Neidio i'r prif gynnwy

1. Prif ffigurau cenedlaethol

Er mwyn gwella’r argaeledd amserol o ddata yn ymwneud â coronafeirws (COVID-19) mewn cartrefi gofal i oedolion mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o’r nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd a chyfrifiadau dros dro o farwolaethau mewn cartrefi gofal, yn seiliedig ar hysbysiadau gan ddarparwyr cartrefi gofal i AGC. Mae’r wybodaeth yma yn helpu i fonitro'r effeithiau o COVID-19, ac yn cyfrannu tuag at fonitro a phenderfyniadau ledled Cymru a’r DU.

Mae’r datganiad hwn bellach yn cynnwys gwybodaeth ar y nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd ag un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd yn y 7 a 20 diwrnod diwethaf i AGC. Mae’r data yn dangos dim ond y nifer o gartrefi gofal sydd wedi rhoi gwybod i AGC am achos o COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith eu staff neu ddefnyddwyr gwasanaeth (preswylwyr) ac nid yw’n dangos y cyfanswm nifer o achosion coronafeirws ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. Gan fod y data yn dangos y nifer o gartrefi gofal sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion COVID-19 yn y 7 diwrnod neu 20 diwrnod diwethaf, nid ydynt yn dangos a oes achos o coronafeirws yn y gwasanaeth ar hyn o bryd. Mae’r data yn dibynnu ar adroddiadau cyson a manwl gywir gan ddarparwyr cofrestredig. Mae'r data hyn wedi cael eu casglu i lywio gweithgareddau a phenderfyniadau rheoleiddio AGC, ac mae'n eu galluogi i fonitro'r cartrefi gofal gydag achosion o COVID-19.

Yn dilyn y canllawiau cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 17 Rhagfyr 2020, gellir datgan bod brigiadau COVID-19 drosodd unwaith mae 20 diwrnod wedi mynd heibio ers i’r unigolyn diwethaf i gael ei heffeithio neu ddangos symptomau. Yn unol â’r canllawiau, mae AGC wedi adolygu ei adroddiad hysbysiadau dyddiol i newid y mesur 28 diwrnod blaenorol i fesur 20 diwrnod. Mae’r newid yma wedi’i adlewyrchu yn y data sydd wedi’u cyflwyno yn y datganiad hwn.

Prif ganlyniadau

  • Mae 175 o gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru wedi rhoi gwybod i AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr yn y 7 diwrnod diwethaf.
  • Mae 339 o gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru wedi rhoi gwybod i AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr yn y 20 diwrnod diwethaf.
  • Mae AGC wedi derbyn hysbysiad o 7,002 o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion ers Mawrth 1 2020. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achosion, nid yn unig COVID-19.
  • Mae hyn yn 36% yn uwch na'r nifer o farwolaethau adroddwyd am yr un cyfnod blwyddyn ddiwethaf, ac yn 40% yn uwch na’r un cyfnod yn 2018.
  • Roedd 67% o’r cyfanswm o farwolaethau ers 1 Mawrth 2020 am breswylwyr mewn cartrefi gofal gyda nyrsio.
  • Cafodd AGC hysbysiad o 1,470 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19. Mae hyn yn ffurfio 21% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd ymysg preswylwyr mewn cartrefi gofal oedolion ers 1 Mawrth 2020.

Hysbysiadau o achosion

Mae’r adran hon yn ymdrin â’r nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd wedi hysbysu AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd yn y 7 a 20 diwrnod diwethaf. Nid yw’r data’n cynnwys y nifer cyfredol o achosion COVID-19 mewn cartrefi gofal i oedolion nac yn rhoi gwybod a oes achos yn y cartref ar hyn o bryd.

Image
Mae Siart 1 yn dangos y nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd wedi hysbysu AGC am achos COVID-19 a gadarnhawyd yn y 7 a 20 diwrnod diwethaf hyd 15 Ionawr 2021. Mae 175  o gartrefi gofal i oedolion wedi rhoi gwybod yn y 7 diwrnod diwethaf a 339 wedi rhoi gwybod yn y 20 diwrnod diwethaf.

