Neidio i'r prif gynnwy

Present

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Vaughan Gething AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS

Cyfranwyr allanol

  • Y Gwir Anrh David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Mims Davies AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Symudedd Cymdeithasol, Ieuenctid a Dilyniant
  • Dr Abdul-Azim Ahmed, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Cyngor Mwslimiaid Cymru
  • Andy John, Archesgob Cymru
  • Y Cyngh Andrew Morgan OBE, Arweinydd, CLlLC
  • Ellie Harwood, y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant
  • Naomi Alleyne, CLlLC
  • Paul Slevin, Siambr Fasnach De Cymru
  • Ruth Marks, CGGC
  • Shavanah Taj, TUC Cymru

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
  • Jonathan Price, Prif Economegydd
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Adfer ac Ailgychwyn
  • Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr y Grŵp Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • James Burgess, yr Is-adran Datblygu Gwledig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)

Eitem 1: Diweddariad ar gymorth Llywodraeth y DU ar gyfer costau byw

1.1 Estynnodd y Prif Weinidog groeso i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrh David Davies AS, ac i Mims Davies, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Symudedd Cymdeithasol, Ieuenctid a Dilyniant i gyfarfod randdeiliaid rheolaidd Is-bwyllgor y Cabinet ar Gostau Byw.

1.2 Nododd yr Ysgrifennydd Gwladol y camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, ar y cyd â'r penderfyniadau ariannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Natganiad yr Hydref.

1.3 Nododd y Pwyllgor y byddai'r Warant Pris Ynni yn parhau ar ôl mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ond ar gyfradd is. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod effaith chwyddiant a'r rhyfel yn Wcráin wedi cyfrannu at y sefyllfa anodd a welir yn y DU ar hyn o bryd, ond yn dilyn yr ansicrwydd a achoswyd gan Brif Weinidog blaenorol y DU, roedd Datganiad yr Hydref gan y Canghellor wedi rhoi sicrwydd i'r marchnadoedd.

1.4 Nodwyd bod gwaith i gynnwys cyfrifianellau budd-daliadau i'r bobl hynny nad oeddent eisoes yn hawlio'r hyn roedd ganddynt hawl iddo yn mynd rhagddo ar draws platfformau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

1.5 Roedd Llywodraeth y DU wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen cynyddu incwm a oedd yn ystyried pob agwedd ar gymorth ar gyfer sgiliau a hyfforddiant ehangach.

1.6 Roedd swm ychwanegol o £67m mewn budd-daliadau wedi cael ei hawlio o ganlyniad i'r gwaith hwn, a'r nod oedd targedu cymorth tuag at y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, megis pobl sy'n gadael gofal, cyn-filwyr a phobl sy'n profi cam-drin domestig, ymhlith pobl eraill. Roedd rhwydwaith o hyfforddwyr gwaith bellach yn cael ei sefydlu ar draws canolfannau gwaith, a byddai’r rhain hefyd yn darparu hyfforddiant mewn gwaith i bobl er mwyn rhoi cyfle i bobl ar yr incymau isaf wella eu sefyllfa.

1.7 Gwnaed y pwynt bod taliadau yn ôl disgresiwn ar gyfer tai wedi lleihau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac y dylai Llywodraeth y DU ymchwilio ymhellach i'r mater. At hynny, roedd angen ystyried tlodi tanwydd a phobl sy'n defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw fel mater brys, gan gynnwys cyfarwyddo cwmnïau ynni i fod yn fwy tryloyw wrth rannu data ar bobl sy'n defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw, a'r rhesymau pam eu bod wedi eu trosglwyddo o ddefnyddio dulliau talu traddodiadol.

1.8 Roedd galw am ragor o gymorth ar gyfer costau ynni i'r trydydd sector, am fod perygl na fyddai rhai meysydd yn gynaliadwy y flwyddyn nesaf. Nodwyd bod Cynghorau Gwirfoddol Sirol yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol ledled Cymru i ddarparu archwiliadau ynni ar gyfer adeiladau cymunedol, a bod y cysylltiadau cryf rhwng partneriaid cymdeithasol yn hollbwysig ar yr adeg hon.

1.9 Nododd yr Is-bwyllgor fod cymorth i'r unigolion hynny nad oeddent ar y grid wedi codi o £100 i £200, ac y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud gwaith pellach i ystyried pa gymorth ychwanegol y gellid ei roi i'r trydydd sector a busnesau y flwyddyn nesaf.

1.10 Awgrymodd yr Is-bwyllgor rai camau ymarferol y gellid eu cymryd er mwyn lleihau effeithiau'r argyfwng costau byw, na fydda'n arwain at oblygiadau sylweddol o ran costau.

