Neidio i'r prif gynnwy

Ymadael â'r UE: Categorïau cymhwystra diwygiedig ar gyfer statws ffioedd cartref a chymorth i fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22

Cyflwyniad

  1. Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 ('y Rheoliadau') wrthi’n cael eu llunio ac ar ôl iddynt gael eu gwneud byddant yn diwygio'r rheoliadau sy'n darparu ar gyfer cymorth ariannol a statws ffioedd cartref i fyfyrwyr sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac sy'n dilyn cwrs addysg uwch dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2021.
  2. Mae’r trefniadau a ddisgrifir yma yn agored i newid ac yn amodol ar wneud y Rheoliadau.  Mae'r ddogfen hon wedi'i llunio i ddarparu gwybodaeth am y categorïau cymhwystra newydd. Nid yw'n ymdrin â phob agwedd ar gymhwystra am gymorth ariannol i fyfyrwyr ac nid yw chwaith yn cynnwys cyngor cyfreithiol na datganiad diffiniol o'r gyfraith.  Er bod pob ymdrech wedi'i gwneud i sicrhau bod yr wybodaeth a geir yn gywir adeg ei chyhoeddi, ni ddylid dibynnu ar y canllawiau hyn fel crynodeb cyflawn a chywir o'r Rheoliadau, sydd heb eu gwneud eto. Os bydd anghysondebau rhwng y canllawiau hyn a'r Rheoliadau, dylid dilyn y Rheoliadau.
  3. Mae cefndir y newidiadau hyn a throsolwg o’r polisi wedi’u darparu yn SFWIN 01/21, Ymadael â'r UE: Rheolau cymhwystra newydd ar gyfer statws ffioedd cartref a chymorth i fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022, sydd ar gael o:
    Hysbysiad gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru: ymadael â’r UE
    Hysbysiadau gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru
  4. Roedd SFWIN 01/21 yn darparu crynodeb o’r categorïau cymhwystra newydd. O 1 Awst 2021 ymlaen, yn amodol ar wneud y Rheoliadau, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol a statws ffioedd cartref i:
  • wladolion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r Swistir sy'n elwa ar hawliau dinasyddion o dan y gwahanol gytundebau ymadael
  • aelodau o deuluoedd gwladolion yr UE
  • aelodau o deuluoedd pobl Gogledd Iwerddon
  • plant gwladolion y Swistir
  • plant Gweithwyr o Dwrci
  • gwladolion y DU sy'n byw yn yr AEE a'r Swistir
  • gwladolion y DU a'r UE sy'n preswylio yn Gibraltar
  • aelodau o deuluoedd gwladolion y DU
  • phersonau y mae’r trefniant Ardal Deithio Gyffredin yn berthnasol iddynt.  statws ffioedd cartref, yn yr un modd ag y bydd, hyd 1 Ionawr 2028, gwladolion y DU sy'n byw yn nhiriogaethau tramor yr UE
  1. Mae’r Hysbysiad hwn yn rhoi gwybodaeth fanwl am y categorïau cymhwystra newydd i helpu’r rheini sy’n ymwneud â chyllid myfyrwyr ac asesu statws ffioedd cartref i baratoi ar gyfer y Rheoliadau. Disgwylir i’r Rheoliadau gael eu gwneud ym mis Ebrill.
  2. Mae’r rhan fwyaf o’r categorïau hyn yn newydd, a byddant yn berthnasol i flynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2021. Mae’r rhain yn ychwanegol at y categorïau presennol. Yn achos rhai o’r categorïau presennol, y rhai y mae ymadael â’r UE yn effeithio arnynt, dim ond i’r rheini sy’n dechrau cyrsiau cyn 1 Awst 2021 y byddant yn berthnasol. Ni effeithir ar nifer o gategorïau, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â mewnfudo i’r DU o wledydd y tu allan i’r UE.
  3. Mae’r categorïau cymhwystra o ran cymorth i fyfyrwyr a’r rheoliadau cysylltiedig yn gymhleth. Er mwyn symleiddio’r esboniad, hepgorwyd nifer o faterion sy’n ymwneud â chymhwystra. Bydd y Rheoliadau yn darparu’r meini prawf cymhwystra llawn. Yn benodol, mae dau fater sy’n berthnasol i nifer o gategorïau cymhwystra na chânt eu trafod yma:
  • y gofyniad nad yw cyfnodau penodol o breswylio arferol yn y DU wedi bod yn llwyr neu’n rhannol at ddibenion cael addysg lawnamser
  • y gofynion preswylio gwahanol sydd, mewn rhai achosion, yn berthnasol i aelodau’r lluoedd arfog i gydnabod eu cyfnodau dramor

  1. Mae’r tabl cymhwystra ar ddiwedd y ddogfen hon yn defnyddio’r categorïau newydd fel yr ymddangosant yn Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (ar gyfer statws ffioedd cartref) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (ar gyfer cymorth i fyfyrwyr). Efallai y bydd yna rai gwahaniaethau rhwng y categorïau yn y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr amrywiol.
  2. Nododd SFWIN 01/21 y bydd rhai grwpiau yn gymwys i gael cymorth nes 1 Ionawr 2028. Mae hyn yn berthnasol i rai o wladolion y DU sy’n byw y tu allan i’r DU. Mae’r dyddiad hwn yn saith mlynedd i ddiwedd y cyfnod pontio, ac felly yn cydnabod y gallai plant fod yn dechrau ar addysg uwchradd y tu allan i’r DU, ond eu bod am ddychwelyd i’r DU i ddechrau ar eu haddysg uwch maes o law. Dynodir hyn yn y mannau priodol.
  3. Fel sy’n wir eisoes, nid yw pob grŵp yn gymwys am bob cymorth i fyfyrwyr. Mae cymhwystra ar gyfer cymorth i fyfyrwyr wedi’i seilio ers tro ar allu person i ddangos cysylltiad digon cryf â’r DU. Mewn rhai achosion, efallai mai dim ond am rai elfennau o’r cymorth y bydd myfyrwyr yn gymwys, fel y mae’r tabl canlynol yn ei nodi.

Cymorth rhannol

Bydd person yn gymwys ar gyfer:

  • statws ffioedd cartref yn Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
  • capiau ffioedd dysgu yn Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
  • grant a benthyciad ffioedd dysgu yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
  • benthyciad yn Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017
  • benthyciad ffioedd dysgu yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
  • benthyciad yn Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
  • benthyciad a grant yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

Cymorth llawn

Bydd person yn gymwys ar gyfer cymorth rhannol yn ogystal â:

  • benthyciad a grant cynhaliaeth a grantiau eraill yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
  • benthyciad a grant cynhaliaeth a grantiau eraill yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Rhagor o wybodaeth

  1. Gall darllenwyr gysylltu â Llywodraeth Cymru neu eu swyddog cyswllt arferol yn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr/Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael gwybod mwy am gymhwystra. Gellir cysylltu â Llywodraeth Cymru yn HEDConsultationsmailbox@llyw.cymru

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

Mae'r categori hwn eisoes yn bodoli, ond mae wedi'i ddiwygio i eithrio personau a fydd yn perthyn i gategori 3

Mae cymorth llawn ar gael

1. Person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sy'n perthyn i gategori 3.

Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 1:

  • fod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
Ar gyfer cymorth i fyfyrwyr

Rhaid i bersonau yng nghategori 1:

  • fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Mae cymorth rhannol ar gael

2. Person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sy'n perthyn i gategori 3.

Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 2:

  • fod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
Ar gyfer cymorth i fyfyrwyr

Rhaid i bersonau yng nghategori 2:

  • fod yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Mae'r categori hwn eisoes yn bodoli, ond mae wedi'i ddiwygio yn sgil ymadael â’r UE

Mae cymorth llawn ar gael

3. Person y mae cytundebau hawliau dinasyddion yn berthnasol iddo ac sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rhoi caniatâd amhenodol iddo aros o dan reolau mewnfudo'r cynllun preswylio.

Person y mae darpariaethau hawliau dinasyddion yn berthnasol iddo, sy'n ddinesydd Gwyddelig ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig, nad oes angen caniatâd arno i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig; a byddai'n bodloni'r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheolau mewnfudo'r cynllun preswylio pe bai'n gwneud cais am ganiatâd o'r fath.

