Hysbysiad Preifatrwydd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru F8.0 2024
Sut byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych a pha mor hir y byddwn yn ei chadw.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Twf Swyddi Cymru Plws (TSC+)
Yn achos rhaglenni TSC+ yn unig, mae’n orfodol i’r contractwr sicrhau bod pob unigolyn ar y rhaglen yn gweld yr hysbysiad preifatrwydd yn ystod y cyflwyniad i’r cynllun datblygu unigol.
Pob rhaglen arall
Mae’n orfodol i bob dysgwr weld Hysbysiad Preifatrwydd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn ystod y broses gofrestru, ynghyd â’r unigolion hynny sydd eisoes wedi dechrau dysgu.
Hysbysiad Preifatrwydd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru: rhan un (fersiwn fer)
Cyflwyniad
Mae'r rhaglen ddysgu yr ydych ar fin ymrestru ar ei gyfer yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru (LlC).
Er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen hon, bydd yn rhaid i chi ddarparu data personol. Rydym yn dibynnu ar erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol. Mae hyn yn caniatáu i ni fodloni ein dyletswyddau cyfreithiol a gweinyddu a monitro'r cyllid a ddarperir gennym. Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth categori arbennig, fel ethnigrwydd, bydd yn cael ei phrosesu am resymau diddordeb cyhoeddus sylweddol (o dan Erthygl 9(2)(g) a dibenion ystadegol (o dan Erthygl 9(2)(j). Ceir rhestr lawn o ddata categori arbennig yn 'rhan dau/fersiwn iawn' o'r hysbysiad preifatrwydd.
Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a ddarperir gennych o 1 Awst 2024 hyd at 1 Ebrill 2025. Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu data ar ei rhan ei hun ac ar ran corff hyd braich newydd o’r enw Medr (enw Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru). Bydd Medr yn prosesu data yn ymwneud â phrentisiaethau, addysg bellach a dysgu oedolion yn y gymuned ar ran Llywodraeth Cymru.
Gan fod eich rhaglen yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, efallai y bydd eich darparwr dysgu yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol megis pasbort, slip cyflog diweddar neu dystysgrif cymhwyster i sicrhau eich bod yn gymwys.
At ba ddiben y bydd Llywodraeth Cymru a Medr yn defnyddio eich gwybodaeth?
Bydd Llywodraeth Cymru a Medr yn defnyddio eich data at ddibenion ariannu, cynllunio a datblygu polisi yn ogystal â monitro deilliannau dysgwyr (megis ennill cymwysterau, cynnydd dysgwyr a chyrchfannau).
Yn ychwanegol, bydd eich data yn cael eu defnyddio mewn ystadegau ac ymchwil swyddogol, gan gynnwys sut y mae iechyd ac amgylchiadau unigol yn cael effaith ar ddeilliannau addysgol dysgwyr yng Nghymru. Mae ein hadroddiadau ystadegau swyddogol yn rhoi darlun cyffredinol o ddysgwyr yng Nghymru, beth y maent yn eu hastudio, eu canlyniadau a'u cyrchfannau ar ôl iddynt adael. Er enghraifft, maent yn cynnwys, gwybodaeth am batrymau o ran rhyw ac oedran dysgwyr a'r cymwysterau, pynciau a'r lefelau y maent yn eu hastudio. Ni ellir adnabod dysgwyr unigol o'r cyhoeddiadau hyn.
Fel rhan o ffrwd cyflogaeth Twf Swyddi Cymru Plws (TSC+), defnyddir data i bennu taliadau cymhorthdal cyfradd cyflog Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyflogaeth, er mwyn sicrhau bod y cyflog cywir yn cael ei dalu i'r cyfranogwr. Bydd data cyflogwyr hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi, monitro a phennu cyrchfan y cyfranogwyr hynny drwy gyflogaeth.
