Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Grantiau Cyflawni Prosiectau’r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (CANI), gwerth rhwng £250,000 a £1,000,000, ar gael i gefnogi gweithgareddau’r prosiect. 

Rhaid ichi gyflwyno’ch Cynllun Cyflawni Prosiect CANI ar RPW Ar-lein ddim hwyrach na 31 Mawrth 2025. Caiff cynlluniau eu hasesu ar sail y canllawiau a’r meini prawf sgorio a roddir i brosiectau fydd wedi gwneud cais llwyddiannus am Grant Datblygu. Byddan nhw’n cael eu hasesu yn ôl eu ffit strategol i ofynion y Cynllun fel y’u disgrifir yng Nghanllawiau’r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig. 

Bydd prosiectau’n cael eu cloriannu trwy ddefnyddio'r dystiolaeth a gyflwynir yng Nghynllun Cyflawni'r Prosiect, ac os byddant yn bodloni'r meini prawf, bydd Grant Cyflawni Prosiect CANI yn cael eu cynnig i ymgeiswyr yn nhrefn eu teilyngdod - gan ddibynnu ar faint y gyllideb. 

Bydd y cynllun yn helpu grwpiau o ffermwyr, coedwigwyr, porwyr a rheolwyr tir eraill i gynnal prosiectau gyda chefnogaeth asiantaethau eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru, sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, elusennau, ymddiriedolaethau ac awdurdodau lleol a Pharciau Cenedlaethol; i adfer ein nodweddion a'n prosesau naturiol a gwella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau ar draws daliadau unigol a'r dirwedd yn ehangach.

Mae potensial iddo gael effaith arwyddocaol a chadarnhaol drwy brosiectau cydweithredol ar raddfa tirlun, ac rydym am gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir eraill i ddatblygu cynlluniau gyda'i gilydd. Trwy gydweithredu a bod yn hyblyg wrth gefnogi gweithgareddau i wneud lle i natur ynghyd â chynhyrchu bwyd, byddwn yn myn i’r afael â heriau'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Cyn cwblhau Cynllun y Cam Cyflawni, darllenwch Lyfryn Rheolau'r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig.

 Fe welwch fanylion sut i gwblhau Cynllun Cyflawni Prosiect yn defnyddio RPW Ar-lein i gyflwyno cais.

Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni gofynion canlynol y cynllun yn ystod Cam Cyflawni'r Prosiect:

  • rhaid i unrhyw waith sy'n cael ei wneud ar dir sy'n eiddo ichi neu sy'n cael ei reoli gennych fynd ymhellach na'r rhwymedigaethau a gofynion cyfreithiol
  • rhaid i brosiectau ddangos na fydd modd eu rhoi ar waith heb gymorth ac na fyddai'r prosiect yn mynd rhagddo heb gymorth grant
  • rhaid i brosiectau ddangos nad yw’r costau’n ormodol o ystyried natur y gweithgaredd
  • rhaid cytuno ar dargedau dangosyddion perfformiad y prosiect yn ystod cam cyflawni'r prosiect a dangos sut y caiff y prosiect ei fonitro a pha dystiolaeth a fydd yn cael ei darparu
  • rhaid i brosiect gydymffurfio â’r gyfraith a bod yn ariannol hyfyw
  • rhaid i brosiectau ddangos cynaliadwyedd hirdymor
  • rhaid i brosiectau ddangos cefnogaeth ac ymrwymiad i'r holl gydweithwyr
  • rhaid i brosiectau ddangos bod ganddynt systemau llywodraethu a rheoli prosiectau da
  • rhaid i brosiectau ddangos mai'r swm y gofynnir amdano yw'r lleiaf sydd ei angen i lenwi'r bwlch i'r prosiect allu mynd rhagddo.
  • rhaid i geisiadau nodi a yw prosiectau wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio neu wedi'i sicrhau, a lle bo angen, nodi bod pob cydsyniad, trwydded a chaniatâd arall wedi'i sicrhau
  • rhaid recriwtio staff allweddol trwy gystadleuaeth deg ac agored 
  • cydymffurfio â safonau gofynnol a gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â’r amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a safonau iechyd a diogelwch; lle bo hynny'n briodol a/neu yn angenrheidiol.
  • rhaid i brosiectau gadarnhau nad oes unrhyw un o’r eitemau sy’n rhan o’r cais wedi’u prynu yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant
  • rhaid i brosiectau gadarnhau nad oes cais wedi’i wneud am unrhyw arian cyhoeddus arall ar gyfer y gweithgareddau sy’n cael eu cynnig
  • rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd a roddir i’r prosiect gyfeirio at y cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Rydym yn cynnal amrywiaeth o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith ac i greu Cymru decach a mwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn i ni roi cyllid grant i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae’n bosibl y bydd angen i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y gwnawn ni wrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu roi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol i chi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu o wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.

I asesu a ydych yn gymwys, efallai hefyd y bydd angen i ni rannu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’ch cais gyda’r canlynol.

  • Cyfoeth Naturiol Cymru;
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Hefyd, mae’n bosibl y gwnawn ni rannu’ch gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Mae’n bosibl y gwnaiff aelod arall o’r cyhoedd ofyn am gael gweld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Byddwn yn cyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data ar gyfer pob buddiolwr a fydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a'r cynlluniau y talwyd cyllid grant ar eu cyfer. Fodd bynnag, i bobl sy'n derbyn llai na'r hyn sy'n cyfateb i £1,250 mewn cyllid grant, ni fydd yr enw'n cael ei gyhoeddi. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd ar gael am ddwy flynedd o'r dyddiad y caiff ei gyhoeddi. 

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am 10 mlynedd ar ôl dyddiad y taliad olaf. Os byddwch yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl eu rhoi inni.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol rydym yn ei gadw amdanoch
  • mynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn am ‘ddileu’ data (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef y rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd 
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan : https://ico.org.uk/

Os oes gennych gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Grantiau a thaliadau gwledig: hysbysiad preifatrwydd

Pwy sy'n gymwys i'r cynllun

Bydd archwiliadau wedi'u cynnal o ymgeiswyr fu’n llwyddiannus yng ngham Datblygu’r Prosiect i sicrhau eu bod yn gymwys a byddent wedi cael cynnig grant i'w helpu i ddatblygu cynllun cyflawni prosiect Adnoddau Naturiol Integredig (CANI). Rhestrir isod yr amodau i fod yn gymwys i'r cynllun:  

Pa grwpiau sy'n gymwys 

Mae Cam Cyflawni CANI yn agored i grwpiau a phartneriaethau wnaeth gais llwyddiannus yng ngham Datblygu Prosiect CANI ac sydd am ddod at ei gilydd i gynnal prosiectau ar lefel tirwedd, dalgylch neu genedlaethol sy'n cefnogi'r amcanion a'r canlyniadau a nodir yn y canllawiau hyn. 

Rhaid i grwpiau cydweithredol gynnwys 2 fusnes fferm o leiaf a bydd y busnesau hynny’n ymgymryd â gweithgareddau amaethyddol. Yn ogystal â'r 2 fusnes fferm, rhaid i o leiaf un unigolyn neu sefydliad arall fod yn rhan o'r grŵp cydweithredol. Gall fod yn ffermwr arall, rheolwr tir, perchennog tir neu goedwigwr sydd â rheolaeth lwyr ar dir o fewn tirwedd, neu gorff cyhoeddus; Sefydliad Anllywodraethol amgylcheddol; awdurdod lleol, elusen, ymddiriedolaeth, buddsoddwr preifat, busnes neu sefydliad ategol eraill.

Diffinnir gweithgaredd amaethyddol fel:

  • cynhyrchu, magu neu dyfu cynhyrchion amaethyddol, gan gynnwys cynaeafu, godro, bridio anifeiliaid a chadw anifeiliaid at ddibenion ffermio
  • cadw tir amaethyddol mewn cyflwr sy’n ei wneud yn addas ar gyfer ei bori neu ei drin ond heb ei baratoi yn fwy na thrwy ddulliau neu â pheiriannau amaethyddol arferol. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu rheoli chwyn estron goresgynnol a phrysgwydd 
  • cynnal gweithgarwch sy’n bodloni gofynion sylfaenol ar dir amaethyddol sy’n cael ei gadw’n naturiol mewn cyflwr addas ar gyfer ei bori neu ei drin. Yng Nghymru, morfeydd heli a thwyni tywod yw’r rheini. Rhaid ichi o leiaf bori’r tir hwn gyda 0.01 i 0.05 uned da byw yr hectar y flwyddyn ar gyfartaledd, neu reoli chwyn estron goresgynnol a phrysgwydd.

Gwahoddir ymgeiswyr fu’n llwyddiannus yn y Cam Datblygu gan gynnwys y canlynol i wneud cais am grant cam cyflawni CANI: 

  • gall ymgeisydd arweiniol wneud cais ar ran grŵp cydweithredol neu grŵp;
  • grwpiau neu bartneriaethau newydd a phresennol sydd wedi ffurfio endid cyfreithiol a strwythur llywodraethu
  • hwylusydd neu gontractwr sy'n gweithio ar ran grŵp

Rhaid i'r ymgeisydd am grant cyflawni CANI fod yn endid cyfreithiol sydd â strwythurau llywodraethu a chydymffurfiaeth ariannol sy’n ofynnol i reoli cyllid grant. 

Os nad oes gan y grŵp unrhyw strwythur ffurfiol a'i fod yn cael ei gefnogi gan sefydliad arweiniol, rhaid sefydlu cytundeb mewnol fel rhan o'r gwaith o ddatblygu Cynllun Cyflawni Prosiect CANI, wedi'i lofnodi gan holl bartïon y cais. 

Dylai’r cytundeb hwn:

  • nodi'r mynegiant o gytundeb i barhau;
  • nodi'r bwriadau a'r rhwymedigaethau; a
  • diffinio rôl a chyfrifoldebau pob person a sefydliad yn y grŵp.

Rhaid cyflwyno copi o'r cytundeb mewnol hwn gyda Chynllun Cyflawni Prosiect CANI.

Pa dir sy'n gymwys

Rhaid i’r holl dir fod yng Nghymru. 

