Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni o Gaerffili yn creu 80 o swyddi newydd i ymladd yn erbyn masnach nwyddau ffug

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd INCOPRO yn ehangu i swyddfeydd yn Britannia House, Caerffili gyda chymorth buddsoddiad gwerth £500,000 gan Lywodraeth Cymru. 

 

Cwmni’n arbenigo mewn diogelu brand drwy dracio ffugwyr ar-lein a thynnu gwerthwyr y cynnyrch ffug oddi ar y rhyngrwyd yw hwn. Ymysg rhai o’r cleientiaid mae BBC Worldwide a’r tŷ ffasiwn byd enwog Ted Baker. Mae’r rhestr o gleientiaid yn amrywio o gwmnïau nwyddau moethus i fusnesau nwyddau defnyddiwr.

 

Mae 2.5% o fasnach y byd yn fasnach nwyddau ffug, ac mae rhai yn darogan y gallai gwerth economaidd hyn gyrraedd $2.3 triliwn yn fyd eang erbyn 2022. O gofio hynny mae’n hanfodol dod o hyd i atebion arloesol yn y byd technoleg i atal lladradau, torri brand, dwyn hawlfraint ac Eiddo Deallusol.

 

Mae INCOPRO yn cyfuno’r dechnoleg ddiweddaraf gyda staff amlieithog sy’n eu galluogi i dracio twyll, canfod ffugiadau ac ymchwilio i wefannau amheus.

 

Sefydlwyd y cwmni yn 2012 gan Simon Baggs sef y Prif Swyddog Gweithredol a’r cyfreithiwr diogelu Eiddo Deallusol, a’r Prif Swyddog Technegol a Phensaer Systemau, Bret Boivin. Mae’r ddau yn credu’n gryf mewn Eiddo Deallusol ac o’r farn bod gan dechnoleg swyddogaeth bwysig i’w chyflawni i helpu busnesau eiddo deallusol i lwyddo ar-lein.

 

Roedd canmol mawr yn 2015 pan lansiwyd Talisman, technoleg i ganfod ffugiadau a ddatblygwyd yn ofalus gan y cwmni. Mae’r cwmni bellach yn rhy fawr i’w swyddfeydd yn Llundain ac mae arnynt angen 80 o staff newydd, yn ddadansoddwyr a datblygwyr gan fwyaf, yng Nghaerffili.

 

Ar ôl gwneud y buddsoddiad, cyhoeddodd y cwmni ei fod yn cydweithio â WR Investigations. Maent yn gwmni sydd eisoes wedi sefydlu yng Nghymru sy’n helpu ymchwiliadau i rwydweithiau all-lein sy’n gyfrifol am ffugio yn y DU a ledled y byd.

 

Wrth gyhoeddi cynlluniau INCOPRO i ehangu adeg lansio adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ‘Dyfodol Gwaith yng Nghymru’ ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddiweddarach heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn dweud: 

 

“Wrth i ni dreulio mwy a mwy o amser ar-lein yn ein bywyd pob dydd, mae’n bwysig iawn bod systemau yn eu lle i’n hamddiffyn ni rhag math newydd o droseddwyr. Mae gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gwmnïau fel INCOPRO yn amhrisiadwy. Mae’n gwarchod economi’r byd ac yn amddiffyn buddiannau’r unigolyn.

 

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu helpu yn y broses o ehangu. Croeso i Gymru. Rwy’n gobeithio y byddant yn ffynnu yn y dyfodol.”

 

Dywedodd Simon Baggs, y Prif Weithredwr: 

“Rydym yn benderfynol o wneud y rhyngrwyd yn lle gwell i fusnesau ffynnu.  Rhan bwysig o hyn yw llwyddo i gael gwared ar werthu cynnyrch a chynnwys anghyfreithlon.  Rydym yn falch ein bod wedi sicrhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ehangu ein cenhadaeth ac i greu swyddi ac arloesedd yng Nghymru.”