Y nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd wedi hysbysu AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd yn y 7 neu 20 diwrnod diwethaf hyd 15 Ionawr 2021 (MS Excel)

Yng Nghymru mae 1,052 o gartrefi gofal i oedolion. O’r rhain hyd 15 Ionawr 2021:

  • mae 175 (16.6%) o gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru wedi hysbysu AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr yn y 7 diwrnod diwethaf; mae hyn o gymharu â 149 (17.4%) yn y 7 diwrnod hyd 8 Ionawr 2021
  • mae 339 (32.2%) o gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru wedi hysbysu AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr yn y 20 diwrnod diwethaf; mae hyn o gymharu â 311 (9.0%) yn y 20 diwrnod hyd 8 Ionawr 2021

Hysbysiadau o farwolaethau

Mae’r adran hon yn ymdrin â’r nifer o farwolaethau yn ymwneud â phreswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion, yn seiliedig ar hysbysiadau statudol gan ddarparwyr cartrefi gofal i AGC.

Image
Mae’r AGC wedi derbyn hysbysiad o 7002 o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion ers 1 Mawrth 2020. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achosion, nid yn unig COVID-19. Mae hyn 36% yn uwch na’r nifer o farwolaethau adroddwyd am yr un cyfnod blwyddyn ddiwethaf, ac yn 40% yn uwch na’r un cyfnod yn 2018.

Hysbysiadau o farwolaethau preswylwyr a dderbyniwyd o gartrefi gofal i oedolion, gan gynnwys marwolaethau o bob achos (cyfartaledd treigl 7 diwrnod), 7 Ionawr 2020 i 15 Ionawr 2021 (MS Excel)

Nodwch: oherwydd y flwyddyn naid yn 2020, y data ar gyfer 29 Chwefror yw cyfartaledd 28 Chwefror ac 1 Mawrth ar gyfer 2018 a 2019.

Tabl 1: Y cyfanswm o farwolaethau preswylwyr a adroddwyd i AGC o gartrefi gofal i oedolion, 1 Mawrth 2020 i 15 Ionawr 2021 o’i gymharu â’r un cyfnod dwy flynedd yn gynt
Y gofal a ddarparwyd 1 Mawrth 2018 i 15 Ionawr 2019 1 Mawrth 2019 i 15 Ionawr 2020 1 Mawrth 2020 i 15 Ionawr 2021
Gyda nyrsio  3,208  3,557  4,692
Heb nyrsio  1,793  1,580  2,310
Cyfanswm  5,001  5,137  7,002

Ffynhonnell: Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru

Yn ystod 2019, roedd gwasanaethau cartrefi gofal yn cael eu hail-gofrestru gyda AGC o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd, a chyflwynodd dull newydd o hysbysu AGC am farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal. Gallai fod hyn wedi amharu ar yr hysbysiadau a gyflwynwyd.

Image
Cafodd AGC hysbysiad o 1470 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19. Mae hyn yn ffurfio 21% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd. Cafodd 986 o rain eu hadrodd fel achos cadarnhaol o COVID-19 a 484 fel achosion bosib o COVID-19.

Marwolaethau preswylwyr cartrefi gofal a hysbyswyd i AGC yn ôl achos marwolaeth a dyddiad yr hysbysiad (cyfartaledd treigl 7 diwrnod), 1 Mawrth 2020 i 15 Ionawr 2021 (MS Excel)

Nodwch

Mae’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn y siart yn cynnwys achosion sydd wedi’u cadarnhau ac achosion posib o COVID-19. Ehangwyd y polisi profi cartrefi gofal ar 16 Mai i gynnwys cynnig profion i bob aelod o staff a phob preswyliwr sy’n symptomatig ac asymptomatig a nad ydynt erioed wedi profi'n bositif am COVID-19, hyd yn oed lle nad yw'r cartref wedi rhoi gwybod am achosion posibl neu wedi eu cadarnhau. Gallai profion mwy eang fod wedi arwain at rai marwolaethau'n cael eu cofnodi fel marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID-19 pan fyddant o'r blaen efallai wedi cael eu cyhoeddi fel rhai a amheuir o farwolaeth COVID-19.

