Neidio i'r prif gynnwy

Er mwyn gwella’r argaeledd amserol o ddata yn ymwneud â coronafeirws (COVID-19) mewn cartrefi gofal i oedolion mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o’r nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd a chyfrifiadau dros dro o farwolaethau mewn cartrefi gofal, yn seiliedig ar hysbysiadau gan ddarparwyr cartrefi gofal i AGC. Mae’r wybodaeth yma yn helpu i fonitro'r effeithiau o COVID-19, ac yn cyfrannu tuag at fonitro a phenderfyniadau ledled Cymru a’r DU.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys gwybodaeth ar nifer y cartrefi gofal i oedolion a roddodd wybod i AGC am un neu fwy o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd yn y 7 ac 20 diwrnod diwethaf. Nid yw’r data hyn ond yn dangos nifer y cartrefi gofal sydd wedi rhoi gwybod i AGC am achos o COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith eu staff neu breswylwyr ac nid yw’n dangos cyfanswm nifer yr achosion o coronafeirws ar gyfer y cartref gofal hwnnw. Gan fod y data yn dangos nifer y cartrefi gofal sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion o COVID-19 yn y 7 neu 20 diwrnod diwethaf, nid ydynt yn dangos a oes achos o coronafeirws yn y cartref gofal ar hyn o bryd. Mae’r data yn dibynnu ar adroddiadau cyson a manwl gywir gan ddarparwyr cofrestredig. Mae'r data hyn wedi cael eu casglu i lywio gweithgareddau a phenderfyniadau rheoleiddio AGC, ac mae'n galluogi AGC i fonitro'r cartrefi gofal sydd ag achosion o COVID-19.

Prif ganlyniadau

  • Mae 12 o gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru wedi rhoi gwybod i AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr yn y 7 diwrnod diwethaf.
  • Mae 22 o gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru wedi rhoi gwybod i AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr yn y 20 diwrnod diwethaf.
  • Fe wnaeth nifer y cartrefi gofal i oedolion a hysbysodd AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd, ymhlith staff neu breswylwyr, yn y 7 a 20 diwrnod diwethaf, ostwng yn gyffredinol rhwng Ionawr 2021 a Mai 2021. Mae nifer yr hysbysiadau yn gymharol isel erbyn hyn ac felly bydd yn amrywio.
  • Mae AGC wedi derbyn hysbysiad o 9,581 o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion ers 1 Mawrth 2020. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achosion, nid COVID-19 yn unig.
  • Roedd 66.6% o’r cyfanswm o farwolaethau ers 1 Mawrth 2020 am breswylwyr mewn cartrefi gofal gyda nyrsio.
  • Mae AGC wedi derbyn hysbysiad o 1,922 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19 ers 1 Mawrth 2020. Mae hyn yn ffurfio 20.1% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd ymysg preswylwyr mewn cartrefi gofal oedolion yn ystod y cyfnod hwn.
  • Nid oes unrhyw farwolaethau preswylwyr gofal cartref sy'n gysylltiedig â COVID-19 wedi’u hamau neu gadarnhau wedi’u hadrodd ers 26 Mawrth 2021.
  • Yng Nghymru mae 1,049 o gartrefi gofal i oedolion ac 17 o gartrefi gofal i oedolion a phlant.

Hysbysiadau o achosion

Mae’r adran hon yn ymdrin â nifer y cartrefi gofal i oedolion a roddodd wybod i AGC am un neu fwy o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd yn y 7 ac 20 diwrnod diwethaf. Nid yw’r data yn cynnwys y nifer cyfredol o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd mewn cartrefi gofal i oedolion nac yn rhoi gwybod a oes achos yn y cartref ar hyn o bryd.

Image
Mae Siart 1 yn dangos y nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd wedi hysbysu AGC am achos COVID-19 a gadarnhawyd yn y 7 a 20 diwrnod diwethaf hyd 16 Mehefin 2021. Mae 12  o gartrefi gofal i oedolion wedi rhoi gwybod yn y 7 diwrnod diwethaf a 22 wedi rhoi gwybod yn y 20 diwrnod diwethaf.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Mae'r data hwn yn ddarostyngedig i ddiwygiadau ac nid yw cyhoeddiadau blaenorol yn cael eu diwygio. Y ffigurau diweddaraf yw'r ffigurau mwyaf cyfoes.

