Rydym yn gofyn am eich barn ar wella gwytnwch a pherfformiad awdurdodau cynllunio yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Hoffem wybod eich barn ar y canlynol:
- cynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio (gan gynnwys cynnig llwybr i adennill costau llawn)
- mesur a monitro perfformiad drwy ailfywiogi ac ailgyflwyno'r Fframwaith Perfformiad
- cefnogi cydnerthedd, gallu a galluogrwydd drwy gadw sgiliau, bwrsarïau a phrentisiaethau
- gwella cydnerthedd ac adnoddau Cyd-bwyllgorau Corfforedig drwy:
- ddarparu gwasanaethau ar y cyd
- hybiau sgiliau cynllunio
- ymestyn cyfnod Adolygu Cynlluniau Datblygu Lleol
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 584 KB
PDF
584 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 17 Ionawr 2025, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelwch at:
WG50622: Hyrwyddo gwasanaeth cynllunio cydnerth sy'n perfformio'n dda
Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