Rhwng 1 Mawrth 2020 a 15 Ionawr 2021

  • Mae AGC wedi derbyn hysbysiad o 7,002 o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion ers Mawrth 1 2020. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achosion, nid yn unig COVID-19. Mae hyn yn 36% yn uwch na'r nifer o farwolaethau adroddwyd am yr un cyfnod blwyddyn ddiwethaf, ac yn 40% yn uwch na’r un cyfnod yn 2018.
  • Cafodd AGC hysbysiad o 1,470 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19. Mae hyn yn ffurfio 21% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd.
  • Cafodd 986 o rain eu hadrodd fel achos cadarnhaol o COVID-19 a 484 fel achosion bosib o COVID-19.
  • Roedd yr achos cyntaf o farwolaeth COVID-19 a hysbyswyd i AGC ar 16 Mawrth 2020, a ddigwyddodd mewn lleoliad ysbyty.
  • Ar ddechrau mis Tachwedd 2020 bu cynnydd yn y nifer o farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19 a hysbyswyd i AGC. Yn dilyn lleihad ym mis Rhagfyr 2020, bu cynnydd bellach ym mis Ionawr 2021. Mae'r nifer cyfartalog o farwolaethau COVID-19 yn gyffredinol rhwng 10 a 15 y diwrnod, sydd yn uwch na'r cynnydd a welir ym mis Tachwedd 2020.
Image
Roedd 68% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn y cartref gofal. Roedd 30% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn yr ysbyty.

Hysbysiadau o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal i oedolion gydag achos cadarnhaol neu phosib o COVID-19 yn ôl lleoliad o farwolaeth a dyddiad yr hysbysiad (cyfartaledd treigl 7 diwrnod), 7 Mawrth 2020 i 15 Ionawr 2021 (MS Excel)

Tabl 2: Hysbysiadau o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion gydag achos cadarnhaol neu phosib o COVID, yn ôl lleoliad y farwolaeth, 1 Mawrth 2020 i 15 Ionawr 2021
Ambiwlans 2
Yn y gwasanaeth 993
Yr ysbyty 444
Hosbis 3
Arall 14
Cartref ei hunain 14
Anhysbys 0
Cyfanswm 1,470

Ffynhonnell: Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru

Rhwng 1 Mawrth 2020 a 15 Ionawr 2021

  • Roedd 68% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’u lleoli yn y cartref gofal.
  • Roedd 30% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’u lleoli yn yr ysbyty.

2. Cefndir

Mae’r data yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y dyddiad hysbysu yn hytrach na dyddiad cadarnhau’r achos COVID-19 neu dyddiad y farwolaeth. Mae hysbysiadau i AGC am achosion a gadarnhawyd ac achosion marwolaeth yn cael eu hadrodd gan ddarparwr y cartref gofal. Oherwydd y patrymau gwaith, mae tueddu i fod llai o hysbysiadau o achosion COVID-19 a gadarnhawyd neu farwolaethau yn ystod y penwythnosau o’i gymharu â dydd Llun i ddydd Gwener. Yn aml mae mwy o hysbysiadau ar ddydd Llun.

Hysbysiadau o achosion COVID-19 a gadarnhawyd mewn cartrefi gofal i oedolion

Mae’r data a gyflwynir yma yn seiliedig ar yr hysbysiadau o achosion a gadarnhawyd y mae AGC wedi’u cael gan gartrefi gofal i oedolion, sy’n ymwneud â’u staff neu ddefnyddwyr gwasanaeth (preswylwyr). Dim ond yn seiliedig ar ganlyniad prawf positif gan labordy y bydd angen i ddarparwr y cartref gofal roi gwybod i AGC. Efallai y bydd oedi rhwng cadarnhau achos o COVID-19 a phan fydd y darparwyr cartrefi gofal yn hysbysu AGC. Mae’r nifer o achosion COVID-19 a gadarnhawyd y cyfeirir atynt yma yn wahanol i’r nifer o achosion newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid yw’n bosibl cymharu’r ffynonellau data hyn yn uniongyrchol oherwydd y gwahaniaeth mewn amseru a lefel y dilysiad a gynhaliwyd. Rydym yn cyhoeddi’r data hwn i sicrhau bod mynediad at ddata AGC yn dryloyw ac yn rhoi awgrym amserol o’r tueddiadau ar gyfer pob hysbysiad o achosion COVID-19 a gadarnhawyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Fodd bynnag, mae AGC yn dibynnu ar gael gwybodaeth gyson a manwl gywir gan ddarparwyr. Mae AGC wedi gofyn i ddarparwyr eu hysbysu heb unrhyw oedi ond mae’n bwysig nodi:

  • nad yw’r data yn rhoi gwybod inni beth yw’r nifer cyfredol o achosion a gadarnhawyd mewn unrhyw wasanaeth (cartref gofal i oedolion)
  • bod y data mor gywir â’r wybodaeth a roddwyd gan y darparwr
  • bod darparwyr yn rhoi gwybod am achosion a gadarnhawyd o 19 Awst 2020 ymlaen yn unig