Ar 16 Mehefin 2021

  • Mae 12 (1.1%) o gartrefi gofal i oedolion wedi hysbysu AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd, ymhlith staff neu breswylwyr, yn y 7 diwrnod diwethaf. Mae hyn yn gynnydd o gymharu â 11 (1.0%) yn y 7 diwrnod hyd 9 Mehefin 2021. Mae nifer yr hysbysiadau yn gymharol isel erbyn hyn ac felly bydd yn amrywio.
  • Mae 22 (2.1%) o gartrefi gofal i oedolion wedi hysbysu AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr yn y 20 diwrnod diwethaf. Mae hyn yn gynnydd o gymharu â 16 (1.5%) yn y 20 diwrnod hyd 9 Mehefin 2021. Mae nifer yr hysbysiadau yn gymharol isel erbyn hyn ac felly bydd yn amrywio.

Hysbysiadau o farwolaethau

Mae’r adran hon yn ymdrin â’r nifer o farwolaethau yn ymwneud â phreswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion, a gartrefi gofal i oedolion a phlant, yn seiliedig ar hysbysiadau statudol gan ddarparwyr cartrefi gofal i AGC.

Image
Mae’r AGC wedi derbyn hysbysiad o 9581 o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion ers 1 Mawrth 2020. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achosion, nid yn unig COVID-19. Mae hyn 15.6% yn uwch na’r nifer o farwolaethau adroddwyd am yr un cyfnod blwyddyn ddiwethaf, ac yn 31.5% yn uwch na’r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Mae cyfartaledd cyfartaleddau treigl 7 diwrnod 2018 a 2019 wedi’i gynnwys fel cymhariaeth â data 2020-2021.

Mae data dyddiol ar gael o 1 Ionawr 2018 yn unig. Felly, mae’r cyfartaledd treigl 7 diwrnod ar gyfer 2018 a 2019 yn dechrau ar 7 Ionawr er mwyn osgoi gostyngiad camarweiniol yn y cyfartaledd ar gyfer y ddwy flynedd, pan nad oedd wythnos gyfan o ddata ar gael.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 1 Mawrth 2020 a 16 Mehefin 2021, hysbyswyd AGC am 9,581 o farwolaethau ymhlith preswylwyr cartrefi gofal i oedolion. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achos, nid COVID-19 yn unig.
  • Cynyddodd yr hysbysiadau o farwolaethau ymhlith preswylwyr cartrefi gofal i oedolion yn sydyn o ddechrau mis Ebrill 2020 hyd at ddechrau mis Mai 2020 i'r lefel uchaf ers dechrau'r pandemig. Ar ôl hyn fe wnaethant ostwng i lefelau sy'n agos at y lefelau cyn y pandemig ac, yn gyffredinol, roeddent yn dilyn yr un duedd â chyfartaledd 2018 a 2019 tan ddiwedd mis Hydref 2020.
  • Rhwng dechrau mis Tachwedd 2020 a diwedd mis Rhagfyr 2020, roedd yr hysbysiadau'n dilyn tuedd debyg i gyfartaledd 2018 a 2019 ond roedd y niferoedd yn gyson uwch. Ym mis Ionawr a mis Chwefror 2021 gwelwyd cynnydd sydyn yn nifer yr hysbysiadau ond roedd hyn yn parhau'n is na'r uchafbwynt yn 2020. Ers 1 Mawrth 2021, mae nifer yr hysbysiadau wedi gostwng ac yn gyffredinol wedi bod yn is neu’n debyg i gyfartaledd 2018 a 2019.
Image
Roedd 66.6% o farwolaethau mewn cartrefi gofal i oedolion wedi'u lleoli mewn cartrefi gofal â nyrsio. Roedd 33.4% o'r marwolaethau wedi'u lleoli mewn cartrefi gofal heb nyrsio.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Ceir dadansoddiad llawn o'r holl ddata o 1 Ionawr 2018 ar StatsCymru. Yn ystod 2019, roedd gwasanaethau cartrefi gofal yn cael eu hail-gofrestru gyda AGC o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd, a chyflwynodd dull newydd o hysbysu AGC am farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal. Gallai fod hyn wedi amharu ar yr hysbysiadau a gyflwynwyd.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 1 Mawrth 2020 a 16 Mehefin 2021, hysbyswyd AGC am 6,382 o farwolaethau (66.6%) â nyrsio a 3,199 o farwolaethau (33.4%) heb nyrsio ymhlith preswylwyr cartrefi gofal i oedolion.
Image
Cafodd AGC hysbysiad o 1922 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19. Mae hyn yn ffurfio 20.1% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd. Cafodd 1408 o rain eu hadrodd fel achos cadarnhaol o COVID-19 a 514 fel achosion bosib o COVID-19. Roedd yr achos cyntaf o farwolaeth COVID-19 a hysbyswyd i AGC ar 16 Mawrth 2020, a ddigwyddodd mewn lleoliad ysbyty.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Mae’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn y siart yn cynnwys achosion sydd wedi’u cadarnhau ac achosion posib o COVID-19. Ehangwyd y polisi profi cartrefi gofal ar 16 Mai i gynnwys cynnig profion i bob aelod o staff a phob preswyliwr sy’n symptomatig ac asymptomatig a nad ydynt erioed wedi profi'n bositif am COVID-19, hyd yn oed lle nad yw'r cartref wedi rhoi gwybod am achosion posibl neu wedi eu cadarnhau. Gallai profion mwy eang fod wedi arwain at rai marwolaethau'n cael eu cofnodi fel marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID-19 pan fyddant o'r blaen efallai wedi cael eu cyhoeddi fel rhai a amheuir o farwolaeth COVID-19.

