Yng nghynhadledd cenedlaethol Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi canmol gweithlu gofal cymdeithasol ymroddgar Cymru.
Gan edrych yn ôl dros gyfnod o bron i bum mlynedd fel y Dirprwy Weinidog gyda chyfrifoldeb dros ofal cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, ac ar ei phrofiad hi ei hun yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol cyn hynny, diolchodd i'r gweithwyr gofal cymdeithasol a'u canmol am eu hymroddiad.
Wrth siarad yn y gynhadledd, sy'n cynrychioli prif arweinwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol mewn llywodraeth leol, dywedodd:
Mae'n anodd dod o hyd i'r union eiriau i wneud cyfiawnder ag ymroddiad llwyr staff gofal cymdeithasol ym mhob cwr o Gymru i'r bobl y maen nhw'n gweithio gyda nhw. Maen nhw'n helpu'r bobl hynny i fyw eu bywydau yn y ffordd orau posibl.
Mae ein timau gofal cymdeithasol yn trin pobl gyda chymaint o barch – mae hyn wedi creu cryn argraff arnaf.
I wneud yr hyn y mae ein gweithlu gofal cymdeithasol yn ei wneud, mae'n rhaid ichi fod yn unigolyn sy'n wirioneddol ofalgar o bobl eraill.
Cawson ni gyfle i weld y gorau o'r sector yn dod i’r amlwg yn ystod y cyfnodau mwyaf anodd o'r pandemig COVID.
Rydw i am i bob unigolyn yn y sector gofal cymdeithasol a weithiodd yn ddiflino drwy'r cyfnod hwnnw wybod y byddaf i’n ddiolchgar iddyn nhw am byth am bopeth wnaethon nhw. Roedd nifer y marwolaethau yn erchyll o uchel. Ond, oni bai am ymrwymiad, cydweithrediad ac arbenigedd ein staff gofal cymdeithasol, byddai'r canlyniadau wedi bod yn waeth i lawer o bobl.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddiwygio'r sector gofal cymdeithasol. Cafodd ymgynghoriad ei gynnal dros yr haf ar ‘Ailgydbwyso Gofal a Chymorth’ fel rhan o'r gwaith i gadarnhau'r trefniadau gofal cymdeithasol ar lefel genedlaethol.
Fis Tachwedd diwethaf, cafodd argymhellion y Panel o Arbenigwyr a sefydlwyd i ymchwilio i'r posibiliadau ar gyfer sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, sy’n un o ymrwymiadau allweddol y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, eu cyhoeddi.
Yn ddiweddarach eleni, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi cynllun gweithredu a fydd yn nodi sut y bydd yn mynd ati i ymateb i argymhellion Panel yr Arbenigwyr. Fel rhan o gynllun gweithredu'r Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy eto i ennyn diddordeb eang ymhlith sefydliadau a'r cyhoedd.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:
Mae cyfran y boblogaeth hŷn yng Nghymru yn fwy nag yw mewn unrhyw ran arall o'r DU yn barod. Mae mwy nag un o bob pump o bobl yn 65 oed neu'n hŷn, a chynyddu eto fydd y gyfran honno yn y dyfodol.
Mae mwy o oedolion o bob oed angen gofal a chymorth i aros yn annibynnol, ac mae mwy o heriau yn ein hwynebu er mwyn cefnogi lles plant. I sicrhau bod gennym system sy'n barod at y dyfodol, felly, mae angen inni ailystyried o ddifrif sut i ofalu am ein poblogaeth hŷn.