Cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Chynllun Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) 2023 i 2024
Yn rhoi manylion y cynlluniau Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) ar gyfer 2023 i 2024. (SFWIN 05/2023)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg: blwyddyn academaidd 2023 i 2024
Mae’r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn rhoi manylion am y cynlluniau canlynol, lle asesir incwm, ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024:
- Cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
- Cynllun Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) (WGLG FE)
Ar hyn o bryd, mae’r cynlluniau LCA a WGLG (FE) yn cael eu drafftio ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024. Bydd y fersiynau terfynol ar gael i’w gweld yn nes ymlaen yn y flwyddyn ar y wefan cyllid i fyfyrwyr.
Sicrhewch bod yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn cael ei rannu â staff a chydweithwyr sy’n helpu i weinyddu’r cynlluniau.
Lansio gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru a sut i wneud cais
Lansiwyd gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024 ar 17 Ebrill 2023.
Sut i wneud cais: myfyrwyr newydd
O fis Ebrill 2023
Bydd ymgeiswyr newydd yn gallu casglu ffurflen bapur o'u hysgol neu goleg. Mae pecynnau ceisiadau papur dwyieithog wedi cael eu hanfon at ysgolion a cholegau sy’n gweinyddu’r cynlluniau.
Gellir lawrlwytho ceisiadau i'w argraffu o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Yn fuan bydd ymgeiswyr newydd yn gallu:
- cyflwyno eu cais LCA neu WGLG(FE) yn electronig
- lanlwytho eu tystiolaeth ategol trwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru
Bydd y gwasanaeth cyflwyno ceisiadau electronig yn ddwyieithog.
Diweddariad Medi
Mae’r gwaith ar system newydd yn parhau ac rydym wedi ymrwymo o hyd i sefydlu gwasanaeth cyflwyno ceisiadau electronig ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024. Ceir diweddariadau pellach pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael. Gall myfyrwyr newydd barhau i ymgeisio fel arfer drwy gais ar bapur, naill ai drwy lawrlwytho ffurflen gais LCA neu WGLG(FE) neu drwy gwblhau cais ar bapur a geir o’r ysgol neu goleg.
Sut i wneud cais: myfyrwyr sy’n dychwelyd
Nid oes gofyn i fyfyrwyr sy'n dychwelyd gyflwyno cais papur neu electronig. Mae eu Cytundeb LCA neu WGLG (FE) wedi'i lofnodi yn gweithredu fel eu cais i ailymgeisio am gymorth am flwyddyn arall. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn ysgrifennu at fyfyrwyr sy'n dychwelyd yn ystod y Gwanwyn i roi gwybod iddynt am y camau nesaf i'w dilyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024.
Rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i Cyllid Myfyrwyr Cymru os yw eu hamgylchiadau wedi newid ers eu cais cychwynnol.
Am wybodaeth a chyngor gellir cysylltu â gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog Cyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050.
Cyfradd y lwfans cynhaliaeth addysg (LCA)
Ar 17 Ebrill 2023 cadarnhaodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg bod yr LCA wedi cynyddu i gyfradd newydd o £40 yr wythnos.
2022 i 2023
Bydd myfyrwyr newydd cymwys a myfyrwyr cymwys sy’n parhau yn cael y gyfradd newydd o £40 yr wythnos o 17 Ebrill 2023. Mae hyn yn amodol ar fodloni'r holl feini prawf gan gynnwys presenoldeb.
2023 i 2024
Bydd y gyfradd LCA newydd yn cael ei thalu i fyfyrwyr newydd cymwys a myfyrwyr cymwys sy’n parhau o ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu adolygiad annibynnol o'r LCA. Mae disgwyl iddo ddechrau yn ystod blwyddyn academaidd 2023 i 2024. Bydd gwybodaeth am yr adolygiad ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Nid oes unrhyw newidiadau i'r trothwyon incwm cymwys ar gyfer y cynlluniau LCA a WGLG (FE). Bydd grantiau WGLG (FE) hefyd yn aros ar y lefelau presennol yn 2023 i 2024.