Bydd sefydliadau ymchwil hefyd yn defnyddio data dysgwyr ôl-16 er mwyn gwerthuso rhaglenni a pholisïau addysg yng Nghymru. Fel rhan o'r gwaith gwerthuso, efallai y byddant yn cynnal arolygon dysgwyr dewisol, a fydd yn asesu effaith rhaglen ar y dysgwr unigol yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Er mwyn i Lywodraeth Cymru asesu'r effaith y mae eu rhaglenni yn ei chael ar grwpiau o ddysgwyr penodol, byddwn yn cysylltu'ch data gyda chofnodion addysgol eraill a gedwir gennym, megis y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, Cronfa Ddata Arholiadau Cymru a’r Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch. Rydym yn defnyddio hyn i'n helpu i ddeall cynnydd a deilliannau dysgwyr yng Nghymru, er mwyn llywio ein hymchwil, mesurau perfformiad a chyhoeddiadau ystadegol. Efallai y byddwn yn rhannu hyn hefyd gydag ymchwilwyr a chyda'n partneriaid, gan gynnwys Estyn a Cymwysterau Cymru, er mwyn eu cynorthwyo i gynnal eu dadansoddiad nhw o'r data i lunio arolygiadau ac adolygiadau. Ni ellir adnabod dysgwyr unigol o'r data hyn yr ydym yn eu rhannu â'n partneriaid.
Am restr fanylach o sut y mae eich data yn cael eu defnyddio, cyfeiriwch at y 'rhan dau/fersiwn lawn' o'r hysbysiad preifatrwydd hwn.
Pwy y mae Llywodraeth Cymru yn rhannu eich data â nhw a pham?
Gweld y 'rhan dau/fersiwn lawn' o'r hysbysiad preifatrwydd am esboniad llawn o bwy rydym yn rhannu eich data â nhw a pham.
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data gallwch:
- weld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi
- ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
- gwrthwynebu unrhyw achos o brosesu’r data, am resymau’n ymwneud â’ch sefyllfa benodol chi (mewn rhai amgylchiadau)
- cyfyngu ar waith prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
- gofyn i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Am ba mor hir y bydd Llywodraeth Cymru’n cadw eich data?
Y math o ddata | Cyfnod cadw data | Defnyddio’r data |
---|---|---|
Addysg Bellach a Dysgu Oedolion | Bydd eich data’n cael eu dileu ar ôl 10 mlynedd | Mae’n galluogi Llywodraeth Cymru i ddadansoddi data dysgwyr a chreu adroddiadau dros gyfnod o amser. Bydd yr adroddiadau hynny yn cael eu defnyddio i helpu i lywio penderfyniadau ynghylch polisïau neu ragweld cyllid yn y dyfodol. Os caiff y dysgu ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cedwir data fel bod modd eu gwirio a'u harchwilio. Yr Undeb Ewropeaidd sy'n penderfynu ar y cyfnodau amser ar gyfer cadw data. |
Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau | Bydd eich data’n cael eu dileu 10 mlynedd ar ôl diwedd cyfnod y contract | |
Twf Swyddi Cymru Plws (TSC+) | Bydd eich data’n cael eu dileu ar ôl 10 mlynedd | |
Cedwir eich data am gyfnod hirach at ddibenion ystadegol a dibenion ymchwil. |
Manylion cyswllt
I wybod mwy am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawl o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bostiwch: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
I gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (llinell gymorth y Deyrnas Unedig)
Gwefan: https://ico.org.uk
Hysbysu ynghylch newidiadau
Diweddarwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Mehefin 2024 ac rydym yn ei adolygu'n gyson i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn gywir. Byddwn wastad yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i'r defnydd a wnawn o'ch data drwy'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn a'ch darparwr. Bydd pob achos o brosesu data gan Lywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol ym maes diogelu data.
Os hoffech beidio â chyflwyno eich data categori arbennig ar unrhyw adeg, dylech gysylltu â'ch darparwr dysgu a fydd yn diweddaru'ch cofnod.
