Iechyd, anabledd a darpariaeth gofal di-dâl yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Amcangyfrifon o’r boblogaeth ar gyfer statws iechyd cyffredinol, anabledd a darpariaeth gofal di-dâl ar gyfer preswylwyr arferol yng Nghymru o Gyfrifiad 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi data o Gyfrifiad 2021 ar iechyd cyffredinol, anabledd a darpariaeth gofal di-dâl ar gyfer unigolion yng Nghymru a Lloegr mewn tri bwletin ar wahân:
- Iechyd cyffredinol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
- Anabledd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
- Gofal di-dâl, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Yn y bwletin ystadegol hwn ceir crynodebau ar gyfer y tri maes pwnc hyn yng Nghymru.
I wneud cyfrif am wahaniaethau yn strwythurau maint ac oedran y boblogaeth, defnyddir cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran drwy gydol y bwletin hwn i wneud cymariaethau dros amser a rhwng ardaloedd lleol. Gallwch lawrlwytho setiau data wedi’u safoni yn ôl oedran a rhai heb eu safoni yn ôl oedran oddi ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. I gael rhagor o wybodaeth am gyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran, gweler Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae’n bosibl y bydd hyn wedi dylanwadu ar sut yr oedd pobl yn meddwl am eu hiechyd a’u barn arno. Felly, efallai y bu effaith ar sut y dewisodd pobl ymateb. Gweler yr adran Cryfderau a chyfyngiadau i gael rhagor o wybodaeth.
Prif bwyntiau
Iechyd cyffredinol
- Yng Nghymru, y gyfran wedi’i safoni yn ôl oedran o’r boblogaeth a ddywedodd fod eu hiechyd yn dda iawn oedd 46.6% ac ar gyfer iechyd da roedd yn 32.5%. Roedd y rhain wedi cynyddu 0.9 ac 1.1 pwynt canran yn y drefn honno ers 2011.
- Yn 2021, dywedodd 5.1% o ymatebwyr fod eu hiechyd yn wael, a oedd wedi gostwng 0.9 pwynt canran o 6.0% yn 2011. Dywedodd 1.6% o ymatebwyr fod eu hiechyd yn wael iawn, a oedd wedi gostwng 0.3 pwynt canran o 1.9% yn 2011.
- Yng Nghymru, Gwynedd oedd yr awdurdod lleol a oedd â’r gyfran uchaf o’r rhai ag iechyd da iawn (51.5%), a Wrecsam a Thorfaen oedd â’r gyfran uchaf ag iechyd da (34.2% ar gyfer y ddau).
- Ymysg awdurdodau lleol Cymru, Merthyr Tudful oedd â’r gyfran uchaf o bobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn wael (7.1%) ac yn wael iawn (2.4%).
Anabledd
- Yng Nghymru, mae’r gyfran wedi’i safoni yn ôl oedran o bobl anabl (21.1%) wedi gostwng ers 2011 (23.4%).
- Mae’r gyfran o bobl nad ydynt yn anabl (78.9%) wedi cynyddu ers 2011 (76.6%).
- Blaenau Gwent (24.6%), Castell-nedd Port Talbot (24.6%) a Merthyr Tudful (24.2%) oedd yr awdurdodau lleol â’r gyfran uchaf o bobl anabl.
Gofal di-dâl
- Yng Nghymru, y gyfran wedi’i safoni yn ôl oedran o bobl a oedd wedi darparu unrhyw faint o ofal di-dâl oedd 10.5%, sydd wedi gostwng o 13.0% yn 2011.
- Y prif ffactor a gyfrannodd at y gostyngiad yn y gofal di-dâl a ddarperir ers 2011 yw’r gostyngiad yn y gyfran o bobl a oedd wedi darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos (o 7.4% yn 2011 i 4.7% yn 2021).
