Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gynllun indemniad meddygon teulu Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Beth yw enw'r Cynllun Indemniad Meddygon Teulu a gefnogir gan y wlad yng Nghymru?

Enw cyfreithiol y cynllun yw ‘Cynllun Esgeuluster Clinigol ar gyfer Darparwyr Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol.’ Fodd bynnag, cyfeirir ato fel yr ‘Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol,’ neu'r GMPI.

Pa bryd y daw'r GMPI i rym?

Daw’r GMPI i rym ar 1 Ebrill 2019. Bydd yn yswirio rhag honiadau a ddaw i law ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny. 

Sut bydd honiadau sydd wedi’u gwneud yn fy erbyn cyn hynny'n cael eu trin?

Gan ddibynnu ar y cyfnod y mae’r honiad yn berthnasol iddo, rhaid i chi naill ai roi gwybod am yr honiad i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) neu i’ch sefydliad amddiffyn meddygol. 

  • digwyddiadau cyn 1 Ebrill 2019 – rhowch wybod am yr honiad i’ch sefydliad amddiffyn meddygol
  • digwyddiadau ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny – rhowch wybod am yr honiad i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP
  • digwyddiadau yn ystod y ddau gyfnod, neu pan fydd yn aneglur – rhowch wybod i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP ac i’ch sefydliad amddiffyn meddygol.  

Dylech chi neu eich sefydliad amddiffyn meddygol gysylltu â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP cyn gynted â'ch bod yn ymwybodol o honiad sy'n ymwneud â digwyddiad ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny. 

Pwy sy'n gweithredu’r GMPI?

Caiff y GMPI ei weithredu gan Wasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP yn dîm o gyfreithwyr medrus iawn sy'n canolbwyntio’n benodol ar y maes amddiffyn honiadau esgeuluster clinigol ac sy'n arbenigo yn y maes hwnnw. Mae modd cysylltu â'r tîm yma: 

A fydd Byrddau Iechyd a Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP) yn amddiffyn honiad o esgeuluster clinigol yn erbyn meddyg teulu mewn modd mor gadarn â sefydliadau amddiffyn meddygol?

Byddant.  Bydd Byrddau Iechyd yn ogystal â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn amddiffyn honiadau am feddygon teulu er mwyn sicrhau y caiff enw da meddygon teulu ei ddiogelu yn llwyr.

A fydd Byrddau Iechyd a Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP yn cysylltu â meddygon teulu a Phractisiau Cyffredinol i sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth dan sylw cyn i benderfyniad gael ei wneud?

Byddant. Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP yn cydnabod pwysigrwydd gwarchod meddygon teulu, eu staff a'u henw da a byddant yn cynnal sianel gyfathrebu glir â meddygon teulu a Phractisiau Cyffredinol drwy gydol cyfnod yr honiad. Yn yr un modd â'r diffynnydd a enwir, bydd Byrddau Iechyd yn cysylltu'n rheolaidd â'r partïon cysylltiedig hefyd er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r holl wybodaeth berthnasol.

A allaf apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan Wasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP?

Bydd arnoch angen siarad â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP am eich achos unigol. 

Pwy mae'r GMPI yn ei yswirio?

Bydd y GMPI yn cynnwys atebolrwydd esgeuluster clinigol am waith y GIG a fydd yn deillio o waith pob aelod o staff mewn practis meddygon teulu, gan gynnwys y gweithwyr a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
Meddygon teulu (ar gontract) Meddygon teulu (cyflogedig)
Meddygon teulu (locwm – ar yr amod eu bod yn aelod o gofrestr locwm Cymru gyfan) Fferyllwyr practis
Cynorthwywyr gofal iechyd Nyrsys practis
Cydymaith Meddygol   Rheolwyr practis
Derbynyddion (brysbennu) Gwaedwyr
Ffisiotherapyddion practis Parafeddygon practis
Therapyddion galwedigaethol  

Bydd meddygon teulu dan hyfforddiant a myfyrwyr nyrsio dan hyfforddiant sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol yn cael eu hyswirio hefyd.  

Hefyd, bydd y GMPI yn yswirio unrhyw weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd a fydd yn darparu Gofal Sylfaenol y GIG drwy drefniadau clwstwr Gofal Sylfaenol ac unrhyw atebolrwydd dirprwyol i bractisiau pan fo gweithiwr iechyd proffesiynol mewn clwstwr yn darparu gofal uniongyrchol i gleifion cofrestredig y practis.  

Bydd disgwyl i ddarparwyr sicrhau bod ganddynt indemniad i yswirio’r holl agweddau ar eu gwaith nad ydynt yn cael eu hyswirio gan y GMPI. Os oes gennych amheuaeth, cysylltwch â'ch Sefydliad Amddiffyn Meddygol neu Wasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP. 