O 1 Mawrth 2020 a 16 Mehefin 2021

  • Cafodd AGC hysbysiad o 1,922 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19. Mae hyn yn ffurfio 20.1% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd.
  • Cafodd 1,408 o rain eu hadrodd fel achos cadarnhaol o COVID-19 a 514 fel achosion bosib o COVID-19.
  • Roedd yr achos cyntaf o farwolaeth COVID-19 a hysbyswyd i AGC ar 16 Mawrth 2020, a ddigwyddodd mewn lleoliad ysbyty.
  • Ar ddechrau mis Tachwedd 2020, bu cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19 a hysbyswyd i AGC. Bu cynnydd pellach ym mis Ionawr 2021 a oedd yn uwch na'r nifer a welwyd ar ddiwedd mis Ebrill 2020.
  • Nid yw AGC wedi cael gwybod am unrhyw farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19 ers 26 Mawrth 2021.
Image
Roedd 68.7% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn y cartref gofal. Roedd 29.4% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn yr ysbyty.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Tabl 1: Hysbysiadau o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion gydag achos cadarnhaol neu phosib o COVID, yn ôl lleoliad y farwolaeth, 1 Mawrth 2020 i 16 Mehefin 2021
Ambiwlans 2
Yn y cartref gofal 1,320
Yr ysbyty 565
Hosbis 4
Arall 15
Cartref ei hunain 16
Anhysbys 0
Cyfanswm 1,922

Ffynhonnell: Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru

O 1 Mawrth 2020 a 16 Mehefin 2021

  • Roedd 68.7% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’u lleoli yn y cartref gofal.
  • Roedd 29.4% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’u lleoli yn yr ysbyty.

Cefndir

Mae’r data yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y dyddiad hysbysu yn hytrach na dyddiad cadarnhau’r achos COVID-19 neu dyddiad y farwolaeth. Mae hysbysiadau i AGC am achosion a gadarnhawyd ac achosion marwolaeth yn cael eu hadrodd gan ddarparwr y cartref gofal. Oherwydd y patrymau gwaith, mae tueddu i fod llai o hysbysiadau o achosion COVID-19 a gadarnhawyd neu farwolaethau yn ystod y penwythnosau o’i gymharu â dydd Llun i ddydd Gwener. Yn aml mae mwy o hysbysiadau ar ddydd Llun.

Mae’r data a ddefnyddir ar gyfer hysbysu am achosion a hysbysu am farwolaethau yn cyfuno cartrefi gofal i oedolion a chartrefi gofal i oedolion a phlant. Yng Nghymru mae 1,049 o gartrefi gofal i oedolion ac 17 o gartrefi gofal i oedolion a phlant.

