Iestyn Tudur-Jones Aelod
Iestyn yw Rheolwr Cyffredinol Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru Cyf (WLBP), ac mae ganddo radd o Brifysgol Aberystwyth mewn Rheoli Adnoddau Gwledig.
Mae'n gyfrifol am reoli WLBP o ddydd i ddydd, yn ogystal â Chynllun Gwarant Fferm Da Byw WLBP a'i gorff ardystio, Ardystio Bwyd Cymreig Safonol. Fel ysgrifennydd cwmni ar gyfer Iechyd Da, consortiwm o filfeddygon Cymru a WLBP, mae Iestyn wedi chwarae rhan yn y gwaith o ddatblygu cyfundrefn bresennol y Rhaglen Cyflenwi Milfeddygol yng Nghanolbarth a De Cymru.
Ac yntau’n gryf o blaid gweld perthynas weithio agosach rhwng ffermwyr, milfeddygon a Llywodraeth Cymru, mae Iestyn wedi gweithio'n ddiweddar i ddatblygu platfform i alluogi ffermwyr a milfeddygon i gyfrifo'n gywir lefel y gwrthfiotigau a ddefnyddir ar ffermydd cig eidion, cig oen a llaeth Cymru.