Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adolygiad yn archwilio hygyrchedd y broses ddemocrataidd yng Nghymru ac yn awgrymu mesurau i’w gwella, gan ddefnyddio tystiolaeth o genhedloedd cymaradwy eraill, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Prif ganfyddiadau

  • Mae ymchwil a wnaed yn yr Unol Daleithiau ac yn Ewrop ar gyfranogiad gwleidyddol pobl anabl yn ystod y degawdau diwethaf wedi canfod bod nifer y pleidleiswyr yn is ymhlith pobl anabl na phobl nad ydynt yn anabl, ac yn fwy felly ymhlith y rhai a oedd yn hŷn, yn dlotach neu ag amhariadau symudedd sylweddol (Schur et al., 2002; Priestley, 2016).
  • Mae bod yn anabl ynddo ei hun yn nodwedd penderfynu ystadegol arwyddocaol ar gyfer y nifer sy’n pleidleisio ac mae’n gysylltiedig â thebygolrwydd is o bleidleisio.
  • Gall iechyd gwael ac anableddau effeithio ar swm y cyfranogiad a’r ffordd y mae pobl yn cymryd rhan; mae’r ffactorau hyn yn lleihau cyfranogiad traddodiadol ac maent yn gysylltiedig â siom gyda’r system wleidyddol a lefelau isel o ymddiriedaeth ac effeithiolrwydd allanol (Mattila, 2022).
  • Mae pleidleiswyr anabl yn wynebu nifer o rwystrau posibl i gyfranogi yn wleidyddol o’u cymharu â phobl nad ydynt yn anabl, gan gynnwys diffyg gallu i gael gwybodaeth; heriau logistaidd yn ymwneud â lleoliad yr orsaf bleidleisio; problemau yn yr orsaf bleidleisio ei hun; ac anawsterau â’r profiad o bleidleisio.
  • Dylai’r rhai sy’n rheoli etholiadau yng Nghymru sicrhau bod yr holl ddeunyddiau cyn etholiad (gan gynnwys ffurflenni cofrestru a phapurau pleidleisio) a anfonir trwy’r post ar gael mewn fformatau hygyrch, megis fersiynau hawdd eu deall, gyda lluniau a fersiynau print bras, fersiynau braille a chyffyrddol, ac wedi eu haddasu i wahanol ieithoedd gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain.
  • Mae addasiadau posibl y gellid eu gwneud i bleidleisio yn y cnawd mewn gorsafoedd pleidleisio yn cynnwys sicrhau bod yr holl orsafoedd pleidleisio mewn lleoliadau sy’n hygyrch â phob dull o deithio a lle mae parcio anabl ar gael; sicrhau llwybr clir, di-rwystr drwy’r orsaf bleidleisio; a chreu prosesau i ymdrin â chiwiau ar gyfer y rhai y mae angen hynny arnynt.
  • Ni ddylid ystyried pleidleisio o bell fel dewis arall rhwydd yn lle pleidleisio yn y cnawd, oherwydd bod yn well gan lawer o bobl, gan gynnwys pobl anabl, bleidleisio yn y cnawd. Er hynny, mae ffyrdd y gellir ehangu a gwella pleidleisio o bell o bob math i sicrhau’r hygyrchedd gorau bosibl.
  • Dylid archwilio gorsafoedd pleidleisio am faterion hygyrchedd a dylai unrhyw broblemau a nodir arwain at atebion a fydd yn cael gwared ar rwystrau.
  • Gallai newidiadau posibl i’r system etholiadol gynnwys llacio’r cyfyngiadau ynghylch pryd a lle y byddai’n ofynnol i bleidleiswyr bleidleisio (Peixoto Gomes et al., 2022); cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, neu ganiatáu i bleidleiswyr gofrestru i bleidleisio ar ddiwrnod pleidleisio; a symud oddi wrth y Cyntaf i’r Felin i system bleidleisio amgen, fwy cyfrannol.

Cyswllt

Nerys Owens

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.