Hysbysiadau o achosion COVID-19 a gadarnhawyd mewn cartrefi gofal i oedolion

Mae’r data a gyflwynir yma yn seiliedig ar yr hysbysiadau o achosion a gadarnhawyd y mae AGC wedi’u cael gan gartrefi gofal i oedolion, sy’n ymwneud â’u staff neu breswylwyr. Dim ond yn seiliedig ar ganlyniad prawf positif gan labordy y bydd angen i ddarparwr y cartref gofal roi gwybod i AGC. Efallai y bydd oedi rhwng cadarnhau achos o COVID-19 a phan fydd y darparwyr cartrefi gofal yn hysbysu AGC. Mae nifer yr achosion o COVID-19 a gadarnhawyd y cyfeirir atynt yma yn wahanol i nifer yr achosion newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid yw’n bosibl cymharu’r ffynonellau data hyn yn uniongyrchol oherwydd y gwahaniaeth mewn amseru a lefel y dilysiad a gynhaliwyd. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r data hyn i sicrhau bod mynediad at ddata AGC yn dryloyw ac yn rhoi syniad amserol o’r tueddiadau ar gyfer pob hysbysiad o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Mae AGC yn dibynnu ar gael gwybodaeth gyson a manwl gywir gan ddarparwyr. Mae AGC wedi gofyn i ddarparwyr eu hysbysu heb unrhyw oedi ond mae’n bwysig nodi:

  • nad yw’r data yn rhoi gwybod inni beth yw’r nifer cyfredol o achosion a gadarnhawyd mewn unrhyw cartref gofal i oedolion
  • nad yw’r data ond mor gywir â’r wybodaeth a roddwyd gan y darparwr
  • bod darparwyr yn rhoi gwybod am achosion a gadarnhawyd o 19 Awst 2020 ymlaen yn unig

Hysbysiadau o farwolaethau COVID-19 mewn cartrefi gofal i oedolion

Mae’r data a gyflwynir yma yn seiliedig ar yr Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan AGC o gartrefi gofal i oedolion sy’n ymwneud â’u preswylwyr. Gall lleoliad y farwolaeth fod o fewn y cartref gofal, yn yr ysbyty neu mewn lleoliad arall. Nid yw'r data yn seiliedig ar brofion a gadarnhawyd yn y labordy, ac nid oes modd eu cymharu yn uniongyrchol gyda data Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Yn eu dangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym, mae ICC yn cynnwys rhai hysbysiadau a dderbyniwyd o gartrefi gofal gyda phrawf positif am COVID-19 sydd wedi’i gadarnhau gan labordy. Ni all y data hyn cael eu hadio at ei gilydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r data hyn i sicrhau bod mynediad i ddata AGC yn dryloyw ac i roi syniad amserol o'r tueddiadau ar gyfer holl farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru, yn sgil COVID-19 neu fel arall. Mae AGC yn ddibynnol ar y darparwyr i hysbysu a nodi bod y marwolaethau yn gysylltiedig â COVID-19. Mae’r data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy’n cynnwys pob marwolaeth sydd yn gysylltiedig â COVID-19 yn ôl y dystysgrif marwolaeth, yn adrodd niferoedd uwch o farwolaethau oherwydd COVID-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda AGC a SYG i ymchwilio i ansawdd y data hyn.

Mae’r data a gynhwysir yn y datganiad yma yn gywir ar 23:59 16 Mehefin 2021.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Er mwyn gwella’r argaeledd amserol o ddata ar achosion a gadarnhawyd a marwolaethau mewn cartrefi gofal sydd wedi’i achosi gan y coronafeirws (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o’r nifer o achosion a gadarnhawyd a marwolaethau mewn cartrefi gofal, yn seiliedig ar hysbysiadau statudol gan ddarparwyr cartrefi gofal i’r AGC. Mae’r wybodaeth yma yn helpu i fonitro'r effeithiau o COVID-19, ac yn cyfrannu tuag at fonitro a phenderfyniadau ledled Cymru a’r DU.

