Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r rhestr isod i'w defnyddio ar y cyd â dogfen Canllawiau Iechyd a Diogelwch Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru ac mae'n rhestru'r eitemau cymwys.

Rhestr o eitemau cymwys - Medi 2023

Eitem

Disgrifiad o’r Eitem

Sgôr gwerth yr eitem

Cost Safonol £

Cyfradd ymyrraeth £

80%

Cyfradd ymyrraeth £

50%

1. Siaced achub hynofedd dwy siambr, 275n o leiaf, sy'n llenwi ag aer yn awtomatig, sy'n cynnwys tywysydd lleoli personol sy'n cychwyn yn awtomatig ac sydd wedi'i chymeradwyo gan SOLAS  

Siaced achub hynofedd dwy siambr, 275n o leiaf, sy'n llenwi ag aer yn awtomatig. Rhaid iddi fod â golau strôb integredig, tywysydd lleoli personol sy'n cychwyn yn awtomatig a System Adnabod Personol MOB 1. Rhaid iddi fod wedi'i chymeradwyo gan SOLAS. Dylai'r tywysydd lleoli personol fod wedi'i gofrestru i bysgotwr unigol a chychwyn yn awtomatig os yw'r pysgotwr yn cwympo i'r môr. Dylai gydymffurfio ag EN 302 152 a cael ei chofrestru yn unol â Rheoliadau Llongau Masnach (Cofrestru EPIRB) OS 2000, Rhif 1850 a Hysbysiad Llongau Masnach 1816 (Y Môr a Physgodfeydd) – Cofrestru Gorfodol ar gyfer Tywysyddion Lleoli â Radio Electronig (EPIRBau). 

1000

561.04

448.83

280.52

2. Rafft achub pedwar person (math canister) gan gynnwys system ryddhau hydrostatig a chawell
(Ar gyfer cychod o dan 7M yn unig)

 

(Buddsoddiad ar y cwch yn unig)

Rhaid i'r rafft bywyd 4 dyn fod:

Wedi'i adeiladu i safon SOLAS ac i'r Safonau Cyfarwyddeb Offer Morol (MED), wedi inswleiddio'r llawr ac wedi inswleiddio'r canopi, bydd y rafft(iau) bywyd hefyd yn cynnwys "pecyn SOLAS B"; neu

- wedi ei adeiladu i ISO 9650 – Rafftiau Bywyd Bach wedi'u Llenwi ag Aer, Rhan 1, Math 1, Safon Grŵp A, ar yr amod:

bod gan y rafft(iau) bywyd ramp byrddio;

gydag offer i lefel "SOLAS B PACK", a allai, lle bo angen, gynnwys "bag cydio" yn ychwanegol i'r offer sy'n rhan annatod o'r rafft bywyd;

ac wedi'u hardystio fel eu bod yn cydymffurfio â Rhan 1, Grŵp A a Rhan 3 o ISO 9650 o fis Mawrth 2005 ymlaen.

Rhaid i'r uned rhyddhau hydrostatig gael ei actifadu'n awtomatig ar ddyfnder o 1.5m i 4 m, gan ganiatáu llenwi'r rafft bywyd ag aer a'i ddatgysylltu oddi wrth long sy'n suddo. Mae'n rhaid ei gymeradwyo gan SOLAS / MED .

Rhaid gosod y rafft bywyd ar fwrdd y llong gan ddefnyddio crud gyda mecanwaith/bwcl rhyddhau cyflym.

 

1000

1209.93

967.94

604.97

3. System achub person yn y môr

 

(Buddsoddiad ar y cwch yn unig)

System achub person yn y môr gyflawn wedi'i dylunio i achub person heb yr angen i'r archubwr fynd i mewn i'r dŵr. Rhaid bod modd i un person ei gweithredu a rhaid ei bod wedi derbyn cymeradwyaeth gan MCA a SOLAS.

1000

1111.49

889.19

555.75

4. Ysgol achub person yn y môr – hunan-achub

 

(Buddsoddiad ar y cwch yn unig)

Ysgol ddiogelwch wedi'i hadeiladu i'r pwrpas (o leiaf 2.4m o hyd) y gellir ei defnyddio o lefel y dŵr y tu allan i'r cwch, gan y system achub person yn y môr sy'n addas ar gyfer cychod un person.

1000

58.08

46.46

29.04

5. Model hyfforddi ar gyfer y system achub person yn y môr

Model achub person yn y môr 40kg+ ar gyfer hyfforddiant diogelwch dŵr a driliau achub.

350

606.79

485.43

303.40

6. Radio DSC/VHF yn y llaw

Radio ICOM VHF/DSC arnofiol gwrth-ddŵr a ddelir yn y llaw i wella diogelwch ar y môr, a fydd yn galluogi cyfathrebu â chychod eraill a gwylwyr y glannau mewn argyfwng. Dylid gallu mynd ag ef i rafft achub os oes angen.

350

230.87

184.70

115.44

7. Siwt Drochi

Siwt drochi neu arnofio ar gyfer goroesi yn y môr. Rhaid iddi fod wedi derbyn cymeradwyaeth gan MED a SOLAS a bod wedi'i hardystio yn unol â Chôd LSA ac IMO MSC 81.

