Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Mick Antoniw AS
  • Vaughan Gething AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Mynychwyr allanol

  • Lindsey Kearton, Cyngor ar Bopeth
  • Ruth Marks, Prif Weithredwr – CGGC
  • Ellie Harwood, Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant
  • Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai CLlLC
  • Paul Slevin, Cadeirydd Gweithredol Siambrau Cymru
  • Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru

Ymddiheuriadau

  • Andrew Morgan OBE, Arweinydd, CLlLC
  • Abdul-Azim Ahmed, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Cyngor Mwslimiaid Cymru
  • Archesgob Cymru Andy John

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmonds, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi 
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr yr Is-adran Ailgychwyn ac Adfer
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr adfer wedi COVID, a’r Grŵp Llywodraeth Leol
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (Cofnodion)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cytunodd Pwyllgor y Cabinet ar gofnodion y cyfarfodydd ar 21 Medi a 3 Hydref.

Eitem 2: Diweddariad arbenigol – Lindsey Kearton, Cyngor ar Bopeth

2.1 Croesawodd y Prif Weinidog y partneriaid cymdeithasol i'r cyfarfod, gan wahodd Lindsey Kearton o Cyngor ar Bopeth i wneud cyflwyniad i’r grŵp.

2.2 Hwn oedd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Costau Byw y Cabinet gyda phartneriaid cymdeithasol yn bresennol. Byddai Cyngor ar Bopeth yn rhoi diweddariad arbenigol, gyda thrafodaeth ehangach ymysg y partneriaid i ddilyn. Nodwyd bod yn rhaid i’r ymateb i’r argyfwng costau byw fod yn ymateb ar y cyd, ac roedd yn hanfodol clywed amrywiaeth o safbwyntiau a syniadau diweddar, ynghyd â’r profiad ar lawr gwlad.

2.3 Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar bedair thema allweddol, ac roedd yn seiliedig ar brofiad bywyd y rheini a oedd yn cysylltu â Cyngor ar Bopeth i ofyn am gymorth.

2.4 Roedd y dystiolaeth a ddarparwyd gan Cyngor ar Bopeth yn awgrymu mai effaith dros dro oedd effaith y pecynnau cymorth blaenorol, gan fod tueddiad i weld ceisiadau am gymorth yn dychwelyd, sef sefyllfa a oedd yn peri pryder. Roedd y nifer uchaf o bobl i gael eu cofnodi erioed yn parhau i geisio cymorth gyda biliau ynni, hyd yn oed drwy fisoedd cynnes yr haf. Yn ystod y misoedd diwethaf, bu cynnydd sydyn yn nifer yr achosion lle’r oedd digartrefedd yn berygl, ac roedd nifer cynyddol o gleientiaid yn ceisio cymorth gyda dyled ac yn byw ar gyllidebau negyddol.

2.5 O ran y banciau bwyd, bu gostyngiad bach mewn atgyfeiriadau yn ystod mis Gorffennaf, ond roedd y niferoedd wedi cynyddu eto ers hynny, gyda lefelau a oedd bron yr uchaf erioed yn cael eu cofnodi ym misoedd Awst a Medi, ac oddeutu 2000 o atgyfeiriadau yn ystod mis Medi. Roedd y niferoedd hyn yn debygol o gynyddu ymhellach wrth inni symud yn bellach i mewn i gyfnod y gaeaf, gan y gallai’r galw cynyddol am ynni arwain at yr angen i lawer o bobl orfod gwneud mwy o benderfyniadau rhwng gwres a bwyd.

2.6 O ran meteri talu ymlaen llaw, bu cynnydd o 117% yn nifer y bobl a oedd wedi cael eu gorfodi i symud at ddefnyddio’r meteri hyn oherwydd rhesymau dyledion ynni yn 2022. Nodwyd bod meteri talu ymlaen llaw fel arfer yn ffordd ddrytach o dalu am ynni, ac roedd llinell cymorth Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth wedi gweld bod mwy o bobl yng Nghymru nag yn y pedair blynedd blaenorol gyda’i gilydd nad oeddent yn gallu fforddio rhoi rhagor o arian yn eu meteri. Ers mis Mawrth, roedd talebau tanwydd wedi cael eu hanfon at 3,300 o bobl ar draws Cymru, gyda thalebau’n cael eu rhoi i 800 o bobl ym mis Medi yn unig. Roedd dadansoddiad diweddar Cyngor ar Bopeth yn amcangyfrif y gallai dros 9,000 o aelwydydd yng Nghymru gael eu gorfodi i ddefnyddio meteri talu ymlaen llaw y gaeaf hwn.

