Neidio i'r prif gynnwy

Er mwyn gwella’r ddarpariaeth o ddata amserol sydd ar gael ynglŷn â’r coronafeirws (COVID-19) mewn cartrefi gofal i oedolion mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o nifer y cartrefi gofal i oedolion sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd a chyfrifiadau dros dro o farwolaethau mewn cartrefi gofal, yn seiliedig ar yr wybodaeth y mae darparwyr cartrefi gofal yn ei rhoi i ACG. Mae’r wybodaeth hon yn helpu i fonitro effeithiau COVID-19, ac yn cyfrannu at y broses o fonitro a gwneud penderfyniadau ledled Cymru a’r DU.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am nifer y cartrefi gofal i oedolion a roddodd wybod i AGC am un neu fwy o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd yn y 7 ac 20 diwrnod diwethaf. Nid yw’r data hyn ond yn dangos nifer y cartrefi gofal sydd wedi rhoi gwybod i AGC am achos o COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith eu staff neu breswylwyr ac nid yw’n dangos cyfanswm nifer yr achosion o coronafeirws ar gyfer y cartref gofal hwnnw. Gan fod y data yn dangos nifer y cartrefi gofal sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion o COVID-19 yn y 7 neu 20 diwrnod diwethaf, nid ydynt yn dangos a oes achos o coronafeirws yn y cartref gofal ar hyn o bryd. Mae’r data yn dibynnu ar adroddiadau cyson a manwl gywir gan ddarparwyr cofrestredig. Mae'r data hyn wedi cael eu casglu i lywio gweithgareddau a phenderfyniadau rheoleiddio AGC, ac mae'n galluogi AGC i fonitro'r cartrefi gofal sydd ag achosion o COVID-19.

Prif ganlyniadau

  • Mae 71 o gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru wedi rhoi gwybod i AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr yn y 7 diwrnod diwethaf.
  • Mae 221 o gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru wedi rhoi gwybod i AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr yn yr 20 diwrnod diwethaf.
  • Mae AGC wedi derbyn hysbysiad o 11,090 o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion ers 1 Mawrth 2020. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achosion, nid COVID-19 yn unig.
  • Roedd 66.5% o’r cyfanswm o farwolaethau ers 1 Mawrth 2020 am breswylwyr mewn cartrefi gofal gyda nyrsio.
  • Ers 1 Mawrth 2020 mae AGC wedi cael gwybod am 1,966 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal oherwydd COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd. Mae hyn yn 17.7% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd ymysg preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion yn ystod y cyfnod hwn.
  • Yn ystod y pythefnos diwethaf, adroddwyd am 24 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal am resymau’n gysylltiedig â COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd.
  • Yng Nghymru mae 1,045 o gartrefi gofal i oedolion ac 16 o gartrefi gofal i oedolion a phlant.

Hysbysu am achosion

Mae’r adran hon yn ymdrin â nifer y cartrefi gofal i oedolion a chartrefi gofal i blant a roddodd wybod i AGC am un neu fwy o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd yn y 7 ac 20 diwrnod diwethaf. Nid yw’r data yn cynnwys y nifer cyfredol o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd mewn cartrefi gofal i oedolion nac yn rhoi gwybod a oes achos yn y cartref ar hyn o bryd.

Image
Mae Siart 1 yn dangos y nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd wedi hysbysu AGC am achos COVID-19 a gadarnhawyd yn y 7 a 20 diwrnod diwethaf hyd 22 Medi 2021. Mae 71 o gartrefi gofal i oedolion wedi rhoi gwybod yn y 7 diwrnod diwethaf a 221 wedi rhoi gwybod yn y 20 diwrnod diwethaf.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Mae'n bosibl y bydd y data hyn yn cael eu diwygio ac nid yw cyhoeddiadau blaenorol yn cael eu diwygio. Y ffigurau diweddaraf yw'r rhai mwyaf cyfredol.

Ar 22 Medi 2021

  • Gwnaeth nifer y cartrefi gofal i oedolion a hysbysodd AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd, ymhlith staff neu breswylwyr, yn y 7 ac 20 diwrnod diwethaf, ostwng yn gyffredinol o Ionawr 2021 ymlaen. Ers 2 Mehefin 2021, mae nifer yr hysbysiadau wedi cynyddu'n gyffredinol, ond bu gostyngiad bach dros yr wythnos ddiweddaraf.
  • Mae 71 (6.7%) o gartrefi gofal i oedolion wedi hysbysu AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd, ymhlith staff neu breswylwyr, yn y 7 diwrnod diwethaf. Mae hyn yn ostyngiad o gymharu â 101 (9.5%) yn y 7 diwrnod hyd 15 Medi 2021.
  • Mae 221 (20.8%) o gartrefi gofal i oedolion wedi hysbysu AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr yn yr 20 diwrnod diwethaf. Mae hyn yn ostyngiad o gymharu â 227 (21.4%) yn yr 20 diwrnod hyd 15 Medi 2021.