Cynlluniau LCA a WGLG (FE): digwyddiadau cymwys
Ar gyfer 2023 i 2024 bydd y cynlluniau LCA a WGLG (FE) yn cynnig darpariaeth os bydd digwyddiad penodol yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs. Bydd hyn yn sicrhau meini prawf cyson ar gyfer y trefniadau cymorth cynhaliaeth rhwng addysg bellach ac addysg uwch.
Gallai myfyrwyr (newydd neu sy’n parhau) sy'n dilyn cwrs ar 1 Medi 2023, neu ar ôl hynny, ddod yn gymwys i gael cymorth os bydd unrhyw rai o’r digwyddiadau canlynol yn berthnasol:
- mae'r cwrs myfyrwyr yn dod yn gwrs dynodedig (ar gyfer WGLG (FE)) neu gwrs addysg cymwys (ar gyfer LCA)
- mae'r myfyriwr neu briod, partner sifil neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur
- mae'r myfyriwr neu briod y myfyriwr, partner sifil neu riant yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth
- mae'r myfyriwr neu briod y myfyriwr, partner sifil neu riant yn dod yn berson sydd â ffurf gymwys o ganiatâd i ddod i mewn neu i aros. (Er enghraifft person sydd â chaniatâd yn ôl disgresiwn, caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol, caniatâd i aros ar sail bywyd preifat neu ganiatâd ar sail Erthygl 8 Siarter Hawliau Dynol Ewrop)
- mae'r myfyriwr neu briod, partner sifil neu riant y myfyriwr yn dod yn berson y rhoddwyd statws diogelwch dyngarol iddo
- mae'r myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros (adran 67)
- mae'r myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson y rhoddwyd iddo ganiatâd i aros fel partner gwarchodedig (Er enghraifft gadael i aros fel naill ai dioddefwr trais yn y cartref neu gamdriniaeth, neu fel partner mewn profedigaeth)
- mae’r myfyriwr yn dod yn berson gyda chaniatâd Calais i aros
- mae’r myfyriwr yn dod yn aelod teulu person a oedd yn wladolyn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
- mae'r myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol; sylwer, bydd hyn hefyd yn cynnwys lle cafodd y myfyriwr statws sefydlog o dan Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd
- mae’r myfyriwr yn bodloni’r gofynion ar gyfer bod yn weithiwr mudol neu trawsffiniol, person cyflogedig neu berson hunangyflogedig
- mae'r myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o’r Swistir
- mae’r myfyriwr yn dod yn gymwys o dan un o Gynlluniau Afghanistan
- mae’r myfyriwr yn dod yn wladolyn o Wcráin sy’n warchodedig
Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru ond yn gallu penderfynu ar gymhwystra a hawl ar ôl derbyn:
- ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn
- tystiolaeth ategol briodol
Diweddariad Medi
Mae’r meini prawf ar gyfer digwyddiadau bellach yn cynnwys darpariaethau ar gyfer gweithwyr mudol a trawsffiniol penodol, pobl gyflogedig neu bobl hunangyflogedig.
Cyfrifo cyllid yn dilyn digwyddiad
LCA
Bydd taliadau LCA yn parhau i gael eu gweinyddu yn unol â'r prosesau presennol.
Bydd myfyrwyr yn derbyn y lwfans wythnosol o £40 am weddill yr wythnosau y byddant yn bresennol ar gyfer y flwyddyn academaidd. Bydd hyn yn amodol ar pryd y derbynnir eu cais, a phryd y digwyddodd y newid mewn sefyllfa.