Bydd tir y 2 fusnes fferm wedi’i gofrestru gyda’r RPW.

Bydd pob math o dir yn gymwys ar gyfer y gweithgareddau dan sylw, gan gynnwys tir y tu mewn neu'r tu allan i ardaloedd gwarchodedig a dynodedig, tir comin a thir pori a rennir. 

Gall y tir fod o dan amrywiaeth o drefniadau rheoli neu ddefnydd – gan gynnwys amaethyddiaeth a choedwigaeth.  Gall gynnwys tir sy'n cael ei reoli er budd amgylcheddol yn unig, ar yr amod ei fod o fewn ardal prosiect ehangach sy'n cwmpasu'r dirwedd amaethyddol.  Er enghraifft, SoDdGA coetir hynafol oddi mewn i brosiect graddfa ddalgylch. 

Mae tir sydd o dan gynllun amaeth-amgylcheddol presennol, neu unrhyw gytundeb/dyfarniad grant arall, nawr neu yn y dyfodol, yn gymwys i fod yn rhan o brosiect cydweithredol. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw weithgareddau neu brosesau rheoli a gynigir ragori ar y gofynion yn y cytundebau/dyfarniadau grant presennol. 

Os oes gan y prosiect neu unrhyw weithgaredd arfaethedig mewn cais y potensial i effeithio ar safle gwarchodedig, rhaid i chi sicrhau bod gennych chi'r cydsyniad, y caniatâd a'r trwyddedau perthnasol, er enghraifft SoDdGA. Gallwch gadarnhau a oes safle gwarchodedig ar eich tir neu a yw'ch tir wrth safle gwarchodedig yn Canfod ardaloedd o dir a môr gwarchodedig (Cyfoeth Naturiol Cymru). Bydd y gweithgaredd dan sylw a'r math o ddynodiad yn penderfynu â phwy y bydd angen ichi gysylltu a pha gydsyniad neu ganiatâd sydd ei angen. Os yw cynigion y prosiect ar dir dynodedig, mae'n rhaid i chi ddangos tystiolaeth o ymgysylltu neu o ohebu â CNC yn eich cais. 

Rhaid i'r holl dir a gynigir ar gyfer y cynllun fod o dan reolaeth y partneriaid sy'n cydweithredu. Rhaid bod gan y partneriaid sy'n cydweithredu reolaeth lawn a sicrwydd deiliadaeth ar y tir yn eich cais am gyfnod llawn y cynigion (gan gynnwys unrhyw ofynion o ran hyd neu gynnal a chadw). Os nad oes gennych reolaeth lwyr ar y tir, rhaid i chi gael cydsyniad ysgrifenedig yr holl bartïon eraill sydd â rheolaeth ar y tir a chynnwys tystiolaeth o gymeradwyaeth gyda'ch cais neu gael cydlofnod ar y cais gan berchennog y tir, y landlord neu'r corff perthnasol.  

Os bydd y prosiect yn cynnwys tir sydd o dan feddiant un ffermwr tenant neu fwy, rhaid dangos tystiolaeth i ddangos bod y ffermwyr tenant hynny wedi cydsynio i fod yn rhan o’r gwaith cydweithredol a’r broses benderfynu ac nad oes newidiadau wedi’u gwneud i’w hawliau neu gytundebau tenantiaeth heb eu cydsyniad.

Tir comin

Ar gyfer ceisiadau ar dir comin, bydd perchennog y tir yn rhan o’r cytundeb CANI neu bydd wedi rhoi ei gydsyniad iddo.

Mae tir comin yn gymwys o dan y CANI. Rhaid i geisiadau i gynnal gweithgaredd ar dir comin fod wedi cael cydsyniad ysgrifenedig perchennog y tir ar gyfer unrhyw weithgarwch sy'n wahanol i'r hawliau cofrestredig ar y tir comin dan sylw. Hefyd, rhaid i'r cais nodi'n glir pa weithredoedd sydd angen cydsyniad ffurfiol arnynt o dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006 neu ddeddfwriaeth berthnasol arall, ynghyd â'r gweithredoedd nad oes angen cydsyniad ffurfiol i'w cynnal. Os oes angen cydsyniad ffurfiol, dylai'r ymgeisydd nodi pa gydsyniad sydd ei angen a'r amserlen debygol i sicrhau'r caniatâd angenrheidiol. 

Rhaid i geisiadau ar dir comin nad ydynt yn cynnwys pob parti sydd â buddiant cyfreithiol dros unrhyw ran o ardal y cais nodi'n glir yn y cais sut y bydd amcanion a chanlyniadau'r cynnig yn cael eu cyflawni ac na fyddant yn cael eu peryglu drwy beidio â chynnwys pawb sydd â buddiant cyfreithiol. 

Cyflwyno Cynllun Cam Cyflawni Prosiect

Bydd y Cynllun Cyflawni Prosiect ar gael ar eich cyfrif RPW Ar-lein, unwaith y byddwch wedi derbyn y Dyfarniad Grant ar gyfer y Cam Datblygu. 

Bydd gennych 12 wythnos i gyflwyno y Cynllun Cyflawni Prosiect a'r dogfennau ategol ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Mae’r llyfryn Sut i Lenwi yn esbonio sut mae gwneud hyn.

Yn y Cynllun Cyflawni, bydd angen i ymgeiswyr ateb cwestiynau am y canlynol:

  • manylion y busnes/sefydliad
  • y prosiect
  • y cydweithredu
  • ffit strategol
  • cyflawni prosiectau
  • gwerth am arian
  • materion ariannol a chydymffurfio
  • cyllid ategol
  • cynaliadwyedd hirdymor
  • risg a rheoli risg
  • dangosyddion a chanlyniadau
  • themâu trawsbynciol

Hefyd, bydd y cais yn gofyn i chi egluro sut y bydd y prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru:

  • Prif Ffrydio Cyfle Cyfartal a Rhywedd
  • Datblygu Cynaliadwy
  • Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • Hyrwyddo'r Gymraeg
  • Hawliau Plant

Gofynnir i chi ddewis y dangosyddion a'r canlyniadau mwyaf perthnasol a fydd yn cael eu cyflawni o ganlyniad i'ch prosiect.  Bydd y dangosyddion a'r canlyniadau'n cael eu monitro a bydd gofyn i chi gadarnhau sut mae'ch prosiect yn mynd yn ei flaen pan fyddwch yn cyflwyno'ch hawliadau interim.

Yn ogystal â chwblhau'r Cynllun Cyflawni Prosiect ar-lein, bydd angen ichi gyflwyno'r dogfennau ategol a ganlyn ar-lein erbyn 31 Mawrth 2025 er mwyn i Lywodraeth Cymru allu eu gwerthuso.

Mapiau

Darparu map i nodi lleoliad y prosiect a'r gweithgareddau allweddol.

Dogfennau ariannol:

  • 3 blynedd o gyfrifon ardystiedig ar gyfer sefydliad yr ymgeisydd arweiniol. (Os cafodd y sefydliad arweiniol ei sefydlu'n ddiweddar, nodwch hynny a chyflwyno unrhyw gyfrifon rheoli sydd ar gael).
  • Rhagolygon ariannol 3 blynedd ar gyfer ymgeisydd arweiniol y prosiect. (Cynhwyswch holl wariant y prosiect, y rhandaliadau grant a ragwelir ynghyd ag unrhyw grantiau eraill sy'n cael eu derbyn. Tystiolaeth o gyllid nad yw'n grant os oes cyllid o'r fath, sydd wedi'i gynnwys gyda'r cynnig er mwyn gallu talu costau'r prosiect ac os yw'r cais am grant yn llai na 100%).
  • Os yw'ch prosiect yn cynnwys eich arian eich hun a/neu unrhyw arian cyfatebol, rhaid i chi ddisgrifio natur yr arian hwn ac atodi manylion gwerth, telerau a ffynonellau'r arian cyfatebol.

Strwythurau'r sefydliad

Os nad oes gan y grŵp unrhyw strwythur ffurfiol a bod sefydliad arweiniol yn ei gefnogi, rhaid i bob parti lofnodi cytundeb mewnol a'i gyflwyno gyda Chynllun Cyflawni Prosiect CANI.

Dylai’r cytundeb hwn:

  • nodi'r mynegiant o gytundeb i barhau,
  • nodi'r bwriadau a'r rhwymedigaethau; a
  • diffinio rôl a chyfrifoldebau pob person neu sefydliad yn y grŵp.

Rheolaeth lwyr

Os nad oes gennych reolaeth lwyr ar y tir, rhaid i chi gyflwyno'r caniatâd ysgrifenedig sydd wedi'i roi gan yr holl bartïon eraill sydd â rheolaeth ar y tir.

Safleoedd dynodedig/gwarchodedig

Os yw'ch prosiect neu unrhyw weithgaredd arfaethedig yn eich cais yn cael ei gynnal ar safle gwarchodedig fel SoDdGA neu y gallai effeithio arno, rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cael y cydsyniad, y caniatâd neu'r cymorth perthnasol, a'u cyflwyno gyda'ch cais.

Tir comin

Rhaid i geisiadau am weithgaredd ar dir comin gael eu cefnogi gan gydsyniad ysgrifenedig perchennog y tir ar gyfer unrhyw weithgarwch sy'n wahanol i'r hawliau cofrestredig ar y tir comin dan sylw.

Os na fydd unrhyw ran o'r wybodaeth wedi dod i law erbyn 31 Mawrth 2025, gallai'ch cais gael ei wrthod.

Ni fydd yr asesiad yn dechrau nes bod y cais a’r holl ddogfennau ategol yn dod i law Llywodraeth Cymru. Cewch gyflwyno dogfennau a thystiolaeth arall yn ogystal â’r uchod er mwyn cefnogi'ch cais.

Cynllun cyflawni prosiect

Mae Cynllun Cyflawni Prosiect yn cynnwys nifer o gwestiynau y bydd angen i chi eu hateb. Mae'r rhestr isod yn rhoi syniad ichi o'r wybodaeth y dylech ei chynnwys.

