Iaith a llythrennedd Saesneg mewn lleoliadau ac ysgolion cynradd: ymateb y llywodraeth
Ein hymateb i adroddiad ac argymhellion Estyn ar Iaith a llythrennedd Saesneg mewn lleoliadau ac ysgolion cynradd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Teitl yr adroddiad
Iaith a llythrennedd Saesneg mewn lleoliadau ac ysgolion cynradd.
Manylion yr adroddiad
Gofynnwyd i Estyn i nodi pa mor effeithiol y mae lleoliadau ac ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru yn cefnogi ac yn addysgu iaith a llythrennedd Saesneg i ddysgwyr tair i un ar ddeg oed.
Crynodeb o’r prif ganfyddiadau
Dyma ganfyddiadau allweddol yr adroddiad:
Dysgu ac agweddau at ddysgu
Mewn lleoliadau, mae’r rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd cryf o’u mannau cychwyn ac yn datblygu’u medrau iaith a llythrennedd yn effeithiol. Yn y rhan fwyaf o leoliadau ac ysgolion cynradd, mae agweddau cadarnhaol gan ddysgwyr at ddatblygu’u medrau iaith a llythrennedd. Mae dysgwyr iau yn mwynhau chwarae gydag iaith trwy ganeuon, rhigymau a gemau, ac mae’r rhan fwyaf yn cyfranogi’n frwdfrydig yn eu gweithgareddau. Mae dysgwyr oedran meithrin yn mwynhau gwrando ar storïau, ac mae llawer yn dewis llyfrau o’r cornel darllen neu babell lyfrau awyr agored i rannu gyda ffrindiau. Yn yr ychydig iawn o leoliadau ac ysgolion lle mae safonau’n rhagorol, mae’r rhan fwyaf o blant meithrin yn dangos pleser gwirioneddol mewn llyfrau a storïau, gan adrodd a thrafod prif ddigwyddiadau a chymeriadau gyda hyder ac aeddfedrwydd.
Er gwaethaf gwelliannau mewn agweddau ar siarad, darllen ac ysgrifennu, mae safonau iaith a llythrennedd mewn ysgolion cynradd yn ddigon tebyg i’r rheini yr adroddom amdanynt bum mlynedd yn ôl. Safonau ysgrifennu dysgwyr mewn llawer o ysgolion cynradd yw’r gwannaf o’r pedair medr iaith o hyd ac mae mwynhad dysgwyr wrth ddarllen yn dirywio yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol gynradd. Mae hyn yn fwy amlwg ymhlith bechgyn a dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig.
Yn gyffredinol, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig yn gwneud cynnydd cadarn neu well yn eu datblygiad iaith o’u mannau cychwyn.
Darpariaeth
Mae’r prosesau cynllunio datblygedig mewn llawer o leoliadau ac ysgolion, law yn llaw â defnyddio adnoddau’n ddoeth yn sicrhau bod cysyniadau a medrau iaith yn adeiladu’n gynyddol i gefnogi datblygu iaith a llythrennedd Saesneg dysgwyr yn llwyddiannus. Mae gan lawer ystafelloedd dosbarth a mannau cymunedol sydd yn amgylcheddau dysgu iaith a llythrennedd cyfoethog sy’n trochi disgyblion yn y gair llafar ac ysgrifenedig. Yn yr enghreifftiau gorau, mae staff yn cynllunio’n ofalus fel bod datblygiadau mewn un medr, er enghraifft siarad, yn gallu cefnogi ac ategu datblygiad mewn medr arall, fel ysgrifennu. Maent yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r ystod lawn o fedrau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn gynyddol, mewn cyd-destunau ystyrlon a diddorol ar draws y cwricwlwm.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion a lleoliadau, mae gweithio cadarn mewn partneriaeth yn helpu llawer o ddysgwyr i wneud cynnydd da yn eu medrau iaith a llythrennedd. Fel arfer, mae’r berthynas â rhieni a gofalwyr yn gadarnhaol a mae’r rhan fwyaf o leoliadau ac ysgolion yn gweithio’n dda gydag asiantaethau allanol i gael cymorth neu arweiniad i wella medrau iaith dysgwyr sy’n agored i niwed a dysgwyr difreintiedig.
Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn gwneud defnydd da o ychydig o adnoddau llythrennedd cyhoeddedig adnabyddus i gefnogi’u cynllunio ar gyfer dysgu iaith, yn enwedig ar gyfer datblygu medrau darllen cynnar ac ysgrifennu dysgwyr. Yn ogystal, mae lleoliadau ac ysgolion yn defnyddio adnoddau cynllunio defnyddiol a gynhyrchwyd gan dimau llythrennedd mewn awdurdodau lleol neu gonsortia rhanbarthol, er enghraifft i gefnogi datblygu sillafu a dealltwriaeth darllen dysgwyr.
Arweinyddiaeth
Lle mae safonau iaith a llythrennedd yn uchel ar gyfer yr holl ddysgwyr, mae arweinwyr yn pennu gweledigaeth glir ac ymagwedd strategol at ddatblygu iaith a llythrennedd disgyblion. Er bod arweinwyr yn sensitif ac yn ystyrgar o amgylchiadau a sefyllfaoedd dysgwyr, nid ydynt yn eu defnyddio i ostwng eu disgwyliadau o’r hyn y gall dysgwyr ei gyflawni.
Mae strwythurau arwain priodol ar waith gan y rhan fwyaf o ysgolion i gefnogi cydlynu a datblygu’u darpariaeth ar gyfer iaith a llythrennedd, er enghraifft trwy dîm cwricwlwm, dan arweiniad uwch arweinydd. Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, mae arweinwyr yn datblygu diwylliant cryf o gydweithio lle mae gan yr holl staff fynediad at wybodaeth gyfunol yr ysgol, ac yn gallu elwa arni. Mae arweinwyr yn sicrhau bod staff yn darparu addysgu a dysgu eithriadol sy’n bodloni anghenion dysgwyr unigol. O ganlyniad, mae’r ysgolion hyn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn iaith a llythrennedd dysgwyr yn effeithiol, ac yn herio ac yn meithrin datblygiad dysgwyr mwy abl yn llwyddiannus.
Argymhelliad 1
Dylai lleoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd sicrhau nad yw tlodi ac anfantais yn rhwystrau i ddysgwyr rhag datblygu medrau iaith a llythrennedd cadarn.
Argymhelliad 2
Dylai lleoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd ddatblygu diwylliant o ddarllen sy’n annog ac yn ennyn brwdfrydedd yr holl ddysgwyr, gan gynnwys bechgyn a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig, i ddarllen er pleser, a darparu cyfleoedd i wrando ar oedolion yn darllen ar goedd.
Argymhelliad 3
Dylai lleoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd ddatblygu gwybodaeth dysgwyr am eirfa yn benodol, fel bod hynny’n cynorthwyo i ddatblygu’u medrau siarad, darllen ac ysgrifennu.
Argymhelliad 4
Dylai ysgolion cynradd ddatblygu strategaeth glir i gefnogi addysgu darllen yn effeithiol, gan gynnwys mynd i’r afael â medrau datgodio, datblygu geirfa, a medrau darllen.
Argymhelliad 5
Dylai ysgolion cynradd ddarparu cyfleoedd heriol priodol a pherthnasol i gefnogi datblygiad cynyddol medrau gwrando a siarad dysgwyr, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 2.
Argymhelliad 6
Dylai ysgolion cynradd gefnogi datblygu medrau ysgrifennu dysgwyr drwy addysgu cystrawennau, atalnodi a sillafu yn benodol, cyfleoedd perthnasol i ysgrifennu ac adborth manwl i arwain gwelliant pellach.
Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 1 i 6
Mae'r argymhellion hyn ar gyfer lleoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd ac rydym yn derbyn eu cynnwys. Rydym yn croesawu'r argymhellion hyn gan eu bod yn adlewyrchu ein disgwyliadau ni ein hunain i bob dysgwr ddatblygu sgiliau llythrennedd lefel uchel yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol, waeth beth fo'u cefndir.