1.11 Y cyntaf o'r awgrymiadau hyn oedd dileu ffioedd sefydlog ar gyfer cwsmeriaid sy’n talu ymlaen llaw. Y cwmnïau ynni ddylai ysgwyddo costau gwneud hyn, yn hytrach na Llywodraeth y DU.

1.12 Yn ail, dylid ystyried cynyddu taliadau yn ôl disgresiwn ar gyfer tai a lwfansau tai lleol. Mesur 'buddsoddi er mwyn arbed' fyddai hyn, a ddylai arwain at lai o bobl yn dod yn ddigartref, gan arbed arian i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y pen draw.

1.13 Yn drydydd, dylid cefnogi cynllun y DU gyfan ar gyfer benthyciadau yn ôl disgresiwn gan Undebau Credyd, ar sail y cynllun peilot llwyddiannus a gynhaliwyd yng Nghymru.

1.14 At hynny, nodwyd bod y rhan fwyaf o daliadau'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cael eu gwneud ar hyn o bryd i bobl sy'n aros i gael Credyd Cynhwysol, felly dylai Llywodraeth y DU ailystyried y cyfnod aros o bum wythnos ar gyfer taliadau Credyd Cynhwysol.

1.15 Croesawodd yr Is-bwyllgor y diweddariad a nododd uchelgais cyffredin Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gefnogi pobl ledled Cymru yn ystod yr amseroedd anodd hyn.

Item 2: Update on Welsh Government supportEitem 2: Diweddariad ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr argyfwng costau byw for the cost-of-living

2.1 Rhannodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yr wybodaeth ddiweddaraf am y buddsoddiad o £1.6bn a wnaed gan Lywodraeth Cymru eleni, a oedd yn cefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw drwy ddarparu cymorth wedi’i dargedu i’r bobl hynny yr oedd ei angen mwyaf, a thrwy raglenni a chynlluniau a oedd yn rhoi arian yn ôl i bobl.

2.2 Roedd hyn yn cynnwys y swm o £380m a gafodd ei fuddsoddi ers mis Tachwedd y llynedd mewn cymorth uniongyrchol i unigolion a oedd yn wynebu caledi ariannol.

2.3 Nodwyd bod swm o £90m wedi cael ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf arall yn ystod 2022-23, a oedd yn cefnogi pobl ar incymau isel drwy roi taliad o £200 nad oedd angen ei ad-dalu tuag at eu costau ynni. Roedd Awdurdodau Lleol partner wedi gwneud taliadau i fwy na 275,000 o aelwydydd erbyn 2 Rhagfyr. Roedd yr ail gynllun hwn, sy’n ehangach ei gwmpas, yn datblygu ar y cynllun a gynhaliwyd y llynedd, a roddodd gymorth i dros 166,000 o aelwydydd.

2.4 Hyd yma yn 2022-23, roedd mwy na 200,000 o bobl wedi cael cymorth gan y Gronfa Cymorth Dewisol, ac roedd swm o dros £23 miliwn mewn grantiau wedi cael ei roi i bobl a oedd yn agored i niwed difrifol yn ariannol. Roedd mwy na £14 miliwn o’r grantiau hyn ar ffurf taliadau arian parod brys i helpu unigolion a theuluoedd gyda chostau byw sylfaenol.

2.5 At hynny, roedd dwy ymgyrch genedlaethol ‘Hawliwch yr hyn sy’n Ddyledus i chi’ wedi cael eu cynnal er mwyn annog pobl i hawlio budd-daliadau, ac roedd dros 8,000 o bobl ledled Cymru wedi ymateb i neges yr ymgyrch drwy gysylltu ag Advicelink Cymru. Roedd swm o dros £2.1m mewn incwm ychwanegol ar ffurf budd-daliadau wedi cael ei hawlio o ganlyniad i hyn. Roedd bwriad cynnal ymgyrch arall ynghylch costau byw hefyd.

2.6 Roedd gwasanaeth Cronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru yn cynnig gwiriadau i weld a oedd gan unigolion hawl i gael budd-daliadau lles, ni waeth beth oedd y problemau yr oeddent yn gofyn am gyngor yn eu cylch. Ers mis Ionawr 2020, roedd gwasanaethau’r Gronfa Gynghori Sengl wedi helpu pobl ledled Cymru i hawlio dros £83m mewn incwm ychwanegol ar ffurf budd-daliadau. 

2.7 Roedd Canolfannau Clyd yn rhaglen flaengar arall. Roedd swm cychwynnol o £1m wedi cael ei roi i helpu Awdurdodau Lleol a grwpiau cymunedol i ehangu a gwella’r ddarpariaeth ledled Cymru. Roedd dros 300 o leoliadau bellach yn cynnig lleoedd clyd a diogel at ddefnydd pobl nad oeddent yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi yn ystod y gaeaf hwn. Byddai datganiad arall yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen yr wythnos honno.