Ffit strategol y prosiect

Rhaid i geisiadau Cam Cyflawni'r Prosiect ddangos gyda thystiolaeth sut y bydd gweithgareddau'r prosiect yn gwneud gwahaniaeth i nifer o flaenoriaethau ac ymrwymiadau sydd wedi'u nodi mewn deddfwriaeth, polisïau neu gynlluniau cenedlaethol a lleol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis o leiaf bedwar canlyniad o'r rhestr o 18 isod: 

  • gwella ansawdd aer
  • gwella ansawdd dŵr
  • cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu.
  • gwella bioamrywiaeth a chysylltedd â safleoedd gwarchodedig ar draws tirwedd a/neu gynefinoedd anghyffiniol (er enghraifft mewn perthynas â rhywogaeth adran 7)
  • rheoli a chael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol ar lefel tirwedd, rhanbarth a gwlad
  • addasu i hinsawdd sy'n newid
  • defnyddio adnoddau mor effeithiol â phosib
  • lleihau'r risg o lifogydd a sychder;
  • gwarchod a gwella tirweddau (cynefinoedd blaenoriaeth a lled-naturiol) a'r amgylchedd hanesyddol
  • helpu cymunedau gwledig i ffynnu a chryfhau cysylltiadau rhwng busnesau amaethyddol a'u cymunedau
  • cynnal y Gymraeg a hybu a hwyluso'r defnydd ohoni
  • dal a storio mwy o garbon
  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • sicrhau a hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid 
  • annog cynhyrchu bwyd mewn modd amgylcheddol gynaliadwy
  • gwella gwytnwch busnesau amaethyddol
  • cynnal a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad a'r amgylchedd hanesyddol, a'u hymgysylltiad â nhw
  • annog busnesau amaethyddol i reoli ynni yn effeithiol (trwy ddefnyddio ynni'n effeithlon,  mabwysiadu arferion arbed ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar eu tir)

Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR)

Mae’r egwyddorion canlynol o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wedi’u pennu yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. 

  • Rheoli’n hyblyg trwy gynllunio, monitro, adolygu a lle bo gofyn, newid gweithred
  • Ystyried gweithred o faint priodol
  • Hyrwyddo cydweithredu a chydweithio a chymryd rhan ynddynt
  • Gwneud trefniadau priodol i’r cyhoedd allu cyfrannu at wneud penderfyniadau
  • Ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol, a chasglu tystiolaeth os oes ansicrwydd 
  • Ystyried manteision a gwerth sylfaenol adnoddau naturiol ac ecosystemau
  • Gweithredu i atal difrod difrifol neu anadferadwy i ecosystemau
  • Ystyried canlyniadau tymor byr, canolig a hir gweithredoedd
  • Ystyried cydnerthedd ecosystemau, yn arbennig:
    -    Yr amrywiaeth o fewn a rhwng ecosystemau
    -    Y cysylltiadau rhwng ac o fewn ecosystemau
    -    Maint ecosystemau
    -    Cyflwr ecosystemau
    -    Gallu ecosystemau i addasu

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut maen nhw wedi ystyried pob un o egwyddorion SMNR yng nghyd-destun eu prosiect a sut maen nhw’n defnyddio’r egwyddorion wrth gynllunio a chynnal y gweithgareddau dan sylw. Cewch ragor o arweiniad ar yr egwyddorion a’r blaenoriaethau ehangach wrth reoli adnoddau naturiol Cymru yng Ngweithredoedd Polisi Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd. 

Bydd prosiect yn cael sgôr uchel os yw'n dangos y bydd yn cael effaith gadarnhaol barhaol ar lesiant amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Mae hynny’n cynnwys gweithgareddau sy’n caniatáu i dirwedd addasu i’r newid yn yr hinsawdd neu sy’n lleihau ei effeithiau. Dylai ymgeiswyr ddisgrifio gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ar lefel leol a byd-eang gan roi manylion y canlyniadau a gynigir. 

Mae prosiect yn gallu canolbwyntio ar flaenoriaeth leol neu genedlaethol, megis ateb sy'n seiliedig ar natur, cynyddu ynni adnewyddadwy neu ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithiol. Gall ganolbwyntio ar le penodol ac ymgorffori sawl math o dirwedd ledled Cymru, ond gyda'r flaenoriaeth yn ddolen gyswllt rhyngddynt. Dyma rai enghreifftiau posibl o brosiectau mewn tirwedd ddi-dor:

  • nifer o ffermydd cyffiniol yn cydweithio â sefydliadau i dargedu gweithgarwch ar ddalgylch afon
  • nifer o ffermydd neu ardaloedd o fewn tir clustogi safle gwarchodedig neu ardal ddynodedig
  • ffermydd cyffiniol yn ein hardaloedd arfordirol
  • ffermydd cyffiniol ar ddarnau eang o ucheldir heb eu hamgáu e.e. tiroedd comin;
  • grŵp o ffermwyr cyfagos sy'n rheoli tir fferm ar yr iseldir er lles cynefinoedd bridio a nythu rhywogaethau â blaenoriaeth, neu
  • nifer o dirweddau o wahanol fathau o ffermydd sydd wedi'u cysylltu trwy flaenoriaeth y mae angen cynllunio strategol arni ar raddfa eang: er enghraifft, mynd i'r afael â heriau lleol neu genedlaethol sy'n gysylltiedig ag iechyd anifeiliaid, mynediad, rhywogaethau estron goresgynnol neu blannu coed strategol ar raddfa eang

Gweithredu arloesol

Dylai prosiectau fod yn uchelgeisiol a chynnwys cynigion ar gyfer treialon neu weithgareddau peilot arloesol sy'n gysylltiedig ag amcanion y cynllun, y dirwedd, neu ei heriau ochr yn ochr â gweithgareddau rheoli tir cynaliadwy traddodiadol. Rydym yn rhagweld y bydd prosiectau mewn sefyllfa dda i sicrhau buddsoddiad preifat i ategu cyllid cyhoeddus. 

Ochr yn ochr â'r ymyriadau rheoli tir, anogir prosiectau, os yw'n berthnasol i ffocws y prosiect ac amcanion y cynllun, i gynnig syniadau ar sut i gael cymorth, trosglwyddo gwybodaeth a hyfforddiant gan y sector, ac archwilio cyfleoedd ehangach ar gyfer daliadau sy'n cymryd rhan yn y prosiectau, er enghraifft:

  • hyfforddiant mewn technolegau fferm newydd, gan gynnwys technoleg ailgylchu ac ynni gwyrdd adnewyddadwy
  • nodi cyfleoedd arallgyfeirio sy'n cwmpasu pren, garddwriaeth ac amaethyddiaeth
  • hyfforddiant a datblygu sgiliau, gan gynnwys arferion rheoli tir traddodiadol sydd â gwerth o ran treftadaeth a/neu ddiwylliannol
  • meincnodi, adrodd a gweithio tuag at sero net, neu
  • fanteisio ar gymorth arall gan y diwydiant fel grŵp cydweithredol

Trwy gydweithio, dylai prosiectau hwyluso, cynllunio a chydlynu gweithgarwch ar raddfa eang; a byddant yn cael eu hannog i gysylltu â mentrau eraill os ydynt yn berthnasol i'w tirwedd. Os yw'n berthnasol, dylid cynnig gweithgareddau ar draws ffermydd unigol er mwyn cefnogi amcanion prosiectau CANI a sicrhau canlyniadau a manteision ehangach i fusnesau fferm. Cyfeirir prosiectau i gael cymorth gan Lywodraeth Cymru ac eraill, megis grantiau ategol a mentrau ar gyfer busnesau fferm unigol sy'n arwain at gyflawni'r nodau a'r ffocws ar gyfer y dirwedd a chanlyniadau a manteision ehangach. 

Cyflawni prosiectau

Bydd Gant Cyflawni CANI yn darparu cyllid refeniw a chyfalaf sydd â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau'r prosiect. Mae hyn yn cynnwys hefyd weithgareddau tymhorol parhaus i wreiddio a sefydlu unrhyw welliannau. Dylai unrhyw weithgareddau gyd-fynd â gofynion cynlluniau presennol, a gallent gynnwys: 

  • plannu coed a sefydlu trefniadau rheoli coetir
  • adfer a chreu perthi (gwrychoedd)
  • cael gwared ar Rywogaethau Estron Goresgynnol a'u dileu
  • ymyriadau i reoli perygl llifogydd yn naturiol
  • gwella a chreu gwlyptir trwy fesurau ail-wlychu a chynnal pyllau, llynnoedd, gwelyau cyrs a ffeniau
  • gwella a chreu cynefin glan afon ac adfer afonydd
  • gwella cynefin a mawndir heb ei amgáu ar yr ucheldir
  • gwella a chreu cynefin ar lawr gwlad
  • gwella a chreu glaswelltir amrywiol - cynyddu amrywiaeth mewn glaswelltir sydd wedi'i wella a chyflwyno gwyndwn amlrywogaeth, adfer gweirgloddiau traddodiadol, creu lleiniau a stribedi ar gyfer adar gwyllt, bywyd gwyllt a phryfed peillio
  • adfer ffiniau traddodiadol, waliau cerrig, cloddiau a ffensys llechi
  • gwella mynediad at gefn gwlad drwy uwchraddio/gwella llwybrau cyhoeddus, tir mynediad agored a mannau gwyrdd
  • mesurau sydd wedi’u targedu i helpu i adfer neu ailgyflwyno rhywogaethau bywyd gwyllt penodol, sef y rheini a restrir yn Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Cynefinoedd a Rhywogaethau o Bwys Strategol i ymru, megis creu neu sefydlu cynefin nythu neu fwydo, gan gynnwys mesurau i reoli ysglyfaethwyr i helpu’r rhywogaethau hynny fel rhan o’r gweithredoedd ar lefel tirwedd. 
  • mesurau wedi'u targedu i wella ansawdd dŵr ac iechyd y pridd trwy leihau llygredd amaethyddol, lleihau'r defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr trwy reoli plâu a maetholion mewn ffordd integredig

Ochr yn ochr â'r gweithgareddau rheoli tir, gall y CANI wneud y canlynol: 