- Castell-nedd Port Talbot oedd yr awdurdod lleol a oedd â’r gyfran uchaf o bobl a oedd wedi darparu unrhyw faint o ofal di-dâl (12.3%). Roedd hefyd â’r gyfran gydradd uchaf o bobl anabl.
- Gwynedd oedd yr awdurdod lleol a oedd â’r gyfran isaf o bobl a oedd wedi darparu unrhyw faint o ofal di-dâl (8.9%). Roedd hefyd â’r gyfran uchaf o bobl ag iechyd da iawn.
- Roedd y gyfran wedi’i safoni yn ôl oedran o bobl a oedd wedi darparu unrhyw faint o ofal di-dâl yn uwch yng Nghymru (10.5%) nag yr oedd yn Lloegr (8.9%).
Iechyd cyffredinol
Gofynnwyd i ymatebwyr i Gyfrifiad 2021 asesu eu hiechyd cyffredinol a dewis un o bum opsiwn: “Da iawn”, “Da”, “Gweddol”, “Gwael”, neu “Gwael iawn”.
Mae’r gyfran o’r rhai a ddywedodd fod eu hiechyd yn dda iawn neu’n dda yn cael ei chynnwys yn y cyfrifiad o ddisgwyliad oes iach. Mae disgwyliad oes iach yng Nghymru yn ddangosydd cenedlaethol fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn ogystal ag yn y Cyfrifiad, gofynnir y cwestiwn hwn yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth a ddefnyddir i gyfrifo disgwyliad oes iach rhwng blynyddoedd y Cyfrifiad.
Yn 2021, dywedodd y mwyafrif o ymatebwyr i’r cyfrifiad yng Nghymru fod eu hiechyd yn dda iawn (46.6%, tua 1.4 miliwn o bobl) neu’n dda (32.5%, tua 1.0 miliwn). Roedd hyn wedi cynyddu 0.9 ac 1.1 pwynt canran yn y drefn honno ers 2011.
Roedd y rhai a ddywedodd fod eu hiechyd yn weddol wedi gostwng 0.9 pwynt canran (14.1% yn 2021 o gymharu â 15.0% yn 2011).
Bu gostyngiad hefyd yn y gyfran o bobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn wael neu’n wael iawn (a oedd wedi gostwng 0.9 a 0.3 pwynt canran yn y drefn honno). Yn 2021, dywedodd 5.1% o ymatebwyr (tua 164,000 o bobl) fod eu hiechyd yn wael (o gymharu â 6.0% yn 2011) a dywedodd 1.6% o ymatebwyr (tua 52,000 o bobl) fod eu hiechyd yn wael iawn (o gymharu ag 1.9% yn 2011).
Ffigur 1: Iechyd cyffredinol yng Nghymru, 2011 a 2021
Siart far yn dangos y cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran o iechyd cyffredinol yng Nghymru yn 2011 a 2021. Cynyddodd y gyfran wedi’i safoni yn ôl oedran o’r rhai a ddywedodd fod eu hiechyd yn dda iawn neu’n dda rhwng 2011 a 2021. Gostyngodd y gyfran wedi’i safoni yn ôl oedran o’r rhai a ddywedodd fod eu hiechyd yn weddol, yn wael neu’n wael iawn rhwng 2011 a 2021.
Sut yr oedd iechyd cyffredinol yn amrywio ledled Cymru
Iechyd da iawn neu dda yng Nghymru
Yng Nghymru yn 2021, y gyfran o’r boblogaeth a ddywedodd fod eu hiechyd yn dda iawn oedd 46.6%, ac ar gyfer y rhai a ddywedodd fod eu hiechyd yn dda roedd yn 32.5%. Roedd y cyfrannau ar gyfer iechyd da iawn a da yn is na’r cyfrannau a adroddwyd ar gyfer Lloegr (47.5% ag iechyd da iawn, 34.2% ag iechyd da).
O ran iechyd da iawn, Gwynedd (51.5%), Ynys Môn (50.7%) a Sir Fynwy (49.7%) oedd â’r cyfrannau uchaf.
