Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Croeso Cymru yn bresennol yn SeaTrade Cruise Global o’r 13-16 Mawrth er mwyn codi proffil Cymru fel cyrchfan ar gyfer mordeithiau a chwaraeon dŵr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

SeaTrade yw prif ddigwyddiad rhyngwladol y diwydiant mordeithiau a dyma’r unig ddigwyddiad ble y daw pob agwedd ar y busnes, gan gynnwys llongau mordeithiau, cyflenwyr, asiantaethau teithio a phartneriaid at ei gilydd.  Gyda dros 700 yn Arddangos ledled y byd, mae SeaTrade Cruise Global yn denu ymwelwyr i gyfarfod â gwerthwyr newydd, a dod o hyd i gynnyrch a syniadau newydd.  
Mae mordeithiau yn fusnes mawr i Gymru ac mae’n werth bron i £3 miliwn i economi Cymru  - bydd 89 o fordeithiau yn galw yng Nghymru yn 2017 gyda 37,000 o deithwyr a 15,000 o griw – cynnydd mewn mordeithiau o 33% ers y llynedd.
Yn y gorffennol, mae SeaTrade wedi arwain at ragor o fusnes gan longau mordeithiau newydd sy’n dymuno ymweld â Chymru.  
Ar gyfer digwyddiad 2017, bydd Croeso Cymru yn hyrwyddo Ras Cefnforoedd Volvo yn ogystal â Blwyddyn y Môr yn 2018.   Mae Caerdydd wedi ei dewis fel cyrchfan y rhan ar draws yr Iwerydd o’r ras i’r Deyrnas Unedig am y tro cyntaf mewn 12 mlynedd, pan fydd ras forol fwyaf y byd yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf.  Cynhelir y ras hwylio hon o amgylch y byd bob tair mlynedd ac mae’n cael ei hystyried yn gyffredinol fel un o’r digwyddiadau mwyf heriol o’i bath.   Mae’r diwydiant mordeithio yn fusnes mawr i Gymru – ac mae Cruise Cymru a’i phartneriaid yn gweithio’n galed i ddatblygu’r farchnad.  Mae mwy a mwy o ymwelwyr o’r Almaen yn dod i dde-orllewin Cymru ar fordeithiau sy’n docio yn Abertawe  Porthladd Aberdaugleddau, Penfro ac Abergwaun. Yn dilyn y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth ar gyfer y pontŵn yn Abergwaun i ganiatáu i longau mwy i angori, mae nifer y mordeithiau sydd wedi galw yn Abergwaun wedi cynyddu o 5 yn  2015 i 31 yn 2017. Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates:
"Mae’r diwydiant mordeithiau wedi ei nodi yn y strategaeth dwristiaeth ar gyfer Cymru fel un o’r ffyrdd o ddatblygu’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru 10% erbyn 2020, ac mae Mordeithiau yn un o’r sectorau sy’n datblygu gyflymaf o flwyddyn i flwyddyn.  Rydym yn gweithio gyda nifer o randdeiliaid o’r tua allan ac yn ystyried amrywiol ddatblygiadau i’r seilwaith ar gyfer mordeithiau.  Mae SeaTrade yn rhoi cyfle gwych inni sicrhau bod llongau mordeithiau, cwmnïau teithio a phartneriaid yn ystyried Cymru, ac i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan newydd.  Mae Ras Cefnforoedd Volvo hefyd yn rhoi platfform gwych inni drafod yr hyn sydd gan Gymru i’w chynnig – ond hefyd i hyrwyddo yr arhosiad yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf i gynulleidfa bwysig yn yr Unol Daleithiau.”