  • datblygu clystyrau o ffermwyr a rheolwyr tir a chefnogi'r grwpiau cydweithredu hyn er mwyn iddynt allu gweithredu a hwyluso rhwydweithiau cymorth, gan greu cysylltiadau â mentrau eraill os ydynt yn berthnasol i'w tirwedd
  • galluogi grwpiau i gael hyfforddiant, datblygu sgiliau ac arloesi nad ydynt ar gael yn rhwydd mewn mannau eraill. Datblygu gallu ffermwyr trwy eu partneriaethau a'u prosiectau, gan roi cyfleoedd iddynt gael cymorth a manteisio ar gyfleoedd ledled y sector preifat, megis rhai ariannol, busnes ac ecolegol ac ar draws amrywiaeth o feysydd megis sgiliau, bwyd a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi ac i arallgyfeirio. Rhaid iddynt fod yn gysylltiedig â gweithgareddau'r prosiect, er enghraifft hyfforddiant mewn technolegau newydd ar ffermydd, gan gynnwys technolegau ailgylchu ac ynni gwyrdd adnewyddadwy, iechyd pridd a llygredd amaethyddol, pori cynaliadwy, a dulliau ffermio sy'n ystyriol o natur
  • sicrhau bod prosesau llywodraethu a rheoli prosiectau da ar gael er mwyn rheoli prosiectau mawr ar raddfa tirwedd yn llwyddiannus a darparu costau datblygu sgiliau a meithrin gallu i grwpiau
  • cefnogi'r gwaith o gydlynu gweithgareddau sy'n cyflawni amcanion y prosiect a'r cynllun ar ffermydd unigol, cael at grantiau sydd ar gael i ffermwyr unigol i ddefnyddio ynni'n fwy effeithiol, ystyried arallgyfeirio a lleihau llygredd amaethyddol, gan ategu gweithgareddau prosiectau CANI
  • targedu a chydlynu'r gwaith o wella cynefinoedd lled-naturiol â blaenoriaeth sydd o werth uchel, wedi'u rheoli gan ffermwyr unigol mewn prosiect CANI. Ar ôl cwblhau'r gwaith o wella'r cynefinoedd, byddai ffermwyr yn cael eu hannog i ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn gallu rheoli'r cynefin mewn ffordd weithredol trwy gytundebau busnes fferm unigol
  • rhoi cymorth i brosiectau sicrhau buddsoddiad preifat i ategu cyllid cyhoeddus
  • rhoi cymorth cyfalaf a refeniw ar gyfer gwaith peilot neu arbrofol sydd â chysylltiad uniongyrchol â ffocws y prosiect; a chyflawni'r amcanion a nodwyd yn llenyddiaeth y cynllun 
  • cefnogi prosiectau peilot cydweithredol sy'n datblygu cynhyrchion, arferion, prosesau, methodolegau a thechnolegau newydd yn y sector amaethyddiaeth a'r sector coedwigaeth sy'n gysylltiedig â rheoli tir yn gynaliadwy

Gwerth am arian

Rhaid i ystyriaethau gwerth am arian fod yn ganolog i bob penderfyniad sy'n ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus i gyflawni polisi Llywodraeth Cymru. Mae gwerth am arian yn ymwneud â chyflawni'r canlyniadau/allbynnau gorau posibl o ansawdd derbyniol am y gost leiaf. 

Bydd ymgeiswyr yn dewis yr eitemau Cost Safonol a Chyflog Safonol a fydd yn helpu i ddangos sut y bydd gweithgareddau'r prosiect yn sicrhau gwerth am arian.  Caiff yr ymgeisydd ddewis eitemau Cost Ansafonol ac egluro pam yr ystyrir bod costau'r prosiect yn rhesymol o ystyried cwmpas, graddfa ac amserlen y cynigion. Mae'n rhaid i'r holl gostau gael eu cysylltu'n uniongyrchol â gweithgareddau'r prosiect. 

Wrth ddewis costau Ansafonol, dylai'ch cynnig gynnwys:

  • dadansoddiad o'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r prosiect 
  • esboniad pam yr ystyrir bod costau'r prosiect yn rhesymol (o ystyried cwmpas, graddfa ac amserlen y cynigion);

Ar gyfer ei grantiau prosiect, mae Llywodraeth Cymru yn caniatáu cynnwys costau ar sail adennill costau llawn gan ddefnyddio'r costau safonol lle bo hynny'n briodol.  Pan fydd sefydliadau'r trydydd sector yn arwain prosiect, mae amodau Llywodraeth Cymru’n berthnasol.

Mae costau cyflogau staff sy’n ymwneud yn uniongyrchol â bywiocáu, gweithredu a/neu gyflawni’r prosiect, ar sail amser llawn neu ran-amser, yn gymwys. 

Mae'r rhestr isod yn dangos rolau Staff Safonol cymwys a'u diffiniadau (yn unol â chanllawiau SOC2020):

  • Galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol - addysg gyffredinol o safon dda.  Bydd rhai galwedigaethau yn gofyn am hyfforddiant galwedigaethol ychwanegol at safon wedi'i diffinio'n dda (e.e. sgiliau swyddfa).
  • Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiol - cymhwyster galwedigaethol lefel uchel cysylltiedig, yn aml yn cynnwys cyfnod sylweddol o hyfforddiant llawn amser neu astudiaeth bellach.  Fel arfer, darperir rhywfaint o hyfforddiant ychwanegol sy'n gysylltiedig â thasg trwy gyfnod sefydlu ffurfiol.
  • Galwedigaethau elfennol - Fel arfer, bydd galwedigaethau ar y lefel hon yn gofyn am o leiaf lefel o addysg gyffredinol (hynny yw, yr hyn a geir erbyn diwedd y cyfnod addysg orfodol). Ar gyfer rhai galwedigaethau ar y lefel hon hefyd, darperir cyfnodau byr o hyfforddiant cysylltiedig â gwaith mewn meysydd fel iechyd a diogelwch, hylendid bwyd a gwasanaethu cwsmeriaid.
  • Rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion - Cryn dipyn o wybodaeth a phrofiad o'r prosesau cynhyrchu a'r gwasanaethau sy'n gysylltiedig â rhedeg sefydliadau a busnesau'n effeithlon.
  • Galwedigaethau proffesiynol - Gradd neu gymhwyster cyfatebol, gyda rhai galwedigaethau yn gofyn am gymwysterau ôl-radd a/neu gyfnod ffurfiol o hyfforddiant trwy brofiad.
  • Galwedigaethau crefftau medrus - Cyfnod sylweddol o hyfforddiant, a ddarperir yn aml drwy gyfrwng rhaglen hyfforddi yn y gwaith.
  • Galwedigaethau gweinyddol - addysg gyffredinol o safon dda.  Bydd rhai galwedigaethau yn gofyn am hyfforddiant galwedigaethol ychwanegol at safon wedi'i diffinio'n dda (e.e. sgiliau swyddfa). 
  • Gweithwyr Proffesiynol Busnes a Gwasanaethau Cyhoeddus - Cymhwyster galwedigaethol lefel uchel cysylltiedig, sy'n aml yn cynnwys cyfnod sylweddol o hyfforddiant llawn amser neu astudiaeth bellach.  Fel arfer, darperir rhywfaint o hyfforddiant ychwanegol sy'n gysylltiedig â thasg trwy gyfnod sefydlu ffurfiol.
  • Rheolwyr a chyfarwyddwyr corfforaethol - cryn dipyn o wybodaeth a phrofiad o'r prosesau cynhyrchu a'r gwasanaethau sy'n gysylltiedig â rhedeg sefydliadau a busnesau'n effeithlon.
  • Rheolwyr a pherchnogion eraill – Cryn dipyn o wybodaeth a phrofiad o'r prosesau cynhyrchu a'r gwasanaethau sy'n gysylltiedig â rhedeg sefydliadau a busnesau'n effeithlon.
  • Crefftau amaethyddol a chysylltiedig medrus - Cyfnod sylweddol o hyfforddiant, a ddarperir yn aml drwy raglen hyfforddi yn y gwaith.

Y cyfraddau isod yw cyfraddau cyfartalog safonol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2023 yng Nghymru:

Cyfraddau cyfartalog safonol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2023 yng Nghymru
Rôl y ProsiectCyflog Gros £Cyfradd yr Awr (£)Ar-gostau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr a Phensiynau Cyfartalog GweithwyrCyfradd Cyfartalog Safonol Lawn
Galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol28356.015.0416.80%17.57
Galwedigaethau proffesiynol cysylltiol34425.017.6116.80%20.57
Galwedigaethau elfennol25158.012.5716.80%14.68
Rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion47894.023.4416.80%27.38
Galwedigaethau proffesiynol42851.023.8916.80%27.90
Galwedigaethau crefftau medrus34291.016.3716.80%19.12
Galwedigaethau gweinyddol28770.015.316.80%17.87
Gweithwyr busnes a gwasanaethau cymdeithasol cysylltiol proffesiynol36588.018.7116.80%21.85
Rheolwyr a chyfarwyddwyr corfforaethol51823.025.3916.80%29.66
Rheolwyr a pherchenogion eraill37586.018.3316.80%21.41
Crefftau amaethyddol a chysylltiedig medrus23687.012.716.80%14.83

Costau Safonol /Ansafonol / Cyfraddau Cyflog Safonol

Rhaid i'r holl gostau fod â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau'r prosiect sy'n cefnogi nodau a ffocws y prosiect. Os ydy Llywodraeth Cymru wedi pennu cost safonol ar gyfer gweithgaredd/eitem fel rhan o'r cynlluniau presennol, ac os yw'r gweithgaredd yn cael ei gynnal ar dir sy'n eiddo i unigolyn neu sy'n cael ei reoli gan unigolyn, y costau safonol hyn yw'r rhai a gynigir i brosiect CANI. Y costau safonol, os ydynt ar gael, fydd yn cael eu talu ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau ac ymyriadau ar ddaliadau unigol. Mae manylebau Costau Safonol ar gael yn y Canllaw i Fanyleb Dechnegol y Cynllun.

