Miles AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS (rhan o’r cyfarfod)

Mynychwyr allanol

  • Susan Lloyd-Selby, Trussell Trust
  • Cynghorydd Andrew Morgan, CLlLC
  • Naomi Alleyne, CLlLC
  • Ruth Marks, CLlLC
  • Abdul-Azim Ahmed, Cyngor Mwslimiaid Cymru
  • Tom Lee, Y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant
  • Paul Butterworth, Siambrau Cymru (rhan o’r cyfarfod)

Swyddogion

  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru
  • Amelia John, Cyfarwyddwr Dros Dro Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
  • Jonathan Price, Prif Economegydd
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Neil Buffin, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
  • Emma Spear, Dirprwy Gyfarwyddwr, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (Cofnodion)
  • James Burgess, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Costau Byw
  • Heather O’Sullivan, Tîm Costau Byw
  • David Willis, Pennaeth Trechu Tlodi

Ymddiheuriadau

  • Eluned Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Croesawodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yr holl bartneriaid i’r cyfarfod.

1.2 Croesawodd y Gweinidog Paul Butterworth o Siambrau Cymru i'r cyfarfod hefyd, a diolchodd i Paul Slevin am ei gyfraniad i'r Pwyllgor.

1.3 Nododd y Gweinidog ffocws y cyfarfod, a fyddai'n ymwneud â thlodi bwyd. Roedd prisiau bwyd wedi bod yn cyfrannu'n fawr at chwyddiant, a oedd yn parhau'n uchel, ac roedd hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.

1.4 Cytunodd yr Is-bwyllgor ar gofnodion 27 Mawrth.

Eitem 2: Y wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol y Pwyllgor hwn a gwaith y Grŵp Arbenigol

2.1 Rhoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip ddiweddariad i bartneriaid ar ddyfodol yr Is-bwyllgor a'r Grŵp Arbenigol ar Gostau Byw.

2.2 Nodwyd bod yr Is-bwyllgor wedi bod yn hynod werthfawr ers ei gyflwyno, gan ddod â Gweinidogion ynghyd i gydlynu camau gweithredu ar draws partneriaid cyflawni. Yn gysylltiedig â hyn oedd y cyfle i glywed gan bartneriaid a siaradwyr arbenigol eraill am sut yr effeithiodd yr argyfwng ar bobl a sefydliadau ar lawr gwlad. Rhoddodd hyn fewnwelediadau amhrisiadwy.

2.3 Roedd yn amlwg nad oedd yr argyfwng costau byw ar ben o bell ffordd, felly byddai'r cyfarfodydd yn parhau drwy gydol tymor yr haf, ond yn llai aml o ystyried y pwysau amser ar ddyddiaduron. Byddai gweinidogion yn cyfarfod eto ym mis Mehefin, ac yna'n cael cyfarfod pellach gyda phartneriaid ym mis Gorffennaf.

2.4 Byddai brîff gwylio yn cael ei gynnal drwy gydol toriad yr haf, cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch cyfarfodydd yn y dyfodol, yn dibynnu ar y sefyllfa ar y pryd.

2.5 Diolchodd y Gweinidog i'r holl bartneriaid am roi eu hymrwymiad a'u hamser parhaus i fynychu a chyfrannu.

2.6 O ran y Grŵp Arbenigol, byddai Gweinidogion a rhai partneriaid yn cyfarfod â'r Grŵp ar 24 Mai ac eto ar 8 Mehefin, cyn cyflwyno argymhellion terfynol i Lywodraeth Cymru.

2.7 Nododd yr Is-bwyllgor y diweddariad.

Eitem 3: Cyflwyniad ar dlodi bwyd yng Nghymru gan Susan Lloyd-Selby, Trussell Trust

3.1 Gwahoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Susan Lloyd-Selby o Trussell Trust i gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am dlodi bwyd yng Nghymru.

3.2 Adroddwyd bod 24,000 o deuluoedd rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023 wedi cael eu gorfodi i droi at un o'r 114 o fanciau bwyd yn rhwydwaith y Trussell Trust yng Nghymru am y tro cyntaf. Roedd hyn cynrychioli cynnydd o 37% yn nifer y teuluoedd sy'n defnyddio banciau bwyd am y tro cyntaf o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2021/22. Roedd y teuluoedd hyn yn gyfanswm o dros 56,000 o bobl.

3.3 Nodwyd bod darparu taliadau costau byw wedi cyd-fynd â’r gostyngiad mewn anghenion yng Nghymru, ond roedd hyn yn fyrhoedlog, ac roedd yr holl genhedloedd a rhanbarthau wedi gweld cynnydd mewn angen eleni, a'r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf oedd oedolion sengl a rhieni sengl, aelwydydd â phlant, gofalwyr di-dâl a phobl ag afiechyd neu anabledd neu nodwedd warchodedig arall.

3.4 Roedd yn amlwg bod banciau bwyd yn gweld galw cynyddol a chyfnodau caletach ledled Cymru, gyda thystiolaeth fod y banciau bwyd yn gweld pobl a oedd yn llwgu, heb ddim gwres, neu heb fynediad at gyflenwadau sylfaenol fel tegellau a microdonnau. Roedd penderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch a ddylid darparu parseli nad oes angen eu coginio neu nad oes angen eu coginio llawer.