Sut mae meddygon teulu yn cael eu hyswirio? Beth fydd arnynt angen ei wneud?

Bydd meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol a gyflogir gan Bractisiau Meddygol Cyffredinol a/neu drwy drefniadau clwstwr Gofal Sylfaenol i ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol y GIG yn cael eu hyswirio’n awtomatig gan y GMPI ac ni fydd arnynt angen cymryd unrhyw gamau pellach.  
 
Ni fydd meddygon teulu Locwm nad ydynt ar Gofrestr Locwm Cymru Gyfan yn cael eu hyswirio’n awtomatig ac, os ydynt am ddefnyddio’r GMPI, bydd arnynt angen ymuno â Chofrestr Locwm Cymru Gyfan. 

Mae Sefydliadau Amddiffyn Meddygol wedi gwrthod indemniad i mi o’r blaen. A fyddaf yn cael fy yswirio gan y GMPI?

Os oes Sefydliad Amddiffyn Meddygol wedi gwrthod rhoi indemniad i chi o’r blaen, cysylltwch â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP i drafod. 

Beth sy'n cael ei yswirio gan y GMPI?

Bydd y GMPI yn yswirio gwaith y GIG a wneir gan bob contractwr sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, a ddarperir drwy Atodlen 2 y contract safonol y GIG.  Bydd yn indemnio darparwyr Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yng Nghymru yn erbyn honiadau am waith y GIG sy'n deillio o esgeuluster clinigol. 

Bydd y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a ddarperir mewn carchardai'n cael eu hyswirio gan y GMPI.  

Bydd y GMPI hefyd yn yswirio atebolrwydd esgeuluster clinigol staff practis cyffredinol sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol wedi’u comisiynu o dan gontractau GMS, contractau PMS ac unrhyw ofal brys integredig a ddarperir gan bractis cyffredinol drwy Atodlen 2 o gontract safonol y GIG. 

Ar ben hynny, bydd y Cynllun yn indemnio ymarferwyr sy'n cyflawni Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol sylfaenol a ddarperir drwy gontract Gwasanaethau Meddygol gan Ddarparwr Amgen (APMS). O ran Cymru, mae’r APMS yn cwmpasu mentrau cymdeithasol yng nghyswllt darparu Gwasanaethau Gofal Sylfaenol y GIG. 

Beth sydd ddim yn cael ei yswirio gan y GMPI?

Nid yw’r GMPI yn yswirio’r canlynol: 
Atgyfeiriadau a gwrandawiadau Achosion troseddol
Gwaith preifat / Gwaith nad yw’n perthyn i’r GIG / Gwaith contract nad yw’n Perthyn i GMS Honiadau atebolrwydd cyhoeddus
Cwynion nad ydynt yn ymwneud ag esgeuluster clinigol (Rheoleiddiwr (GMC/NMC/HCPC) Achosion disgyblu yn eich erbyn chi neu eich staff 
Anghydfodau rheoleiddiol Honiadau atebolrwydd Meddianwyr neu Eiddo 
Dyfarniadau a wneir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (oni bai fod achos o orgyffrwdd gydag iawndal sy'n daladwy am anaf o ganlyniad i esgeuluster clinigol) Achosion o dorri rheoliadau diogelu data
Ceisiadau gan gleifion i ddatgelu cofnodion (oni bai fod honiad am iawndal hefyd) Honiadau atebolrwydd cyflogwyr
Ymchwiliadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Honiadau difenwi
Cynrychiolaeth mewn Cwêst   Taliadau ex gratia

Sylwch nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr.  

Bydd disgwyl i ddarparwyr sicrhau bod ganddynt indemniad i yswirio’r holl agweddau ar eu gwaith nad ydynt yn cael eu hyswirio gan y GMPI. Os oes gennych amheuaeth, cysylltwch â'ch Sefydliad Amddiffyn Meddygol neu Wasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP. 

A fydd angen yswiriant anweithredol arnaf?

Os oes gennych drefniadau indemnio nad ydynt yn gynnyrch sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau – er enghraifft, cynnyrch honiadau a dalwyd – bydd yn ofynnol i chi gael yswiriant anweithredol, oni bai fod telerau eich yswiriant yn nodi unrhyw amgylchiadau wedi’u diffinio pan na fyddai hyn yn ofynnol. Os ydych yn ansicr ynghylch y trefniadau indemnio sydd gennych ar hyn o bryd, dylech gysylltu â’ch darparwr indemniad presennol.

A fydd angen yswiriant atodol arnaf?