Mae fframwaith canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020, wrth wraidd cenhadaeth ein cenedl i godi safonau i bawb, mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac sy'n mwynhau hyder y cyhoedd. Byddwn yn cefnogi pob ysgol a lleoliad i adfer o brofiadau'r flwyddyn ddiwethaf ac i symud ymlaen i ddiwygio a gwireddu'r cwricwlwm.
Mae llythrennedd yn sgìl trawsgwricwlaidd sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a lleoliad ei gynnwys yn eu cwricwla a sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu a chymhwyso eu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu yng nghyd-destun dysgu ehangach. Yn fwy penodol, mae'r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn mynd i'r afael ag agwedd sylfaenol o gyfathrebu ac yn cefnogi dysgu ar draws y cwricwlwm cyfan i alluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau mewn Cymraeg, Saesneg, ieithoedd rhyngwladol a llenyddiaeth. Ystyriaethau pwysig yn y maes hwn yw cydnabod bod camau cynharaf dysgu darllen yn dibynnu ar yr iaith lafar sydd gan ddysgwyr a bod datblygu sgiliau gwrando a siarad da felly yn hanfodol i lwyddiant wrth ddysgu darllen. At hynny, mae'n cydnabod y dylai dysgwyr ennill sgiliau darllen cynnar mewn amgylchedd iaith cyfoethog, lle mae gweithgareddau'n ystyrlon, yn ddychmygus ac yn amrywiol. Dylai'r gweithgareddau hyn feithrin diddordeb dysgwyr mewn darllen er mwynhad, at ddibenion dychmygus ac ar gyfer dysgu.
Mae'r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn gosod disgwyliad y bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiad (gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu) gyda chymhlethdod a soffistigeiddrwydd cynyddol. Mae'n cydnabod nad yw gallu datgodio geiriau ar eu pen eu hunain yn ddigon a bod angen i ddarllenwyr allu gwneud synnwyr o'r hyn y maent yn ei ddarllen. Dylai addysgu alluogi dysgwyr i ennill ystod o sgiliau a chymhwyso strategaethau gwahanol er mwyn dod yn ddarllenwyr rhugl, gydag ysgolion yn creu diwylliant darllen cadarnhaol sy'n trochi dysgwyr mewn llenyddiaeth ac yn tanio brwdfrydedd. Dylid dewis llenyddiaeth sy’n ddigon cyfoethog i ennyn diddordeb dysgwyr yn ddeallusol ac yn emosiynol. Dylai hyn roi sail gadarn i ddysgwyr ar gyfer datblygu ac ymestyn eu sgiliau iaith a llythrennedd.
Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid o'r sectorau a gynhelir ac nas cynhelir i gyd-lunio canllawiau ychwanegol ar gyfer ymarferwyr sy'n gweithio gyda dysgwyr yn y cyfnod dysgu yn arwain at gam cynnydd 1. Mae'r canllawiau Agor Llwybrau yn canolbwyntio ar yr egwyddorion allweddol sy'n hanfodol ar gyfer dysgu cyfannol ac ystyrlon er mwyn sicrhau bod ysgolion a lleoliadau yn gallu cynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm priodol a fydd yn cefnogi cynnydd ar draws pob maes dysgu a phrofiad.
Rydym hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid o'r sector nas cynhelir i gyd-lunio a sicrhau ansawdd fframwaith cwricwlwm ac asesu ar gyfer y sector nas cynhelir a ariennir, i'w fabwysiadu os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Bydd y fframwaith yn cynnwys yr egwyddorion allweddol sydd wedi'u hymgorffori yn y canllawiau Agor Llwybrau, ond bydd yn adeiladu ar yr egwyddorion hynny i sicrhau bod ymarferwyr yn y sector nas cynhelir yn gallu cyflwyno cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n briodol yn ddatblygiadol i'n dysgwyr ieuengaf gan eu cefnogi i ddatblygu'r sgiliau sylfaenol a fydd yn allweddol i'w cynnydd ar draws y continwwm dysgu.
Bydd Agor Llwybrau a'r fframwaith cwricwlwm ac asesu ar gyfer y sector nas cynhelir yn cael eu cyhoeddi at ddibenion ymgynghori ym mis Mai.