Perthnasedd

Fel y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer darparwyr cartrefi gofal yng Nghymru, mae'n ofynnol yn statudol i ddarparwyr hysbysu AGC am farwolaethau preswylwyr. Mae’n ofynnol yn statudol i ddarparwyr cartrefi gofal hefyd roi gwybod i AGC am unrhyw frigiadau o achosion o glefydau heintus fel COVID-19. Mae AGC wedi gofyn i ddarparwyr cartrefi gofal roi gwybod iddo am bob achos o COVID-19 a gadarnhawyd mewn preswylwyr neu staff yn y cartref gofal, ond does dim gofyniad statudol i wneud hyn. Hefyd, defnyddir yr ystadegau hyn yn ddyddiol at nifer o ddibenion eraill:

  • i roi gwybodaeth i AGC i lywio eu gweithgareddau a’u penderfyniadau rheoleiddio
  • i ddeall effaith y pandemig ar gartrefi gofal
  • i gefnogi cyngor ar sail tystiolaeth am benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch adolygiadau o drefniadau cyfyngiadau symud
  • i gyfrannu at fonitro a gwneud penderfyniadau ledled Cymru a’r DU

Cywirdeb

Ers 21 Mai 2021, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi newid y diwrnod y maent yn cyflenwi data i Lywodraeth Cymru ar nifer y cartrefi i oedolion sy’n rhoi gwybod am un neu ragor o achosion o COVID-19 sydd wedi’u cadarnhau. Erbyn hyn, darperir y data’n wythnosol ar ddydd Mercher, yn hytrach na dydd Iau, oherwydd diweddariad ym mhrosesau mewnol AGC. O’r blaen roeddem yn cyhoeddi adroddiad ar nifer yr achosion o COVID-19 yn ystod y 7 neu 20 diwrnod diwethaf yn seiliedig ar ddata dydd Iau, ond nawr rydym yn cyfeirio at ddata dydd Mercher.

I sicrhau cysondeb â’r data hysbysu am achosion, fe wnaethom hefyd symud y data diweddaraf ar gyfer y nifer dros dro o farwolaethau mewn cartrefi gofal i oedolion i ddydd Mercher, yn hytrach na dydd Iau.

O 9 Ebrill 2021, newidiodd AGC amlder y data y maent yn eu cyflenwi i Lywodraeth Cymru ar nifer y cartrefi i oedolion sy’n rhoi gwybod am un neu fwy o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd. Yn lle eu darparu yn ddyddiol, roedd y data’n cael eu darparu’n wythnosol ar ddydd Iau. Y rheswm dros wneud y newid hwn oedd oherwydd mai ychydig iawn o newid sydd yn y data o ddydd i ddydd. Roedd hyn yn galluogi AGC i ryddhau peth o’r capasiti arolygu a chynyddu eu harolygon o wasanaethau. Nid effeithiodd y newid hwn ond ar y data hysbysiadau o achosion. Yn flaenorol roedd Llywodraeth Cymru yn adrodd ar nifer yr achosion COVID-19 yn y 7 neu 20 diwrnod diwethaf yn seiliedig ar ddata ar y dydd Gwener, ond o 9 Ebrill ymlaen roedd Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y data ar y dydd Iau. Mae data dyddiol o’r cyfnod cyn 9 Ebrill 2021 yn dal i gael eu dangos yn Siart 1 a’u darparu ar StatsCymru i roi darlun llawn o’r data sydd ar gael. Ar ôl 9 Ebrill 2021, mae data wythnosol yn cael eu dangos, gan leihau’r amrywiadau yn y data, fel y dangosir yn y siartiau.

Yn dilyn y canllawiau cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 17 Rhagfyr 2020, gellir datgan bod brigiadau COVID-19 drosodd unwaith mae 20 diwrnod wedi mynd heibio ers i’r unigolyn diwethaf i gael ei heffeithio neu ddangos symptomau. Rhaid i dimau aml-ddisgyblaethol ystyried amgylchiadau penodol cartrefi unigolion, yn cynnwys y prosesau Atal a Rheoli Haint sydd wedi’u gweithredu. Yn unol â’r canllawiau, mae AGC wedi adolygu ei adroddiad hysbysiadau dyddiol i newid y mesur 28 diwrnod blaenorol i fesur 20 diwrnod. Mae’r newid yma wedi’i adlewyrchu yn y data sydd wedi’u cyflwyno yn y datganiad hwn.

Mae nifer y cartrefi gofal i oedolion yn yr adroddiad hwn yn amrywio. Mae hyn o ganlyniad i gofrestru cartrefi gofal newydd i oedolion a chau cartrefi gofal eraill. Er enghraifft, yn ystod mis Tachwedd 2020, tynnwyd 6 cartref gofal i oedolion oddi ar y rhestr ac ychwanegwyd 4 cartref o’r newydd. Ar gyfer hysbysiadau o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd mewn cartrefi gofal i oedolion, cesglir data yn wythnosol ar ffurflen ar-lein a ddatblygwyd ac a gynhelir gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Ar gyfer hysbysiadau o farwolaethau COVID-19 mewn cartrefi gofal i oedolion, cesglir data yn ddyddiol drwy gyfrwng ffurflen ar-lein a ddatblygwyd ac a gynhelir gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae’r data wedi’u dilysu yn erbyn datganiadau blaenorol a bydd unrhyw newidiadau sylweddol yn cael eu gwirio.