Wrecsam (34.2%), Torfaen (34.2%) a Chasnewydd (33.6%) oedd â’r cyfrannau uchaf o bobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn dda.
Ym Mlaenau Gwent (41.5% ag iechyd da iawn) a Chastell-nedd Port Talbot (30.5% ag iechyd da) oedd y cyfrannau isaf o bobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn dda iawn neu’n dda. Roedd yr awdurdodau lleol hyn hefyd ymysg y deg awdurdod lleol isaf yng Nghymru a Lloegr ar gyfer iechyd da iawn ac iechyd da yn y drefn honno.
Ffigur 2: Cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran o breswylwyr arferol a ddywedodd fod eu hiechyd yn dda iawn yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru, 2021
Map yn dangos canrannau’r bobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn dda iawn fel cyfran o’r boblogaeth breswyl arferol yn 2021 ar gyfer pob awdurdod lleol. Gwynedd ac Ynys Môn oedd yr awdurdodau lleol â’r gyfran uchaf wedi’i safoni yn ôl oedran o bobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn dda iawn. Blaenau Gwent oedd yr awdurdod lleol â’r gyfran isaf wedi’i safoni yn ôl oedran o bobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn dda iawn.
Iechyd gwael neu wael iawn yng Nghymru
Yng Nghymru yn 2021, y gyfran o’r boblogaeth a ddywedodd fod eu hiechyd yn wael oedd 5.1%, ac ar gyfer y rhai a ddywedodd fod eu hiechyd yn wael iawn roedd yn 1.6%. Roedd y cyfrannau ar gyfer iechyd gwael a gwael iawn yn uwch na’r cyfrannau a adroddwyd ar gyfer Lloegr (4.1% ag iechyd gwael, 1.2% ag iechyd gwael iawn).
Merthyr Tudful oedd yr awdurdod lleol yng Nghymru a oedd â’r gyfran uchaf o bobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn wael (7.1%) ac yn wael iawn (2.4%). Ymysg holl awdurdodau lleol Cymru a Lloegr, Merthyr Tudful oedd â’r gyfran uchaf o bobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn wael, a’r ail gyfradd uchaf ag iechyd gwael iawn ar ôl bwrdeistref Tower Hamlets yn Llundain (2.5%). Fodd bynnag, Merthyr Tudful oedd hefyd yr ardal â’r gostyngiad mwyaf o ran pobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn wael iawn (a oedd wedi gostwng 0.7 pwynt canran, o 3.1% yn 2011).
Sir Ddinbych (1.6%) oedd yr unig awdurdod lleol yng Nghymru lle cynyddodd y gyfran o bobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn wael iawn, o 1.5% yn 2011.
Roedd Blaenau Gwent (2.3%) a Chastell-nedd Port Talbot (2.1%) hefyd ymysg y deg awdurdod lleol uchaf yng Nghymru a Lloegr o ran y cyfrannau uchaf o bobl ag iechyd gwael iawn.
Mae rhai o’r awdurdodau lleol yng Nghymru a oedd â’r cyfrannau uwch o bobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn wael iawn hefyd yn ardaloedd lle mae cyfrannau uwch o bobl wedi darparu gofal di-dâl.
Anabledd
Fel ag yn 2011, gofynnodd Cyfrifiad 2021 i breswylwyr arferol a oedd ganddynt gyflwr iechyd neu salwch hir dymor, a oedd wedi para neu a oedd yn debygol o bara 12 mis neu fwy.
Roedd geiriad y cwestiwn ychydig yn wahanol i’r cwestiwn yn 2011, er mwyn casglu data sy’n fwy cyson â’r diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n diffinio person anabl fel rhywun sydd ag amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol a hir dymor ar ei allu i wneud gweithgareddau pob dydd. Roedd y cwestiwn yn 2021 hefyd yn cyfeirio at gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol ac fe wnaeth ddileu ysgogiad gweledol i gynnwys problemau cysylltiedig â henaint.
