Neidio i'r prif gynnwy

Data am incwm busnes fferm, dadansoddiad ar yr amrywiad o gwmpas y cyfartaledd, a chyd-destun hirdymor ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau’r Arolwg o Fusnesau Ffermio yng Nghymru ar gyfer 2020-21.

Mae’r adroddiad yn cynnwys tabl ychwanegol sy’n dangos y tueddiadau mewn tri mesur gwahanol o incwm ffermydd.

Amharodd pandemig coronafeirws COVID-19 yn ddifrifol ar y broses o gasglu data, ac arweiniodd hynny at gryn oedi wrth ddadansoddi a chyhoeddi’r canlyniadau. Penderfynwyd cyhoeddi'r canlyniadau allweddol cyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol (mis Mawrth 2022), a bwriedir cyhoeddi rhagor o ddadansoddiadau manwl yn ddiweddarach yn y flwyddyn, yn ôl gofynion y defnyddwyr.

Incwm cyfartalog busnesau ffermio yng Nghrymu yn 2020-21, a’r newid ers 2019-20 (yn ôl prisiau cyfredol)

Ffermydd godro

Mae incwm cyfartalog wedi amrywio’n fawr yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf. Ar ôl bod yn uchel yn 2017-18, mae incwm wedi mynd yn ôl i lefel gymedrol o £60,200. Mae hwn yn gynnydd o 19% o gymharu â’r llynedd ac yn sylweddol uwch nag ar gyfer y cyfnod isel yn 2015-16 a 2016-17.

Ffermydd gwartheg a defaid (Ardaloedd Llai Ffafriol)

Ar ôl bod yn isel yn 2018-19, cynyddodd incwm cyfartalog am yr ail flwyddyn yn olynol ar gyfer 2020-21 (£29,900) a dyma'r uchaf ers 2011-12 ar ôl cynnydd o 32% o gymharu â’r llynedd.

Ffermydd gwartheg a defaid (llawr gwlad)

Ar ôl gostyngiad dros gyfnod o ddwy flynedd ers 2017-18, cynyddodd incwm cyfartalog 38% (£22,900) gan ddychwelyd i lefel debyg i 2016-17.

Diweddariadau yn ystod 2023

Disgwylir i’r canlyniadau terfynol ar gyfer 2021-22 gael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2023.

Adroddiadau

Incymau fferm, Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Katherine Green

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.