Hysbysiad preifatrwydd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru rhan dau (fersiwn lawn)
Pa wybodaeth bersonol amdanoch fydd yn cael ei chasglu a’i defnyddio gan Lywodraeth Cymru?
Cesglir data personol amdanoch gan y darparwyr ac fe'u hanfonir at Lywodraeth Cymru ar gyfer Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, y system gasglu data ar gyfer Addysg Bellach, Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau a Dysgu Oedolion. Yn ôl diffiniad y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, eich data personol yw:
- dynodydd unigryw'r dysgwr (sy'n cael ei greu gan Lywodraeth Cymru)
- rhif adnabod y dysgwr (a grëwyd gan eich darparwr dysgu)
- cyfenw
- enw(au) cyntaf
- cyfeirio
- cod Post
- rhif ffôn
- rhif Yswiriant Gwladol
- cenedl
- eich cyfenw yn 16 oed
- dyddiad geni
- hunaniaeth genedlaethol
- yr ysgol ddiwethaf yr aethoch iddi
- y flwyddyn y gadawsoch yr ysgol
- rhif dysgwr unigryw (a grëwyd gan y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu)
- p'un a ydych yn weithiwr mudol
- dangosydd anhawster neu anabledd dysgu
- cod post (ar ddechrau'r rhaglen ddysgu)
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn prosesu'r data categori arbennig hyn am ddysgwyr:
- ethnigrwydd
- math o anabledd
- cyflwr iechyd
Nid oes yn rhaid i chi ddarparu’r data hwn.
Gweler Atodiad A am restr o feysydd data amhersonol y mae Llywodraeth Cymru yn eu casglu.
Sut y bydd eich data’n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru yn fewnol?
- Mewn gwaith gwerthuso rhaglenni a phrosiectau, er mwyn llunio polisïau ar gyfer dysgu ôl-16 yn y dyfodol.
- Er mwyn mesur y deilliannau ar gyfer dysgu ôl-16, gan gynnwys cyflawniadau dysgwyr o ran cymwysterau, cynnydd a chyrchfannau.
- Er mwyn helpu i ddyrannu a monitro cyllid ar gyfer dysgu ôl-16.
- Gan archwilwyr Llywodraeth Cymru, sy'n gwirio'r data yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod darparwyr y Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau yn cyflawni'r hyn a amlinellir yn eu contract neu'u cytundeb ariannu gyda Llywodraeth Cymru.
- Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o ran dysgu ôl-16 drwy Gymru, er mwyn sicrhau cydymffurfedd â Deddf Cydraddoldeb 2010.
- Er mwyn creu ystadegau swyddogol dienw ynghylch dysgu ôl-16 yng Nghymru.
- Er mwyn cysylltu â setiau data eraill at ddibenion ystadegol ac ymchwil, gan gynnwys cynhyrchu'r Set Data Addysg Cyfatebol (MED). Mae’r MED yn cysylltu Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru â’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, Cyfrifiad Addysg Heblaw yn yr Ysgol, Cronfa Ddata Arholiadau Cymru, Casgliad Data ôl-16 a data yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch, sydd yn eu tro yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i ddeall cynnydd dysgwyr drwy'r system addysg a'u cyrchfannau ar ôl iddynt adael eu dysgu.
Sut y bydd eich data’n cael eu defnyddio gan drydydd partïon?
- Mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu'ch data yn fewnol a chyda chyrff allanol y llywodraeth megis yr Adran Gwaith a Phensiynau, er mwyn asesu effaith rhaglenni dysgu fel prentisiaethau.
- Gan gwmnïau ymchwil sy'n cael eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwaith gwerthuso ar raglenni fel Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau. Efallai y bydd hyn yn cynnwys cysylltu â dysgwyr o'r gorffennol a rhai cyfredol i gymryd rhan mewn arolygiadau, er y bydd gennych wastad yr opsiwn i wrthod cymryd rhan os cysylltir â chi.