3.5 O ran rhoddion yn ateb y galw, bu cynnydd mewn rhoddion o'i gymharu â'r llynedd, ond gallai ateb cynnydd pellach yn y galw fod yn broblem o gofio bod pob banc bwyd wedi darparu mwy o stoc nag a dderbyniwyd mewn rhoddion rhwng Ionawr ac Ebrill, ac roedd bron pob banc bwyd yn prynu bwyd.

3.6 Roedd yr Ymddiriedolaeth yn sicrhau bod arian grant brys ar gael i fanciau bwyd i brynu bwyd ac i gynyddu nifer y staff gweinyddol, ond nid oedd yn sicr a fyddai hyn yn ddigon pe bai chwyddiant bwyd yn parhau i godi ar ei gyflymder presennol.

3.7 Awgrymodd arolwg barn gan YouGov, ar ran y Trussell Trust, fod y cyhoedd yn fwyfwy pryderus am faterion yn ymwneud â thlodi a newyn yn y DU.

3.8 Mewn ymateb i'r bleidlais, roedd mwyafrif o'r farn na ddylai pobl fod angen banciau bwyd yn y DU, gyda mwyafrif cryf yn cytuno y dylai pawb allu prynu digon o fwyd iddyn nhw eu hunain a'u teulu.

3.9 Roedd y cyhoedd hefyd yn gytûn na ellid datrys y broblem tlodi na newyn gan ddefnyddio banciau bwyd, gan nad oedd y rhain yn datrys achosion sylfaenol tlodi. Dylai sicrhau bod gan bawb ddigon o arian ar gyfer anghenion sylfaenol fod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth y DU

3.10 I'r perwyl hwnnw, roedd yr Ymddiriedolaeth wedi lansio ei hymgyrch ddiweddaraf, 'Guarantee Our Essentials'. Roedd hyn yn cynnwys rhai 'gofynion' polisi allweddol ar gyfer Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

3.11 Byddai angen ymgyrchu er mwyn i Lywodraeth y DU ddarparu ymrwymiad hirdymor y byddai cyfraddau budd-daliadau bob amser yn ddigonol i bobl allu fforddio'r hanfodion. Felly, roedd yr Ymddiriedolaeth yn galw ar Lywodraeth y DU i ymgorffori'r egwyddor yn y gyfraith y dylai Credyd Cynhwysol o leiaf amddiffyn pobl rhag mynd heb hanfodion. 

3.12 Yn ogystal, roedd gan gymorth argyfwng lleol effeithiol rôl i'w chwarae hefyd a dylai Llywodraeth y DU nodi strategaeth hirdymor ar gyfer cymorth argyfwng lleol ac ymrwymo i setliad ariannu aml-flwyddyn.

3.13 O ran ‘gofynion’ Llywodraeth Cymru, hoffai’r Ymddiriedolaeth weld cynllun penodol i Gymru yn cael ei ddatblygu i leihau ac atal yr angen am gymorth bwyd brys.

3.14 Roedd galwad i weithredu argymhellion Sefydliad Bevan ar ddull cyffredin o ymdrin â budd-daliadau Cymru, ac i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Gwarant Hanfodion gan Lywodraeth y DU.

3.15 Nododd yr Is-bwyllgor fod y defnydd o fanciau bwyd yn bryderus o uchel yng Nghymru, ond ei fod yn cynyddu ledled y DU ac yn enwedig yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr.

3.16 Nodwyd fod banciau bwyd yn Rhondda Cynon Taf yn nodi cynnydd o 15% yn y defnydd, ac roedd y swm a wariwyd ar brynu cynnyrch yn cynyddu'n sylweddol gydag ofnau y gallai'r galw fynd y tu hwnt i'r cyflenwad mewn rhai ardaloedd yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

3.17 Gwnaed y pwynt bod gwasanaethau cynghori a'r gwaith 'Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif' yn parhau mewn banciau bwyd ledled Cymru, gyda buddsoddiad o £1.7 miliwn gan y Trussell Trust, ond roedd bob amser mwy y gellid ei wneud.

3.18 Roedd yn hanfodol bod Awdurdodau Lleol yn cydweithio i gyfeirio pobl at wasanaethau drwy eu gwefannau, ac i gydweithio ar ddarparu taliadau awtomatig lle bynnag y bo modd i'r rhai mewn angen ac yn ehangach o ran cyfuno cynigion ledled Cymru.

3.19 Nododd yr Is-bwyllgor y gwaith da sy'n parhau rhwng rhwydweithiau ffydd, hybiau cynnes a gwybodaeth sy'n cael ei rhannu drwy rwydwaith y Cyngor Gwirfoddol Sirol ac y byddai’r rhwydwaith cymdeithas sifil yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddarparu digon o Gredyd Cynhwysol i dalu am yr hanfodion.