Fel y nodwyd yn yr adroddiad ar ddatblygu cwestiynau, rhannwyd y cwestiwn yn ddwy ran. Gofynnwyd, yn gyntaf, a oedd gan yr unigolyn gyflwr iechyd neu salwch corfforol neu feddyliol hir dymor, ac yn ail i ba raddau yr oedd yn cyfyngu ar ei weithgareddau pob dydd. Mae ymatebwyr a ddywedodd fod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hir dymor sy’n cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd wedi’u diffinio fel pobl anabl.
Mae’r ymagwedd a ddefnyddir yn y Cyfrifiad yn cyd-fynd â’r model meddygol o anabledd, sy’n diffinio pobl fel pobl anabl yn ôl eu hamhariad. Yn 2002, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y model cymdeithasol o anabledd. Mae’r model hwn yn amlinellu ffordd wahanol o ystyried anabledd, yn lle diffinio pobl fel pobl anabl yn ôl eu hamhariad (fel y gwna’r model meddygol o anabledd), ystyrir bod pobl ag amhariadau yn cael eu hanablu gan rwystrau ffisegol, agweddol a sefydliadol sy’n cael eu creu gan gymdeithas.
Pobl anabl yng Nghymru
Yn 2021, ledled Cymru, y gyfran o bobl anabl oedd 21.1% (670,000 o bobl).
Mae’r gyfran o bobl anabl wedi gostwng (2.3 pwynt canran) ers 2011, pan oedd yn 23.4% (696,000 o bobl).
Mae’r gyfran o bobl nad ydynt yn anabl wedi cynyddu (78.9%, 2.44 miliwn) o 76.6% (2.37 miliwn) yn 2011.
Ffigur 3: Pobl anabl yng Nghymru, 2011 a 2021
Siart far yn dangos canrannau’r bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru yn 2011 a 2021. Mae canran y bobl anabl wedi gostwng o 23.4% i 21.1% rhwng y ddau Gyfrifiad. Yn yr un cyfnod, mae canran y bobl nad ydynt yn anabl wedi cynyddu o 76.6% i 78.9%.
Blaenau Gwent (24.6%, 17,000), Castell-nedd Port Talbot (24.6%, 36,000) a Merthyr Tudful (24.2%, 14,000) oedd yr awdurdodau lleol â’r cyfrannau uchaf o bobl anabl. Sir Fynwy (17.7%, 18,000), Gwynedd (18.1%, 23,000) a Phowys (18.1%, 27,000) oedd â’r cyfrannau isaf o bobl anabl.
Bu gostyngiad yn y cyfrannau o bobl anabl ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, o gymharu â 2011.
Ffigur 4: Cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran o bobl anabl yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru, 2021
Map yn dangos canrannau’r bobl anabl fel cyfran o’r boblogaeth breswyl arferol yn 2021 ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae’r awdurdodau lleol â’r cyfrannau uchaf o bobl anabl i gyd yng nghymoedd y De (Blaenau Gwent, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili). Mae’r awdurdodau lleol â’r cyfrannau isaf o bobl anabl wedi’u lleoli yn fwy i’r Gogledd a’r Dwyrain (Sir Fynwy, Gwynedd, Powys, Sir y Fflint).
Pobl anabl yn ôl cartref
Yn 2021, casglodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wybodaeth am nifer yr aelodau o gartrefi a oedd yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Nid yw’n bosibl safoni oedran ar lefel cartrefi felly nid yw’r cyfrannau yn yr adran hon wedi’u safoni.
Yng Nghymru, mae data’r Cyfrifiad ar anabledd o fewn cartrefi yn dangos:
- Nad oes neb anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mewn 62.1% (837,000) o gartrefi
- Bod un person yn anabl mewn 29.5% (397,000) o gartrefi
- Bod dau neu ragor o bobl yn anabl yng ngweddill y cartrefi, sef 8.4% (114,000)
Castell-nedd Port Talbot (10.4%), Caerffili (10.2%) a Rhondda Cynon Taf (9.8%) oedd yr awdurdodau lleol yng Nghymru â’r gyfran uchaf o ddau neu ragor o bobl anabl mewn cartref.