WGLG (FE)
Cyfrifir hawlogaeth fel hyn:
E/AA x WGLG (FE) = RE
- E = nifer y dyddiau sydd ar ôl o gwrs y myfyriwr o ddyddiad y digwyddiad hyd at ddiwrnod olaf blwyddyn cwrs y myfyriwr (i'w cynnwys)
- AA = nifer diwrnodau blwyddyn cwrs y myfyriwr o ddiwrnod cyntaf y flwyddyn cwrs i ddiwrnod olaf y flwyddyn cwrs (i'w cynnwys)
- WGLG (FE) = yw'r hawl grant llawn yn seiliedig ar flwyddyn academaidd lawn
- RE = yr hawl grant a ailgyfrifwyd ar gyfer y diwrnodau sydd ar ôl o’r flwyddyn cwrs, o ddyddiad y digwyddiad
Diweddariad Medi
Bydd fformiwla cyfrifo’r WGLG (FE) ar gyfer digwyddiadau bellach yn defnyddio dyddiadau cyntaf ac olaf cwrs y myfyriwr ac nid dyddiadau’r flwyddyn academaidd. Bydd hyn yn darparu cyfrifiad tecach i fyfyrwyr cymwys sy’n bodloni digwyddiad.
Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau mewn perthynas â digwyddiad:
Mae’r dyddiadau cau i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n parhau sy'n gwneud cais o dan y darpariaethau ar gyfer digwyddiad i’w gweld yn Atodiad 1.
Ceisiadau neu gytundebau wedi’u llofnodi’n hwyr
Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn ystyried os gellir defnyddio disgresiwn fesul achos.
Trefniadau COVID-19: presenoldeb, taliadau LCA wedi'u hôl-ddyddio a llofnodi cytundebau dysgu
Bydd y mesurau canlynol bellach yn nodweddion safonol o’r cynllun:
- y cyfnod ymestyn ceisiadau (13 wythnos o 8 wythnos) er mwyn bod yn gymwys ar gyfer taliadau LCA wedi'u hôl-ddyddio
- llofnodi Cytundebau LCA a WGLG (FE) yn electronig
Rydym yn disgwyl i'r canolfannau dysgu ddiweddaru a chynnal eu canllawiau a'u polisïau eu hunain.
Rydym hefyd yn disgwyl bod canolfannau dysgu bellach yn ystyried y trefniadau dewisol at ddibenion presenoldeb fel rhai safonol. Er enghraifft:
- rhesymau sy'n gysylltiedig â salwch
- hunan-ynysu
- cau campws
Dylid eu cynnwys yn eu proses ar gyfer gwneud penderfyniadau wrth:
- gyflwyno cadarnhad presenoldeb eu myfyrwyr i Cyllid Myfyrwyr Cymru
- wrth weithredu a chynnal eu polisïau absenoldeb a phresenoldeb eu hunain
Ymholiadau
Os oes gennych ymholiadau am geisiadau, sut i wneud cais, taliadau neu unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru yn uniongyrchol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn, cysylltwch â'r Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru: isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru.
Mae fersiynau print mawr, Braille ac ieithoedd eraill o'r ddogfen hon ar gael ar gais.
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
Atodiad 1: darpariaethau digwyddiad dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau
Math o fyfyriwr | Darpariaethau digwyddiad dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau |
---|---|
Myfyrwyr newydd | Bydd yr ymgeisydd yn derbyn grant WGLG (FE) ar sail pro-rata o ddyddiad y digwyddiad. Bydd yn amodol ar y ffaith bod y digwyddiad hwnnw'n digwydd yn yr un flwyddyn academaidd. Rhaid bod y cais wedi dod i law o fewn naw mis i ddyddiad dechrau cwrs y myfyriwr yn y flwyddyn academaidd. Bydd y taliadau ond yn dechrau yn dilyn cadarnhad o Gytundeb WGLG (FE) y myfyriwr wedi'i lofnodi. |
Myfyrwyr sy’n parhau | At ddibenion y digwyddiad, mae myfyriwr sy'n parhau yn wahanol i berson sy'n cael ei drin fel myfyriwr sy'n dychwelyd. Byddai myfyriwr sy'n parhau yn berson nad yw eisoes wedi'i gymeradwyo ar gyfer WGLG (FE) ac sydd ar ei ail flwyddyn neu flwyddyn ddilynol ei gwrs/astudiaethau. Mae'r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais i fyfyrwyr sy'n parhau yr un fath a’r dyddiad cau i fyfyriwr newydd a nodir uchod. |
Myfyrwyr sy’n dychwelyd | Nid yw’r darpariaethau ar gyfer digwyddiad yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n dychwelyd, gan y byddant eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer y grant. |