Ar gyfer gweithgarwch pwrpasol er budd amgylcheddol ac ymyriadau sy'n cyflenwi nwyddau cyhoeddus yn bennaf a lle nad oes cost safonol ar gael, bydd angen i chi gael dyfynbrisiau am y gwaith (yn dilyn rheolau tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus) ar sail cost wirioneddol. Ariennir hyd at 100% o'r costau sydd wedi'u hysgwyddo, os oes cysylltiad uniongyrchol ag enillion amgylcheddol ac nad oes cysylltiad ag enillion masnachol preifat neu gynhyrchu cynradd. 

Gall eitemau cyfalaf neu beiriannau sydd â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau'r prosiect fod yn gymwys os yw'r prosiect yn gallu dangos eu bod yn cyfrannu at ffocws y prosiect, gan arwain at ganlyniadau arwyddocaol sy'n cynnig gwerth da am arian. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu fesul prosiect, ac os penderfynir eu bod yn gymwys, gellir gwneud cyfraniad at y costau ar y sail hon. Nid yw eitemau cyfalaf neu beiriannau drud sy'n gysylltiedig â chynhyrchu cynradd neu weithgarwch masnachol yn gymwys.

Mae costau cyflogau staff sy’n ymwneud yn uniongyrchol â bywiocáu, gweithredu a/neu gyflawni’r prosiect, ar sail amser llawn neu ran-amser, yn gymwys.

Hwyluso a Gweithredu: costau ar gyfer pobl, gan gynnwys costau cysylltiedig fel teithio a chynhaliaeth. Gall hyn gynnwys y costau sy'n cael eu hysgwyddo gan fusnesau neu sefydliadau ar gyfer sefydlu a chynnal y gweithgareddau cydweithredol.

Mentora: costau ar gyfer pobl sy'n gallu darparu cymorth arbenigol i sefydliadau a grwpiau i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau a'u harbenigedd eu hunain yng nghyd-destun gweithgareddau prosiect.

Hyfforddiant: costau i gefnogi cydweithio a phartneriaethau er mwyn ymgymryd â hyfforddiant nad oes modd ei ddarparu trwy unrhyw lwybr arall.

Cyfathrebu a lledaenu: costau i gefnogi'r broses o roi gwybod am weithgareddau'r prosiect sy'n cefnogi nodau a ffocws y prosiect; lledaenu gwybodaeth ymysg y cymunedau rhanddeiliaid allanol; cyfathrebu'n ddi-dor o fewn grwpiau a rhwng grwpiau a lledaenu canlyniadau prosiectau cydweithredol yn derfynol.

Gwerthuso: mae cost cynnal gwerthusiad annibynnol, allanol o'r prosiect yn gymwys. Un o ganlyniadau allweddol y CANI yw dysgu gwersi a chofnodi profiadau cyfranogwyr i helpu i lunio rhaglenni a phrosiectau yn y dyfodol sy'n gysylltiedig ag amcanion CANI. Rhaid prisio gwerthusiad a’i gynnwys fel rhan o holl gynlluniau cam cyflawni’r prosiect. Rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru ar ôl ei gwblhau

Ffioedd proffesiynol, ffioedd ymgynghorwyr, costau technegol, arolygon safleoedd ecolegol a hydrolegol a ffioedd sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd; ffioedd a chostau ceisiadau cynllunio; mae ffioedd ar gyfer cael caniatâd, trwydded a chydsyniad statudol yn gymwys hefyd.

Hefyd, gellir darparu cymorth ar gyfer datblygu ac ymchwil, cyngor technegol ac astudiaethau dichonoldeb sydd â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau'r prosiect sy'n cefnogi nodau a ffocws y prosiect ac amcanion y cynllun; a datblygu technegau a dulliau sydd yn eu hanfod yn addasiadau o dechnolegau presennol i sefyllfaoedd lle nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd ond sy'n cyflawni canlyniadau'r prosiect a'r cynllun.

Noder: Bydd unrhyw gynefin a choetir sy'n cael eu creu neu eu gwella o dan CANI yn gymwys o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a byddant yn cyfrif tuag at y gofynion Cyffredinol o ran cynefin a choetir. Mae ffermwyr sydd wedi gwneud gwaith priodol i gynnal cynefin neu sydd wedi cynyddu eu gorchudd coed ar y fferm fel rhan o brosiect CANI yn gallu elwa trwy’r SFS. Nid oes unrhyw anfantais iddynt.

Materion ariannol a chydymffurfio

Mae’r rhwymedigaethau a chydymffurfiaeth ariannol y gofynnir amdanynt gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cadw cofnodion ariannol a chyfrifon cywir, paratoi cyfrifon blynyddol a chadw at rwymedigaethau a gweithgareddau statudol. Esboniwch sut y byddwch chi, yr ymgeisydd, yn ysgwyddo’r ymrwymiadau ariannol a chydymffurfio sydd ynghlwm wrth gyflawni'r prosiect. Rhaid i chi hefyd nodi'r costau staff sy'n gysylltiedig â'r holl rolau a chyfrifoldebau a restrir yn eich Costau Staff cymwys lle bo'n berthnasol i'r prosiect. Dylid esbonio yn y cais yr angen am grant o'r swm penodol y gofynnir amdano a bydd gofyn ichi esbonio'r mecanweithiau ar gyfer dosbarthu'r grant ar gyfer cynnal y prosiect lle bydd aelodau cydweithredol yn cyfrannu tuag at ganlyniadau'ch prosiect.

Gall Costau Cyfalaf o dan CANI gynnwys: 

  • prynu eitemau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau rheoli tir, megis coed, planhigion perthi (gwrychoedd), ffensys ac eitemau gwaith cyfalaf sy'n ofynnol i gyflawni'r canlyniadau
  • costau cyffredinol gosod y gwaith cyfalaf, sy'n cynnwys costau contractwr ar gyfer llafur a defnyddio offer
  • caffael neu ddatblygu meddalwedd cyfrifiadurol, a chaffael patentau, trwyddedau, hawlfreintiau a nodau masnach

Gall eitemau cyfalaf neu beiriannau sydd â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau'r prosiect hefyd fod yn gymwys os yw'r prosiect yn gallu dangos eu bod yn cyfrannu at ffocws y prosiect, gan arwain at ganlyniadau arwyddocaol sy'n cynnig gwerth da am arian. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu fesul prosiect, ac os penderfynir eu bod yn gymwys, gellir gwneud cyfraniad at y costau ar y sail hon. Nid yw eitemau cyfalaf neu beiriannau drud sy'n gysylltiedig â chynhyrchu cynradd neu weithgarwch masnachol yn gymwys.

Gall Costau Refeniw o dan CANI gynnwys:

  • Costau refeniw ar gyfer gweinyddu'r gwaith o sefydlu a rhedeg grŵp cydweithredol.
  • Costau refeniw ar gyfer lledaenu gwybodaeth am weithgareddau cydweithredol arfaethedig.
  • Costau rhedeg prosiect, gan gynnwys costau staff a rhentu safle.
  • Ffioedd ymgynghorydd a phensaer, costau dylunio technegol eraill, arolygon safle a ffioedd proffesiynol fel ffioedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd; ffioedd a chostau ceisiadau cynllunio; mae ffioedd caniatadau, trwyddedau a chydsyniadau statudol hefyd yn gymwys os ydynt wedi'u cael cyn cymeradwyo'r prosiect ond nid cyn 20  Awst 2024, cyn belled â'u bod yn hanfodol ar gyfer cyflawni'r prosiect.  Gellir galw'r ffi yn wariant cyfalaf os yw'n uniongyrchol gysylltiedig â chreu asedau. 

Ni ellir rhoi cyllid ar gyfer prosiect CANI cymeradwy er mwyn cynnal gweithgareddau neu waith sy'n cael eu hariannu gan gynlluniau neu raglenni eraill ar hyn o bryd oni bai bod y gweithgaredd neu’r gwaith yn rhagori ar y gofyn presennol.

Ni ellir rhoi cyllid ar gyfer prosiect i dalu am weithgareddau/eitemau yn lle rhai tebyg y talwyd amdanynt eisoes oni bai bod y prosiect yn parhau i reoli neu wella neu adfer y gweithgareddau hynny ac nad oedd yn ofyniad gan y grant gwreiddiol i wneud hynny.

Gall tir a nodir mewn cynnig prosiect CANI fod yn rhan o raglen neu gynllun arall neu gynnwys rhaglenni neu gynlluniau eraill sy'n gwella neu'n ategu canlyniadau'r prosiect, ond rhaid diffinio'r gwahaniad yn glir gan nodi pa weithgareddau sy'n cael eu hariannu drwy bob cynllun rhaglen, a rhaid i unrhyw weithgareddau neu reolaeth ragori ar ofynion y contractau presennol.

Mae arian cyfatebol yn berthnasol i arian trydydd parti yn unig ac nid yw'n cynnwys unrhyw gyfraniad o'ch arian eich hun at y prosiect. Os yw eich prosiect yn cynnwys eich arian eich hun a/neu unrhyw arian cyfatebol, rhaid i chi ddisgrifio natur yr arian hwn ac atodi manylion gwerth, telerau a ffynhonnell/ffynonellau arian cyfatebol gyda'ch cais llawn yn ystod y Cam Cyflawni Prosiect.

Os ydych chi'n gwneud cais i ariannu eitem neu weithgaredd nad oes cost safonol gyfatebol ar gael ar ei chyfer, bydd angen i chi ddilyn ein rheolau tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus a derbyn dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith ar sail cost wirioneddol. 

Mae ein canllawiau a'n gofynion ar gyfer tendro cystadleuol ar gael yn grantiau gwledig: canllawiau tendro cystadleuol.

Cyllid ategol

Mae'r cynllun hwn wedi'i gynllunio i fod yn gynllun annibynnol ac ni ddylai'r ddarpariaeth fod yn ddibynnol ar brosiect na ffynhonnell gyllido arall.  Fodd bynnag, efallai y bydd rhaglenni gwaith cyfatebol a fydd yn gwella gweithrediad y prosiect neu ei ganlyniadau. Gall hyn fod ar ffurf cynllun cyfatebol, cyllid ar gyfer gweithgareddau ychwanegol y prosiect a/neu gyfraniadau 'mewn da' gan bartneriaid.  Mae'n bwysig eich bod yn nodi'r rhain gan eu bod yn cefnogi hyfywedd, cynaliadwyedd, gwerth ychwanegol ac ychwanegedd eich prosiect o fewn eich ardal neu'ch cwmpas.