O blith y deg awdurdod lleol uchaf yng Nghymru a Lloegr â’r gyfran uchaf o ddau neu ragor o bobl anabl mewn cartref, roedd saith ohonynt yng Nghymru.
Gofal di-dâl
Gofynnodd Cyfrifiad 2021 i bobl a oeddent yn gofalu am unrhyw un, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i unrhyw un, oherwydd cyflwr iechyd neu salwch corfforol neu feddyliol hir dymor, neu broblemau sy’n gysylltiedig â henaint.
Roedd angen i’r rhai a atebodd “ydw” ddynodi nifer yr oriau o ofal di-dâl yr wythnos yr oeddent yn ei ddarparu, gan ddewis o blith: 9 awr neu lai, 10 i 19 awr, 20 i 34 awr, 35 i 49 awr a 50 awr neu fwy yr wythnos. Gofynnwyd i bobl beidio â chynnwys unrhyw beth yr oeddent yn derbyn cyflog am ei wneud.
Mae geiriad y cwestiwn yn wahanol i’r cwestiwn yng Nghyfrifiad 2011. I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i’r ffordd o fesur gofal di-dâl rhwng 2011 a 2021, gweler Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Yn yr adran hon o’r bwletin, mae’r sylfaen ar gyfer cyfanswm y boblogaeth yn cynnwys pob preswylydd arferol 5 mlwydd oed a hŷn. I gael rhagor o wybodaeth am y boblogaeth breswyl, gweler Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Yn gyfan gwbl, roedd 10.5% o breswylwyr arferol 5 mlwydd oed a hŷn yng Nghymru (tua 311,000 o bobl) yn darparu unrhyw faint o ofal di-dâl mewn wythnos nodweddiadol yn 2021.
Roedd y mwyafrif o ofalwyr di-dâl yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos (107,000 o bobl), ac yna 9 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos (96,000 o bobl). Roedd tua 43,000 o bobl yn darparu 10 i 19 awr o ofal di-dâl yr wythnos, 31,000 o bobl yn darparu 20 i 34 awr o ofal di-dâl yr wythnos, a 35,000 o bobl yn darparu 35 i 49 awr o ofal di-dâl yr wythnos. Mewn cymhariaeth, nid oedd 2.6 miliwn o bobl yn darparu gofal di-dâl (89.5%).
Yn sgil y gwahaniaethau yn nifer y categorïau a oedd wedi’u cynnwys yng nghwestiynau 2011 a 2021, mae’r cymariaethau rhwng data 2011 a 2021 yn y bwletin hwn yn cael eu gwneud ar gyfer tri chategori eang o ofal di-dâl.
Mae’r gyfran o bobl a oedd yn darparu gofal di-dâl wedi gostwng ers 2011 pan oedd 13.0% yn darparu unrhyw faint o ofal di-dâl (o gymharu â 10.5% yn 2021). Cafodd y gostyngiad hwn ei ysgogi gan gwymp sylweddol yn y gyfran a oedd yn darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos (o 7.4% yn 2011 i 4.7% yn 2021).
Mae’r gyfran o bobl a oedd yn darparu 20 i 49 awr o ofal di-dâl yr wythnos wedi cynyddu o 1.9% yn 2011 i 2.2% yn 2021. Mae’r gyfran o bobl a oedd yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos wedi parhau’n debyg (3.7% yn 2011 a 3.6% yn 2021). Mae Ffigur 5 yn dangos cymhariaeth o nifer yr oriau o ofal di-dâl a oedd yn cael ei ddarparu ac eithrio’r categori “ddim yn darparu gofal di-dâl” i’w gwneud yn haws dehongli’r data.