2.7 Nododd y Pwyllgor y byddai’r mater hwn yn cael ei godi gyda chwmnïau ynni, a’r gobaith oedd y gellid gweithio gydag Ofgem i wahardd yr arfer o orfodi pobl i symud at ddefnyddio meteri talu ymlaen llaw dros gyfnod y gaeaf.

2.8 Roedd tystiolaeth bod natur y dyledion personol yn ôl ardal awdurdod lleol yng Nghymru wedi newid yn sylweddol ers Chwarter 1 2019-20, pan oedd y rhan fwyaf o ddyled yn ymwneud â chredyd, siopau, cardiau talu bob mis, neu dreth gyngor. Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, yn Chwarter 1 2022-23, roedd y rhan fwyaf o ddyledion yn gysylltiedig ag ynni neu dreth gyngor.  Roedd ôl-ddyledion rhent hefyd wedi cyrraedd lefelau sylweddol uwch na chyn y pandemig neu yn ystod y pandemig. Nid oedd modd osgoi’r ffaith bod hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl a oedd yn ddigartref, neu a oedd mewn perygl o fod yn ddigartref, sy’n ceisio cyngor gan wasanaeth digartrefedd yr awdurdod lleol.

2.9 Cydnabuwyd bod cleientiaid a oedd yn dweud eu bod yn dioddef anawsterau oherwydd dyledion yn dod o bob man, a bod bron i hanner ohonynt yn dweud eu bod yn byw o dan bwysau cyllidebol negyddol, sy’n golygu nad oedd digon o adnoddau i dalu hyd yn oed y biliau sylfaenol bob mis.

2.10 O ran demograffeg, roedd y rheini mewn aelwydydd lle’r oedd un oedolyn, gan gynnwys rhieni sengl, pobl anabl, neu’r rheini sy’n byw gyda chyflyrau iechyd tymor hir, yn cael eu cynrychioli mewn modd anghymesur yn y niferoedd o bob sy’n ceisio cymorth gyda chostau byw.

2.11 Diolchodd Pwyllgor y Cabinet i Lindsey Kearton am ei chyflwyniad.

Eitem 3: Hynt yr ymdrechion i sicrhau bod arian ym mhocedi pobl

3.1 Rhoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddiweddariad i’r Pwyllgor ar hynt y gwaith o sicrhau bod arian ym mhocedi pobl. Ers mis Tachwedd 2021, roedd mwy na £380 miliwn o gyllid ychwanegol wedi cael ei dargedu’n benodol tuag at leddfu effeithiau’r argyfwng costau byw.

3.2 Roedd y Prif Weinidog wedi gwneud datganiad ar 20 Medi yn cadarnhau y byddai camau gweithredu pellach yn cael eu cymryd i ddarparu cefnogaeth yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.

3.3 Roedd cyllid sylweddol yn cael ei fuddsoddi i helpu aelwydydd agored i niwed i gadw’n gynnes yn ystod y gaeaf hwn. Roedd cyhoeddiad y Prif Weinidog yn cynnwys £90m i weithredu Cynllun Cymorth Tanwydd arall gan Lywodraeth Cymru yn 2022-23, a fyddai’n helpu pobl ar incwm isel drwy roi taliad o £200 iddynt tuag at eu biliau ynni, na fyddai angen ei ad-dalu.

3.4 Lansiwyd y cynllun ar 26 Medi, ac roedd wedi cael ei ymestyn i gefnogi mwy o aelwydydd cymwys. Roedd y cynllun blaenorol, a oedd wedi dod i ben ym mis Mawrth eleni, wedi cyrraedd 166,000 o aelwydydd. Byddai’r meini prawf newydd yn golygu y byddai oddeutu 400,000 o aelwydydd yn gymwys.

3.5 Roedd y cyhoeddiad hefyd yn cynnwys £1m i gefnogi Canolfannau Clyd fel mannau diogel a chynnes yn y gymuned leol y gallai pobl fynd iddynt i gadw’n gynnes yn ystod y gaeaf.