Hysbysiadau o farwolaethau

Mae’r adran hon yn ymdrin â nifer y marwolaethau yn ymwneud â phreswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion, a chartrefi gofal i oedolion a phlant, yn seiliedig ar hysbysiadau statudol gan ddarparwyr cartrefi gofal i AGC.

Image
Mae’r AGC wedi cael eu hysbysu am 11090 o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion ers 1 Mawrth 2020. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achos, nid COVID-19 yn unig. Mae hyn 14.4% yn uwch na nifer y marwolaethau yr adroddwyd amdanynt yn yr un cyfnod y flwyddyn diwethaf, heb gynnwys marwolaethau COVID-19 ar gyfer 2020, a 28.7% yn uwch nag yn yr un cyfnod ddwy flynedd yn ôl.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Mae cyfartaledd y cyfartaleddau treigl 7 diwrnod ar gyfer 2018 a 2019 wedi’i gynnwys fel cymhariaeth â data 2020-2021.

Mae data dyddiol ar gael o 1 Ionawr 2018 yn unig. Felly, mae’r cyfartaledd treigl 7 diwrnod ar gyfer 2018 a 2019 yn dechrau ar 7 Ionawr er mwyn osgoi gostyngiad camarweiniol yn y cyfartaledd ar gyfer y ddwy flynedd, pan nad oedd wythnos gyfan o ddata ar gael.

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd yr hysbysiadau o farwolaethau ymhlith preswylwyr cartrefi gofal i oedolion yn sydyn o ddechrau mis Ebrill 2020 gan gyrraedd uchafbwynt ar ddechrau mis Mai 2020. Erbyn canol mis Mehefin roedd hysbysiadau wedi dychwelyd i gyfartaledd 2018 a 2019.
  • O ddechrau mis Ionawr 2021, roedd cynnydd yn nifer yr hysbysiadau ond roedd hyn yn parhau'n is na'r uchafbwynt ym mis Mai 2020. Yn dilyn hyn, roedd nifer yr hysbysiadau yn gyffredinol is neu’n debyg i gyfartaledd 2018 a 2019 hyd canol mis Gorffennaf 2021.
  • O 19 Gorffennaf 2021, gwelwyd cynnydd yn nifer yr hysbysiadau am farwolaethau mewn cartrefi gofal i oedolion ac maent wedi bod yn amrywio ers hynny. Fodd bynnag, maent yn parhau ychydig yn uwch na chyfartaledd 2018 a 2019.
  • Rhwng 1 Mawrth 2020 a 22 Medi 2021, hysbyswyd AGC am 11,090 o farwolaethau ymhlith preswylwyr cartrefi gofal i oedolion. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achos, nid COVID-19 yn unig.
Image
Roedd 66.5% o farwolaethau mewn cartrefi gofal i oedolion wedi'u lleoli mewn cartrefi gofal â nyrsio. Roedd 33.5% o'r marwolaethau wedi'u lleoli mewn cartrefi gofal heb nyrsio.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Ceir dadansoddiad llawn o'r holl ddata o 1 Ionawr 2018 ar StatsCymru. Yn ystod 2019, roedd gwasanaethau cartrefi gofal yn cael eu hail-gofrestru gyda AGC o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd, a gyflwynodd ddull newydd o hysbysu AGC am farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal. Gallai fod hyn wedi amharu rhywfaint ar yr hysbysiadau a gyflwynwyd.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 1 Mawrth 2020 a 22 Medi 2021, hysbyswyd AGC am 7,379 o farwolaethau (66.5%) â nyrsio a 3,711 o farwolaethau (33.5%) heb nyrsio ymhlith preswylwyr cartrefi gofal i oedolion.
Image
Cafodd AGC hysbysiad o 1966 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19. Mae hyn yn ffurfio 17.7% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd. Cafodd 1447 o rain eu hadrodd fel achos cadarnhaol o COVID-19 a 519 fel achosion bosib o COVID-19. Roedd yr achos cyntaf o farwolaeth COVID-19 a hysbyswyd i AGC ar 16 Mawrth 2020, a ddigwyddodd mewn lleoliad ysbyty.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Mae’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn y siart yn cynnwys achosion o COVID-19 sydd wedi’u cadarnhau ac achosion yr amheuir mai COVID-19 ydynt. Ehangwyd y polisi profi mewn cartrefi gofal ar 16 Mai 2020 i gynnwys profion a gynigir i bob aelod o staff a phob preswyliwr sy’n symptomatig ac asymptomatig ac nad ydynt erioed wedi profi'n bositif am COVID-19, hyd yn oed lle nad oedd y cartref wedi rhoi gwybod am achosion a amheuir neu achosion wedi’u cadarnhau. Gallai profion mwy eang fod wedi arwain at rai marwolaethau'n cael eu cofnodi fel marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID-19 pan fyddant o'r blaen efallai wedi cael eu cofnodi fel rhai yr amheuir eu bod yn farwolaeth oherwydd COVID-19.