350

172.15

137.72

86.08

8. System adnabod awtomatig (AIS) (ar gyfer cychod o dan 15m yn unig)

 

(Buddsoddiad ar y cwch yn unig)

System adnabod awtomatig (AIS) Dosbarth A ar gyfer cychod o dan 15m yn unig. Mae MCA MSN1871 (F) yn dweud: Dylid nodi os oes System Adnabod Awtomatig (AIS) wedi cael ei gosod ar gwch, dylai fodloni safonau perfformiad IMO (Dosbarth A). Mae Penderfyniad IMO A.1106 (29), “Revised Guidelines for the on-board use of Automatic Identification System” yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ddefnyddio system adnabod awtomatig. Os oes system adnabod awtomatig wedi'i gosod dylai fod ar waith ac yn weithredol ar bob adeg, a dim ond os yw'r meistr o'r farn bod angen gwneud hynny at ddibenion diogelwch y dylid ei diffodd. Er nad yw'n orfodol gosod system adnabod awtomatig ar gychod o'r fath, pan fydd offer o'r fath wedi'i osod yn wirfoddol, mae'n rhaid cydymffurfio â'r rhwymedigaethau a amlinellir yn MGN 79, Safety Equipment and Pollution Prevention Equipment Carried in Excess of Statutory Requirements.

 

350

1591.55

1273.24

795.78

9. Bin Rhwydi Bach

 

(Buddsoddiad ar y cwch yn unig)

Bin storio rhwydi bach er mwyn diogelwch ar y cwch – rhwydi i'w rhoi mewn biniau tua 40” x 30” x 25” (1016mm x 762mm x 635mm) a'u storio mewn ardal ddiogel ar y cwch.

250

148.09

118.47

74.05

10. Bin Rhwydi Canolig

 

(Buddsoddiad ar y cwch yn unig)

Bin storio rhwydi canolog er mwyn diogelwch ar y cwch – rhwydi i'w rhoi mewn biniau tua 40” x 30” x 32” (1016mm x 762mm x 812mm) a'u storio mewn ardal ddiogel ar y cwch.

250

172.05

137.64

86.03

11. Bin Rhwydi Mawr

 

(Buddsoddiad ar y cwch yn unig)

Bin storio rhwydi mawr er mwyn diogelwch ar y cwch – rhwydi i'w rhoi mewn biniau tua 50” x 30” x 32” (1270 x 762 x 812mm) a'u storio mewn ardal ddiogel ar y cwch.

250

220.28

176.22

110.14

12. Dyfais Haenu/Stacio Rhwydi

 

(Buddsoddiad ar y cwch yn unig)

Mae'n cadw'r rhwydi yn ddiogel mewn bin er mwyn eu cadw i ffwrdd o ddec y cwch. Wedi'i ddylunio i arbed amser ac ymdrech wrth dacluso a thrin rhwydi, er mwyn gwella amodau gwaith.

250

4897.14

3917.71

2448.57

13. Sgrin arddangos amlddefnydd

 

(Buddsoddiad ar y cwch yn unig)

I ddangos offer electronig (awtopeilot, system adnabod awtomatig, CCTV). Mae MCA MSN 1871(F) yn dweud bod rhaid i unrhyw gymhorthion mordwyo awtomatig gael eu profi'n rheolaidd a'u cynnal a'u cadw'n dda. Dylid cyfeirio at MGN 379 – Navigation: Use of Electronic Navigation Aids, neu unryw wybodaeth neu ganllawiau canlyniadol. Mae'r Nodyn Canllaw hwn yn pwysleisio'r angen i wylwyr roi sylw penodol i:- Fod yn ymwybodol bod pob darn o offer yn gymorth mordwyo - Bod yn ymwybodol o'r ffactorau sy'n effeithio ar gywirdeb systemau pennu lleoliad -  Gwerthfawrogi'r angen i groesgyfeirio'r wybodaeth pennu lleoliad gan ddefnyddio dulliau eraill - Cydnabod pwysigrwydd defnyddio cymhorthion a gwybodaeth mordwyo yn y ffordd gywir, a gwybod eu cyfyngiadau - Bod yn ymwybodol o berygl dibynnu gormod ar gywirdeb ac allbwn gan un cymorth mordwyo.

250

359.45

287.56

179.73

14. Awtobeilot

 

(Buddsoddiad ar y cwch yn unig)

System awtobeilot i helpu i fordwyo i ardaloedd pysgota ac yn ôl, i wella diogelwch ar gychod un person drwy leihau nifer y tasgau i'w cwblhau.

250

2198.38

1758.70

1099.19

15. Goleuadau LED ar Ddec Cwch

 

(Buddsoddiad ar y cwch yn unig)

 

Goleuadau ar ddec cwch ar gyfer gweithio mewn golau isel ac amodau tywydd gwael.

250

190.65

152.52

95.33

16. Golau Chwilio

(Batri a weithredir)

Golau chwilio LED gwrth-ddŵr y gellir ei ailwefru.

50

46.94

37.55

23.47

17. Cyfleusterau Toiled

 

(Buddsoddiad ar y cwch yn unig)

Cyfleusterau toiled morol a weithredir â llaw i wella amodau gwaith a chyfforddusrwydd y criw.

 

Rhaid hysbysu MCA o’r addasiad hwn. 

50

205.24

164.19

102.62

18. Tri litr Paent gwrthlithro

Tri litr o baent gwrthlithro er mwyn diogelwch.

50

107.60

86.08

53.80

19. Matin Rwber

Matin dec gwrthlithro wedi'i roi ar ddec y cwch i leihau'r perygl o lithro. Darn 1200mm x 900mm x 3mm.

50

82.11

65.69

41.06