Beth ddylwn i wneud os dwi’n gorfod aros adref?

Os oes gennych chi symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, rhaid i chi hunanynysu yn syth ac archebu prawf ar-lein, drwy ffonio 119, neu drwy ap COVID-19 y GIG. Os ydych yn profi'n bositif, neu'n cael eich adnabod fel cyswllt agos â rhywun sydd wedi, rhaid i chi aros gartref am o leiaf 10 diwrnod. Dilynwch canllawiau ar aros adref.
Paratoi ar gyfer hunanynysu
Gall hunanynysu fod yn haws os ydych wedi paratoi amdano, ac yn gwybod beth fydd ei angen arnoch a pha drefniadau y mae angen i chi eu gwneud. Dyma rai pethau i feddwl amdanynt i helpu i baratoi ar gyfer hunanynysu:
Ynysu
I wybod pa mor hir y bydd angen ichi hunanynysu, darllenwch ganllawiau Llywodraeth Cymru am aros gartref.
Bwyd a hanfodion
oes gennych chi ddigon o fwyd ar gyfer eich cyfnod hunanynysu? Os nad oes digon, dylech siopa ar-lein neu ofyn i deulu neu ffrindiau fynd i siopa i chi. Mwy o wybodaeth am gymorth a gwybodaeth yma.
Meddyginiaeth
Cysylltwch â’r fferyllfa leol i ofyn iddynt ddelifro eich presgripsiwn, neu gofynnwch i rywun ei gasglu i chi. Gallwch roi moddion cyffredin ‘dros y cownter’ yn eich archeb siopa ar-lein. Mae mwy o wybodaeth ar-lein.
Arian
Oes gennych ddigon o arian i dalu am bethau fel rhent neu filiau? Os nad oes digon gennych, ffoniwch y cwmnïau i esbonio’r sefyllfa. I weld a ydych yn gymwys i gael y taliad hunanynysu £500, ewch ar-lein.
Gwaith
Holwch eich rheolwr ynghylch tâl salwch neu os ydych yn hunangyflogedig darllenwch ganllawiau Llywodraeth Cymru am y cymorth sydd ar gael.
Anifeiliaid anwes
Gwnewch yn siŵr bod gennych fwyd a chyflenwadau i’ch anifeiliaid. Os yw’n anodd i chi ofalu am eich anifeiliaid anwes, gofynnwch i’ch teulu, ffrindiau neu gymdogion fynd â nhw am dro neu eu bwydo.
Gwasanaethau cartref nad ydynt yn hanfodol
Dylech ohirio pob gwaith atgyweirio a gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol yn eich cartref tan ddiwedd eich cyfnod hunanynysu.
Cadw mewn cysylltiad
Defnyddiwch y ffôn, neges testun, ebyst, galwadau fideo neu’r cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
Mental health and wellbeing
You can get free advice and help online, by calling 0800 132 737 or texting: HELP to 81066.
Iechyd meddwl a llesiant
I gael cyngor a chymorth am ddim, ewch ar-lein, ffoniwch 0800 132 737 neu tecstiwch HELP i 81066
Cadw’n actif
Meddwl am bethau y gallwch chi eu gwneud yn ystod eich amser gartref. Mae pobl sydd wedi cwblhau cyfnod o aros gartref yn llwyddiannus wedi cadw eu hunain yn brysur gyda gweithgareddau fel coginio, darllen, dysgu ar-lein a gwylio ffilmiau.
Pan rydych yn teimlo yn well, cofiwch y gall ymarfer corfforol fod yn dda i’ch lles. Chwiliwch am ddosbarthiadau neu gyrsiau ar-lein a all eich helpu i wneud ymarfer ysgafn yn eich cartref. Darganfyddwch sut y gallwch chi gadw’n ffit a phrysur yn ddiogel.
Gwasanaethau darparu bocsus bwyd a meddyginiaethau
Os nad oes gennych neb a all eich helpu gyda bwyd neu feddyginiaeth, mae’n bosib y gallwch gael cymorth gan eich awdurdod lleol neu gan grwpiau gwirfoddol.
Os ydych wedi bod yn gwarchod eich hun, darllenwch y canllawiau diweddaraf.
Cael help gan eraill
Os oes rhywun nad ydych chi’n ei adnabod yn galw yn eich cartref:
- gofynnwch am ID bob tro a sicrhewch eich bod yn gyfforddus yn rhannu manylion fel eich rhif ffôn neu'ch cyfeiriad
- dim ond os ydych wedi gweld ID a bod gwir angen yr wybodaeth y dylech ei rhannu
- peidiwch â theimlo dan bwysau i roi gwybodaeth i neb
- os oes gennych amheuon am unrhyw un, ac yn bryderus, peidiwch â siarad gyda nhw o gwbl a rhowch wybod i’r heddlu am unrhyw ymddygiad amheus
Cofiwch fod gwirfoddolwyr dilys wedi cael cyfarwyddyd i beidio â mynd i mewn i’ch tŷ, a dylai pob un ohonynt fod â dogfennaeth i brofi eu statws.
Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf
I gael gwybod y diweddaraf am y coronafeirws, ewch ar wefan Llywodraeth Cymru.