Flwyddyn ers cyflwyno llwybr uwch-noddwr Cartrefi i Wcráin Llywodraeth Cymru, mae Jane Hutt a Mick Antoniw wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel anghyfreithlon.
Daw hyn yn dilyn cynhadledd 'Cymorth i Wcráin' ddoe a ganolbwyntiodd ar sicrhau bod pobl o Wcrain yn cael cefnogaeth dda.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae mwy na 6,500 o bobl sydd â noddwyr yng Nghymru wedi dianc rhag yr ymosodiad gan Rwsia, gan gynnwys mwy na 3,000 drwy lwybr uwch-noddi Llywodraeth Cymru.
Yr wythnos ddiwethaf fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru sut y bydd buddsoddiad ychwanegol o £40m i gefnogi pobl o Wcráin yn 2023-24 yn cael ei wario.
Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru:
“Mae ein hymrwymiad i fod yn Genedl Noddfa yn gryfach nag erioed. Mae ein llwybr uwch-noddi wedi cynnig achubiaeth i bron 3,100 o bobl sydd wedi cyrraedd Cymru er mwyn dianc rhag y rhyfel.
“Mae'n rhaid i ni helpu pobl sy'n ffoi rhag amgylchiadau enbyd. Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i helpu pobl yn y tymor byr ac yn yr hirdymor.”
Trefnwyd cynhadledd Cymru ‘Cymorth i Wcráin” gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Phlismona Gwrthderfysgaeth a Chylchdaith Cymru a Chaer o’r Bar. Daeth â sefydliadau allweddol at ei gilydd o’r meysydd tai, gofal iechyd, llywodraeth leol, amddiffyn plant rhyngwladol, y sector cyfreithiol a'r sector cyngor nid er elw, a phlismona gwrth derfysgaeth, i sicrhau bod y rhai sy'n cyrraedd Cymru yn cael cefnogaeth dda.
Fe wnaeth y sesiynau ganolbwyntio ar droseddau rhyfel, gwasanaethau cymorth a chyngor i Wcrainiaid sydd wedi ceisio noddfa yng Nghymru, a chynlluniau i gefnogi cyfreithwyr Wcreinaidd.
Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a roddodd yr anerchiad agoriadol a’r sylwadau i gloi’r gynhadledd. Dywedodd:
“Wrth i Gymru gamu ymlaen i gefnogi pobl sydd wedi profi trawma annioddefol, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn rhannu arbenigedd i helpu'r miloedd o bobl sydd eisoes wedi cael eu croesawu i Gymru.
“Fe wnaeth y gynhadledd hefyd ddwyn ynghyd cydweithwyr o’r sector cyfreithiol er mwyn i ni allu deall yn well sut y gallwn ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth gyfreithiol i Wcreiniaid yng Nghymru.”