2.8 O ran y Sefydliad Banc Tanwydd, roedd 2,666 o dalebau wedi cael eu rhoi i helpu’r bobl hynny nad oeddent yn gallu fforddio talu am ynni drwy eu mesuryddion talu ymlaen llaw, gan gefnogi dros 6,300 o bobl. Roedd ‘Cronfa Wres’ y Sefydliad, a sefydlwyd fel rhan o’r pecyn cymorth gwerth £4m a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi helpu dros 50 o aelwydydd i swmpbrynu tanwydd gwerth £21,000.

2.9 O ran ynni a mesuryddion talu ymlaen llaw, nodwyd bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyfarfod â sawl cyflenwr ynni i drafod y materion.

2.10 Roedd tua 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw ar gyfer eu nwy a thrydan o’r prif gyflenwad, sef tua 15% o’r holl aelwydydd a 24% o denantiaid yn y sector rhentu preifat. Roedd tua hanner o’r tenantiaid mewn tai cymdeithasol (45%) hefyd yn defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw. Roedd llawer o’r talwyr biliau hyn ar yr incymau isaf, ond eto’n talu’r tariffau uchaf am eu hynni.

2.11 Canlyniad y trafodaethau oedd bod y rhan fwyaf o’r cyflenwyr wedi cytuno i rannu data, a bod y rhan fwyaf ohonynt wedi rhoi sicrwydd mai dewis pan fetho popeth arall oedd mesuryddion talu ymlaen llaw. Roeddent hefyd yn rhoi cymorth ac atgyfeiriadau at gyngor am ddyled pan fo angen.

2.12 O ran ffioedd sefydlog, nodwyd nad oedd rhai cyflenwyr yn codi ffioedd sefydlog ar gwsmeriaid â mesuryddion talu ymlaen llaw, ond bod eraill yn gwneud hynny. Byddai cyfarfod arall yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd i gadw’r pwysau ar gyflenwyr i ddileu’r ffioedd hyn.

2.13 O ran Undebau Credyd, ar y cyd â’r gwaith i gynnwys cyfrifianellau budd-daliadau ar eu platfformau yng Nghymru, nodwyd y byddai Gweinidogion a phartneriaid cymdeithasol yn cael eu gwahodd i gefnogi diwrnod o ymweliadau ac ymgysylltu ag Undebau Credyd ar 5 Ionawr, am fod profiad wedi dangos cynnydd sylweddol mewn diddordeb yn sgil digwyddiadau blaenorol.

2.14 Diolchodd yr Is-bwyllgor i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am y diweddariad a chroesawodd y gwaith sy’n cael ei wneud i leihau effeithiau gwaethaf yr argyfwng costau byw.

Eitem 3: Diweddariad gan bartneriaid cymdeithasol ar yr heriau costau byw a wynebir mewn cymunedau

3.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog gyfraniadau gan bartneriaid cymdeithasol ar yr heriau presennol y mae cymunedau ledled Cymru yn eu hwynebu o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

3.2 Nododd Dr Abdul-Azim o Gyngor Mwslimiaid Cymru fod y cynnydd mewn dyled yn achos pryder sylweddol ym mhob rhan o’r boblogaeth Fwslimaidd. Byddai’n werthfawr cyflwyno opsiynau ar gyfer benthyciadau cost isel drwy Undebau Credyd. Byddai hyn hefyd yn cadw pobl rhag defnyddio opsiynau cost uwch a lleihau nifer y bobl a oedd yn gorfod troi at roddwyr benthyciadau diegwyddor.

3.3 Roedd 50 o fosgiau yng Nghymru, a phoblogaeth o tua 67,000 o Fwslimiaid. Yn ogystal â bod yn fannau addoli, roedd mosgiau hefyd yn ganolfannau lle roedd gwybodaeth, help a chymorth ar gael i’r gymuned. Nodwyd mai rhwydweithiau anffurfiol oedd y rhain yn bennaf, ac y byddai’r gymuned yn croesawu unrhyw gymorth ychwanegol y gallai Llywodraeth Cymru ei ddarparu.

3.4 Roedd anhawster ym mhob rhan o’r gymuned Fwslimaidd, sef bod y rhan fwyaf o bobl ar ben is y raddfa economaidd-gymdeithasol. Cydnabuwyd nad mater a oedd yn effeithio ar y gymuned Fwslimaidd yn unig oedd hwn, ond eto, byddai unrhyw gymorth ychwanegol y gellid ei dargedu ar gyfer anghenion y gymuned yn cael ei groesawu.

3.5 Rhoddodd Archesgob Cymru, Andy John, yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith ymgysylltu a oedd yn cael ei wneud gan yr Eglwys yng Nghymru gydag archfarchnadoedd o ran darparu opsiynau gwell ar gyfer eitemau sylfaenol a hanfodol i’r bobl hynny sy’n ei chael hi fwyaf anodd. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi cael ei wneud, byddai’n parhau i bledio’r achos.