Ffigur 5: Darpariaeth gofal di-dâl yng Nghymru, 2011 a 2021
Siart far yn dangos y cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran o ddarpariaeth gofal di-dâl yn 2011 a 2021. Bu gostyngiad sylweddol yn y ddarpariaeth o 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos yn 2021 o gymharu â 2011.
Gallai esboniadau posibl dros newidiadau yn y ddarpariaeth o ofal di-dâl gynnwys:
- canllawiau coronafeirws ar leihau teithio a chyfyngu ar ymweliadau â phobl o gartrefi eraill
- mae’n bosibl bod gofalwyr di-dâl a oedd yn arfer rhannu cyfrifoldebau gofalu wedi ysgwyddo pob agwedd ar ofal di-dâl oherwydd rheolau ar gymysgu rhwng cartrefi yn ystod y pandemig
- roedd marwolaethau ychwanegol ar eu huchaf ymysg y boblogaeth hŷn a chyrhaeddodd uchafbwynt ddechrau 2021. Gallai hyn fod wedi arwain at leihad yn yr angen am ofal di-dâl
- gallai newidiadau yng ngeiriad y cwestiwn rhwng 2011 a 2021 fod wedi effeithio ar nifer y bobl a nododd eu bod yn ofalwyr di-dâl.
Gallwch ddarllen rhagor am ystyriaethau ansawdd ar dudalen y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Gwybodaeth ansawdd iechyd, anabledd a gofal di-dâl ar gyfer Cyfrifiad 2021.
Sut yr oedd darpariaeth gofal di-dâl yn amrywio ledled Cymru
Ffigur 6: Cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran o breswylwyr arferol 5 mlwydd oed a hŷn a oedd yn darparu gofal di-dâl yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru, 2021
Map yn dangos mai Castell-nedd Port Talbot oedd yr awdurdod lleol yng Nghymru â’r gyfran uchaf o bobl a oedd yn darparu unrhyw ofal di-dâl, sef 12.3%. Castell-nedd Port Talbot oedd hefyd â’r gyfran uchaf o bobl a oedd yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos (4.5%) ac o bobl a oedd yn darparu 20 i 49 awr o ofal di-dâl yr wythnos (2.9%). Sir Fynwy a Cheredigion oedd â’r gyfran uchaf o bobl a oedd yn darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos, sef 5.3%.
Gwynedd oedd â’r gyfran isaf o bobl a oedd yn darparu unrhyw ofal di-dâl, sef 8.9%. Gwynedd oedd hefyd â’r gyfran isaf o bobl a oedd yn darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos (4.1%) ac a oedd yn darparu 20 i 49 awr o ofal di-dâl yr wythnos (1.7%). Sir Fynwy oedd yr awdurdod lleol â’r gyfran isaf o bobl a oedd yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos (2.7%).
Mae rhai o’r awdurdodau lleol yng Nghymru a oedd â’r cyfrannau uwch o bobl a oedd yn darparu gofal di-dâl hefyd yn ardaloedd lle’r oedd cyfrannau uwch o bobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn wael neu’n wael iawn neu fod ganddynt anabledd.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
I gael gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys geirfa, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Darllenwch ragor am yr ystyriaethau ansawdd penodol ar gyfer iechyd cyffredinol, anabledd a gofal di-dâl.
Mae rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd ar gael yn yr adroddiad ar ansawdd methodoleg amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 (y Swyddfa Ystadegau Gwladol).
Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill.
Bydd datganiadau pellach o ddata Cyfrifiad 2021 yn cael eu cyhoeddi, gan gynnwys gwybodaeth am bynciau fel y Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth am y data a'r dadansoddiadau a fydd ar gael, gweler cynlluniau datganiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Geirfa
I gael geirfa lawn, gweler geiriadur Cyfrifiad 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Cyfradd ymateb
Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.
Cyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a thros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y mwyafrif o’r ffurflenni (89%) eu dychwelyd ar-lein. Roedd y gyfradd ymateb yn uwch na’r targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.