Cynlluniau creu coetir

Os yw’r prosiect sydd wedi’i gymeradwyo yn cynnwys plannu coetir, rhaid i brosiectau gyflwyno cais i’r Cynllun Plannu Coetir er mwyn i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) allu asesu ei gynnig ar gyfer plannu coed. Os caiff y cynnig ei gymeradwyo, caiff y gwaith plannu ei gymeradwy i’w gynnal fel rhan o’r Cynllun Plannu i Greu Coetir ar gyfer y 5 mlynedd dilynol. Mae Canllawiau Llawn y Cynllun i’w gweld yn Llyfryn Rheolau’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir. 

Mawndir

Dim ond rhyw 3 – 4% o arwynebedd Cymru sy’n fawndir, er hynny, mae rhyw 30% o’r holl garbon pridd yn cael ei storio ynddynt. Mae mawndir mewn cyflwr da yn rheoli llif dŵr trwy arafu a storio dŵr yn y gaeaf a’i ryddhau yng nghyfnodau sychach yr haf; maent yn lleihau’r risg o danau; yn dal ac yn storio carbon; ac yn cynnal amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau pwysig. Mae’n cymryd blwyddyn i ffurfio 1mm o ddyfnder o fawn felly mae 1m o ddyfnder o fawn yn cynrychioli mil o flynyddoedd o garbon. 

Mae’r Rhaglen Gweithredu Genedlaethol ar Fawndir (NPAP) yn cynnig trefn ar gyfer trefnu, monitro a chofnodi cyflwr a gwaith adfer mawndiroedd yng Nghymru. Rhaglen Gweithredu Genedlaethol ar Fawndir (ar Cyfoeth Naturiol Cymru). 

Rhaid i gynigion i adfer mawndir mewn cais i’r CANI gydymffurfio â themâu ac amodau a thelerau’r NPAP. Rhaid i brosiectau wneud cais i’r NPAP a bydd elfen adfer mawndir yn ffurfio rhan o’r cynllun hwnnw. 

Ar gyfer prosiectau fydd yn cynnwys gweithredoedd y mae angen cefnogaeth Creu Coetir neu NPAP arnynt, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng cynlluniau yn y cam ymgeisio i leihau’r costau i ymgeisydd CANI sy’n defnyddio mwy nag un cynllun. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus ar ddiwedd y cam datblygu yn gwybod y manylion hyn. 

Cynaliadwyedd hirdymor y prosiect

Wrth wneud cais i'r CANI , rhaid rhoi manylion am gynaliadwyedd eich prosiect y tu hwnt i amserlen y prosiect gan gynnwys Strategaeth Ymadael ar ôl cwblhau'r grant. Yn yr adran hon, dylech nodi sut y byddwch yn parhau i'w gynnal a'i reoli yn y dyfodol a sut y byddwch yn ystyried opsiynau ar gyfer cael hyd i adnoddau ac arian ar gyfer parhau i'w gyflawni ar ôl i'r grant ddod i ben. Gall hyn gynnwys manylion pobl eraill sy'n cydweithio â chi ar y Prosiect, partneriaid yn y sector busnes (e.e. PES, Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, cyfleoedd gwirfoddoli ac adeiladu tîm, nawdd, cyfleoedd twristiaeth ac ati), ffynonellau cyllid amgen, prif ffrydio i ddarpariaethau eraill a throsglwyddo asedau cymunedol a gwirfoddoli cymunedol.

Risg a rheoli risg

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus nodi a disgrifio unrhyw risgiau posibl, waeth pa mor annhebygol, a ddaw o reoli'r prosiect. Disgrifiwch o leiaf 5 risg a allai effeithio ar y prosiect ac ar sicrhau canlyniadau ac amcanion y prosiect gan roi disgrifiad byr ohonynt, eu tebygolrwydd, eu heffaith a beth ydych am ei wneud i'w lliniaru. Bydd hyn yn caniatáu i ymgeiswyr llwyddiannus fonitro ac osgoi unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â chyflawni prosiectau.          

Dangosyddion a chanlyniadau

Mae Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) wedi’i greu o gwmpas y pedwar amcan sy’n dathlu cyfraniadau pennaf y diwydiant amaeth i Gymru. Mae’r amcanion yn ymdrin â chynhyrchu bwyd a nwyddau eraill yn gynaliadwy a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur gan gydnabod cyfraniad hanfodol ffermwyr at iechyd amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Pedwar amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) yw:

  • cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy;
  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo,
  • cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision y maent yn eu darparu; ac
  • gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hybu cyfleoedd y cyhoedd i’w defnyddio ac ymgysylltu â nhw, a chynnal y Gymraeg a hybu a hwyluso’r defnydd ohoni.

Bydd y Dangosyddion Gweithgarwch Interim yn cael eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni'r amcanion SLM trwy arfer y swyddogaethau y mae'r ddyletswydd SLM yn gofyn amdanynt, a dangos y cysylltiad rhwng yr ymyrraeth a'i bwrpas (e.e. Sut mae'r holl ymyriadau wedi cyflawni blaenoriaethau lefel uchel Llywodraeth Cymru; gan gynnwys sero-net, bioamrywiaeth, hyfywedd y fferm, gwytnwch cymdeithasol, y Gymraeg ac ati)

Bydd gweithgarwch o fewn y cynllun hwn hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu prosesau, methodolegau a dulliau gweithredu er mwyn llywio'r gwaith o ddatblygu elfen gydweithredol o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn barhaus, gan gynnwys casglu mwy o dystiolaeth am effeithiolrwydd ymyriadau ar raddfa rheoli fferm a thirwedd.

Bydd angen i aelodau allweddol o'r grwpiau cydweithredol ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a'n cynrychiolwyr ar ddechrau'r broses o gyflawni prosiectau. Bydd Llywodraeth Cymru a'n cynrychiolwyr yn monitro ac yn gwerthuso sut mae prosiectau wedi gosod llinell sylfaen a sut maen nhw wedi cofnodi cyflwr presennol y dirwedd. Hefyd, byddant yn gweithio gyda phrosiectau i gefnogi dull cyson o fonitro, gosod llinell sylfaen ac asesu effaith er mwyn gwerthuso'r prosiect yn effeithiol.

Bydd Llywodraeth Cymru a'n cynrychiolwyr yn cynnig dysgu rhwng cymheiriaid ac yn creu rhwydwaith o grwpiau cydweithredol CANI i rannu gwybodaeth, cefnogi'r gwaith o ddatblygu rhwydweithiau a darparu argymhellion i gefnogi rhaglenni yn y dyfodol.

Themâu trawsbynciol

Bwriad y themâu trawsbynciol yw ychwanegu gwerth, codi ymwybyddiaeth a meithrin dealltwriaeth, cynyddu’r cyfraddau cyfranogiad a lliniaru effeithiau andwyol CANI. Dylai hyn helpu ymgeiswyr i wneud mwy na chydymffurfio’n unig a datblygu systemau sy’n cefnogi arferion gorau.

Fel prosiect integredig, disgwylir y bydd gweithredoedd sy'n cefnogi'r themâu trawsbynciol y bydd holl fecanweithiau cyllido Llywodraeth Cymru yn gofyn amdanynt.  Mae'n hanfodol bod unrhyw brosiect yn gallu nodi gweithredoedd sy'n esgor ar ganlyniadau sy'n cefnogi o leiaf 3 o'r themâu trawsbynciol hyn.

  • Prif Ffrydio Cyfle Cyfartal a Rhywedd
  • Datblygu Cynaliadwy
  • Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • Hyrwyddo'r Gymraeg
  • Hawliau Plant

Gwerthuso cais cynllun cyflawni'r prosiect

Bydd y cais llawn yn cael ei werthuso yn unol â Chanllawiau’r Cynllun a’r rheolau ynghylch pwy sy’n gymwys. Bydd y ceisiadau yn destun arfarniad llawn o ran diwydrwydd dyladwy a chymhwysedd, a dim ond ar ôl i’r rhain gael eu cwblhau y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud i gynnig y grant neu wrthod y cynllun. Nid oes sicrwydd y caiff cynllun ar gyfer prosiect ei gymeradwyo ar gyfer grant.

Ein nod yw gwerthuso'r cais o fewn  90 diwrnod ar ôl y diwrnod cau ar gyfer cyflwyno cynllun. Os byddwch yn hir yn ateb cais am ragor o wybodaeth, gwrthodir eich cais. 

Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei hasesu ar sail y meini prawf sgorio canlynol ac ar sail hynny y penderfynir rhoi’r grant neu wrthod y cais:

  • uchel - mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl o ran yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani
  • canolig - mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl o ran y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani
  • isel - mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu annigonol o ran un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdanyn nhw.

Y trothwy ansawdd yw gradd Ganolig ym mhob categori.

Sylwer, rydym yn eich cynghori i ddilyn y canllawiau’n ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani gyda’r cynllun cyflawni.

Ar ôl cwblhau'r gwerthusiad, bydd y cais a chanfyddiadau'r gwerthusiad yn cael eu hasesu gan banel o swyddogion Llywodraeth Cymru. Hynny, er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cyflawni amcanion y cynllun ac yn rhoi gwerth am arian.