Mae'r Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol yn darparu yswiriant ar gyfer gwaith contract y GIG yng Nghymru. Bydd yn cynnwys atebolrwydd esgeuluster clinigol ar gyfer gwaith y GIG sy’n deillio o waith pob aelod o staff practis meddygon teulu, gan gynnwys:

  • partneriaid meddygon teulu
  • meddygon teulu cyflogedig
  • meddygon teulu locwm, os ydynt ar Gofrestr Locwm Cymru Gyfan
  • fferyllwyr practis
  • nyrsys practis
  • cynorthwywyr Gofal Iechyd Practis
  • ac unrhyw aelod arall o staff sy'n darparu cyngor clinigol.  

Bydd y GMPI hefyd yn yswirio unrhyw weithiwr proffesiynol ym maes gofal iechyd sy'n darparu Gofal Sylfaenol y GIG drwy drefniadau clwstwr Gofal Sylfaenol.  

Ni fydd y GMPI yn yswirio gwaith preifat, cwynion, cysylltiadau ag achosion crwneriaid, gwrandawiadau GMC na materion eraill sy'n ymwneud â rheoliadau proffesiynol. Bydd disgwyl i weithwyr proffesiynol ym maes gofal sylfaenol gael indemniad, ar eu cost eu hunain, gan eu sefydliad amddiffyn meddygol i yswirio gwaith preifat a'r agweddau eraill nad ydynt yn cael eu hyswirio gan y wlad. 

A fydd meddygon teulu sy'n darparu gwasanaethau GMS mewn gofal eilaidd yn parhau i gael eu hyswirio gan Gronfa Risg Cymru?

Byddant. Ni fydd y GMPI yn effeithio ar y cynllun indemniad gofal eilaidd a weithredir gan y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.

Rwyf yn gweithio mewn practis a reolir. A oes gen i yswiriant?

Mae staff sy'n gweithio mewn practis a reolir eisoes yn cael eu cynnwys o dan drefniadau presennol ar gyfer indemniad y GIG. Nid yw GMPI yn gwneud unrhyw newid i'r trefniadau hynny.

Sut bydd cyflogeion practis cyffredinol sy’n cael eu hyswirio gan y cynllun yn cael eu hadnabod?

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, bydd System Genedlaethol Cymru ar gyfer Adrodd am y Gweithlu (WNWRS) yn darparu system ddiogel ar y we i gasglu’r holl wybodaeth berthnasol am staff practis. Pan fydd yn ofynnol, bydd WNWRS yn gallu adnabod yr holl gyflogeion practis cyffredinol.

Beth yw System Genedlaethol Cymru ar gyfer Adrodd am y Gweithlu (WNWRS)?

Mae System Genedlaethol Cymru ar gyfer Adrodd am y Gweithlu (WNWRS) yn adnodd diogel ar y we a ddatblygwyd i gasglu gwybodaeth am bob aelod o staff sy'n gweithio mewn Practis Cyffredinol. Mae’r Adnodd hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn practisiau yn Lloegr ac yn cael ei gefnogi gan y GIG Digidol. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflogi Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) i gaffael yr adnodd hwn a'i roi ar waith. 

Bydd yr adnodd yn cymryd lle’r dull presennol o roi gwybod am ddata fel hyn yng Nghymru a bydd yn cyflwyno dull mwy effeithlon a chyson o wneud hynny, gan liniaru’r risg o amrywiadau data a sicrhau data mwy dibynadwy. Bydd hyn yn hwyluso gwell dealltwriaeth o ddemograffeg y gweithlu gofal sylfaenol yng Nghymru, yn ogystal â hwyluso prosesau mwy effeithiol ar gyfer cynllunio’r gweithlu.  

Drwy gwblhau’r adnodd yn gywir, gellir adnabod pob meddyg teulu a’r staff practis a gyflogir mewn practisiau meddygon teulu, yn ôl yr angen, er mwyn eu hyswirio o dan yr Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol.

A oes angen i mi wneud unrhyw beth o ran yr WNWRS?

Oni bai eich bod yn Rheolwr Practis neu’n Rheolwr Busnes, ni fydd arnoch angen cymryd unrhyw gamau gweithredu pellach o ran yr WNWRS. Bydd y system adrodd a’i phrosesau’n cael eu rheoli gan reolwyr practis ar gyfer y bobl y mae’r practis yn eu cyflogi.  

Bydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn rhoi gwybod yn uniongyrchol i Reolwyr Practis/Rheolwyr Busnes am y canllawiau a’r camau nesaf ddiwedd mis Mawrth. I gael rhagor o wybodaeth, gall Rheolwyr Practis gysylltu â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru: 

Sut gall meddygon teulu Locwm gofrestru i gael gafael ar y Cynllun?