3.6 At hynny, roedd yr Eglwys wedi bod yn gweithio drwy ei rhwydweithiau i ddarparu parseli i bobl sy’n profi tlodi hylendid. Nododd yr Is-bwyllgor ei bod ar ben ffordd i ddarparu nifer sylweddol o eitemau i’r bobl hynny sydd eu hangen fwyaf.

3.7 Nododd Ellie Harwood ei bod yn gadarnhaol gweld budd-daliadau yn cael eu codi, ond gan fod costau chwyddiant yn tueddu i fod yn uwch i’r bobl dlotaf nag i bobl â mwy o arian, ni fyddai’n ddigon i sicrhau bod modd i’r aelwydydd incwm isaf gael deupen llinyn ynghyd.

3.8 Dylai Llywodraeth y DU oedi’r gwaith o symud pobl oddi ar yr hen system o fudd-daliadau, am y gall fod yn waeth yn ariannol ar hyd at 1 o bob 3 unigolyn sy’n cael budd-dal plant ar ôl cyfuno’r hen fudd-daliadau o dan Gredyd Cynhwysol. At hynny, nodwyd bod cymorth Llywodraeth Cymru i’r bobl dlotaf er mwyn sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar y budd-daliadau yr oedd eu hangen arnynt yn hanfodol, a bod y cymorth ychwanegol ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol yn werthfawr.

3.9 Cytunodd yr Is-bwyllgor â chynnig gan Paul Slevin o Siambrau Masnach Cymru y dylai ei sefydliad drafod â swyddogion Llywodraeth Cymru gynlluniau didynnu o’r gyflogres ar gyfer cyflogeion sydd am ddefnyddio Undebau Credyd.

3.10 Nododd y Cyngh Andrew Morgan, arweinydd CLlLC, fod y galw am Ganolfannau Clyd wedi bod yn cynyddu’n gyson wrth i’r tywydd oeri a bod y cynllun eisoes i’w weld yn llwyddiannus. At hynny, nododd yr Is-bwyllgor y gwaith da a wnaed yn Rhondda Cynon Taf o ran casglu dros 4,000 o roddion i’r plant tlotaf, gan gadarnhau’r neges bod y cyhoedd ehangach yn ymwybodol o’r materion ac yn barod i helpu.

3.11 Nododd Naomi Alleyne o CLlLC y gyfres o gyfarfodydd a oedd yn cael eu cynnal o hyd rhwng partneriaid yn yr Awdurdodau Lleol a dywedodd y byddai nodyn briffio diwygiedig yn cael ei rannu â’r Is-bwyllgor ar ddechrau’r flwyddyn newydd ar weithgarwch i fynd i’r afael â’r argyfwng yn yr Awdurdodau Lleol ledled Cymru.

3.12 Wedi hynny, rhoddodd Shavanah Taj o TUC Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Is-bwyllgor am ymwneud cynrychiolwyr yr Undebau â’r rhaglen Canolfannau Clyd. Nodwyd bod y sefyllfa o ran twf cyflogau yn y sector cyhoeddus yn waeth nag y bu ers dros hanner canrif, a bod y streiciau a gynhelir ynghylch cyflogau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat o ganlyniad yn parhau ar hyn o bryd.

3.13 Adroddodd Ruth Marks o CGGC ar dri phrif faes diddordeb. Roedd y cyntaf ohonynt yn deillio o’r arolwg a gynhaliwyd gan CGGC yn ddiweddar a oedd yn dangos y disgwyl y byddai’r galw am wasanaethau yn cynyddu o 98%, ar y cyd â’r pryderon ynghylch costau ynni uwch. Roedd llawer o wirfoddolwyr yn gweithio’n ddi-dâl, ac nid oeddent yn hawlio’r treuliau roedd ganddynt hawl iddynt. Serch hynny, roedd nifer o sefydliadau yn adrodd bellach eu bod yn annhebygol o allu fforddio cynnig talu treuliau yn y dyfodol.

3.14 Yn ail, gwnaed sylw bod anghydraddoldeb yn parhau i waethygu, er enghraifft gyda phobl sy’n profi colli golwg, a allai ddisgwyl wynebu costau 73% yn uwch o’u cymharu â phobl nad oeddent yn yr un sefyllfa.

3.15 Yn drydydd, o ran Undebau Credyd, awgrymwyd bod cyfle i Lywodraeth Cymru a Chronfa’r Loteri ddatblygu cynnyrch cyllid cyfunol a allai fynd i’r afael â rhai o’r anghenion o ran benthyciadau cost isel.

3.16 Diolchodd y Prif Weinidog i bawb am eu cyfraniadau ac am ddod i gyfarfodydd yr Is-bwyllgor dros y tymor diwethaf.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Rhagfyr 2022