Canlyniad y gwerthusiad a chynnig Dyfarnu'r Grant

Mae tri chanlyniad posibl i werthusiad o gynllun cyflawni prosiect:

a. Nid yw’ch prosiect yn gymwys am y grant. Byddwn yn rhoi gwybod ichi ar eich cyfrif RPW Ar-lein y rhesymau pam nad yw’ch cais wedi bod yn llwyddiannus.

b. Mae’ch prosiect yn gymwys i gael ei ystyried, ond nid yw’n cael ei gymeradwyo ar gyfer dyfarniad. Byddwn yn rhoi gwybod ichi y rhesymau pam nad yw’ch cais wedi bod yn llwyddiannus. Gallwch ymgeisio eto gyda’r un prosiect mewn ffenest ymgeisio arall ar yr amod nad ydych wedi dechrau ar y gwaith.

c. Mae’ch prosiect yn gymwys ac yn cael ei gymeradwyo ar gyfer grant. Bydd llythyr Cymeradwyo Grant yn cael ei roi i chi trwy eich cyfrif RPW Ar-lein gan nodi telerau ac amodau’r dyfarniad. Gofynnir i chi gadarnhau'ch bod yn ei dderbyn o fewn 30 niwrnod i ddangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau. Bydd y llythyr Dyfarnu Grant yn rhoi’r awdurdod i chi hefyd ddechrau ar y gwaith. Bydd gennych 30 diwrnod i naill ai dderbyn neu wrthod y dyfarniad. Os na fyddwch yn cadarnhau'ch bod yn derbyn y Dyfarniad o fewn 30 diwrnod, caiff y cynnig ei dynnu'n ôl.

Byddwn yn rhoi nodyn atgoffa i chi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y cynnig.

Bydd manylion llawn pryd y mae'n rhaid ichi dderbyn eich contract a'r dyddiad cau ar gyfer hawlio i'w gweld yn y Llythyr Dyfarnu Grant.

Os ydych yn cadarnhau'ch bod yn derbyn ein llythyr dyfarnu grant, bydd gofyn i chi hefyd gwblhau proffil cyflawni i gadarnhau pryd y byddwch yn hawlio'r grant a faint.

Ar ôl ichi gael eich dewis, os byddwch yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'ch dyfarniad neu os na fyddwch wedi cadarnhau’ch bod yn derbyn y cynnig o fewn yr amser a ganiateir, ni chewch wneud cais am CANI yn y dyfodol. Os byddwch yn penderfynu gadael y contract cyn cwblhau'r gwaith neu os na fyddwch yn cwblhau'r holl waith a gymeradwywyd yn eich Dyfarniad Grant, efallai na fyddwch yn cael gwneud cais o dan CANI yn y dyfodol.

Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Os byddwch yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Rydym ni (Llywodraeth Cymru) am weithio gyda sefydliadau sy'n ymfalchïo yn eu henw da, yr hyn y maent yn ei wneud a'u hymddygiad. Bydd y ddolen isod yn eich cysylltu â chanllawiau sy'n dangos ac yn esbonio'r mathau o ymddygiad, diwylliant a gwerthoedd y mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl i'r rheini sy'n cael grant ganddi 'fyw wrthynt'.

Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y rhai hynny sy’n derbyn grant [HTML] | LLYW.CYMRU

Dechrau ar y gwaith

Peidiwch â dechrau ar y gwaith nes bod y dyfarniad grant wedi cael ei gynnig ichi. Os byddwch yn dechrau ar y gwaith, mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthod y gwaith sydd wedi'i wneud neu'n diddymu’r Dyfarniad ac yn adennill unrhyw daliadau sydd wedi'u gwneud.

Amodau'r grant 

Daw'r CANI o dan amrywiaeth o ddeddfwriaeth (gweler Adran M).Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r cynnig o grant cyflawni prosiect CANI yn cael ei wneud yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi’n llawn yn eich llythyr Cymeradwyo Grant, gan gynnwys y telerau ac amodau a nodir isod. Bydd cyfnod Dyfarniad y Grant yn para o ddyddiad Dyfarnu’r Grant tan 31 Mawrth 2028.

Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r grant arwain at ganslo eich dyfarniad a/neu adennill yr arian sydd eisoes wedi’i dalu ichi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau

Gwneir y dyfarniad ar sail y datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais a'r ffurflen hawlio ac yn yr ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol. 

Rhaid i chi beidio â dechrau unrhyw waith ar y prosiect heb gael caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid ichi gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir ac â chyfraith y DU.

Ni chaniateir newid y prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgaredd, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yng Nghanllawiau’r Cynllun.

Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio ffurflen hawlio contract RPW Ar-lein, a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau ategol sy’n ofynnol o dan y cynllun.

Rhaid cyflwyno'r cais cyntaf ddim hwyrach na 6 mis o ddyddiad dechrau'r contract.

Oni wneir yr hawliad cyntaf o fewn yr amser hwn, caiff y cynnig grant ei derfynu’n awtomatig.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn llythyr dyfarnu’r grant. Ni chaniateir i chi newid yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid i chi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall (boed hynny o ffynonellau’r Undeb Ewropeaidd neu’r Deyrnas Unedig). Os canfyddir eich bod wedi cael arian cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall eich hawliad gael ei wrthod, gall taliadau gael eu hadennill, a gall cosbau gael eu rhoi.

Rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Ar gais, rhaid i chi ganiatáu iddynt weld gwybodaeth a/neu ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennau ategol yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw’ch busnes neu gwmni, faint o grant a roddwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae Hysbysiad Preifatrwydd yn berthnasol i’r wybodaeth a gyflwynir yn y cais. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r modd y bydd Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio'ch data personol ac yn nodi'ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Tendro cystadleuol

Mae'n rhaid i chi ddilyn ein Grantiau gwledig: canllawiau tendro cystadleuol. .

Bydd angen dyfynbrisiau ar gyfer y costau ansafonol.  Os nad yw'r dyfynbrisiau hyn wedi'u cyflwyno gyda'r cais, bydd gofyn i chi eu cyflwyno trwy’r 'Ffurflen Cyflwyno Dyfynbris' ar RPW Ar-lein.  Bydd y dyfynbrisiau yn cael eu harchwilio, ac unwaith y gwelir eu bod yn foddhaol bydd modd hawlio'r eitemau perthnasol ar ffurflen hawlio'r Contract ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

Taliadau

Hawliadau

Er mwyn cael taliad CANI, rhaid ei hawlio gan ddefnyddio ffurflen Hawlio'r Contract ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Byddwn yn eich talu pan fydd eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. 

Cewch wneud hawliadau interim yn ystod eich prosiect. Mae’r canllaw 'Sut i Lenwi' ffurflen Hawlio'r Contract yn esbonio sut i hawlio. 

Byddwn yn eich talu pan fydd eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Ni chaiff hawliadau eu talu oni bai bod Llywodraeth Cymru yn fodlon bod yr arian perthnasol wedi cael ei wario a bod y gwaith wedi cael ei gwblhau yn unol â'r Dyfarniad Grant. Bydd taliad yn cael ei anfon i’ch cyfrif banc trwy drosglwyddiad electronig.

Rhaid cyflwyno'r hawliad cyntaf ddim hwyrach na 6 mis o ddyddiad dechrau'r Dyfarniad Grant. Oni wneir yr hawliad cyntaf o fewn yr amser hwn, caiff y cynnig grant ei derfynu’n awtomatig.

Dylid cyflwyno hawliad terfynol ar gyfer talu grant cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau’r gwaith ffisegol ar y prosiect a ddim hwyrach na dyddiad diwedd y contract. Rhaid i bob hawliad terfynol ein cyrraedd ddim hwyrach na 31 Mawrth 2028.

Ni roddir estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliad terfynol ar ôl 31 Mawrth 2028.

Os na fyddwch yn cwblhau'r prosiect ac yn cyflwyno'r hawliad terfynol erbyn y dyddiad cau uchod, gallwn ofyn ichi dalu'n ôl y grant sydd wedi'i dalu ichi.

RHAID cwblhau prosiectau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni chewch ei newid heb gytundeb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.

Yn ystod oes y grant, pan gaiff hawliadau eu cyflwyno, mae’n bosibl y bydd angen craffu arnynt er mwyn sicrhau bod y gwariant yn gymwys ac yn cyd-fynd â’r hyn a gymeradwywyd yn y cais gwreiddiol.

Er mwyn cael taliad datblygu prosiect CANI mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cadarnhau'ch bod yn derbyn Dyfarniad Cyflawni Prosiect CANI o fewn 30 diwrnod calendr i ddyddiad y cynnig a chydymffurfio â'r holl ofynion.
  • sicrhau eich bod ond wedi gwneud y gwaith a restrir yn "Dibenion" yn eich Llythyr Dyfarnu Grant.
  • byddwch erbyn diwedd eich contract, wedi cwblhau'r prosiect fel y nodwyd yn eich cais a bydd wedi cael ei gymeradwyo. 
  • sicrhau eich bod wedi cydymffurfio â gofynion tendro cystadleuol Llywodraeth Cymru 
  • sicrhau bod eich holl fuddsoddiadau ar y safle pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad
  • cyflwyno'r hawliad gan ddefnyddio ffurflen Hawlio'r Contract yn eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau – 31 Mawrth 2028.
  • byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i'ch atgoffa am unrhyw hawliadau sydd heb eu cyflwyno atoch ar eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Dogfennau Ategol adeg hawlio

Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol gyda phob hawliad:

  • tystiolaeth bod yr arian ar gyfer pob eitem yn yr hawliad wedi'i dalu.
  • anfonebau ar gyfer yr holl eitemau sy'n cael eu hawlio
  • cyflwyno taflenni amser fel tystiolaeth o'r oriau gwaith ynghyd â thystiolaeth o daliadau

Rhowch y gair ‘anfoneb’ yn glir ar bob anfoneb a rhaid iddi gynnwys y canlynol:

  • rhif adnabod unigryw
  • enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eich cwmni
  • enw a chyfeiriad y cwmni sy'n eich anfonebu
  • disgrifiad clir o'r hyn y codir tâl arnoch amdano
  • y dyddiad y darparwyd y nwyddau neu'r gwasanaeth (dyddiad cyflenwi)
  • dyddiad yr anfoneb
  • y swm/symiau a godir
  • y TAW os yw'n gymwys
  • y cyfanswm sy'n ddyledus

Mae angen atodi cyfriflenni banc fel prawf o daliadau.Os nad yw gwerth y trafodiad yn cyfateb i werth yr anfoneb (er enghraifft, os ydych wedi prynu eitemau eraill gan yr un cyflenwr nad ydynt yn ymwneud â'r prosiect) bydd angen esbonio manylion y taliad cyfan ac atodi anfonebau ategol.