- Gan y Swyddfa ystadegau Gwladol, er mwyn cyhoeddi ystadegau crynswth mewn perthynas â’r economi, y boblogaeth a chymdeithas ar lefel y Deyrnas Unedig, Cymru a lefel leol. Cyhoeddir yr ystadegau hyn mewn modd sy’n sicrhau nad yw’n bosibl adnabod unigolion. Un o brif gynhyrchion ystadegol y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw Cyfrifiad 2021. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio’r data i wella cywirdeb Cyfrifiad 2021. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn defnyddio’r data i gynnal ymchwil, neu er mwyn rhoi data dienw i ymchwilwyr sydd wedi’u cymeradwyo (fel y’u diffinnir yn Neddf yr Economi Ddigidol), drwy ei hamgylchedd digidol diogel. Bydd prosiectau ystadegol y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r prosiectau ymchwil yn ymwneud â chysylltu data â ffynonellau data eraill er mwyn helpu i ddeall y cyswllt rhwng y system addysg a materion eraill, megis iechyd, lles neu’r economi. Cynhelir yr holl waith ystadegol ac ymchwil mewn ffordd sy’n cynnwys cynnal gwiriadau i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o ganlyniadau unrhyw ddadansoddiad.
- Gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a fydd yn gweithio ag Amgylchedd Ymchwil Ddiogel i gysylltu’ch data gyda gwybodaeth ddienw amdanoch sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, y GIG a sefydliadau cyhoeddus eraill, gan sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o ganlyniadau unrhyw ddadansoddiad.
- Gan Brifysgol Abertawe, mewn Amgylchedd Ymchwil Ddiogel, lle mae modd gwneud ymchwil gan ddefnyddio gwybodaeth ddienw a chynnal gwiriadau i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o ganlyniadau unrhyw ddadansoddiad. Bydd eich enw, eich cyfeiriad a’ch cod post wastad yn aros ar wahân i’ch data, ac ni fyddant ar gael yn yr Amgylchedd Ymchwil Ddiogel. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unig. Un enghraifft o gwestiynau ymchwil allweddol a fydd yn cael eu hateb gan waith fel hyn yw sut y mae iechyd ac amgylchiadau unigol yn effeithio ar gyrhaeddiad dysgwyr yng Nghymru.
- Gan Cymwysterau Cymru i gynnal dadansoddiad o nifer y dysgwyr sy’n cofrestru ar gyfer cymwysterau a deilliannau mewn lleoliadau ôl-16. Bydd y data yn cyfrannu at raglen Cymwysterau Cymru o adolygiadau sector ac ymchwil arall ar gymwysterau ôl-16.
- Gan Estyn i gynnal arolygiadau o safonau fel rhan o’i ddyletswydd statudol i arolygu darparwyr ôl-16. Bydd dadansoddiadau o’r data hefyd yn cael eu defnyddio i gynllunio arolygon, adolygiadau thematig ac adroddiadau blynyddol.
- Gan Adran Addysg Llywodraeth y DU, i’w defnyddio yn yr Astudiaeth Deilliannau Addysg Hydredol (LEO). Mae hyn yn cynnwys cysylltu cofnodion dysgwyr â chofnodion cyflogaeth, enillion a budd-daliadau a gedwir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a CThEF (Saesneg yn unig), a hynny at ddiben nodi a dadansoddi i ba gyfeiriad y mae dysgwyr yn mynd o ran dysgu pellach a/neu gyflogaeth.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn dadansoddi’r data cysylltiedig hyn at ddibenion ystadegol,. Bydd hyn yn cynnwys eu defnyddio i asesu effeithiolrwydd polisi ym maes addysg a hyfforddiant, er enghraifft, faint o bobl sydd â chymwysterau penodol sy’n mynd ymlaen i gael swyddi penodol, cymharu deilliannau pobl sy’n mynd at wahanol ddarparwyr addysg neu hyfforddiant, neu p’un a yw cynlluniau penodol wedi cyflawni’r hyn yr oeddent i fod i’w gyflawni.