Os ydynt am gael gafael ar y Cynllun GMPI, bydd ar feddygon teulu locwm angen gwneud cais i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i gael eu cynnwys ar Gofrestr Locwm Cymru Gyfan.  Gall meddygon teulu locwm gofrestru eu diddordeb nawr drwy gysylltu â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.  

Beth yw Cofrestr Locwm Cymru Gyfan?

Mae Cofrestr Locwm Cymru Gyfan yn adnodd newydd a fydd yn galluogi gwell dealltwriaeth o'r anghenion a’r cymorth y mae’r farchnad meddygon locwm yn eu darparu i bractisiau cyffredinol. Hefyd, bydd yn sicrhau bod meddygon teulu locwm yn gallu cael gafael ar y cynllun GMPI. Cyflwynir y gofrestr ar 1 Ebrill 2019.  
 
Yn ystod tri mis cyntaf ar ôl rhoi Cofrestr Locwm Cymru Gyfan ar waith, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i bennu'r Telerau Ymgysylltu.

A oes rhaid dod yn aelod o Gofrestr Locwm Cymru Gyfan?

Nac oes. Mae aelodaeth yn wirfoddol. Bydd ar feddygon teulu locwm nad ydynt am ddod yn aelod o Gofrestr Locwm Cymru Gyfan angen trefnu yswiriant indemniad esgeuluster clinigol am waith y GIG, ar eu cost eu hunain, drwy sefydliad amddiffyn meddygol.   Bydd angen rhoi gwybod am hynny i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP.

Rwyf yn feddyg teulu mewn partneriaeth ond rwyf hefyd yn darparu gwasanaeth locwm yn fy mhractis fy hun. A yw hi'n ofynnol i mi ymrestru ar Gofrestr Locwm Cymru Gyfan?

At ddibenion Cofrestr Locwm Cymru Gyfan, byddai meddygon teulu mewn partneriaeth sy’n darparu gwasanaeth locwm yn eu practis eu hunain yn cael eu hystyried yn feddygon locwm mewnol ac ni fyddai angen iddynt ymrestru ar Gofrestr Locwm Cymru Gyfan. Byddai'n rhaid i bartneriaid sy'n darparu gwasanaeth locwm y tu allan i’w practis eu hunain (oni bai fod y gwasanaeth hwnnw'n cael ei ystyried yn wasanaeth locwm y Tu Allan i Oriau) ymrestru ar Gofrestr Locwm Cymru Gyfan.

Rwyf yn locwm. Rwyf yn awyddus i ddod yn aelod o’r Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol ond ni allaf i gofrestru erbyn 1 Ebrill 2019. Beth ddylwn i ei wneud?

Gall meddygon teulu locwm ymrestru ar Gofrestr Locwm Cymru Gyfan unrhyw bryd. Ar ôl ymrestru ar Gofrestr Locwm Cymru Gyfan, bydd meddygon teulu locwm yn cael eu hyswirio gan y Cynllun GMPI.  

A fydd meddygon teulu locwm y Tu Allan i Oriau yn parhau i gael indemniad gan Shropdoc?

Nid yw meddygon teulu locwm y Tu Allan i Oriau yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau presennol ar gyfer Cofrestr Locwm Cymru Gyfan, felly bydd yr holl drefniadau sy'n bodoli eisoes yn parhau i fod yn berthnasol.  Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i ystyried cynnwys meddygon teulu locwm y Tu Allan i Oriau yn y trefniadau yn y dyfodol.  

Beth am honiadau sy’n croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr?

Os yw cwyn neu honiad yn deillio o driniaeth a ddarparwyd gan Bractis Meddygol Cyffredinol yng Nghymru ac yn Lloegr, dylai’r Practis Meddygol Cyffredinol roi gwybod i’r tîm Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, a fydd yn cysylltu ag NHS Resolution (NHSR). 

Os bydd triniaeth wedi’i dechrau yn Lloegr a bod Practis Meddygol Cyffredinol yng Nghymru wedi bwrw ymlaen â hi a bod cwyn neu honiad wedi'i gyflwyno yna dylai’r Practis Meddygol Cyffredinol roi gwybod i’r tîm Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg a, phan fo’n briodol, bydd y tîm Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn cysylltu ag NHSR. 

Os bydd triniaeth yn cael ei darparu i glaf o Loegr gan Bractis Meddygol Cyffredinol yng Nghymru, dylai’r meddyg teulu yng Nghymru gysylltu â'r tîm y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg i gael cyngor. 

O ran Practisiau Meddygol Cyffredinol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac sydd wedi cofrestru ar ddwy Restr o Berfformwyr Meddygol, dylid rhoi gwybod am y gŵyn neu’r honiad i’r tîm Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ac i ddarparwr indemniad yr Ymarferydd Meddygol Cyffredinol mewn perthynas ag unrhyw ofal yn Lloegr.