Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ymchwil defnyddwyr yma i helpu gyda chostau byw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Hoffai Tîm Profiad Defnyddwyr Llywodraeth Cymru gysylltu â phobl yng Nghymru i gasglu barn ar sut i'w gwneud yn haws i chi ddod o hyd i wybodaeth a chymorth gyda chostau byw a heriau y gallech eu hwynebu. Y nod yw ymgysylltu ag ystod eang o bobl ag anghenion gwahanol i sicrhau bod mynediad at wybodaeth a chymorth yn gweithio i bawb. Bydd y Tîm Profiad Defnyddwyr yn cynnal Ymchwil Defnyddwyr ar ran y Tîm Trechu Tlodi a'r Tîm Cyfathrebu Cyfiawnder Cymdeithasol.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol, ond mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig i'n helpu i wella mynediad at wybodaeth a chymorth sydd ar gael i chi.

Bydd y data a gesglir o'r arolwg Recriwtio Defnyddwyr yn cael ei ddefnyddio i sgrinio cyfranogwyr ar gyfer cyfweliadau ac i lywio'r adroddiad ymchwil terfynol. Mae'r Tîm Profiad Defnyddwyr yn Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau ein bod yn siarad ag ystod eang o bobl ledled Cymru sydd â gwahanol anghenion gan gynnwys rhai o wahanol oedrannau a chefndiroedd ac ati. Bydd yr atebion a roddwch yn yr arolwg defnyddwyr yn ddienw yn yr adroddiad terfynol, ni fydd unrhyw wybodaeth y gellir adnabod pobl ohoni yn cael ei rhannu y tu allan i'r Tîm Profiad Defnyddiwr.

Fel rhan o'r gwaith ymchwil, bydd angen i'r Tîm Ymchwil Defnyddwyr gasglu'r wybodaeth bersonol a chategori arbennig canlynol:

  • Enw
  • E-bost personol / gwaith
  • Unrhyw amhariadau a allai effeithio ar sut rydych chi'n cyrchu gwybodaeth a chymorth (Eich dewis)
  • Unrhyw amhariadau sydd gan aelodau o'ch teulu (Eich dewis)
  • Ystod oedran (Eich dewis)
  • Ystod oedran aelod/au eich teulu (Eich dewis)
  • Ethnigrwydd (Eich dewis)
  • Rhyw (Eich dewis)
  • Lle rydych wedi'ch lleoli yng Nghymru (Eich dewis)
  • Incwm personol a theuluol, gan gynnwys budd-daliadau

Fel rhan o'r gwaith ymchwil, bydd angen i'r Tîm Ymchwil Defnyddwyr gasglu'r wybodaeth bersonol a chategori arbennig canlynol:

  • eich delwedd (llun neu fideo)
  • eich llais (fideo a/neu sain)

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Pan fo'r wybodaeth yn gyfystyr â data categori arbennig, byddwn yn ei phrosesu er budd sylweddol y cyhoedd o sicrhau cyfle cyfartal fel y nodir yn y Canllawiau GDPR.

Ni fydd unrhyw ddata personol a roddwch ar gyfer yr ymchwil hwn yn cael ei rannu y tu allan i'r Tîm Profiad Defnyddiwr nac aelodau o'r Tîm Trechu Tlodi a'r Tîm Cyfathrebu Cyfiawnder Cymdeithasol. Ni fydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio ganddynt hwy na Llywodraeth Cymru at unrhyw ddiben arall.

Y gweithgareddau y gallech fod yn rhan ohonynt yw llenwi arolwg a chyfweliad rhithwir.

Hoffai'r Tîm Profiad Defnyddiwr recordio'r cyfweliadau. Bydd hyn yn cael ei wneud yn glir i chi cyn y sesiwn. Os nad ydych am gael eich recordio, bydd gennych yr opsiwn i ddewis peidio ar ddechrau'r cyfweliad neu'r sesiwn brofi. Ni fydd modd eich adnabod o'ch sylwadau.

Os byddwch yn dewis rhoi rhagor o ddata personol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, na chysylltu'ch enw â'r ymatebion hynny. Os byddwch yn gofyn cwestiwn neu’n gwneud cwyn ac yn rhoi data personol er mwyn gallu cael ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y data at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata’r ymchwil.

Bydd recordiadau yn cael eu dileu pan nad oes eu hangen mwyach ac ni fyddant yn cael eu cadw am fwy na 2 flynedd. Ni fydd data personol yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol a byddant yn cael eu dileu yn ystod cam dadansoddi'r cyfweliadau rhithwir. Bydd unrhyw ddata personol nad ydynt eisoes wedi'u dileu yn cael eu dileu dri mis ar ôl i'r prosiect ddod i ben.

Yr enwau cyswllt ar gyfer ymgysylltu yw:

Josie Clarke
E-bost: Josie.Clarke001@llyw.cymru

Tia Mais
E-bost: Tia.Mais@llyw.cymru 

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a’u gweld
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Os ydych yn dymuno cysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, cewch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru.

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays,
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru 
Fodd bynnag, byddwn yn delio â cais sut bynnag rydych yn cysylltu â ni.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffon: 01625 545 745 neu 0303 123 1113 Gwefan: www.ico.org.uk