Hyrwyddo busnesau o Gymru yn Qatar cyn dechrau gwasanaethau hedfan dyddiol rhwng Caerdydd a Doha.
Gydag amrywiaeth o gwmnïau o Gymru gan gynnwys Teddington Engineered Solutions yn Llanelli, y British Rototherm Company ym Mhort Talbot a'r cynhyrchydd bwyd, Rachel's Dairy yn Aberystwyth yn ymuno â hi, bydd y daith yn dechrau yn Qatar cyn mynd i Kuwait Mae'n rhan o'r ymdrech i helpu cwmnïau i feithrin cysylltiadau masnachu newydd â busnesau yn y Dwyrain Canol ac yn y pen draw i gynyddu allforion o Gymru.
Gan siarad cyn y daith, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae'r daith hon o dan arweiniad Llywodraeth Cymru i Qatar wedi'i hamseru'n dda, hynny yw cyn cyflwyno'r gwasanaethau awyr dyddiol ac uniongyrchol rhwng Maes Awyr Caerdydd a Doha fydd yn gweddnewid perthynas Cymru â'r Dwyrain Canol.
"Daw cyfleoedd anferthol yn sgil dechrau'r gwasanaeth newydd, ac fel Llywodraeth, rydym am wneud popeth yn ein gallu i sicrhau y manteisir yn llawn ar y cyfleoedd hyn gan eu troi'n fanteision economaidd byw i gwmnïau o Gymru.
"Mae allforio'n cynnig y potensial i weddnewid busnes er mwyn iddo gael mynd i'r lefel nesaf ac wrth i'r DU baratoi i adael yr UE, mae cynyddu gwerth allforion Cymru i farchnadoedd eraill ledled y byd yn bwysicach nag erioed.
"Er mai gwlad gymharol fach yw Qatar, mae hi gyda'r cyfoethocaf yn y byd a'i phoblogaeth yn tyfu, a bydd ei phroffil yn cynyddu dros y blynyddoedd nesa.
"Kuwait ar y llaw arall yw pumed gwlad gyfoethoca'r byd. Mae hithau hefyd yn farchnad bwysig ac rwy'n awyddus i gwmnïau o Gymru ddatblygu'u cysylltiadau â'r ddwy wlad cyn dechrau'r gwasanaethau newydd o Gaerdydd."
Mae un o’r cwmnïau, AmniTec, yn cynhyrchu pibau diwydiannol cydosodedig o fetel a fflwopolymer cyfansawdd ym Merthyr Tudful gan gyflenwi’r marchnadoedd cyflenwi olew a nwy, prosesu nwy, cynhyrchu pŵer, oeri a diwydiannol eraill.
Dywedodd Jeff Simms, rheolwr datblygu busnes Amnitec:
“Mae’r Dwyrain Canol yn farchnad ddiddorol i ni. Nid oes gennym rwydwaith dosbarthu ar gyfer ein cynnyrch yno ac mae llwybr anuniongyrchol posib i ben-ddefnyddwyr olew, nwy a nwy naturiol hylif sydd o ddiddordeb i ni. Rydym wrthi’n cynhyrchu cyfansoddion nwy hylif naturiol a phibau gwres mawr dan bwysau yn ein ffatri yng Nghymru. Rydym am hyrwyddo ymwybyddiaeth o’n cynhyrchion Cymreig ac rydym yn awyddus i wybod a oes marchnad ar gyfer ein cynhyrchion yn y gwledydd hynny. Rydym am feithrin cysylltiadau busnes a dosbarthwyr i stocio’r pibau ac i hyrwyddo’r pibau uwch-beirianyddol arbennig hyn."