Mae’n ofynnol i gartrefi gofal roi gwybod i AGC am leoliad ac achosion marwolaethau. Cyn 29 Ebrill 2020 roedd hyn drwy flwch testun rhydd ac roedd AGC yn defnyddio chwiliadau â llaw ar y data i gynhyrchu crynodebau yn ôl categori. Ers 29 Ebrill 2020 diwygiwyd y ffurflen i gynnwys categorïau blwch ticio gorfodol ar gyfer achosion a gadarnhawyd/posibl o COVID-19, ac i gynnwys lleoliad (ysbyty, cartref gofal, hosbis, ambiwlans, arall). O ganlyniad, newidiodd y fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu’r ffigurau o 29 Ebrill 2020 ymlaen.

O ran yr achosion ‘a gadarnhawyd’ o COVID-19, o Ebrill 29 2020 ymlaen, mae'r darparwyr cartrefi gofal wedi rhoi gwybod i AGC drwy ateb y cwestiwn: 'A oedd y farwolaeth wedi cael ei chadarnhau fel marwolaeth o ganlyniad i COVID-19?'.

Cyn y dyddiad hwn, ni ofynnwyd y cwestiwn yma i ddarparwr cartrefi gofal, felly 'a gadarnhawyd' ar gyfer y rhain yw lle mae arolygwyr AGC wedi adolygu'r data testun rhydd a roddwyd gan ddarparwr y cartref gofal (ar sail cwestiynau ‘achos marwolaeth y person, os yw'n hysbys ac wedi'i gadarnhau gan ymarferydd meddygol’ a 'crynodeb o'r amgylchiadau yn arwain at farwolaeth y person a'r holl ffactorau sy'n cyfrannu') a phenderfynu ei fod yn ymwneud ag achos a gadarnhawyd.

Yn y ddwy senario, mae AGC yn ddibynnol ar y darparwr cartref gofal i'w hysbysu'n briodol o achos a gadarnhawyd.

Mae’r data yn cynnwys yr holl hysbysiadau hyd at ganol nos pob diwrnod.

Mae’r casgliad data ar farwolaethau yn ymwneud â phreswylwyr o gartrefi gofal i oedolion.

Mae data am achosion o COVID-19 yn ymdrin â nifer y cartrefi gofal sydd wedi adrodd achos, nid nifer yr achosion na nifer yr adroddiadau.

Mae’r data ar achosion COVID-19 yn ymwneud â phreswylwyr a staff yn y cartref.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data hysbysiad o farwolaethau yn y datganiad hwn yn darparu data o 1 Ionawr 2018 ac ymlaen. Mae’r hysbysiad o ddata achosion COVID-19 a gadarnhawyd yn y datganiad hwn yn darparu data o 16 Rhagfyr 2020 ymlaen i ddechrau a byddwn yn ceisio cynnwys cyfres amser wedi’i ôl-ddyddio yn y man er mwyn adlewyrchu'r newid yn y canllawiau a ddigwyddodd ar 17 Rhagfyr 2020.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau ac Ymchwil o ein gwefan. Mae tablau StatsCymru yn cyd-fynd ag ef i ganiatáu i ddefnyddwyr gael mynediad uniongyrchol at y data tu ôl i'r siartiau yn y datganiad hwn.

Cymharedd

Cyhoeddwyd data ar gyfer Lloegr am y tro cyntaf ar 28 Ebrill 2020.

Mae'r Prif Ystadegydd wedi cynhyrchu blog o'r gwahanol ffynonellau data ar farwolaethau cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn bell ag sy’n bosib, maent wedi’u casglu a dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses o gasglu data a sicrhau ansawdd er mwyn gwella'r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddigwyddiadau'r sy’n datblygu dros y byd.

Deddf Llesaint Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Hynny yw, Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd rhoi naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Bydd y datganiad nesaf am 9.30yb ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2021.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at  kas.covid19@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 188/2021