Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid i Fyfyrwyr Ôl-raddedig) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 (“Rheoliadau 2022”) yn darparu cymorth i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n ymgymryd â chwrs addysg uwch dynodedig.

Mae Rheoliadau 2022, y disgwylir iddynt ddod i rym ar 6 Mai 2022, yn berthnasol ar gyfer y blynyddoedd academaidd sy'n cychwyn ar 1 Awst 2022 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, ac yn gwneud y newidiadau a nodir isod:

1. Pecyn ariannol

1.1 Caiff y Rheoliadau eu diwygio i newid maint y cymorth a roddir i fyfyrwyr ôl-raddedig yn unol â pholisïau sefydledig fel a ganlyn:

  • cynyddu swm y cymorth sy'n daladwy i fyfyrwyr Meistr ôl-raddedig sy'n dechrau cyrsiau ar neu ar ôl 1 Awst 2022 yn ôl y gyfradd chwyddiant a ragamcanir, drwy gynyddu swm y benthyciad. Ni fydd cymorth grant yn cael ei gynyddu
  • cynyddu swm y cymorth i fyfyrwyr doethurol sy'n dechrau cyrsiau ar neu ar ôl 1 Awst 2022 yn ôl y gyfradd chwyddiant a ragwelir

1.2 Mae rhagor o fanylion am hyn yn SFWIN 10/2021, mewn perthynas â chyhoeddi'r Memorandwm Ariannol.

2. Dileu darpariaethau'n ymwneud â'r “cyfnod gras” ar gyfer Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS)

2.1 Daeth y ‘dyddiad cau ar gyfer ceisiadau’ a'r ‘cyfnod gras’ sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i ben ar 30 Mehefin 2021. Gwneir darpariaeth ar gyfer y rhain yn Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020. Roedd pobl yn gallu gwneud cais am ganiatâd o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE tan y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sef 30 Mehefin 2021. Cadwyd rhai hawliau a roddwyd gan Reoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016 tan y dyddiad hwnnw hefyd, er gwaetha’r ffaith bod y rheoliadau hynny wedi eu dirymu – sef y ‘cyfnod gras’. At hynny, pan fo'r cyfnod gras wedi dod i ben a bod unigolyn wedi gwneud cais dilys na wnaed penderfyniad yn ei gylch eto, caiff y cyfnod hwn ei estyn tan y gwneir penderfyniad – sef y ‘cyfnod perthnasol’.

2.2 Gwnaed darpariaeth yn Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 i sicrhau na fyddai unrhyw unigolyn a oedd yn gwneud cais am gymorth i fyfyrwyr, ac a oedd wedi gwneud cais am ganiatâd i aros o dan Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn ystod y cyfnod gras, yn cael ei wneud yn anghymwys i gael cymorth i fyfyrwyr yn anfwriadol. Mae diwygiad angenrheidiol wedi’i wneud i'r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr i ddileu unrhyw gyfeiriadau at y cyfnod gras (yn unig).

3. Gwladolion Affganistan

3.1 Ar 29 Rhagfyr 2020, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn a'r Ysgrifennydd Cartref y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid (ARAP). Mae’r cynllun hwn yn cynnig cyfle i adleoli a chymorth arall i Staff presennol a blaenorol a Gyflogir yn Lleol yn Affganistan i adlewyrchu’r sefyllfa yno sy'n newid o hyd. Lansiwyd y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid ar 01 Ebrill 2021, a bydd yn parhau ar waith am gyfnod amhenodol.

3.2 Hefyd, o ganlyniad i ddigwyddiadau diweddar yn Affganistan, ym mis Awst 2021 cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion ynghylch cynllun newydd, sef y ‘Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS)’. Sefydlwyd y Cynllun hwn i amddiffyn dinasyddion Affganistan sydd wedi cyfrannu at gymdeithas sifil neu sy'n wynebu risg benodol, er enghraifft o ganlyniad i'w rôl yn dadlau dros ddemocratiaeth a hawliau dynol, neu oherwydd eu rhywedd, rhywioldeb neu grefydd.

3.3 Diwygir y rheoliadau er mwyn gwneud darpariaeth ar gyfer dinasyddion Affganistan sy'n cael caniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan ARAP neu ACRS, i sicrhau y byddant yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr yn unol â chategorïau eraill sy'n seiliedig ar amddiffyn ac i dalu ffioedd cartref, yn ogystal â sicrhau bod y cap ar ffioedd dysgu yn berthnasol iddynt. Caiff hyn ei estyn i ŵr priod neu wraig briod yr unigolyn dan sylw, ei bartner sifil neu unrhyw blant dibynnol sydd wedi cael caniatâd o dan ARAP neu ACRS.

4. Myfyrwyr gradd Meistr ôl-raddedig ym maes gwaith cymdeithasol

4.1 Mae myfyrwyr gwaith cymdeithasol wedi gallu cael bwrsari o £13,280 nad yw ar sail asesiad incwm ers 2004 i 2005. Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd y proffesiwn hwn i les pobl Cymru. Er mwyn atal cyllid dwbl, mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 yn gwneud myfyrwyr sy'n cael y bwrsari hwn yn anghymwys i gael unrhyw gymorth.

4.2 Bydd diwygio’r rheoliadau yn gwneud myfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, ac sy'n cael bwrsari, yn gymwys i wneud cais am fenthyciad i wneud iawn am y gwahaniaeth rhwng gwerth y bwrsari a chyfanswm y cymorth Meistr ôl-raddedig sydd ar gael.

5. Doethuriaeth mewn Seicoleg Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd

5.1 Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i Brifysgol Caerdydd i ariannu cwrs doethurol mewn Seicoleg Addysg. Mae bwrsari hefyd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fyfyrwyr.

5.2 Bydd diwygio’r rheoliadau yn gwneud myfyrwyr newydd, sy’n dechrau cyrsiau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, yn anghymwys i gael benthyciad doethurol pan fyddant yn cael bwrsari er mwyn osgoi cyllid dwbl.