- Gan IFF Research (Saesneg yn unig) sy’n cynnal arolygon ymchwil er mwyn rhoi darlun cyfredol o gyflogau prentisiaid yng Nghymru na thrwy Brydain Fawr ac i helpu o ran datblygu a monitro polisïau sy’n ymwneud â phrentisiaethau a’r isafswm cyflog cenedlaethol.
- Gan KPMG, PwC, BTP Associates Ltd, Mazars ac RSM UK, archwilwyr cyllid addysg bellach, sy’n sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu asesu a yw data sy’n cael eu dychwelyd gan sefydliadau yn sail resymol ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch cyllid.
- Gan Gyrfa Cymru, er mwyn cyflawni ei amcan o ddarparu cymorth i grwpiau penodol o unigolion sy’n wynebu risg uchel o ymddieithrio o addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
- Defnyddir data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru er mwyn eu paru â chofnodion cleientiaid sydd gan Gyrfa Cymru eisoes. Bydd rhywfaint o’r wybodaeth amhersonol a ddarperir i Gyrfa Cymru ar gael i Gyrfa Cymru o ddydd i ddydd felly. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyrsiau, dyddiad cychwyn ac ati. Mae manylion ynghylch sut y bydd Gyrfa Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth i’w gweld yn ei hysbysiad preifatrwydd.
Cytundebau rhannu data
Mae gan Lywodraeth Cymru gytundeb rhannu data ffurfiol yn ei le pan fyddwn yn rhannu eich data gyda thrydydd parti. Mae rhan o’r cytundeb yn golygu y bydd yn rhaid i drydydd parti lofnodi cytundeb cyfrinachedd ynghylch eich data er mwyn dangos ei fod yn gweithredu gweithdrefnau boddhaol ar gyfer diogelwch gwybodaeth, y byddant ond yn defnyddio eich gwybodaeth mewn ffyrdd a ragnodir, ac y byddant yn dinistrio ei gopïau o’ch data pan na fydd arnynt angen y data mwyach.
Trefniadau diogelwch ar gyfer eich data a gedwir gan Lywodraeth Cymru
Bydd y data y mae Llywodraeth Cymru yn ei gasglu amdanoch yn cael ei storio mewn cronfa ddata ddiogel y caiff mynediad iddi ei reoli ac y caiff profion eu cynnal yn rheolaidd arni er mwyn sicrhau ei diogelwch a’i hintegriti.
Crynodeb o'r newidiadau i hysbysiad preifatrwydd CDGOC rhwng fersiwn 7.0 a 8.0
- Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop bellach wedi dod i ben.
- Bydd archwiliadau dysgu seiliedig ar waith bellach yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn hytrach nag yn fisol.
- Mae’r Set Ddata Addysg Gyfatebol (MED) bellach yn cael ei chreu yn fewnol yn hytrach nag yn allanol.