3.20 Diolchodd yr Is-bwyllgor i Susan Lloyd-Selby am y cyflwyniad ac i'r partneriaid am eu cyfraniadau.

Eitem 4: Diweddariad gan bartneriaid ar dlodi bwyd

4.1 Gwahoddodd y Gweinidog bartneriaid cymdeithasol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf gan eu sefydliadau priodol am y sefyllfa tlodi bwyd.

4.2 Tynnwyd sylw at y gwaith da sy'n mynd rhagddo mewn ysgolion fel rhywbeth cadarnhaol, gyda'r fenter 'Bocs Bwyd Mawr' a chlybiau bwyd amrywiol ar gyfer y rhai a oedd ar fin bod angen cymorth. Rhagwelwyd y byddai nifer y teuluoedd hyn yn cynyddu a’i fod yn ystadegyn cudd ar hyn o bryd.

4.3 Cafwyd adborth gan y gymuned Fwslimaidd y byddai’r galw am fathau penodol o eitemau bwyd yn newid, i gael cynhwysion rhatach a oedd â bywyd silff hirach. Roedd hyn yn peri pryder o ystyried y nod o ddarparu diet cytbwys a maethlon drwy gymorth bwyd, ond nid yn annisgwyl o ystyried ymdrech yr archfarchnadoedd i leihau eu gwastraff.

4.4 Yn ogystal, roedd materion logistaidd o ran storio bwyd a'r gweithlu oedd ei angen i gludo a storio symiau mawr o gyflenwadau ffres.

4.5 Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £5.9 miliwn yn 2022-23 i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i oresgyn rhwystrau i gael gafael ar fwyd, storio a dosbarthu cyflenwadau ychwanegol o fwyd o ansawdd uchel, gan gynnwys cyflenwad da o fwyd dros ben. Roedd hefyd wedi eu galluogi i brynu cynhyrchion fel llaeth babanod ac eitemau fel poteli dŵr poeth yn ogystal â nwyddau hanfodol eraill a oedd yn cefnogi lles, deiet iach ac urddas personol.

4.6 Roedd mentrau fel banciau babanod a banciau gwisg ysgol hefyd yn cael eu cefnogi, yn ogystal â darparu cymorth ar gyfer mentrau a allai helpu teuluoedd i arbed arian ar fwyd drwy ychwanegu at eu gwybodaeth a’u sgiliau’n ymwneud â bwyd.

4.7 Roedd yn amlwg bod effaith anghymesur ar gymunedau, gyda'r rhai o gefndiroedd amrywiol yn aml yn mynychu banciau bwyd y tu allan i'w hardal eu hunain er mwyn osgoi stigma.

4.8 Roedd diffyg incwm cartref digonol yn sbardun allweddol ar gyfer tlodi bwyd ac roedd y Gronfa Cymorth Dewisol a chymorth ariannol arall gan yr Awdurdod Lleol yn hanfodol i roi rhywfaint o seibiant i bobl ac i sicrhau bod ganddynt ddewisiadau ac yn gallu cynnal eu hurddas personol. Roedd yr ymrwymiad i gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim yn yr hydref yn gam i'w groesawu gan Lywodraeth Cymru.

4.9 Awgrymwyd bod cyrraedd unigolion agored i niwed yn allweddol, a bod Cynghorau Tref a Chymuned yn chwarae rhan hanfodol gyda'u cysylltiadau yn y cymunedau lleol. Byddent hefyd yn helpu i wneud cysylltiadau gyda deiliaid rhandiroedd a allai fod yn barod i roi unrhyw gynnyrch gormodol sydd ganddyn nhw ar yr adeg hon o'r flwyddyn.

4.10 Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu dros £15 miliwn ers 2019 i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i fynd i'r afael â thlodi bwyd a darparu ystod ehangach o wasanaethau i helpu unigolion ac aelwydydd i gynyddu eu hincwm a meithrin cadernid ariannol.

4.11 Roedd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar ei chamau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd drwy ganolbwyntio adnoddau ychwanegol ar atal achosion, cynaliadwyedd a gwytnwch.

4.12 I'r perwyl hwn, sefydlwyd partneriaethau bwyd traws-sector ym mhob ardal awdurdod lleol. Roedd yr arian hefyd yn cefnogi cydlynu gweithgarwch sy'n gysylltiedig â bwyd, gan ddefnyddio cymorth ac arbenigedd gan wasanaethau eraill fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, cymdeithasau tai Cymru a gwasanaethau cynghori, i ddeall a mynd i'r afael ag anghenion lleol. Byddai hyn yn helpu i sicrhau bod y prosiectau mor effeithiol â phosibl.

4.13 Yn ogystal, roedd gwaith yn parhau ar y Strategaeth Bwyd Cymunedol i ddod â'r gwahanol opsiynau cyflenwi at ei gilydd ac roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i fwrw ymlaen â'r argymhellion yn Adroddiad Sefydliad Bevan ar Fudd-daliadau yng Nghymru, a gyhoeddwyd y mis blaenorol.

4.14 Diolchodd yr Is-bwyllgor i'r holl bartneriaid am eu hadborth.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mai 2023