Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

  1. Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd, Dyfarniadau a Chymorth Myfyrwyr) (Diwygio) (Cymru) 2021 ("y Rheoliadau") yn cael eu drafftio ar hyn o bryd, ac unwaith y cânt eu gwneud byddant yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 sy'n darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cwrs addysg uwch dynodedig. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau cyfatebol i:
  • reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
  • rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) 2010
  • rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
  • rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017
  • rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 201
  • rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
  1. Bydd y Rheoliadau’n gwneud dinasyddion Iwerddon sydd wedi byw yn yr AEE a'r Swistir yn gymwys i gael cymorth ariannol a statws ffioedd cartref: Yn ogystal, mae’r Rheoliadau yn diwygio’r rheoliadau cymorth myfyrwyr i adlewyrchu’r ffaith bod ymgeiswyr hwyr i Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a’r rhai sy’n ymuno ag aelodau o'u teulu ac sy’n gwneud cais i’r Cynllun Preswylio'n Sefydlog yn gymwys i gael cymorth ariannol a statws ffioedd cartref.
  2. Yn ogystal, bydd y gofyniad i bersonau penodol fod yn preswylio fel arfer ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn cael ei newid i ofyniad i fod yn preswylio fel arfer ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd. Gwneir diwygiad technegol hefyd i sicrhau nad yw personau penodol sy'n byw yn nhiriogaethau dibynnol y Goron yn gymwys i gael cymorth, gan gynnal y polisi presennol.
  3. Er bod pob ymdrech wedi'i gwneud i sicrhau bod yr wybodaeth a gynhwysir yn gywir ar adeg ei chyhoeddi, ni ddylid dibynnu ar y canllawiau hyn fel crynodeb cyflawn a chywir o'r Rheoliadau, sydd heb eu gwneud eto. Os bydd gwahaniaethau rhwng y canllawiau hyn a'r Rheoliadau, dylid dilyn y Rheoliadau. Y bwriad yw i'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau ddod i rym ar 31 Rhagfyr 2021.

Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

  1. Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn sicrhau bod effaith lawn yn cael ei rhoi i Gytundeb Ymadael â’r UE fel y mae’n ymwneud â hawliau'r rhai sy'n gwneud ceisiadau hwyr i Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac i’r rhai sy’n ymuno ag aelodau o'r teulu yn y dyfodol nad ydynt eto wedi gwneud cais i'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog ac sy'n dal i fod o fewn y dyddiad cau ar gyfer gwneud hynny.

Dinasyddion Iwerddon sy'n byw yn yr AEE a'r Swistir

  1. Mae'r trefniant Ardal Deithio Gyffredin gydag Iwerddon yn ddealltwriaeth wleidyddol hirsefydlog sy'n darparu y caiff dinasyddion Prydain ac Iwerddon fwynhau hawliau a breintiau cyfatebol yng ngwladwriaethau ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys hawl i statws ffioedd cartref a chymorth i fyfyrwyr addysg uwch ac addysg bellach, yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwystra ar delerau nad ydynt yn llai ffafriol na'r rhai ar gyfer dinasyddion Prydain.
  2. Bydd rheoliadau'n darparu ar gyfer categori cymhwystra newydd ar gyfer dinasyddion Iwerddon yn yr AEE a'r Swistir. Bydd y rhai sy'n perthyn i'r categori yn gymwys ar gyfer statws ffioedd cartref a chymorth ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau yng Nghymru sy'n dechrau ar neu cyn 31 Rhagfyr 2027. Nid yw hyn yn effeithio ar y dinasyddion Gwyddelig hynny sy'n byw yn Iwerddon, sydd eisoes yn gymwys i gael statws ffioedd cartref a chymorth ffioedd dysgu.
  3. Bwriedir i’r gofynion preswylio ar gyfer gwladolion Gwyddelig ar gyfer cymwystra ar gyfer cymorth ffioedd dysgu fod fel a ganlyn:

Yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu:

  1. yn y diriogaeth sy'n cynnwys yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir neu
  2. yn y Deyrnas Unedig, lle ddechreuodd y breswyliaeth arferol honno ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswyliaeth arferol yn y diriogaeth sy'n cynnwys yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir

ac:

  • yn parhau i breswylio yn y diriogaeth sy'n cynnwys y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod sy'n dechrau ar ddiwrnod cwblhau cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

ac:

  • yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n cynnwys y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs

ac:

  • nad yw ei breswyliaeth arferol yn y diriogaeth sy'n cynnwys y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir wedi bod yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn cael addysg amser llawn (oni bai bod yr eithriad cyflogaeth dros dro yn gymwys)

9.       Yn ogystal, bydd y rhai sy'n byw yn y tiriogaethau hyn a thiriogaethau tramor yr UE yn gymwys i gael statws ffi cartref.

Myfyrwyr o diriogaethau dibynnol y Goron

  1. Bydd y Rheoliadau’n diwygio darpariaethau’n ymwneud â chymhwystra ar gyfer cymorth myfyrwyr i bersonau sydd wedi'u setlo yn y DU ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn yr Ardal Deithio Gyffredin (y DU, tiriogaethau dibynnol y Goron ac Iwerddon). Nid yw myfyrwyr sy'n dod i Gymru o diriogaethau dibynnol y Goron at ddiben astudio yn unig yn gymwys i gael cymorth ariannol. Gwnaeth ymgynghoriad ynghylch a ddylai myfyrwyr o diriogaethau dibynnol y Goron fod yn gymwys i gael statws ffioedd cartref ddod i ben ar 25 Hydref. Darperir rhagor o wybodaeth am ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw cyn hir.

Gofynion preswylio diwrnod cyntaf ar gyfer personau sefydlog penodol

  1. Bwriedir hefyd gwneud diwygiad i reoliadau er mwyn newid y gofynion diwrnod cyntaf ar gyfer y rhai sydd wedi setlo yn y DU ac yn ymgymryd â chwrs yng Nghymru ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n cynnwys y Deyrnas Unedig, Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs. Bydd angen i berson sydd wedi bod yn preswylio fel arfer am o leiaf ran o'r cyfnod hwnnw yng Ngweriniaeth Iwerddon fod bellach wedi setlo yn y DU ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd, yn hytrach nag ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs. Nid effeithir ar ofynion eraill. Gall hyn effeithio ar fyfyrwyr o Iwerddon yn benodol.

Rhagor o wybodaeth

Gall darllenwyr gysylltu â Llywodraeth Cymru neu eu cyswllt arferol yn y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr/Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth ynghylch cymhwystra. Gellir cysylltu â Llywodraeth Cymru drwy e-bostio:

HEDConsultationsmailbox@llyw.cymru