3.6 Roedd llawer o sefydliadau eisoes yn creu canolfannau o’r fath, a fyddai’n fannau mewn cymunedau lleol lle y gallai pobl gael amgylchedd diogel a chynnes i dreulio amser a bwyta yng nghwmni eraill yn ystod y dydd, er mwyn helpu i leihau’r gost o wresogi eu cartrefi eu hunain. Roedd y canllawiau ar gyfer Canolfannau Clyd a’r dull gweithredu o ran eu cyllido, wedi cael eu datblygu drwy gydweithio gyda CLlLC, cynrychiolwyr lywodraeth leol, a’r trydydd sector.

3.7 Fel rhan o’r £90 miliwn, roedd cyllid hefyd yn cael ei roi i’r Fuel Bank Foundation er mwyn cyflwyno taleb tanwydd genedlaethol a chynllun Cronfa Wres yng Nghymru. Roedd y cynllun yn darparu cymorth ariannol uniongyrchol i aelwydydd sydd ar feteri talu ymlaen llaw sydd mewn perygl o beri i’r cyflenwad ddatgysylltu, yn ogystal â’r rheini nad ydynt wedi eu cysylltu â’r prif rwydwaith nwy a oedd yn ei chael yn anodd talu am eu tanwydd ymlaen llaw.

3.8 Ers mis Awst, mae’r Fuel Bank Foundation wedi llwyddo i gael 40 o bartneriaid i ymuno ag ef drwy atgyfeirio aelwydydd ar gyfer cael talebau, ac roedd wedi dosbarthu dros 1500 o dalebau tanwydd.

3.9 Roedd y Gronfa Cymorth Dewisol yn gallu cynorthwyo aelwydydd sydd oddi ar y grid drwy ddarparu hyd at £250 ar gyfer taliad olew untro neu hyd at dri thaliad o £70 ar gyfer LPG. Mae’r cymorth hwn wedi cael ei ymestyn drwy gydol yr haf a’r gaeaf hyd at ddiwedd Mawrth 2023.

Trechu Tlodi Bwyd

3.10 Ar 4 Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fod £1m ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer banciau bwyd a mentrau bwyd cymunedol eraill. Roedd hynny’n golygu bod £1.5m wedi cael ei neilltuo i helpu i fodloni’r galw cynyddol am ddarpariaeth bwyd brys oherwydd yr argyfwng costau byw. Hefyd roedd £2.5m wedi cael ei neilltuo ar gyfer helpu i ddatblygu partneriaethau bwyd ar draws sectorau a chryfhau’r partneriaethau bwyd presennol.

3.11 Roedd gwybodaeth a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Trussell, a’r Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol, wedi dangos bod lefelau angen wedi codi, a hynny mwy na 100% mewn rhai ardaloedd, a bod gostyngiad mewn rhoddion. Gellid defnyddio’r cyllid ychwanegol hwn i gefnogi prynu bwyd a chynnyrch i fabanod, pecynnau o nwyddau cynnes, a gweithgareddau a fyddai’n helpu i ddatblygu gwybodaeth am fwyd a sgiliau. Roedd hyn yn cyd-fynd â’r awgrymiadau yn yr adborth a gafwyd ar y defnydd o fanciau bwyd yn chwarter cyntaf 2022.

Taliad Costau Byw o £150

3.12 Darparodd y Gronfa Costau Byw daliad costau byw o £150 i aelwydydd ym mandiau treth gyngor A i D ac i bob aelwyd a gafodd gymorth o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar draws pob band treth gyngor.

3.13 Roedd y prif gynllun wedi cau ar 30 Medi, ac roedd awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu cymorth drwy eu cynlluniau cymorth dewisol. Hyd yn hyn, roedd dros un filiwn o aelwydydd cymwys wedi cael taliad.

Y Gronfa Cymorth Dewisol

3.14 Rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Awst 2022, roedd dros 100,000 o ddyraniadau wedi cael eu gwneud gan y Gronfa Cymorth Dewisol, sef cyfanswm o dros £11.1 miliwn i’r rheini sydd â’r angen ariannol mwyaf. Roedd bron £7 miliwn yn daliadau arian parod brys i helpu pobl i dalu costau bwyd a thanwydd.

Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus ichi

3.15 Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi neilltuo £0.4m i gefnogi trydedd ymgyrch i sicrhau bod cynifer o bobl yng Nghymru â phosibl yn manteisio ar fudd-daliadau lles datganoledig a budd-daliadau nad oeddent wedi eu datganoli, ac yn benodol Cynllun Cymorth Tanwydd 2022/23 Llywodraeth Cymru.

3.16 Byddai trydedd ymgyrch yn cael ei rhedeg i helpu pobl i gael mynediad at yr holl fudd-daliadau a chymorth yr oedd ganddynt hawl iddynt. Brand yr ymgyrch fyddai ‘Yma i Helpu’. Dywedwyd bod y ddwy ymgyrch gyntaf, a oedd wedi bod yn weithredol ym mis Mawrth 2021 a mis Ebrill/mis Mai 2022, wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda thros 9,000 yn ymateb ac yn cysylltu ag Advicelink Cymru, a oedd wedi arwain at dros £2.7m mewn incwm ychwanegol yn cael ei hawlio.

Y Gronfa Gynghori Sengl

3.17 Nododd y Pwyllgor fod gwasanaethau’r Gronfa Gynghori Sengl yn darparu cymorth hanfodol i bobl sy’n wynebu problemau difrifol oherwydd costau byw, drwy eu helpu i sicrhau eu bod yn cael yr incwm gorau posibl ac i ymdrin â’u dyledion. Ers mis Ionawr 2020, roedd gwasanaethau’r Gronfa Gynghori Sengl wedi helpu 127,000 o bobl i ddelio â thros 602,000 o broblemau lles cymdeithasol. Cafodd y rheini a dderbyniodd gefnogaeth gymorth i hawlio incwm ychwanegol o £75 miliwn, a chafodd cyfanswm o £22 miliwn o’u ddyledion eu diddymu.

3.18 At ei gilydd, roedd amrywiaeth o bolisïau Llywodraeth Cymru yn helpu i gadw arian ym mhocedi pobl, sef y cyflog cymdeithasol. Roedd y mentrau hynny’n cynnwys: y Cynnig Gofal Plant, sy’n darparu 48 awr o ofal plant a ariennir y flwyddyn ar gyfer rhieni plant tair a phedair oed, sy’n gweithio; prydau ysgol am ddim, a oedd yn cael eu hymestyn i ysgolion cynradd o fis Medi 2022, a brecwastau ysgol am ddim; presgripsiynau am ddim; y Cynllun Gostyngiadau Treth Gyngor; a’r cynllun mynediad at y Grant Datblygu Disgyblion, y byddai’r Gweinidog Addysg yn rhoi diweddariad ar wahân yn ei gylch.

3.19 I gloi, roedd yn cael ei gydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu pobl drwy’r argyfwng costau byw presennol, drwy ddarparu cymorth a dargedir at y rheini a oedd â’r angen mwyaf, a thrwy raglenni a chynlluniau a oedd yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl. Amcangyfrifwyd bod hyn yn werth £1.6bn yn y flwyddyn bresennol, 2022-23.

Eitem 4: Hynt y gwaith o roi cymorth i blant mewn ysgolion

4.1 Dywedwyd bod y cynllun mynediad at y Grant Datblygu Disgyblion wedi cael ei godi £100 i bob dysgwr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ar gyfer un flwyddyn. Roedd pob blwyddyn ysgol orfodol bellach yn gymwys. Roedd hynny’n golygu dros £23m ar gyfer mynediad o dan y Grant Datblygu Disgyblion yn ychwanegol at oddeutu £130m sydd wedi ei ymrwymo eisoes ar gyfer prif gyllid y Grant Datblygu Disgyblion, ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol 2022/23.

4.2 Roedd yn cael ei gydnabod bod teuluoedd yn wynebu codiadau sylweddol mewn costau byw, a bod cyllidebau aelwydydd o dan bwysau cynyddol, a byddai’r cyhoeddiad yn mynd rhywfaint o’r ffordd i leddfu pryderon teuluoedd ynghylch fforddio’r hanfodion yr oedd ar eu plant eu hangen ar gyfer yr ysgol.