O 1 Mawrth 2020 i 22 Medi 2021

  • Hysbyswyd AGC am 1,966 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal oherwydd achosion o COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd. Mae hyn yn 17.7% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd.
  • Adroddwyd bod 1,447 o’r rhain yn achosion o COVID-19 a gadarnhawyd a 519 yn achosion o COVID-19 a amheuir.
  • Digwyddodd yr achos cyntaf o farwolaeth COVID-19 yr hysbyswyd AGC amdano ar 16 Mawrth 2020, a hynny mewn lleoliad ysbyty.
  • Ar ddechrau mis Tachwedd 2020, bu cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yr hysbyswyd ACG amdanynt. Bu cynnydd pellach ym mis Ionawr 2021 a oedd yn uwch na'r nifer a welwyd ar ddiwedd mis Ebrill 2020.
  • Rhwng 27 Mawrth 2021 a 21 Mehefin 2021, ni adroddwyd am unrhyw farwolaethau ymhlith preswylwyr cartrefi gofal yn gysylltiedig â COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd. 
  • Yn y pythefnos diwethaf, adroddwyd am farwolaethau 24 o breswylwyr cartrefi gofal yn gysylltiedig â COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd.
Image
Roedd 68.3% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn y cartref gofal. Roedd 29.9% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn yr ysbyty.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Tabl 1: Hysbysiadau o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal i oedolion oherwydd COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd, yn ôl lleoliad y farwolaeth, 1 Mawrth 2020 i 22 Medi 2021
Lleoliad y farwolaeth Nifer
Ambiwlans 2
Yn y cartref gofal 1,342
Yr ysbyty 587
Hosbis 4
Arall 15
Cartref ei hunain 16
Anhysbys 0
Cyfanswm 1,966

Ffynhonnell: Hysbysiadau o Farwolaethau Preswylwyr Cartrefi Gofal a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru

O 1 Mawrth 2020 i 22 Medi 2021

  • Roedd 68.3% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion o COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd wedi’u lleoli yn y cartref gofal.
  • Roedd 29.9% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion o COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd wedi’u lleoli yn yr ysbyty.

Cefndir

Mae’r data yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y dyddiad hysbysu yn hytrach na dyddiad cadarnhau’r achos COVID-19 neu ddyddiad y farwolaeth. Mae hysbysiadau i AGC am achosion a gadarnhawyd ac achosion marwolaeth yn cael eu hadrodd gan ddarparwr y cartref gofal. Oherwydd y patrymau gwaith, tueddir i weld llai o hysbysiadau am achosion COVID-19 a gadarnhawyd neu farwolaethau yn ystod y penwythnosau o’i gymharu â dydd Llun i ddydd Gwener. Yn aml mae mwy o hysbysiadau ar ddydd Llun.

Mae’r data a ddefnyddir ar gyfer hysbysu am achosion a hysbysu am farwolaethau yn cyfuno cartrefi gofal i oedolion a chartrefi gofal i oedolion a phlant. Yng Nghymru mae 1,045 o gartrefi gofal i oedolion ac 16 o gartrefi gofal i oedolion a phlant.