Atodiad A
Data amhersonol | Nodiadau |
---|---|
Gwir oriau anghydamserol | |
Gwir oriau cydamserol | |
Oriau cydamserol disgwyliedig | |
Oriau anghydamserol disgwyliedig | |
Dangosydd achredu dysgu drwy brofiad blaenorol | Cydnabod y sgiliau a'r wybodaeth y mae'r dysgwr eisoes wedi llwyddo i'w cael at ddiben cymhwyster. |
Oriau gwaith gwirioneddol neu mewn canolfan | Cofnod o faint o amser y mae dysgwr yn debygol o dreulio gyda chyflogwr neu mewn coleg neu ganolfan ddysgu arall. |
Oriau cyswllt diwygiedig dan arweiniad neu mewn canolfan | |
Dysgu asesadwy | P'un a yw'r dysgu'n asesadwy, ac yn caniatáu nodi gweithgareddau dysgu a ddylai gael dyfarniadau cysylltiedig. |
Dangosydd cyrhaeddiad | |
Lefel credyd/gwerth dyfarniad | |
Dynodydd cofrestriad am ddyfarniad | Dynodydd ar gyfer pob cofrestriad am ddyfarniad ar gyfer y rhaglen ddysgu hon. |
Cyfeirnod nod dysgu dyfarniad | Dynodydd ar gyfer gweithgaredd dysgu gan Gymwysterau Cymru neu god cyffredinol a ddiffinnir gan Lywodraeth Cymru. |
Cyfrifoldeb gofalu | Cofnodi a oes gan ddysgwyr a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop gyfrifoldebau gofalu. |
Statws cwblhau | |
Gwlad breswyl | |
Lefel credyd/gwerth y gweithgaredd dysgu | |
Dyddiad cychwyn a gorffen y gweithgaredd dysgu/rhaglen ddysgu | |
Cyrchfan o fewn tri mis i adael | |
Enw/cod post y cyflogwr | |
Statws cyflogaeth ar ddechrau'r rhaglen ddysgu/cyn dysgu | |
Amcan o oriau gwaith/mewn canolfan | Yn cofnodi faint o amser y mae dysgwr yn debygol o dreulio gyda chyflogwr neu mewn coleg neu ganolfan ddysgu arall. |
Dyddiad gorffen disgwyliedig y gweithgaredd dysgu | |
Oriau sy’n cael eu gweithio bob wythnos | |
Statws yr aelwyd | Cofnodi a yw dysgwyr a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop yn dod o aelwydydd di-waith. |
Y gyrchfan uniongyrchol | Cyrchfan y dysgwr o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen. |
Cyllid darpariaeth ddysgu | |
Rhif nod dysgu | Nodi gweithgaredd dysgu gan Gymwysterau Cymru neu god cyffredinol a ddiffinnir gan Lywodraeth Cymru. |
Cod rhaglen ddysgu/cyfeirnod gweithgaredd a ddefnyddir gan y darparwr | |
Dyddiad gorffen disgwyliedig y rhaglen ddysgu | |
Dynodydd y rhaglen ddysgu | |
Cyfeirnod a ddefnyddir gan y darparwr | |
Hyd y gyflogaeth gyda'r un cyflogwr | |
Lefel y cymhwyster uchaf a gyflawnwyd cyn y rhaglen ddysgu | |
Dangosydd anhawster neu anabledd dysgu | |
Prif ffynhonnell y ffioedd | |
Dull cyflwyno | Cofnodi a yw'r dysgu yn cael ei gyflwyno mewn ystafelloedd dosbarth, yn y gweithle neu mewn ffyrdd eraill. |
Cod post (ar ddechrau'r rhaglen ddysgu) | |
Dyddiad dechrau'r rhaglen | |
Cyfran o'r gweithgaredd dysgu a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg | |
Y darparwr dysgu | |
Rheswm dros derfynu'r rhaglen ddysgu | |
Canlyniad a dyddiad y canlyniad | |
Codau fframwaith sector | |
Maint y cyflogwr/cod busnes bach a chanolig (BBaCh) | |
Is-gontractwr sy'n cyflwyno'r rhaglen | |
Pwnc dysgu/enw'r dyfarniad/gweithgaredd dysgu | |
Cyfanswm ffioedd a dalwyd am y rhaglen ddysgu | |
Y cymhwyster iaith Gymraeg uchaf a gafwyd cyn y rhaglen ddysgu | |
Math o raglen ddysgu/gweithgaredd dysgu/dyfarniad | |
Math o ddysgu cyfrwng Cymraeg | |
Cod awdurdod unedol | |
Dangosydd siaradwr Cymraeg | |
Oriau cyswllt dan arweiniad mewn gwaith neu ganolfan | Yn cofnodi faint o amser y mae dysgwr yn debygol o dreulio gyda chyflogwr neu mewn coleg neu ganolfan ddysgu arall. |
Cyfeirnod y cyflogwr | |
Dangosydd ffyrlo | |
Dangosydd y cynllun datblygu unigol | |
Disgrifyddion gweithgarwch TSC+ | |
Cymorth gwladwriaethol |