Dyddiad cyfeirio
Mae’r cyfrifiad yn darparu amcangyfrifon o nodweddion yr holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021. Fe’i cynhelir bob 10 mlynedd gan roi inni’r amcangyfrif mwyaf manwl o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.
Cynhaliwyd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ar 21 Mawrth 2021 hefyd. Symudwyd cyfrifiad yr Alban i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd cyfrifiad y DU yn cydweithio’n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau am y boblogaeth a thai ledled y DU, o ran amseriad a chwmpas.
Gofal di-dâl
Gall gofalwr di-dâl fod yn gofalu am unrhyw un, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i unrhyw un, oherwydd cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hir dymor, neu broblemau sy’n gysylltiedig â henaint.
Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw weithgareddau y mae’r unigolyn yn derbyn cyflog am eu gwneud.
Gall yr help hwn fod yng nghartref y gofalwr neu rywle arall.
Iechyd cyffredinol
Mae iechyd cyffredinol yn hunanasesiad o iechyd cyffredinol unigolyn. Gofynnwyd i bobl asesu a oedd eu hiechyd yn dda iawn, yn dda, yn weddol, yn wael neu'n wael iawn. Nid yw'r asesiad hwn yn seiliedig ar iechyd unigolyn dros gyfnod penodol o amser. Gweler diffiniad wedi’i gysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) i gael rhagor o wybodaeth.
Preswylydd arferol
Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu bod y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.
Safoni oedran
Defnyddir cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran i alluogi cymariaethau rhwng poblogaethau sydd efallai’n cynnwys meintiau gwahanol o’r boblogaeth gyffredinol a chyfrannau o bobl o oedrannau gwahanol. Defnyddir Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013 i safoni cyfraddau.
Mesur gofal di-dâl a ddarperir
Gofynnir cwestiwn ar ofal di-dâl i bob preswylydd arferol 5 mlwydd oed a hŷn, a hynny ers 2001. Mae’r cwestiwn yng Nghyfrifiad 2021 yn wahanol i’r un a ofynnwyd yn 2011.
Cwestiwn Cyfrifiad 2021
- Ydych chi’n gofalu am unrhyw un, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i unrhyw un, oherwydd cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hir dymor, neu broblemau sy’n gysylltiedig â henaint?
Peidiwch â chyfrif unrhyw beth y byddwch chi’n derbyn cyflog am ei wneud.
Atebodd pobl gwestiwn 2021 drwy ddewis un o chwe chategori:
- Nac ydw
- Ydw, 9 awr neu lai yr wythnos
- Ydw, 10 i 19 awr yr wythnos
- Ydw, 20 i 34 awr yr wythnos
- Ydw, 35 i 49 awr yr wythnos
- Ydw, 50 awr neu fwy yr wythnos
Cwestiwn Cyfrifiad 2011
- A ydych yn gofalu am aelodau o’r teulu, ffrindiau, cymdogion neu eraill, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i un neu i rai o’r rhain, oherwydd naill ai:
- salwch neu anabledd corfforol/meddyliol hir dymor?
- problemau sy’n gysylltiedig â henaint?
Peidiwch â chyfrif unrhyw beth y byddwch yn derbyn cyflog am ei wneud.
Atebodd pobl gwestiwn 2011 drwy ddewis un o bedwar categori:
- Nac ydw
- Ydw, 1 i 19 awr yr wythnos
- Ydw, 20 i 49 awr yr wythnos
- Ydw, 50 neu fwy o oriau’r wythnos
Cryfderau a chyfyngiadau
Mae ystyriaethau ansawdd, ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol, i’w gweld yn yr adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch ragor o wybodaeth am ansawdd ar gyfer iechyd, anabledd a gofal di-dâl ar gyfer Cyfrifiad 2021.
Mae rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd ar gael yn yr adroddiad ar ansawdd amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.
Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2022 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Diben y rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.