4.3 Byddai teuluoedd cymwys eisoes yn defnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion i gael yr iwnifform hanfodol ar gyfer eu plant, ac felly byddai’r taliad ychwanegol hwn yn golygu y gallent dalu’r gost o brynu eitemau ychwanegol megis cit addysg gorfforol, esgidiau ysgol, ac offer eraill, heb iddynt orfod gwneud penderfyniadau anodd yn eu cyllidebau teuluol.

4.4 Roedd y cyhoeddiad hwn yn golygu y byddai’r grant yn werth £300 i’r dysgwyr hynny sy’n mynd i mewn i flwyddyn 7, ac i bob grŵp blwyddyn arall, byddai’r grant yn werth £225 ar gyfer pob dysgwr cymwys.

4.5 Hefyd, roedd gwaith pellach yn ystyried a ellid mabwysiadu iwnifformau ysgol a oedd heb eu brandio, gyda logo y gellid defnyddio haearn smwddio i’w osod yn ei le, sef opsiwn a allai gynnig dewis cost-effeithiol i rieni. Gofynnwyd i ysgolion beidio â bod yn llym mewn perthynas â pholisi iwnifform o dan yr amgylchiadau presennol, ac i helpu i sicrhau bod cyn lleied o gostau â phosibl yn gysylltiedig â’r diwrnod ysgol lle bo hynny’n bosibl.

Eitem 5: Trafodaeth ar sicrhau bod pob cyswllt yn cyfrif

5.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog yr eitem, a oedd yn ceisio nodi cyfleoedd i bawb gydweithio’n effeithiol, er mwyn sicrhau bod pob cyswllt yn cyfrif.

5.2 Roedd tystiolaeth ar draws llawer o’r camau gweithredu presennol a blaenorol i gefnogi’r uchelgais i sicrhau bod pob cyswllt yn cyfrif a sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn elwa ar y cyngor a’r cymorth. Yn gryno, dyma nhw:

Dangos: grymuso staff rheng flaen

Hyfforddiant ar-lein am ddim i staff rheng flaen er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o fudd-daliadau ac annog mwy o ddefnyddwyr gwasanaeth i elwa arnynt. Mae contract yn ei le ar gyfer sesiynau hyd at fis Mawrth 2023.

Ymgyrch hawliwch yr hyn sy’n ddyledus ichi

Ymgyrch gyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth ariannol sydd ar gael i bobl yng Nghymru, gan gynnwys dosbarthu deunydd yr ymgyrch drwy ganolfannau brechu yn ystod ymgyrch brechiadau atgyfnerthu yr hydref. Y bwriad oedd cynnal trydedd ymgyrch ddwys ar gyfer y gaeaf. Roedd pecyn o ddeunyddiau ar gael i bartneriaid i’w helpu i gefnogi’r ymgyrch, ac roedd rhagor o gynghorwyr budd-daliadau wedi cael eu recriwtio drwy Advicelink Cymru i ymdopi â’r cynnydd yn y galw.

Y Gronfa Gynghori Sengl: prosiectau profi a dysgu

Ymgyrch hawliwch yr hyn sy’n ddyledus ichi Ymgyrch gyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth ariannol sydd ar gael i bobl yng Nghymru, gan gynnwys dosbarthu deunydd yr ymgyrch drwy ganolfannau brechu yn ystod ymgyrch brechiadau atgyfnerthu yr hydref. Y bwriad oedd cynnal trydedd ymgyrch ddwys ar gyfer y gaeaf. Roedd pecyn o ddeunyddiau ar gael i bartneriaid i’w helpu i gefnogi’r ymgyrch, ac roedd rhagor o gynghorwyr budd-daliadau wedi cael eu recriwtio drwy Advicelink Cymru i ymdopi â’r cynnydd yn y galw.

COVID-19: Taflen Cymorth Ariannol i Unigolion

Cafodd hon ei defnyddio’n eang i alluogi pobl i gael mynediad at gymorth ariannol yn ystod y pandemig, er enghraifft darparodd banciau bwyd gopïau caled mewn parseli bwyd. Roedd y daflen yn cael ei diweddaru i adlewyrchu cymorth costau byw ac roedd tudalennau gwe yn cael eu datblygu.