Person y mae cytundebau hawliau dinasyddion yn berthnasol iddo ac sy'n berson perthnasol o fewn ystyr rheoliad 3 (cyfnod gras) o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020, sydd â hawl i breswylio'n barhaol yn y Deyrnas Unedig neu sy'n cael ei drin fel rhywun sydd â hawl i breswylio'n barhaol yn y Deyrnas Unedig at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau’n effeithiol yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â'r person hwnnw yn ystod y cyfnod gras.

Person y mae cytundebau hawliau dinasyddion yn berthnasol iddo ac sy'n ymgeisydd o fewn ystyr rheoliad 4 (ceisiadau nad ydynt wedi'u penderfynu’n derfynol erbyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais) o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020, sydd â hawl i breswylio'n barhaol yn y Deyrnas Unedig neu sy'n cael ei drin fel rhywun sydd â hawl i breswylio'n barhaol yn y Deyrnas Unedig at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau’n effeithiol yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â'r person hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol.

Person sy'n aelod o deulu ("P") person perthnasol o Ogledd Iwerddon, pan fo P wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rhoi caniatâd amhenodol iddo ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio.

Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 3:

  • fod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
Ar gyfer cymorth i fyfyrwyr

Rhaid i bersonau yng nghategori 3:

  • fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teuluoedd

Mae'r rhai yng nghategori 4 yn gymwys i gael cymorth llawn

4. Person â hawliau gwarchodedig neu weithiwr trawsffiniol sydd:

  • (a) yn weithiwr mudol o'r AEE neu’n berson hunangyflogedig o'r AEE
  • (b) yn berson cyflogedig o’r Swistir neu’n berson hunangyflogedig o’r Swistir
  • (c) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b)
  • (d) yn weithiwr trawsffiniol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig trawsffiniol o’r AEE
  • (e) yn berson cyflogedig trawsffiniol o’r Swistir neu’n berson hunangyflogedig trawsffiniol o’r Swistir
  • (f) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (d) neu (e)

Mae paragraff (a) yn cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai'r person hwnnw'n wladolyn AEE, neu’n wladolyn AEE yn unig, yn weithiwr mudol o'r AEE neu'n berson hunangyflogedig o'r AEE.

Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 4:

  • fod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (nid yw hyn yn gymwys pan fo paragraff (d), (e) neu (f) yn berthnasol i’r person sy'n gwneud cais am gymorth)
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
Ar gyfer cymorth i fyfyrwyr

Rhaid i bersonau yng nghategori 4:

  • fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs os yw (a)–(c) yn berthnasol iddynt
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Mae'r rhai yng nghategori 5 yn gymwys i gael cymorth llawn

5. Person â hawliau gwarchodedig sydd â hawl i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (UE) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar ryddid gweithwyr o fewn yr Undeb i symud, fel yr oedd yn effeithiol yn union cyn diwrnod cwblhau'r Cyfnod Gweithredu, fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, fel yr oedd yn effeithiol yn union cyn diwrnod cwblhau'r Cyfnod Gweithredu.

Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 5:

  • fod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
Ar gyfer cymorth i fyfyrwyr

Rhaid i bersonau yng nghategori 5:

  • fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig/Cymru ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall

Mae 6A yn darparu ar gyfer statws ffioedd cartref, 6B yw'r hyn sy'n cyfateb ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, lle mae angen i’r myfyriwr breswylio fel arfer yng Nghymru, ond mae'n darparu ar gyfer grŵp ychydig yn llai. Mae cymorth llawn ar gael i'r rhai yn 6B ar gyrsiau sy'n dechrau cyn 1 Ionawr 2028. Nid oes cyfyngiad amser ar statws ffioedd cartref y rhai yn 6A.

6A. Person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig, wedi gadael y Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau’r Cyfnod Gweithredu ar ôl setlo yn y Deyrnas Unedig.

Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 6A:

  • fod wedi bod yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r Cyfnod Gweithredu:
    • yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor
    • yn y Deyrnas Unedig, lle dechreuodd y cyfnod preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor
    ac wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod sy'n dechrau ar ddiwrnod cwblhau'r Cyfnod Gweithredu ac sy'n dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

6B. Person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig, a oedd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau'r Cyfnod Gweithredu.