Hysbysiadau o achosion COVID-19 a gadarnhawyd mewn cartrefi gofal i oedolion

Mae’r data a gyflwynir yma yn seiliedig ar yr hysbysiadau o achosion a gadarnhawyd y mae AGC wedi’u cael gan gartrefi gofal i oedolion, sy’n ymwneud â’u staff neu breswylwyr. Dim ond yn seiliedig ar ganlyniad prawf positif gan labordy y bydd angen i ddarparwr y cartref gofal roi gwybod i AGC. Efallai y bydd oedi rhwng cadarnhau achos o COVID-19 a phan fydd y darparwyr cartrefi gofal yn hysbysu AGC. Mae nifer yr achosion o COVID-19 a gadarnhawyd y cyfeirir atynt yma yn wahanol i nifer yr achosion newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid yw’n bosibl cymharu’r ffynonellau data hyn yn uniongyrchol oherwydd y gwahaniaeth mewn amseru a lefel y dilysiad a gynhaliwyd. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r data hyn i sicrhau bod mynediad at ddata AGC yn dryloyw ac yn rhoi syniad amserol o’r tueddiadau ar gyfer pob hysbysiad o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Mae AGC yn dibynnu ar gael gwybodaeth gyson a manwl gywir gan ddarparwyr. Mae AGC wedi gofyn i ddarparwyr eu hysbysu heb unrhyw oedi ond mae’n bwysig nodi:

  • nad yw’r data yn rhoi gwybod inni beth yw’r nifer cyfredol o achosion a gadarnhawyd mewn unrhyw gartref gofal i oedolion
  • nad yw’r data ond mor gywir â’r wybodaeth a roddwyd gan y darparwr
  • bod darparwyr yn rhoi gwybod am achosion a gadarnhawyd o 19 Awst 2020 ymlaen yn unig

Hysbysiadau o farwolaethau COVID-19 mewn cartrefi gofal i oedolion

Mae’r data a gyflwynir yma yn seiliedig ar yr Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan AGC o gartrefi gofal i oedolion sy’n ymwneud â’u preswylwyr. Gall lleoliad y farwolaeth fod o fewn y cartref gofal, yn yr ysbyty neu mewn lleoliad arall. Nid yw'r data yn seiliedig ar brofion a gadarnhawyd yn y labordy, ac nid oes modd eu cymharu yn uniongyrchol gyda data Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Yn eu dangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym, mae ICC yn cynnwys rhai hysbysiadau a dderbyniwyd o gartrefi gofal gyda phrawf positif am COVID-19 sydd wedi’i gadarnhau gan labordy. Ni all y data hyn cael eu hadio at ei gilydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r data hyn i sicrhau bod mynediad i ddata AGC yn dryloyw ac i roi syniad amserol o'r tueddiadau ar gyfer holl farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru, yn sgil COVID-19 neu fel arall. Mae AGC yn ddibynnol ar y darparwyr i hysbysu a nodi bod y marwolaethau yn gysylltiedig â COVID-19. Mae’r data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy’n cynnwys pob marwolaeth sydd yn gysylltiedig â COVID-19 yn ôl y dystysgrif marwolaeth, yn adrodd niferoedd uwch o farwolaethau oherwydd COVID-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda AGC a SYG i ymchwilio i ansawdd y data hyn.

Mae’r data a gynhwysir yn y datganiad yma yn gywir ar 23:59 22 Medi 2021.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Er mwyn gwella’r argaeledd amserol o ddata ar achosion a gadarnhawyd a marwolaethau mewn cartrefi gofal sydd wedi’i achosi gan y coronafeirws (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o’r nifer o achosion a gadarnhawyd a marwolaethau mewn cartrefi gofal, yn seiliedig ar hysbysiadau statudol gan ddarparwyr cartrefi gofal i’r AGC. Mae’r wybodaeth yma yn helpu i fonitro'r effeithiau o COVID-19, ac yn cyfrannu tuag at fonitro a phenderfyniadau ledled Cymru a’r DU.

Perthnasedd

Fel y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer darparwyr cartrefi gofal yng Nghymru, mae'n ofynnol yn statudol i ddarparwyr hysbysu AGC am farwolaethau preswylwyr. Mae’n ofynnol yn statudol i ddarparwyr cartrefi gofal hefyd roi gwybod i AGC am unrhyw frigiadau o achosion o glefydau heintus fel COVID-19. Mae AGC wedi gofyn i ddarparwyr cartrefi gofal roi gwybod iddo am bob achos o COVID-19 a gadarnhawyd mewn preswylwyr neu staff yn y cartref gofal, ond does dim gofyniad statudol i wneud hyn. Hefyd, defnyddir yr ystadegau hyn yn ddyddiol at nifer o ddibenion eraill:

  • i roi gwybodaeth i AGC i lywio eu gweithgareddau a’u penderfyniadau rheoleiddio
  • i ddeall effaith y pandemig ar gartrefi gofal
  • i gefnogi cyngor ar sail tystiolaeth am benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch adolygiadau o drefniadau cyfyngiadau symud
  • i gyfrannu at fonitro a gwneud penderfyniadau ledled Cymru a’r DU

Cywirdeb

Ers 21 Mai 2021, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi newid y diwrnod y maent yn cyflenwi data i Lywodraeth Cymru ar nifer y cartrefi i oedolion sy’n rhoi gwybod am un neu ragor o achosion o COVID-19 sydd wedi’u cadarnhau. Erbyn hyn, darperir y data’n wythnosol ar ddydd Mercher, yn hytrach na dydd Iau, oherwydd diweddariad ym mhrosesau mewnol AGC. O’r blaen roeddem yn cyhoeddi adroddiad ar nifer yr achosion o COVID-19 yn ystod y 7 neu 20 diwrnod diwethaf yn seiliedig ar ddata dydd Iau, ond nawr rydym yn cyfeirio at ddata dydd Mercher.

I sicrhau cysondeb â’r data hysbysu am achosion, fe wnaethom hefyd symud y data diweddaraf ar gyfer y nifer dros dro o farwolaethau mewn cartrefi gofal i oedolion i ddydd Mercher, yn hytrach na dydd Iau.

Rhwng 8 Ebrill a 21 Mai 2021, bu newid ym mha mor aml y mae AGC yn cyflenwi data i Lywodraeth Cymru ar nifer y cartrefi i oedolion sy’n rhoi gwybod am un neu fwy o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd. Yn lle eu darparu yn ddyddiol, roedd y data’n cael eu darparu’n wythnosol ar ddydd Iau. Y rheswm dros wneud y newid hwn oedd oherwydd mai ychydig iawn o newid sydd yn y data o ddydd i ddydd. Roedd hyn yn galluogi AGC i ryddhau peth o’r capasiti arolygu a chynyddu eu harolygiadau o wasanaethau. Dim ond ar y data am hysbysiadau o achosion yr effeithiodd y newid hwn. O’r blaen roedd Llywodraeth Cymru yn adrodd ar nifer yr achosion COVID-19 yn y 7 neu 20 diwrnod diwethaf yn seiliedig ar ddata ar y dydd Gwener, ond o 9 Ebrill ymlaen roedd Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y data ar y dydd Iau. Mae data dyddiol o’r cyfnod cyn 9 Ebrill 2021 yn dal i gael eu dangos yn Siart 1 a’u darparu ar StatsCymru i roi darlun llawn o’r data sydd ar gael. Ar ôl 9 Ebrill 2021, mae data wythnosol yn cael eu dangos, gan leihau’r amrywiadau yn y data, fel y dangosir yn y siartiau.

Yn dilyn y canllawiau cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 17 Rhagfyr 2020, gellir datgan bod brigiadau COVID-19 drosodd unwaith mae 20 diwrnod wedi mynd heibio ers i’r unigolyn diwethaf i gael ei heffeithio neu ddangos symptomau. Rhaid i dimau aml-ddisgyblaethol ystyried amgylchiadau penodol cartrefi unigolion, yn cynnwys y prosesau Atal a Rheoli Haint sydd wedi’u gweithredu. Yn unol â’r canllawiau, mae AGC wedi adolygu ei adroddiad hysbysiadau dyddiol i newid y mesur 28 diwrnod blaenorol i fesur 20 diwrnod. Mae’r newid yma wedi’i adlewyrchu yn y data sydd wedi’u cyflwyno yn y datganiad hwn.

Mae nifer y cartrefi gofal i oedolion yn yr adroddiad hwn yn amrywio. Mae hyn o ganlyniad i gofrestru cartrefi gofal newydd i oedolion a chau cartrefi gofal eraill. Er enghraifft, yn ystod mis Tachwedd 2020, tynnwyd 6 cartref gofal i oedolion oddi ar y rhestr ac ychwanegwyd 4 cartref o’r newydd. Ar gyfer hysbysiadau o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd mewn cartrefi gofal i oedolion, cesglir data yn wythnosol ar ffurflen ar-lein a ddatblygwyd ac a gynhelir gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Ar gyfer hysbysiadau o farwolaethau COVID-19 mewn cartrefi gofal i oedolion, cesglir data yn ddyddiol drwy gyfrwng ffurflen ar-lein a ddatblygwyd ac a gynhelir gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae’r data wedi’u dilysu yn erbyn datganiadau blaenorol a bydd unrhyw newidiadau sylweddol yn cael eu gwirio.

Mae’n ofynnol i gartrefi gofal roi gwybod i AGC am leoliad ac achosion marwolaethau. Cyn 29 Ebrill 2020 roedd hyn drwy flwch testun rhydd ac roedd AGC yn defnyddio chwiliadau â llaw ar y data i gynhyrchu crynodebau yn ôl categori. Ers 29 Ebrill 2020 diwygiwyd y ffurflen i gynnwys categorïau blwch ticio gorfodol ar gyfer achosion a gadarnhawyd/achosion a amheuir o COVID-19, ac i gynnwys lleoliad (ysbyty, cartref gofal, hosbis, ambiwlans, arall). O ganlyniad, newidiodd y fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu’r ffigurau o 29 Ebrill 2020 ymlaen.

O ran yr achosion ‘a gadarnhawyd’ o COVID-19, o Ebrill 29 2020 ymlaen, mae'r darparwyr cartrefi gofal wedi rhoi gwybod i AGC drwy ateb y cwestiwn: 'A oedd y farwolaeth wedi cael ei chadarnhau fel marwolaeth o ganlyniad i COVID-19?'.

Cyn y dyddiad hwn, ni ofynnwyd y cwestiwn yma i ddarparwr cartrefi gofal, felly 'a gadarnhawyd' ar gyfer y rhain yw lle mae arolygwyr AGC wedi adolygu'r data testun rhydd a roddwyd gan ddarparwr y cartref gofal (ar sail cwestiynau ‘achos marwolaeth y person, os yw'n hysbys ac wedi'i gadarnhau gan ymarferydd meddygol’ a 'crynodeb o'r amgylchiadau yn arwain at farwolaeth y person a'r holl ffactorau sy'n cyfrannu') a phenderfynu ei fod yn ymwneud ag achos a gadarnhawyd.

Yn y ddwy senario, mae AGC yn ddibynnol ar y darparwr cartref gofal i'w hysbysu'n briodol o achos a gadarnhawyd.

Mae’r data yn cynnwys yr holl hysbysiadau hyd at ganol nos pob diwrnod.

Mae’r casgliad data ar farwolaethau yn ymwneud â phreswylwyr o gartrefi gofal i oedolion.

Mae data am achosion o COVID-19 yn ymdrin â nifer y cartrefi gofal sydd wedi adrodd achos, nid nifer yr achosion na nifer yr adroddiadau.

Mae’r data ar achosion COVID-19 yn ymwneud â phreswylwyr a staff yn y cartref.

Mae’r casgliad data ar farwolaethau yn ymwneud â phreswylwyr cartrefi gofal i oedolion.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data hysbysiad o farwolaethau yn y datganiad hwn yn darparu data o 1 Ionawr 2018 ac ymlaen. Mae’r hysbysiad o ddata achosion COVID-19 a gadarnhawyd yn y datganiad hwn yn darparu data o 16 Rhagfyr 2020 ymlaen i ddechrau a byddwn yn ceisio cynnwys cyfres amser wedi’i ôl-ddyddio yn y man er mwyn adlewyrchu'r newid yn y canllawiau a ddigwyddodd ar 17 Rhagfyr 2020.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau ac Ymchwil o ein gwefan. Mae tablau StatsCymru yn cyd-fynd ag ef i ganiatáu i ddefnyddwyr gael mynediad uniongyrchol at y data tu ôl i'r siartiau yn y datganiad hwn.

Cymharedd

Cyhoeddwyd data hysbysiadau o farwolaethau ar gyfer Lloegr am y tro cyntaf ar 28 Ebrill 2020.

Mae'r Prif Ystadegydd wedi cynhyrchu blog o'r gwahanol ffynonellau data ar farwolaethau cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn belled ag sy’n bosib, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses o gasglu data a sicrhau ansawdd er mwyn gwella'r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddigwyddiadau sy’n datblygu dros y byd.

Deddf Llesaint Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Hynny yw, Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Rydym yn ystyried cyhoeddi datganiadau ystadegol COVID-19 yn llai aml, gan gynnwys y datganiad hwn. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu adborth ar sut rydych yn defnyddio’r datganiadau hyn, ac unrhyw newidiadau y gellir eu gwneud iddynt drwy kas.covid19@llyw.cymru.

Bydd y datganiad nesaf am 9.30yb ddydd Mercher 12 Hydref 2021.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 294/2021