Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru'n cymryd cyfres o fesurau i wella cymhwysedd ar gyfer cyllid myfyrwyr a statws ffioedd cartref ymhlith y rheini sydd mewn categorïau ymfudo sy'n seiliedig ar ddiogelu.

Fel arfer, i fod yn gymwys ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a statws ffioedd cartref, mae'n rhaid i unigolyn breswylio fel arfer yn y DU a’r Ynysoedd am dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs. Mae'r gofyniad hwn yn un hirdymor ac yn sicrhau bod adnoddau cyhoeddus prin yn cael eu targedu at y rheini sy'n fwyaf tebygol o gyfrannu at gymdeithas a'r economi.

Yr eithriad mwyaf amlwg i hyn yw ffoaduriaid, nad oes yn rhaid iddynt fodloni'r maen prawf hwn. Mae hyn yn cydnabod eu sefyllfa unigryw o ran bod angen eu diogelu ac yn sicrhau eu bod yn gallu dechrau adeiladu bywyd yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi penderfynu y dylai'r rheini sydd mewn nifer o gategorïau tebyg sy'n seiliedig ar ddiogelu hefyd fod yn gymwys heb fod angen iddynt fodloni'r maen prawf preswylio tair blynedd. Bydd hyn yn berthnasol i:

  • bersonau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt
  • personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth
  • personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016
  • phersonau y rhoddwyd caniatâd Calais i aros iddynt.

Yn ogystal, gan gydnabod yr amgylchiadau personol anodd a'r posibilrwydd na fyddant yn gallu dangos cyfnod preswylio o dair blynedd am resymau y tu hwnt i'w rheolaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn dileu'r meini prawf hyn i'r rheini sydd wedi cael caniatâd i aros o ganlyniad i brofedigaeth neu drais domestig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cyflwyno'r newidiadau hyn mor gyflym â phosibl.

Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021

Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 ('y Rheoliadau') yn diwygio'r rheoliadau a restrir isod:

  • Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
  • Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
  • Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
  • Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
  • Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017
  • Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
  • Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
  • Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019.

Diben y Rheoliadau yw dileu'r gofyniad preswylio tair blynedd yn y rheoliadau uchod ar gyfer categorïau penodol o fyfyrwyr:

  • personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt
  • personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth
  • personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016.

Mae'r gofyniad wedi'i dileu hefyd ar gyfer aelodau penodol a pherthnasol o'u teulu. Disgwylir i'r Rheoliadau ddod i rym ar 28 Ionawr 2021.

Cymhwysedd y rheini sydd â chaniatâd Calais i aros a'r rheini sydd wedi cael caniatâd o ganlyniad i drais domestig neu brofedigaeth

Caiff diwygiadau pellach eu gwneud i gymorth myfyrwyr a rheoliadau cysylltiedig er mwyn ehangu cymhwysedd ymhlith grwpiau agored i niwed. Bydd Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod personau sydd wedi cael caniatâd Calais i aros yn gymwys ar gyfer cymorth myfyrwyr a statws ffioedd cartref. Ni fydd y gofyniad preswylio tair blynedd yn berthnasol iddynt.

Yn ogystal, ni fydd angen i bersonau sydd wedi cael caniatâd i aros fel dioddefwr trais domestig a phersonau sydd wedi cael caniatâd i aros oherwydd profedigaeth, sydd eisoes yn gymwys o dan y rheoliadau, fodloni'r gofyniad preswylio tair blynedd mwyach.  Mae hyn yn cydnabod y ffaith ei bod yn bosibl na all y rheini sydd yn y sefyllfa hon ddangos tystiolaeth o gyfnod preswylio tair blynedd oherwydd amgylchiadau y tu allan i'w rheolaeth.

Mae hyn yn ddarostyngedig i'r rheoliadau a wneir. Disgwylir i'r rheoliadau gael eu gwneud ddechrau'r gwanwyn 2021 a byddant yn berthnasol i flwyddyn academaidd 2021 i 2022.