Ar gyfer cymorth i fyfyrwyr

Rhaid i bersonau yng nghategori 6B:

  • fod wedi bod yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r Cyfnod Gweithredu:
    • yn y diriogaeth sy'n ffurfio Gibraltar, yr AEE a'r Swistir
    • yn y Deyrnas Unedig, lle dechreuodd y cyfnod preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth sy'n ffurfio Gibraltar, yr AEE a'r Swistir
    ac wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod sy'n dechrau ar ddiwrnod cwblhau'r Cyfnod Gweithredu ac sy'n dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae'r cwrs yn dechrau
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Gwladolion yr UE

Mae'r rhai yng nghategori 7 yn gymwys i gael cymorth rhannol

7. Person â hawliau gwarchodedig sydd:

  • (a) yn un o wladolion yr UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • (b) yn aelod o deulu person a grybwyllir yn (a)
  • (c) yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon
Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 7:

  • fod yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig
  • yn amodol ar (1), fod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

(1) Nid yw'r amod hon yn berthnasol i aelod o deulu person sydd:

  • yn un o wladolion yr UE neu'n berson perthnasol o Ogledd Iwerddon
  • wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
Ar gyfer cymorth i fyfyrwyr

Rhaid i bersonau yng nghategori 7:

  • fod yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Mae'r rhai yng nghategori 8 yn gymwys i gael cymorth llawn

8. Person â hawliau gwarchodedig sy'n un o wladolion yr UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 8:

  • fod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
Ar gyfer cymorth i fyfyrwyr

Rhaid i bersonau yng nghategori 8:

  • fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Gwladolion y Deyrnas Unedig

Mae'r rhai yng nghategori 9 yn gymwys i gael cymorth llawn ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau cyn 1 Ionawr 2028

9. Person sy'n un o wladolion y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, neu'n aelod o deulu person o'r fath.

Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 9:

  • fod yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig
  • bod wedi preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r Cyfnod Gweithredu:
    • yn y diriogaeth sy'n ffurfio tiriogaethau tramor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r UE
    • yn y Deyrnas Unedig, lle dechreuodd y cyfnod preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth sy'n ffurfio tiriogaethau tramor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r UE
    ac wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r UE drwy gydol y cyfnod sy'n dechrau ar ddiwrnod cwblhau'r Cyfnod Gweithredu ac sy'n dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • yn amodol ar (1), fod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

(1) Nid yw'r amod hon yn berthnasol i aelod o deulu un o wladolion y Deyrnas Unedig, lle bo'r gwladolyn hwnnw:

  • wedi arfer hawl, cyn diwrnod cwblhau’r Cyfnod Gweithredu, i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth o dan Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2004/38
  • wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
Ar gyfer cymorth i fyfyrwyr

Rhaid i bersonau yng nghategori 9:

  • fod yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru
  • bod wedi preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r Cyfnod Gweithredu:
    • yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir
    • yn y Deyrnas Unedig, lle dechreuodd y cyfnod preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir
    ac wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod sy'n dechrau ar ddiwrnod cwblhau'r Cyfnod Gweithredu ac sy'n dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Dim ond i gael statws ffioedd cartref y mae'r rhai yng nghategori 10 yn gymwys

10. Person sy'n un o wladolion y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, neu'n aelod o deulu person o'r fath.

Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 10:

  • fod yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o'r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a'r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Mae'r rhai yng nghategori 11 yn gymwys i gael cymorth rhannol

11. Aelod o deulu person sy'n un o wladolion y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 11:

  • fod yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
Ar gyfer cymorth i fyfyrwyr

Rhaid i bersonau yng nghategori 11:

  • fod yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Personau sy'n preswylio yn Gibraltar

Mae'r rhai yng nghategori 12 yn gymwys i gael cymorth rhannol ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau cyn 1 Ionawr 2028