Os ydych yn talu â siec, bydd angen sgan neu ffotograff o'r siec ysgrifenedig, cyn ei chyflwyno i'r cyflenwr, yn ogystal â'r gyfriflen banc. 

Gallwch gyflwyno’r anfonebau, dyfynbrisiau a thystiolaeth o'r taliadau trwy eu sganio a’u hanfon trwy “Fy negeseuon” yn eich cyfrif RPW Ar-lein.

Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn hawliad dilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno trwy ffurflen Hawlio’r Contract gyda’r holl ddogfennau ategol.

Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r gwaith.

Os ydych yn ansicr ynghylch beth sydd ei angen ar gyfer eich prosiect, mae'n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig ei fod yn gymwys cyn i chi ysgwyddo’r costau.

Rhagdaliadau

Byddwn fel arfer yn eich talu ar ffurf ôl-daliadau (h.y. ar ôl i chi ysgwyddo’r gwariant); ond rydym yn sylweddoli nad oes gan rai mudiadau Trydydd Sector lawer o arian wrth gefn ac nad oes ganddynt yr adnoddau i wneud y gwaith cyn cael eu talu am ei wneud. Felly, os ydych wedi ymrwymo i wariant, gallwn ystyried rhoi rhagdaliad i chi i dalu amdano, ond dim ond os oes tystiolaeth glir bod ei angen. 

Cam-hawlio a chosbau

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir, ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i wario (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys, a bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno yn brydlon.

Rhaid cynnal yr holl weithgareddau a gwario'r holl gostau ar ôl i'r contract gael ei gynnig, ac eithrio ar gyfer eitemau penodol lle cafwyd cytundeb i gynnwys eu costau ac y'u disgrifir yn llythyr y Dyfarniad Grant.

Byddwch yn cam-hawlio yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • eich bod wedi cynnal y gweithgaredd / gwario costau cyn i'r contract gael ei gynnig, ac eithrio ar gyfer eitemau penodol lle cafwyd cytundeb i gynnwys eu costau ac y'u disgrifir yn llythyr y Dyfarniad Grant
  • erbyn diwedd cyfnod y dyfarniad grant, nid ydych wedi cwblhau'r prosiect fel y cafodd ei gymeradwyo.
  • os na fyddwch wedi hawlio na chyflwyno dogfennau ategol erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio
  • nad yw pob un o'r buddsoddiadau a hawlir yn bresennol yn ystod ymweliad â'ch safle
  • nad yw’r buddsoddiadau wedi’u gwneud yn unol â gofynion tendro cystadleuol Llywodraeth Cymru

Os yw’r hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei leihau i’r swm sydd yn gymwys a bydd y grant a delir yn seiliedig ar hynny. Fodd bynnag, os yw’r camgymeriad yn fwy na 10% o’r hyn sy’n cael ei hawlio, yna bydd cosb ariannol. Bydd swm y gwariant cymwys yn cael ei leihau o'r un faint â swm y camgymeriad, felly bydd y grant a delir yn llai na’r disgwyl.

Os na fyddwch yn cynnal y buddsoddiadau yn unol â gofynion Tendro Cystadleuol a Chaffael Llywodraeth Cymru gellir cosbi’ch hawliad.

Newid prosiect sydd wedi'i gymeradwyo

Mae newid neu ailwerthuso prosiect yn golygu’r broses o gytuno ar newidiadau arwyddocaol i brosiect sydd wedi’i gymeradwyo. Os bydd y prosiect y byddwch yn ei gynnal yn wahanol i'r hyn y cytunwyd arno, mae angen i chi ofyn am ail-werthusiad a gofyn am gymeradwyaeth i’r newidiadau.

Os newidir y prosiect, rhaid i roddwr y grant gydsynio yn ysgrifenedig i’r newid. Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni bod angen newid eich prosiect, byddwn yn esbonio wrthych sut y byddwn yn trin y newidiadau. Byddwn yn rhoi Canllawiau Ail-werthuso i chi gyda'ch contract.

Mesurau rheolau, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun CANI.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn gwneud y taliad i chi neu fe allai gael ei ddewis ar gyfer ymweliad ar ôl i chi dderbyn y taliad.

Bydd yn archwilio'r holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad, a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau'n tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu'n gwrthod rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y gwnawn ni wrthod eich talu, gofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl a’ch erlyn.

Fel rhan o ofynion ac amodau'r grant, rhaid pennu llinell sylfaen ar gyfer cynnydd eich prosiect, monitro'r prosiect a gwerthuso ei effaith ar ôl ei gwblhau ar sail yr amcanion a'r targedau a nodir yn y cais cymeradwy. Mae'r costau sy'n gysylltiedig â hyn yn gymwys.

Gofynnir i chi ddarparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd y prosiect drwy gyflwyno adroddiadau cynnydd rheolaidd sy'n adrodd ar y dangosyddion perfformiad allweddol a'r canlyniadau a ddisgrifir yng nghynllun cyflawni'ch prosiect. 

Monitro

Nod y cynllun yw cefnogi'r diwydiant amaethyddol, ond bydd gofyn i'r CANI weithio hefyd i gyflawni amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy fel rhan o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

Un o'r gofynion yn llythyr dyfarnu'r  grant yw bod yr eitemau a brynwyd gyda chymorth grant yn cael eu cadw ar y safle gan sicrhau eu bod yn gweithio ac mewn cyflwr da. Hefyd, rhaid iddynt gael eu defnyddio at yr un diben â’r hyn a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect fel y nodir yn y contract. Gwneir hyn er mwyn sicrhau oes hir i'r prosiect a sicrhau bod cynhyrchwyr cynradd yn cael cyfran sy'n para o fanteision y prosiect.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, archwilio’r eitemau a brynwyd yn ystod y cyfnod hwn o bum mlynedd. Ymwelir â safleoedd canran o'r prosiectau a gymeradwywyd o fewn pum mlynedd ar ôl eu cwblhau'n derfynol (dyddiad diwedd llythyr cynnig grant).

Hefyd, mae'n rhaid i chi gydweithredu â'r bobl sydd wedi'u penodi gan Lywodraeth Cymru i werthuso'r cynllun.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am saith mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect fel y'i nodir yn eich contract.

Hefyd, bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • darparu unrhyw wybodaeth i ni am eich prosiect CANI o fewn y cyfnod a bennir gennym
  • darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur sy'n ymwneud â’ch prosiect CANI i ni, ein personau awdurdodedig neu ein hasiantiaid.
  • caniatáu i ni gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono

Y drefn apelio a chwyno

Gallwch ofyn am adolygiad mewnol o benderfyniad a gafodd ei wneud ynghylch eich cais am arian ar gyfer Cam Cyflawni'r Prosiect, gan gynnwys penderfyniad i wrthod eich cais am grant cyflawni prosiect. 

Rhaid i chi gyflwyno’ch gwrthwynebiad, gan gynnwys tystiolaeth ategol, o fewn 60 diwrnod ar ôl derbyn y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am iddo gael ei adolygu. Dylid cyflwyno hyn yn ysgrifenedig trwy'ch cyfrif RPW Ar-lein. 

Bydd swyddogion yn adolygu'ch gwrthwynebiad ac yn gwneud penderfyniad terfynol, a byddwch chi'n cael gwybod am y penderfyniad a'r rhesymau amdano. 

Ar ôl i chi gadarnhau'ch bod yn derbyn cynnig am grant ar gyfer Cam Cyflawni'r Prosiect, bydd apeliadau yn ymwneud â phenderfyniad Llywodraeth Cymru yn cael eu hystyried o dan y 'Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’.  

Mae’r broses apelio wedi’i rhannu’n ddau gam:

  • cam 1: adolygiad gan swyddogion RPW
  • cam 2: adolygiad gan Banel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon gydag ymateb cam 1)

Mae'r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidog Cymru, sy'n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â'r broses i ben.

Nid oes tâl am Gam 1 y broses ond codir tâl am Gam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig a £100 am wrandawiad llafar. Mae'r taliadau hyn yn cael eu had-dalu'n llawn os yw'r apêl Cam 2 yn rhannol lwyddiannus neu’n gwbl lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio ffurflen apelio RPW Ar-lein ar gael gan Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW, neu ar ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig:

Y weithdrefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan ein trefn ar gyfer cwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost:complaints@gov.wales

Gwefan: Cwyn am Lywodraeth Cymru

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

Deddfwriaeth

Mae’r CANI yn cyflawni yn erbyn amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth, ac maent wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r CANI yn cael ei lywodraethu gan gyfraith a gymhathwyd, a elwid gynt yn Rheoliadau’r Cyngor Rhif 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013 Cyfraith yr UE a Ddargedwir, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a Rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 a 807/2014 (oll fel y’u diwygiwyd o dro i dro).

  • mae’r Gyfraith a gymhethir yn cael ei gweithredu yng Nghymru drwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y caiff ei diwygio o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129)
  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (W.327); a Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (W.328)

Mae cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • sicrhau cadernid hinsawdd; a
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymorthdaliadau

Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’. Mae potensial ar gyfer cynigion prosiect arloesol neu newydd i fod angen offer neu adnoddau sydd y tu allan i'r cwmpas hwn.  Os yw'n hanfodol ar gyfer y prosiect, mae'n bosibl y caiff yr eitemau a'r camau gweithredu eu dyfarnu fel Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA) yn unol â Deddf Rheoli Cymhorthdal (2022), adran. 

Cysylltiadau

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch ofyn cwestiwn unrhyw bryd ar RPW Ar-lein.

Mynediad i swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru ar 0300 062 5004. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru'n gwneud eu gorau i wneud trefniadau addas ar eich cyfer.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I weld yr wybodaeth ddiweddaraf am amaethyddiaeth a materion gwledig, ewch i'n gwefan. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch gofrestru hefyd i dderbyn yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.  Mae’n llawn newyddion, cyngor a gwybodaeth hawdd eu ffeindio a’u deall.  Er mwyn clywed am yr holl newyddion a datblygiadau diweddaraf ym maes amaethyddiaeth, rydym yn eich annog i gofrestru i dderbyn Gwlad. Gallwch wneud hyn naill ai yn Cyhoeddiadau neu drwy Tanysgrifio ar gyfer Gwlad.