Neidio i'r prif gynnwy

Yn rhoi crynodeb o'r gwasanaethau gofal synhwyraidd a gynigir i bobl ag iechyd llygaid gwael a cholli clyw ar gyfer Ebrill 2017 i Fawrth 2019.

Colli golwg

  • Gofynnodd Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2018-19 pa mor aml cafodd yr ymatebwyr prawf llygaid. Dywedodd 73% o oedolion 16 oed neu hŷn eu bod yn profi eu llygaid o leiaf unwaith bob dwy flynedd.

Gwasanaethau gofal sylfaenol llygaid

  • Yn ystod 2018-19, talodd y GIG am 795,188 o brofion golwg y Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol, cynnydd o 0.6% ar y flwyddyn flaenorol.
  • Cafodd 184,366 o archwiliadau llygaid eu cynnal gan Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru yn ystod yr un flwyddyn.
  • O’r 114,309 o gleifion a sgriniwyd (â’r canlyniadau wedi’i adrodd) gan y Gwasanaeth Llygaid Sgrinio Diabetig Cymru yn 2017-18, roedd gan 28.9% ohonynt rywfaint o retinopatheg diabetig (Ni allai graddio nifer fechan ohonynt) .

Gwasanaethau llygaid ysbyty

  • Cafwyd 322,744 o dderbyniadau i apwyntiadau offthalmig cleifion allanol yn ysbytai Cymru yn 2017-18.
  • Cafodd y Byrddau Iechyd 91,846 o atgyfeiriadau ar gyfer offthalmoleg yn 2016-17, 31,824 ohonynt gan feddygon teulu.

Adsefydlu

Gwasanaeth Golwg Gwan

  • Cynhaliwyd 9,183 o asesiadau gan Wasanaeth Golwg Gwan Cymru.

Pobl sydd newydd gael eu hardystio â/neu cofnodi â nam difrifol ar y golwg, neu nam ar y golwg

  • Ar 31 Mawrth 2018, roedd dros 15,000 o bobl wedi eu cofnodi â nam ar y golwg, ac o’r rhain cofnodwyd tua hanner â nam difrifol ar y golwg, a hanner â nam ar y golwg.
  • Cafodd 1,455 o bobl eu hardystio o’r newydd â nam ar y golwg yn 2017-18; roedd dros 52% o’r rhain yn 80 oed a throsodd.

Gweithlu

  • Roedd 875 o ymarferwyr yn cynnal profion golwg y talwyd amdanynt gan y GIG ar 31 Rhagfyr 2018, 34 yn fwy na'r flwyddyn flaenorol a chynnydd o 19.2% ers mis Rhagfyr 2008.
  • Ar 30 Medi 2018 roedd 133.9 o feddygon offthalmoleg cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru.

Clyw

  • Cofnododd Arolwg Cenedlaethol Cymru bod 19% o oedolion yn dweud bod ganddynt anawsterau gyda’u clyw yn 2018-19
  • Ar 31 Mawrth 2019, doedd dim un claf wedi aros am gymorth clyw am fwy na’r targed o 14 wythnos.
  • Ar 30 Medi 2018 roedd 117.0 o feddygon otolaryngoleg cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru.

Adroddiadau

Iechyd synhwyraidd: ystadegau gofal llygaid a chlyw, Ebrill 2017 i Mawrth 2019 - Diwygiedig , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
Saesneg yn unig
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Iechyd synhwyraidd: ystadegau gofal llygaid a chlyw, Ebrill 2017 i Mawrth 2019: tablau atodiad - Diwygiedig , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 332 KB

ODS
Saesneg yn unig
332 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Iechyd synhwyraidd: ystadegau gofal llygaid a chlyw, Ebrill 2017 i Mawrth 2019: dangosfwrdd , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 746 KB

ODS
Saesneg yn unig
746 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.