Argymhelliad 7
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy’n bodloni anghenion unigol lleoliadau ac ysgolion, i sicrhau bod yr holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig, yn gwella eu medrau iaith a llythrennedd.
Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 7
Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn ymgysylltu'n rheolaidd ag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol a byddwn yn tynnu eu sylw at yr argymhelliad hwn. Mae Cynllun Gweithredu'r Cwricwlwm a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021 yn nodi rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer consortia rhanbarthol a sefydliadau partner eraill. Mae hyn yn cynnwys darparu rhaglen dysgu proffesiynol a chymorth pwrpasol i ysgolion a lleoliadau. Bydd y rhain yn cael eu datblygu yn unol â gweledigaeth pedwar diben y cwricwlwm gan sicrhau bod pob dysgwr yn elwa o addysg eang a chytbwys gyda disgwyliadau uchel i bawb, waeth beth fo'u cefndir.
Argymhelliad 8
Dylai Llywodraeth Cymru werthuso defnydd lleoliadau ac ysgolion o gyllid wedi’i dargedu, fel y grant datblygu disgyblion blynyddoedd cynnar a’r grant datblygu disgyblion, er mwyn gwella medrau iaith a llythrennedd disgyblion cymwys.
Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 8
- Mae mynd i'r afael ag effeithiau anfantais ac amddifadedd ar blant a phobl ifanc yn ganolog i'n Grant Datblygu Disgyblion blaenllaw. Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn darparu cyllid ychwanegol i ysgolion, y blynyddoedd cynnar a lleoliadau eraill i alluogi dysgwyr difreintiedig i gyflawni eu deilliannau addysgol gorau. Caiff y rhan fwyaf o'r grant ei ddarparu'n uniongyrchol i ysgolion a lleoliadau, ac eithrio'r Grant Datblygu Disgyblion sy'n Derbyn Gofal sy'n cael ei reoli'n rhanbarthol gan y consortia.
- Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym wedi ymestyn y Grant Datblygu Disgyblion. Mae bellach yn cefnogi hyd yn oed mwy o'n dysgwyr difreintiedig, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal, y rhai yn y blynyddoedd cynnar, y rhai mewn unedau cyfeirio disgyblion a darpariaeth EOTAS. Rydym yn parhau i fuddsoddi'r lefelau uchaf erioed drwy'r Grant Datblygu Disgyblion, dros £100m yn 2021-22 i wella canlyniadau i'n dysgwyr mwyaf agored i niwed.
- Mae torri'r cylch tlodi ac anfantais yn parhau i fod yn un o ymrwymiadau clir Llywodraeth Cymru. Ers ei gyflwyno yn 2012, rydym wedi darparu dros £585 miliwn drwy'r Grant Datblygu Disgyblion gan gefnogi'r hyn sy'n cyfateb i dros 530,000 o blant a phobl ifanc i gyflawni eu deilliannau addysgol gorau. Rydym yn cydnabod po gynharaf y byddwch yn cefnogi plentyn, y gorau oll fydd eu deilliannau.
Yn nhelerau ac amodau'r grant gofynnwn i gonsortia addysg rhanbarthol adrodd yn benodol ar sicrhau bod ysgolion yn adnewyddu eu gweithgarwch mewn perthynas â llythrennedd a rhifedd er mwyn cydymffurfio â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol, ac yn benodol i wella sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, gyda'r nod o sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gadael Cyfnod Allweddol 2 neu Gyfnod Allweddol 3 â sgiliau llythrennedd gwael.
Rôl cynghorwyr strategol y consortia addysg rhanbarthol yw sicrhau bod y defnydd o gyllid wedi'i dargedu yn seiliedig ar dystiolaeth gyda gwerthuso yn rhan allweddol o'r broses. Mae'r gwaith hwn yn cyfrannu at y cynlluniau busnes blynyddol a gyflwynir i Lywodraeth Cymru gan gonsortia addysg rhanbarthol ar sut y maent yn bwriadu defnyddio cyllid y Grant Datblygu Disgyblion.
Manylion cyhoeddi
Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar 4 Mawrth 2021 neu ar ol hynny, a gellir ei weld ar wefan Estyn.