Neidio i'r prif gynnwy

Innovantage Systems yn dyblu nifer ei staff wrth iddo ehangu a thargedu marchnadoedd Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyn o bryd mae'r cwmni sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd ac sy'n eiddo i'r Symphony Technology Group yn cyflogi 13 o bobl. Yn sgil derbyn £100,000 gan Lywodraeth Cymru bydd yn dyblu nifer ei staff. 


Mae Innovantage wedi datblygu meddalwedd soffistigedig sy'n casglu hysbysebion swydd o dros 280 o hysbysfyrddau swyddi a 500,000 o wefannau cyflogwyr er mwyn rhoi darlun i'r bobl sy'n recriwtio ynghylch tueddiadau o safbwynt cyflogi ar draws y farchnad swyddi gyfan.


Mae cyflogwyr yn defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn ceisio deall pa rai o'r cwmnïau y maent yn cystadlu yn eu herbyn sy'n recriwtio ac ym mha ardaloedd y maent yn recriwtio. Mae'r wybodaeth hefyd yn eu galluogi i bennu tueddiadau o safbwynt recriwtio, diwallu anghenion o ran recriwtio mor gyflym â phosibl a rhagweld unrhyw alw yn y dyfodol.    Mae data Innovantage hefyd yn galluogi asiantaethau recriwtio eraill a chyrff cyfryngol eraill i geisio achub y blaen o safbwynt gwerthiant. 


Bydd y cyllid ynghyd â'r swyddi newydd yn galluogi'r cwmni i adeiladu ar ei sylfaen bresennol er mwyn creu cynnyrch o'r radd flaenaf ym maes dadansoddeg byd eang, gan gydymffurfio â safonau Ewropeaidd a thargedu marchnadoedd Ewropeaidd newydd gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal i ddechrau.

Bydd y swyddi sy'n galw am lefel sgiliau uchel, ac y bydd angen gradd ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt, yn cynnwys cymysgedd o ddatblygwyr meddalwedd a swyddi rheoli ym maes gwerthu. 


 Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

"Rwy'n falch iawn fod cymorth gan Lywodraeth Cymru yn galluogi Innovantage i ddatblygu a mireinio ei waith dadansoddeg er mwyn gallu ymuno â marchnadoedd newydd a chanolbwyntio ar gyfleoedd allforio newydd.   Mae gan y cwmni hanes llwyddiannus o gyflawni ar ran marchnadoedd gwybodaeth am recriwtio yn y DU a budd y buddsoddiad hwn yn galluogi'r cwmni i anelu'n uwch. 


"Mae'r ehangu yma hefyd yn helpu i sicrhau bod y gwaith yn aros yng Nghymru gan y gallai cwmnïau eraill o fewn y grŵp fod wedi'i wneud."

Dywedodd Richard Turner, Prif Swyddog Gweithredol Innovantage: 

"Rydym wedi derbyn cefnogaeth arbennig gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cyllid yma wedi galluogi Innovantage i barhau i dyfu ei waith o fewn y DU gyda chynnyrch blaenllaw, ac mae hefyd wedi ein galluogi i sicrhau rhagor o adnoddau a chyflawni ein cynnyrch rhyngwladol a'n huchelgeisiau busnes."