Hysbysiadau o farwolaethau COVID-19 mewn cartrefi gofal i oedolion

Mae’r data a gynhwysir yn seiliedig ar yr Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan AGC o gartrefi gofal i oedolion sy’n ymwneud â'i phreswylwyr. Gall y lleoliad y farwolaeth fod o fewn y cartref gofal, yn yr ysbyty neu mewn lleoliad arall. Nid yw'r data yn seiliedig ar brofion a gadarnhawyd yn y labordy, ac felly nid oes modd eu cymharu yn uniongyrchol gyda data Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Yn ei dangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym, mae ICC yn cynnwys rhai hysbysiadau a dderbyniwyd o gartrefi gofal gyda phrawf am COVID-19 sydd wedi’i gadarnhau gan labordy. O ganlyniad, ni all y data yma cael eu hadio at ei gilydd.

Cyhoeddir y data hwn i sicrhau bod mynediad i ddata AGC yn dryloyw ac i roi syniad amserol o'r tueddiadau ar gyfer pob marwolaeth o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru, os yw’n achos o COVID-19 neu arall. Serch hynny mae AGC yn ddibynnol ar y darparwyr i hysbysu ac i allu mynegi bod y marwolaethau yn gysylltiedig â COVID-19. Mae’r data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy’n cynnwys pob marwolaeth sydd yn gysylltiedig â COVID-19 yn ôl y dystysgrif marwolaeth, yn adrodd niferoedd uwch o farwolaethau oherwydd COVID-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda AGC a SYG i ymchwilio i ansawdd y data hwn.

Mae’r data a gynhwysir yn y datganiad yma yn gywir ar 23:59 15 Ionawr 2021.

3. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Er mwyn gwella’r argaeledd amserol o ddata ar achosion a gadarnhawyd a marwolaethau mewn cartrefi gofal sydd wedi’i achosi gan y coronafeirws (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o’r nifer o achosion a gadarnhawyd a marwolaethau mewn cartrefi gofal, yn seiliedig ar hysbysiadau statudol gan ddarparwyr cartrefi gofal i’r AGC. Mae’r wybodaeth yma yn helpu i fonitro'r effeithiau o COVID-19, ac yn cyfrannu tuag at fonitro a phenderfyniadau ledled Cymru a’r DU.

Perthnasedd

Fel y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer darparwyr cartrefi gofal yng Nghymru, mae'n ofynnol yn statudol i ddarparwyr hysbysu AGC am farwolaethau preswylwyr. Mae’n ofynnol yn statudol i ddarparwyr cartrefi gofal hefyd roi gwybod i AGC am unrhyw frigiadau o achosion o glefydau heintus fel COVID-19. Mae AGC wedi gofyn i ddarparwyr cartrefi gofal roi gwybod iddo am bob achos o COVID-19 a gadarnhawyd mewn preswylwyr neu staff yn y cartref gofal, ond does dim gofyniad statudol i wneud hyn. Hefyd, defnyddir yr ystadegau hyn yn ddyddiol at nifer o ddibenion eraill:

  • i roi gwybodaeth i AGC i hysbysu ei weithgareddau a phenderfyniadau rheoleiddio
  • i ddeall effaith y pandemig ar gartrefi gofal
  • i gefnogi cyngor ar sail tystiolaeth am benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch adolygiadau o drefniadau cyfyngiadau symud
  • cyfraniadau at fonitro a gwneud penderfyniadau ledled Cymru a’r DU