12. Person sydd:

  • (a) yn un o wladolion y Deyrnas Unedig sydd â statws preswyl yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar
  • (b) yn aelod o deulu un o wladolion y Deyrnas Unedig, y mae gan yr aelod hwnnw o'r teulu statws preswyl yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar
  • (c) yn un o wladolion yr UE sydd â hawl i breswylio yn Gibraltar yn sgil y cytundeb ymadael â’r UE
  • (d) yn aelod o deulu un o wladolion yr UE, y mae gan yr aelod hwnnw o'r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar yn sgil y cytundeb ymadael â’r UE
Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 12:

  • fod yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig
  • yn amodol ar (1), fod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

(1) Nid yw'r amod hon yn berthnasol i aelod o deulu person sydd:

  • yn un o wladolion yr UE neu'n berson perthnasol o Ogledd Iwerddon
  • wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
Ar gyfer cymorth i fyfyrwyr

Rhaid i bersonau yng nghategori 12:

  • fod yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Plant gwladolion y Swistir

Mae'r rhai yng nghategori 13 yn gymwys i gael cymorth llawn.

13. Person â hawliau gwarchodedig sy'n blentyn i un o wladolion y Swistir sydd â hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 18(2) o gytundeb hawliau dinasyddion y Swistir.

Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 13:

  • fod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
Ar gyfer cymorth i fyfyrwyr

Rhaid i bersonau yng nghategori 13:

  • fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Plant gweithwyr o Dwrci

Mae'r rhai yng nghategori 14 yn gymwys i gael cymorth llawn

14. Person sy'n blentyn i weithiwr o Dwrci ("T"), lle roedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau'r Cyfnod Gweithredu; ac, yn union cyn diwrnod cwblhau’r Cyfnod Gweithredu, roedd yn blentyn i T ac yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.

Ar gyfer statws ffioedd cartref

Rhaid i bersonau yng nghategori 14:

  • fod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
Ar gyfer cymorth i fyfyrwyr

Rhaid i bersonau yng nghategori 14:

  • fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • bod wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

Nodiadau

Mae person sydd â hawliau gwarchodedig yn golygu:

Person y mae darpariaethau hawliau dinasyddion yn berthnasol iddo sydd:

  • (i) â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo'r cynllun preswylio
  • (ii) yn ddinesydd Gwyddelig nad oes angen caniatâd arno, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig
  • (iii) yn berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan nad yw'r cyfnod gras wedi dod i ben
  • (iv) yn ymgeisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan nad yw'r cyfnod perthnasol wedi dod i ben

neu

Aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo'r cynllun preswylio, y mae gan yr aelod hwnnw o'r teulu ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo'r cynllun preswylio.

Mae darpariaethau hawliau dinasyddion yn gymwys i berson os yw un o’r canlynol yn berthnasol i’r person hwnnw:

  • (a) Erthygl 10 (cwmpas personol) y cytundeb ymadael â’r UE,
  • (b) Erthygl 9 (cwmpas personol) cytundeb gwahanu Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, neu
  • (c) Erthygl 10 (cwmpas personol) cytundeb hawliau dinasyddion y Swistir.

(Gweler adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020 am y diffiniad o bob un o'r cytundebau hyn).

Rheolau mewnfudo'r cynllun preswylio yw'r rheolau a ddiffinnir yn adran 17 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020.

Mae i cyfnod gras yr ystyr a roddir yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020.

Mae Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 yn golygu Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Terfyn Amser ar gyfer Gwneud Cais a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â'r UE) 2020.

Mae i person perthnasol o Ogledd Iwerddon yr ystyr a roddir yn rheolau mewnfudo'r cynllun preswylio.

Ystyr tiriogaethau tramor yw tiriogaethau tramor yr UE a thiriogaethau tramor Prydeinig penodedig.

Y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yw Anguilla; Bermuda; Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Gibraltar; Montserrat; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynysoedd Ascension a Tristan da Cunha); ac Ynysoedd Turks a Caicos.

Diwrnod cwblhau’r Cyfnod Gweithredu oedd 31 Rhagfyr 2020.

Tiriogaethau tramor yr UE yw Aruba; Ynysoedd Faroe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curacao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); St Barthélemy, St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; a Wallis a Futuna.

Efallai y caiff termau eraill eu diffinio yn y rheoliadau amrywiol.