Mae gwybodaeth faint o arian sydd ar gael gan unigolion yn y sector aelwydydd ar gyfer gwario neu gynilo ar ôl i fesurau dosbarthiad incwm ddod yn weithredol ar gyfer 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Incwm aelwydydd crynswth i'w wario rhanbarthol
Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i 2019. Nid yw’r adroddiad yn cwmpasu cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19).
Prif bwyntiau
- Roedd incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yng Nghymru yn £17,263 y pen yn 2019, 80.5% o ffigur y DU, i lawr 1.2 pwynt canran o'i gymharu â’r DU yn 2018.
- Roedd GDHI y pen yng Nghymru yn 2019 yr ail isaf o blith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
- Rhwng 2018 a 2019 gwelodd Cymru’r cynnydd canrannol lleiaf o’i GDHI y pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, i fyny 1.1%, o'i gymharu â chynnydd o 2.5% ar gyfer y DU. Llundain welodd y cynnydd mwyaf (i fyny 3.4%).
- Ers 1999, gwelodd Cymru’r trydydd cynnydd canrannol isaf o’i GDHI y pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, cynnydd o 74.0%, o'i gymharu â 85.9% ar draws y DU.
Mae data ar gyfer ardaloedd daearyddol is (gan gynnwys awdurdodau lleol) ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.