Cywirdeb

  • Gall nifer y cartrefi gofal i oedolion yn yr adroddiad hwn amrywio. Mae hyn o ganlyniad i gofrestru cartrefi gofal i oedolion am y tro cyntaf neu gau cartrefi gofal eraill. Er enghraifft, yn ystod mis Tachwedd, tynnwyd 6 cartref gofal i oedolion oddi ar y rhestr a chymeradwywyd 4 cartref o’r newydd.
  • Caiff data ei gasglu yn ddyddiol trwy ffurflen ar-lein sydd wedi’i datblygu a’i chynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Dilyswyd y data yn erbyn datganiadau blaenorol a chwestiynwyd unrhyw newidiadau sylweddol.
  • Mae’r data yn cynnwys yr holl hysbysiadau hyd at ganol nos pob diwrnod.
  • Mae’r casgliad data ar farwolaethau yn ymwneud â phreswylwyr o gartrefi gofal i oedolion.
  • Mae data am achosion o COVID-19 yn ymdrin â nifer y cartrefi gofal sydd wedi adrodd achos, nid nifer yr achosion na nifer yr adroddiadau.
  • Mae’r data ar achosion COVID-19 yn ymwneud â phreswylwyr a staff yn y cartref
  • Mae’n ofynnol i gartrefi gofal hysbysu i AGC am leoliad ac achosion marwolaethau. Cyn 29 Ebrill 2020 roedd hyn drwy flwch testun rhydd ac mae AGC wedi defnyddio chwiliadau â llaw ar y data i gynhyrchu crynodebau yn ôl categori. Ers 29 Ebrill 2020 mae’r ffurflen wedi’i diwygio i gynnwys categorïau blwch ticio gorfodol ar gyfer achosion a gadarnhawyd/posib o COVID-19, ac i gynnwys lleoliad (ysbyty, cartref gofal, hosbis, ambiwlans, arall). O ganlyniad mae yna newid i’r fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu’r ffigurau ers 29 Ebrill 2020.
  • O ran yr achosion ‘a gadarnhawyd’ o COVID-19, o Ebrill 29 ymlaen, mae'r darparwyr cartrefi gofal wedi rhoi gwybod i AGC drwy ateb y cwestiwn: 'A oedd y farwolaeth wedi cael ei chadarnhau fel marwolaeth o ganlyniad i COVID-19?'.
  • Cyn y dyddiad hwn, ni ofynnwyd y cwestiwn yma i ddarparwr cartrefi gofal, felly 'a gadarnhawyd' ar gyfer y rhain yw lle mae arolygwyr AGC wedi adolygu'r data testun rhydd a roddwyd gan ddarparwr y cartref gofal (ar sail cwestiynau ‘achos marwolaeth y person, os yw'n hysbys ac wedi'i gadarnhau gan ymarferydd meddygol’ a 'crynodeb o'r amgylchiadau yn arwain at farwolaeth y person a'r holl ffactorau sy'n cyfrannu') a phenderfynu ei fod yn ymwneud ag achos a gadarnhawyd.
  • Yn y ddwy senario, mae AGC yn ddibynnol ar y darparwr cartref gofal i'w hysbysu'n briodol o achos a gadarnhawyd.
  • Yn dilyn y canllawiau cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 17 Rhagfyr 2020, gellir datgan bod brigiadau COVID-19 drosodd unwaith mae 20 diwrnod wedi mynd heibio ers i’r unigolyn diwethaf i gael ei heffeithio neu ddangos symptomau. Rhaid i dimau aml-ddisgyblaethol ystyried amgylchiadau penodol cartrefi unigolion, yn cynnwys y prosesau Atal a Rheoli Haint sydd wedi’u gweithredu. Yn unol â’r canllawiau, mae AGC wedi adolygu ei adroddiad hysbysiadau dyddiol i newid y mesur 28 diwrnod blaenorol i fesur 20 diwrnod. Mae’r newid yma wedi’i adlewyrchu yn y data sydd wedi’u cyflwyno yn y datganiad hwn.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data hysbysiad o farwolaethau yn y datganiad hwn yn darparu data o 1 Mawrth 2020 ymlaen, ac ar gyfer yr un cyfnod ddwy flynedd yn gynt. Mae’r hysbysiad o ddata achosion COVID-19 a gadarnhawyd yn y datganiad hwn yn darparu data o 27 Tachwedd ymlaen i ddechrau a byddwn yn ceisio cynnwys cyfres amser wedi’i ôl-ddyddio yn y man.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau ac Ymchwil o ein gwefan. Mae Taenlen Dogfen Agored yn cyd-fynd ag ef i ganiatáu i ddefnyddwyr gael mynediad uniongyrchol at y data tu ôl i'r siartiau yn y datganiad hwn.

Cymharedd

Cyhoeddwyd data ar gyfer Lloegr am y tro cyntaf ar 28 Ebrill 2020.

Mae'r Prif Ystadegydd wedi cynhyrchu blog o'r gwahanol ffynonellau data ar farwolaethau cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn bell ag sy’n bosib, maent wedi’u casglu a dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses o gasglu data a sicrhau ansawdd er mwyn gwella'r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddigwyddiadau'r sy’n datblygu dros y byd.

Deddf Llesaint Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Hynny yw, Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd rhoi naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Bydd y datganiad nesaf am 9.30yb ddydd Mercher 2 Chwefror 2021.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at  kas.covid19@llyw.cymru.

4. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 17/2021