Bydd cynhadledd ac arddangosfa ar Dechnolegau'r Gofod a gynhelir yng Nghaerdydd yfory (dydd Mercher, 5 Ebrill), yn tynnu sylw BBaChau sy'n gweithio ym maes technoleg
Mae'r digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru a'i gefnogi gan ESTnet (rhwydwaith y sector technoleg yng Nghymru). Bydd croeso yno i unrhyw gwmnïau technoleg o Gymru, yn enwedig y rheini sy'n gweithio ym maes technolegau meddalwedd, gan gynnwys data mawr, dadansoddeg, y rhyngrwyd pethau a seiberddiogelwch.
Y neges allweddol i gwmnïau technoleg Cymru yw bod y diwydiant gofod yn gallu defnyddio llawer o'r offer, y gwasanaethau, y technolegau a'r cynhyrchion y maent yn eu datblygu. Mae'r diwydiant hwnnw wrthi'n chwilio am sectorau eraill i ddatblygu cynhyrchion a thechnolegau a fydd yn ei helpu i dyfu.
Mae nifer o sefydliadau uchel eu proffil yn cefnogi'r digwyddiad a bydd siaradwyr yno o Asiantaeth Gofod y DU ac Asiantaeth Gofod Ewrop, y Catapwlt Cymwysiadau Lloerenni, Seraphim Capital a Thales Alenia Space.
Bydd cyfleoedd i fusnesau o Gymru elwa ar y diwydiant gofod ehangach yn cael sylw yn ddiweddarach yn y mis hefyd (dydd Mercher, 26 Ebrill) mewn digwyddiad sy'n cael ei drefnu gan Brifysgol Aberystwyth, Monitro'r Gofod a'r Ddaear: nodi cyfleoedd i ddatblygu'ch busnes.
Mae'n cael ei anelu at fusnesau sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y sector gofod ac sy'n awyddus i wneud mwy gyda'r sector hwnnw. Bydd gwybodaeth ar gael am gyfleoedd posibl i ddenu cyllid ac i gydweithio ac am sut i fynd ati i ddatblygu sgiliau.
Mae'n cael ei dargedu at amryw o gwmnïau yn amrywio o gwmnïau ymgynghori sy'n gweithio ym maes yr amgylchedd i arbenigwyr ym maes cerbydau awyr di-griw, ac o ddatblygwyr meddalwedd i ddatblygwyr lloerenni ac arbenigwyr ym maes roboteg a ffotoneg.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
“Mae'r digwyddiadau hyn yn dangos bod y diwydiant gofod yn cynnig mwy a mwy o gyfleoedd i fusnesau yng Nghymru ac maen nhw'n gyfle gwych i ddysgu mwy am sector.
"Y neges allweddol yw bod cyfleoedd i'r BBaChau hynny sydd â'u bys ar y pyls yn y sector technegol chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi'r sector gofod, a bod hwn yn gyfle go iawn i gwmnïau technegol o Gymru gael troedle mewn marchnad newydd."
Bydd cyfuniad o gyflwyniadau i roi gwybod i fusnesau am gyfleoedd yn y diwydiannau gofod ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a hefyd am y cymorth sydd ar gael drwy Innovate UK, y Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth, sefydliadau academaidd a'r Catapyltiau.
Dywedodd Avril Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr ESTnet:
"Mae datblygiad diwydiant gofod y DU yn cynnig cryn gyfleoedd i'r sector technoleg yng Nghymru.
"Mae'r diwydiant technoleg yng Nghymru yn tyfu'n gyflym, a chan mai ni yw'r rhwydwaith ar ei gyfer, rydyn ni'n gwybod y bydd ein haelodau’n gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr o ran sbarduno ymdrechion y DU yn y gofod. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ein haelodau'n cael pob cyfle i ymchwilio i gyfleoedd o'r fath ac i fynd ar drywydd partneriaethau gwerthfawr gyda sefydliadau a chwmnïau sy'n gweithio yn niwydiant gofod y DU."