Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'w cynnwys yn y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr a'r Rheoliadau cysylltiedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 (“Rheoliadau 2022”) yn cael eu drafftio ar hyn o bryd, ac o'u pasio, byddant yn darparu cymorth i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n ymgymryd â chwrs addysg uwch dynodedig. 

Mae Rheoliadau 2022, y disgwylir iddynt ddod i rym ar 23 Chwefror 2022, yn berthnasol ar gyfer y blynyddoedd academaidd sy'n cychwyn ar 1 Awst 2022 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, ac yn gwneud y newidiadau a nodir isod:

1. 1. Pecyn ariannol

1.1 Caiff y Rheoliadau eu diwygio i newid maint y cymorth a roddir i fyfyrwyr israddedig yn unol â pholisïau sefydledig fel a ganlyn:

  • cynyddu cyfanswm maint y Grant i Fyfyrwyr Anabl a fydd ar gael i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau i astudio gan gyfradd y chwyddiant a ragamcenir, sef 2.2 y cant, i adlewyrchu'r cynnydd mewn costau byw
  • cynyddu maint y Grantiau i Ddibynyddion a fydd ar gael i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau i astudio gan gyfradd y chwyddiant a ragamcenir (2.2 y cant)
  • cynyddu maint y benthyciad cynhaliaeth a fydd ar gael i'r myfyrwyr hynny a ddechreuodd eu cyrsiau ar 1 Awst 2018 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, er mwyn sicrhau bod y pecyn cynhaliaeth cyfan yn adlewyrchu'r Cyflog Byw Cenedlaethol a ragamcenir ar gyfer 2022 (cyfradd fesul awr o £9.52)
  • cynyddu maint y benthyciad cynhaliaeth a fydd ar gael i'r myfyrwyr hynny a ddechreuodd eu cyrsiau ar 1 Medi 2012 neu ar ôl y dyddiad hwnnw ond cyn 1 Awst 2018 gan gyfradd y chwyddiant a ragamcenir (2.2 y cant) i adlewyrchu'r cynnydd mewn costau byw
  • gostwng maint y grant ffioedd dysgu a chynyddu maint y benthyciad ffioedd dysgu ar gyfer y myfyrwyr hynny a ddechreuodd eu cyrsiau ar 1 Medi 2012 neu ar ôl y dyddiad hwnnw ond cyn 1 Awst 2018, gan gyfradd y chwyddiant a ragamcenir, fel na fydd cyfanswm maint y cymorth sydd ar gael ar gyfer ffioedd dysgu yn newid.

1.2 Mae rhagor o fanylion ynghylch hyn i'w gweld yn SFWIN 10/2021, mewn perthynas â chyhoeddi'r Memorandwm Ariannol.

2. Dileu darpariaethau'n ymwneud â'r “cyfnod gras” ar gyfer Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS)

2.1 Daeth y ‘dyddiad cau ar gyfer ceisiadau’ a'r ‘cyfnod gras’ sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i ben ar 30 Mehefin 2021. Gwneir darpariaeth ar gyfer y rhain yn Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020. Roedd pobl yn gallu gwneud cais am ganiatâd o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE tan y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sef 30 Mehefin 2021. Cedwir rhai hawliau a roddwyd gan Reoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016 tan y dyddiad hwnnw hefyd, er gwaethaf y ffaith bod y rheoliadau hynny wedi eu dirymu – sef y ‘cyfnod gras’. At hynny, pan fo'r cyfnod gras wedi dod i ben a bod unigolyn wedi gwneud cais dilys na wnaed penderfyniad yn ei gylch eto, caiff y cyfnod hwn ei estyn tan y gwneir penderfyniad – sef y ‘cyfnod perthnasol’.

2.2 Gwnaed darpariaeth yn Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 i sicrhau na fyddai unrhyw unigolyn a oedd yn gwneud cais am gymorth i fyfyrwyr, ac a oedd wedi gwneud cais am ganiatâd i aros o dan Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn ystod y cyfnod gras, yn cael ei wneud yn anghymwys i gael cymorth i fyfyrwyr yn anfwriadol. Mae diwygiad angenrheidiol wedi ei wneud i'r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr i ddileu unrhyw gyfeiriadau at y cyfnod gras (yn unig).

3. Gwladolion Affganistan

3.1 Ar 29 Rhagfyr 2020, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn a'r Ysgrifennydd Cartref y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid (ARAP). Cynllun newydd yw hwn a fydd yn cynnig cyfle i adleoli a chymorth arall i Staff presennol a blaenorol a Gyflogir yn Lleol yn Affganistan i adlewyrchu’r sefyllfa yno sy'n newid o hyd. Lansiwyd y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid ar 01 Ebrill 2021, a bydd yn parhau ar waith am gyfnod amhenodol.

3.2 Hefyd, o ganlyniad i ddigwyddiadau diweddar yn Affganistan, ym mis Awst 2021 cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion ynghylch cynllun newydd, sef y ‘Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS)’. Sefydlwyd y Cynllun hwn i amddiffyn dinasyddion Affganistan sydd wedi cyfrannu at gymdeithas sifil neu sy'n wynebu risg benodol, er enghraifft, o ganlyniad i'w rôl yn dadlau dros ddemocratiaeth a hawliau dynol, neu oherwydd eu rhywedd, rhywioldeb neu grefydd.

3.3 Diwygir y rheoliadau er mwyn gwneud darpariaeth ar gyfer dinasyddion Affganistan sy'n cael caniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan ARAP neu ACRS, i sicrhau y byddant yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr yn unol â chategorïau eraill sy'n seiliedig ar amddiffyn ac i dalu ffioedd cartref, yn ogystal â sicrhau bod y cap ar ffioedd dysgu yn berthnasol iddynt. Caiff hyn ei estyn i ŵr priod neu wraig briod yr unigolyn dan sylw, ei bartner sifil neu unrhyw blant dibynnol sydd wedi cael caniatâd o dan ARAP neu ACRS.

4. Myfyrwyr o Diriogaethau Dibynnol ar y Goron sy'n dod i Gymru i astudio

4.1 Bydd myfyrwyr o Diriogaethau Dibynnol ar y Goron sy'n dod i Gymru i astudio yn gymwys i dalu ffioedd cartref ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ar 1 Awst 2022 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, a bydd y cap ar ffioedd dysgu yn berthnasol iddynt. Diwygir y rheoliadau er mwyn dileu'r darpariaethau presennol sy'n atal unigolyn sy'n preswylio fel arfer yn y DU ar ôl iddo symud i'r DU o'r Ynysoedd er mwyn ymgymryd â chwrs rhag cael ei drin yn breswylydd fel arfer yn y DU. Drwy ddileu'r darpariaethau hyn, bydd modd i'r bobl hynny gael budd o dalu ffioedd cartref ac, yn achos cyrsiau addysg uwch, bydd y cap ar ffioedd dysgu hefyd yn berthnasol iddynt, ar yr amod eu bod yn gallu bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd perthnasol eraill. Fodd bynnag, ni fydd y bobl hynny yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr o hyd.

5. Y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu (ILE)

5.1 Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu'r Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu, sy'n sicrhau y bydd cyfleoedd Erasmus+ a oedd yn cael eu darparu i ddysgwyr a darparwyr yng Nghymru yn parhau i fod ar gael. Diwygir y rheoliadau er mwyn cynnwys cyfeiriad at y Rhaglen, i sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei ddarparu i’r bobl hynny sy'n cymryd rhan yn y Rhaglen yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23.

6. Myfyrwyr Gradd Meistr Ôl-raddedig ym maes Gwaith Cymdeithasol – y Grant i Fyfyrwyr Anabl

6.1 Diwygir y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr i wneud rhai myfyrwyr gradd Meistr ôl-raddedig yn gymwys i gael y Grant i Fyfyrwyr Anabl, lle y bo'n berthnasol. Mae’r rhain yn fyfyrwyr sy'n cael bwrsari o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 – sef bwrsari gan Gofal Cymdeithasol Cymru fel arfer.