Symleiddio mynediad at System ‘Fudd-daliadau’ Cymru Pecyn

Cymorth o arferion gorau a gyhoeddir i helpu i symleiddio a gwella mynediad at gymorth datganoledig. Roedd cyfleoedd yn parhau i weithredu hyn yn ehangach, er enghraifft meini prawf cymhwysedd cyffredin a lefelau uwch o awtomatiaeth.

Canolfannau Clyd

Roedd cymorth ar gael i helpu i greu canolfannau clyd mewn cymunedau ledled Cymru. Roedd hyn yn creu cyfle i gynnwys gwasanaethau cynghori a chymorth i’r rheini sy’n mynd iddynt.

Tai ac atal digartrefedd

Gallai pobl sy’n ceisio cyngor ynglŷn â thai drwy Shelter Cymru oherwydd caledi ariannol, gael mynediad at amrywiaeth o gyngor sy’n gysylltiedig â thai. Roedd Shelter Cymru yn gweithio’n agos gyda Cyngor ar Bopeth ac asiantaethau cynghori eraill i sicrhau bod pobl yn cael eu hatgyfeirio i chwaer-sefydliadau ar gyfer materion cysylltiedig, megis budd-daliadau lles a chyngor ar ddyledion, os nad oedd yn gallu darparu cyngor arbenigol. Roedd cymorth ar gyfer atal digartrefedd o fewn awdurdodau lleol hefyd yn cynnig amrywiaeth o gymorth, a chyfleoedd i atgyfeirio ar draws.

Ymweliadau diogelwch yn y cartref gan y Gwasanaeth Tân

Roedd y Gwasanaeth Tân ac Achub yn rhoi cyngor yn uniongyrchol i aelwydydd agored i niwed. Roedd hyn yn cynnwys cyngor ar y risgiau’n ymwneud â thân ac amrywiaeth o beryglon eraill, ac roedd yn gallu cyfeirio pobl at gymorth gan asiantaethau eraill.

5.3 Awgrymwyd y dylai’r holl bartneriaid cymdeithasol barhau i lobïo Llywodraeth y DU, gan mai Gweinidogion y DU oedd yn parhau i fod â llawer o’r dylanwad cryfaf ar gyfer newid. 

5.4 Ar lefel leol, Roedd yn hanfodol meithrin y cysylltiadau â phob corff perthnasol, megis y Cynghorau Cymunedol Gwirfoddol, cyrff Tai Cymunedol, y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ochr yn ochr â’r gwaith a wneir gan sefydliadau megis Cynghrair Henoed Cymru a Gofal a Thrwsio Cymru. Byddai’n hynod bwysig cydweithio i gyfathrebu negeseuon cyffredin gan yr ymgyrch hawliwch yr hyn sy’n ddyledus ichi. Byddai hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod y targedu yn fwy effeithiol er mwyn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl a allai fod ag angen cymorth.

5.5 Awgrymwyd bod yr angen i oresgyn y rhwystrau biwrocrataidd yn her fawr i lawer o bobl sy’n awyddus i gael mynediad at gymorth, ac y gallai fod angen cefnogaeth ychwanegol arnynt i’w helpu i wneud hynny. Roedd sicrhau bod y manteision gorau yn deillio o fuddsoddiadau ar gyfer rhaglenni yn allweddol.

5.6 Tynnodd partneriaid sylw at yr amrywiaeth o gymorth a oedd yn cael ei ddarparu gan wahanol sefydliadau ar draws Cymru, gan gynnwys awdurdodau lleol. Roedd yn cael ei gydnabod bod tynnu ynghyd yr holl wahanol fathau o gymorth, a sicrhau bod pob partner yn ymwybodol ohonynt, yn helpu i gyflawni uchelgeisiau allweddol, fel gwneud yn siŵr bod pob cyswllt yn cyfrif.

5.7 I gloi, diolchodd y Prif Weinidog i’r partneriaid cymdeithasol am eu presenoldeb a’u cyfraniad i’r cyntaf o gyfres o gyfarfodydd, a fyddai’n parhau i ymchwilio i’r wahanol themâu a drafodwyd, ac i adeiladu arnynt er mwyn sicrhau’r effeithiau mwyaf buddiol i’r bobl hynny sy’n wynebu anawsterau yn ystod yr argyfwng costau byw yng Nghymru.