Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer System Monitro Cychod: gosod
Yn esbonio sut rydym yn defnyddio'r data rydych wedi'i ddarparu i ni.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
System fonitro drwy gyfrwng GPS yw System Monitro Cychod y Glannau (IVMS) sy’n darparu data rheolaidd i’r Awdurdod Pysgodfeydd am leoliad, cwrs a chyflymder cychod. Mae’r ddyfais yn casglu data sy’n caniatáu i’r awdurdodau hynny fonitro ymddygiad cychod pysgota mewn amser real. O dan ddeddfwriaeth sydd ar fin gael ei chyflwyno, bydd gofyn gosod dyfais fonitro ar unrhyw gwch pysgota llai na 12 metr o hyd a fydd yn gweithredu yn nyfroedd Cymru.
Pam mae angen inni brosesu’ch gwybodaeth bersonol?
Er mwyn sicrhau bod eich cwch yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd, mae angen i Lywodraeth Cymru gadw rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch. Mae prosesu’r wybodaeth yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gallu cyflawni’i thasg gyhoeddus ac arfer ei hawdurdod swyddogol. Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer gwybodaeth bersonol a gaiff ei phrosesu mewn perthynas â’r IVMS.
Mae angen inni brosesu’ch enw, eich cyfeiriad e-bost a manylion cysylltu eraill, eich rhif ffôn a gwybodaeth am eich cwch (gan gynnwys enw’r capten a lleoliad y cwch) er mwyn trefnu i ddyfais fonitro gael ei gosod ar eich cwch, ac er mwyn gwneud y trefniadau ar gyfer talu am y data ac i warantu’r ddyfais fonitro (tair blynedd). Bydd y gwaith i osod y ddyfais ac i’w gwarantu, yn ogystal â’r gwaith o anfon biliau am y data, yn cael ei wneud gan gyflenwr a fydd yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru.
Pwy fydd yn cael gweld eich data personol?
Bydd eich data personol yn cael eu rhannu gyda’r sawl a fydd yn cyflenwi’r dyfeisiau IVMS er mwyn iddynt gael gosod y ddyfais (dyfeisiau) ar eich cwch (cychod), er mwyn gwarantu’r dyfeisiau hynny ac anfon biliau am y data.
Am ba hyd y bydd fy ngwybodaeth bersonol yn cael ei chadw?
Yn unol â’i Pholisi ar Reoli a Chadw Cofnodion, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r wybodaeth bersonol am gyfnod o dair blynedd ar ôl i’r ddyfais fonitro gael ei gosod yn llwyddiannus ar eich cwch.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth ar ddiogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
- i ofyn inni gywiro camgymeriadau yn y data hynny
- (o dan amgylchiadau penodol), i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan amgylchiadau penodol), i’ch data gael eu ‘dileu’
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt
I gael gwybodaeth ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli’ch data personol, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
CAERDYDD,
CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt y Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk