Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Eir ati yn y ddogfen hon i nodi cwmpas a chynnwys hyfforddiant sefydlu ar gyfer llywodraethwyr.

Rhaid i bob llywodraethwr ysgol ddilyn hyfforddiant sefydlu o fewn blwyddyn i'w penodi neu eu hethol, a bydd disgwyl iddyn nhw ddilyn yr hyfforddiant sefydlu a amlinellir yn y ddogfen hon. Efallai y bydd awdurdodau lleol a darparwyr hyfforddiant eraill am ehangu ar yr hyn a nodir yn y ddogfen hon a'i defnyddio i ddiweddaru hyfforddiant mewn meysydd allweddol.

Bydd yr hyfforddiant yn helpu i sicrhau bod llywodraethwyr:

  • yn meddu ar yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth y mae eu hangen arnyn nhw i ddechrau cyflawni'u rôl fel llywodraethwr yn effeithiol er mwyn cynorthwyo'u hysgol i godi safonau
  • yn ymwybodol o faterion addysgol cenedlaethol a lleol a'r effaith y mae'r materion hynny'n ei chael ar gyrff llywodraethu
  • yn llwyr ymwybodol o bwysigrwydd hyfforddiant a'r angen i feithrin eu sgiliau a manteisio ar gyfleoedd hyfforddi eraill sydd ar gael iddyn nhw

Bydd yr hyfforddiant yn adlewyrchu'r fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer llywodraethu ysgolion yng Nghymru a bydd yn diffinio'n glir yr hyn sydd i'w ddisgwyl gan lywodraethwyr wrth iddyn nhw ymgymryd â'u rôl, gan ganolbwyntio ar:

  • godi safonau ac ar wella ysgolion
  • y rôl strategol
  • diffinio'r amryfal bwerau a dyletswyddau sydd gan gyrff llywodraethu
  • sut y mae'r corff llywodraethu'n cefnogi ac yn herio gwaith yr ysgol
  • rôl y corff hwnnw o ran monitro a gwerthuso cynnydd yn yr ysgol
  • ym mha ffyrdd ac i bwy y mae cyrff llywodraethu yn atebol

Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn ystod yr hyfforddiant sefydlu yn helpu llywodraethwyr newydd i feithrin amrywiaeth o sgiliau a phriodoleddau sy'n ychwanegu gwerth at gorff llywodraethu, megis hunanhyder, gweithio mewn tîm, datrys problemau, rheoli amser, dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth.

Bydd yr hyfforddiant yn caniatáu i lywodraethwyr ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o lywodraethiant, a bydd yn rhoi trosolwg ar lywodraethu ysgolion, a hynny mewn pedwar maes sy'n perthyn i'w gilydd:

  • rolau gwahanol ac ategol llywodraethwyr
  • rolau a chyfrifoldebau allweddol cyrff llywodraethu
  • sut i fod yn llywodraethwr effeithiol
  • ble i gael gafael ar ragor o gymorth a hyfforddiant

Mae pob maes allweddol yn darparu crynodeb o'r prif bwyntiau y dylai awdurdodau lleol a darparwyr hyfforddiant eraill roi sylw iddyn nhw yn yr hyfforddiant sefydlu. Ni fwriedir i'r crynodebau fod yn hollgynhwysfawr. Eu nod, yn hytrach, yw rhoi trosolwg i helpu i gynllunio cyrsiau hyfforddi. Dylid cadw mewn cof faterion a phrosesau addysgol lleol, yn ogystal â pholisïau cenedlaethol newydd ac a ddiweddarwyd ym mhob adran. Darperir dolenni i wybodaeth am bolisïau cenedlaethol yn adran olaf y ddogfen hon.

Rolau gwahanol ac ategol llywodraethwyr

Mae’r maes allweddol hwn yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn:

  • pwy sy'n aelodau o gyrff llywodraethu a sut y mae'r aelodaeth yn amrywio yn unol â chategori’r ysgol lle maen nhw’n gwasanaethu
  • y mathau gwahanol o lywodraethwyr a sut y maen nhw’n cynrychioli'r gwahanol randdeiliaid sy'n gysylltiedig â'r ysgol – y pennaeth, rhiant-lywodraethwyr, llywodraethwyr ALl, athro- lywodraethwyr, llywodraethwyr cymunedol, llywodraethwyr cymunedol ychwanegol, llywodraethwyr sefydledig, llywodraethwyr nawdd, disgybl-lywodraethwyr cyswllt (mewn ysgolion uwchradd a chanol) 
  • sut y mae pob categori yn cael ei benodi neu ei ethol, cyfnod yn y swydd, er enghraifft 4 blynedd neu 2 flynedd yn dibynnu ar y math a'r categori ysgolion
  • yr ymrwymiad a ddisgwylir gan lywodraethwr – cyfnod yn y swydd, presenoldeb ac ymddygiad yng nghyfarfodydd, pwyllgorau a digwyddiadau’r corff llywodraethu, ymweld â’r ysgol, bod yn bresennol mewn sesiynau hyfforddi ar gyfer llywodraethwyr, amser i ddarllen y gwaith papur perthnasol
  • Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Saesneg yn unig) a sut maen nhw’n dylanwadu ar arferion cyrff llywodraethu; mae angen i lywodraethwyr ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddyn nhw a sut y maen nhw’n cael eu dal i gyfrif o ran bod yn esiampl dda i eraill
  • y broses ar gyfer ethol cadeirydd ac is-gadeirydd yn flynyddol

Rôl y cadeirydd

  • Rhoi arweiniad clir wrth drefnu gwaith y corff llywodraethu.
  • Sicrhau bod pob llywodraethwr yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol a’u bod yn cymryd rhan lawn yn y cyfarfodydd.
  • Sicrhau bod y corff llywodraethu’n gweithio fel tîm.
  • Gwneud defnydd da o sgiliau ac arbenigedd yr aelodau.
  • Rheoli cyfarfodydd yn effeithiol.
  • Cynnal perthynas effeithiol â’r pennaeth.
  • Cefnogi a herio'r pennaeth mewn modd strategol.
  • Bod yn llefarydd ar ran y corff llywodraethu.

Dylai cadeirydd y corff llywodraethu ffurfio perthynas broffesiynol gynhyrchiol â'r pennaeth, sy'n arddangos parch, gan sicrhau bod y corff llywodraethu yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i ofyn cwestiynau i'r pennaeth a'r uwch-dîm arwain a'u dal i gyfrif.

Rôl y clerc

  • Galw cyfarfodydd y corff llywodraethu. 
  • Dosbarthu papurau.
  • Cymryd a dosbarthu cofnodion cyfarfodydd y corff llywodraethu.
  • Cynnal cofrestrau aelodaeth, gan gynnwys offerynnau llywodraethu, a chofrestrau presenoldeb.
  • Cynnig cyngor ac arweiniad ar weithdrefnau yn ystod a rhwng cyfarfodydd. 
  • Sicrhau bod unrhyw gamau dilynol wedi'u cymryd.

Mae'r clerc yn atebol i’r corff llywodraethu, a dylai gydweithio’n agos â’r cadeirydd, y pennaeth a llywodraethwyr eraill ar dasgau dynodedig. Yn aml, bydd y clerc yn gyswllt agos rhwng y corff llywodraethu a'r awdurdod lleol, ac felly mae mewn sefyllfa berffaith i roi cyngor ar faterion gweithdrefnol.

Bydd rhai aelodau o'r corff llywodraethu yn ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol, megis bod yn llywodraethwr neu'n hyrwyddwr enwebedig ar gyfer rolau penodol, er enghraifft anghenion dysgu ychwanegol, diogelu plant, tegwch ac amrywiaeth, meysydd dysgu a phrofiad o'r Cwricwlwm i Gymru. 

Rolau a chyfrifoldebau allweddol cyrff llywodraethu

Mae’r maes allweddol hwn yn canolbwyntio ar ddiben llywodraethu – sef helpu i ddarparu’r addysg orau bosibl ar gyfer dysgwyr – a sut y mae llywodraethwyr unigol yn cyfrannu at y gwaith a wneir gan y corff llywodraethu i wella ysgolion.

Pwerau a dyletswyddau’r corff llywodraethu

  • Cynnig golwg strategol: pennu’r fframwaith a fydd yn llywio’r ffordd y mae’r pennaeth a’r staff yn mynd ati i redeg yr ysgol, pennu’r nodau a’r amcanion, cytuno ar y polisïau, y targedau a’r blaenoriaethau er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny, a monitro a gwerthuso.
  • Bod yn gyfaill beirniadol: cefnogi a herio’r pennaeth a’r staff, gan geisio gwybodaeth ac esboniadau.
  • Sicrhau atebolrwydd: esbonio penderfyniadau’r corff llywodraethu, ac unrhyw gamau a gymerir ganddo, wrth unrhyw un sydd â buddiant dilys.

Cyfrifoldebau craidd

  • Safonau: sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo safonau uchel o ran cyflawniad addysgol, ac o ran presenoldeb ac ymddygiad, gan gynnwys mynd ati i adolygu’n drwyadl unrhyw ddata a gyhoeddwyd am berfformiad a chynllun datblygu'r ysgol, a hunanwerthuso'n drylwyr.
  • Targedau: gosod targedau i’w defnyddio wrth fesur cynnydd o ran cyflawniad a deilliannau dysgwyr.
  • Cwricwlwm i Gymru: sicrhau bod pob dysgwr yn cael manteisio ar gwricwlwm eang a chytbwys sy'n bodloni'r gofynion statudol, yn ogystal â'u cefnogi a'u herio i symud ymlaen yn eu dysgu.
  • Penderfynu ar nodau, polisïau a blaenoriaethau'r ysgol, ac adnewyddu a chymeradwyo polisïau statudol, dogfennau a chrynodebau'r cwricwlwm.
  • Cyllid: penderfynu sut i ddefnyddio cyllideb yr ysgol yn effeithiol, a monitro hynny.
  • Staffio: sy’n ymdrin (lle y bo hynny’n briodol) â’r gwahaniaethau rhwng cyfrifoldebau’r corff llywodraethu am staff, a chyfrifoldebau’r awdurdod lleol fel cyflogwr wrth benderfynu ar nifer y staff a'r polisi cyflogau, a gwneud penderfyniadau am gyflogau’r staff, penodi staff, atal staff dros dro, materion disgyblu a diswyddo, cwynion, rheoli perfformiad a materion yn ymwneud â sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ar gyfer y pennaeth a’r staff, ac ymdrin â’r holl faterion hyn gan roi’r sylw dyledus i’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.
  • Cefnogi ymdrechion ymgysylltu cymunedol er budd dysgwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach.
  • Sicrhau bod dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn elwa ar y ddarpariaeth addysg, ac yn cyflawni ac yn arddangos cynnydd priodol.
  • Sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn cael eu cynnwys yn llawn ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.
  • Rhoi gwybodaeth i rieni a gofalwyr am yr ysgol, er enghraifft drwy’r adroddiad blynyddol i rieni, y crynodebau o'r cwricwlwm, a’r cyfarfodydd y mae’n statudol ofynnol eu cynnal â’r rhieni a gofalwyr.
  • Paratoi ar gyfer arolygiadau a chymryd y camau dilynol, gan gynnwys paratoi cynllun gweithredu a monitro cynnydd ar ôl arolygiad gan Estyn.
  • Sicrhau lles dysgwyr a staff drwy weithredu ar lefel ysgol gyfan.
  • Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau effeithiol ar waith i ddiogelu a hyrwyddo lles plant yn unol â chanllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel, ac i fonitro i ba raddau y cydymffurfir â’r rhain. 
  • Cymryd camau i hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach, gan gynnwys gwybodaeth am y camau a gymerir yn yr adroddiad blynyddol. 
  • Sicrhau bod pob dysgwr sydd â hawl i gael cinio ysgol am ddim a llaeth ysgol am ddim yn eu cael, gan gymryd camau rhesymol i ofalu nad oes modd gwybod pwy yw'r dysgwyr sy'n cael cinio ysgol am ddim.
  • Hyrwyddo amgylchedd ysgol cwbl gynhwysol, gan ofalu na oddefir bwlio na gwahaniaethu o unrhyw fath, a chan ganolbwyntio'n benodol ar frwydro yn erbyn hiliaeth.
  • Ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau’r llywodraethwyr wrth ymdrin â materion yn ymwneud â chydraddoldeb, a lle i gael cyngor yn hyn o beth.
  • Mynd ati, yn ôl y gofyn, i werthuso perfformiad y corff llywodraethu.

Sut i fod yn llywodraethwr effeithiol

Mae'r maes allweddol hwn yn canolbwyntio ar y gwahaniaeth rhwng llywodraethu a rheoli, gan ddiffinio'r rolau gwahanol fel y nodir isod.

  • Y pennaeth sy’n gyfrifol am drefniadaeth fewnol yr ysgol, am reoli’r ysgol ac arfer rheolaeth arni, cynghori ar fframwaith strategol y corff llywodraethu a pholisïau, a’u rhoi ar waith.
  • Y corff llywodraethu sy’n rhoi arweiniad strategol, gan gefnogi a herio'r pennaeth, drwy fod yn gyfaill beirniadol o ran cynllunio strategol ac o ran monitro a gwerthuso.

Dylai llywodraethwyr ddeall: 

  • pa swyddogaethau y gellir eu dirprwyo i'r pennaeth, a pha rai sydd wedi'u dirprwyo iddo
  • pwysigrwydd perthynas effeithiol â'r pennaeth, y staff, yr awdurdod lleol, yr awdurdod esgobaethol, dysgwyr a'r gymuned leol
  • yr angen i gyfathrebu'n dda â rhanddeiliaid, megis rhieni a gofalwyr, yr awdurdod lleol neu’r gymuned
  • rolau a chyfrifoldebau'r awdurdod lleol a'r awdurdod esgobaethol, lle bo'n berthnasol
  • y priodoleddau personol y mae eu hangen ar lywodraethwr o ran bod yn ddiplomataidd ac ystyried safbwyntiau llywodraethwyr eraill wrth wneud penderfyniadau, egwyddorion ymddygiad, gweithio fel cyfangorff a pheidio â gweithredu’n unigol
  • sut y mae cyfarfodydd cyrff llywodraethu’n gweithio a’r hyn a drafodir ynddyn nhw, megis agendâu, papurau, cofnodion, pleidleisio, cworymau (50% o aelodaeth y corff llywodraethu), ymddiheuriadau, egwyddorion derbyn y corff llywodraethu, dirprwyo swyddogaethau, pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd, hysbysiadau ynghylch cyfarfodydd, a’u hyd, amserlen cyfarfodydd, calendr gwaith y flwyddyn) 
  • beth i'w ddisgwyl mewn cyfarfod corff llywodraethu cyntaf, a sut i baratoi'n effeithiol ar gyfer cyfarfodydd cyrff llywodraethu, a gweithredu'n effeithiol ynddyn nhw
  • cytuno'n flynyddol ar strwythur cyrff llywodraethu a rôl y pwyllgorau, eu haelodaeth a'u cylch gorchwyl, a'u hadolygu; pennu eu pwerau a’u cyfrifoldebau; cyfathrebu effeithiol rhwng y pwyllgorau a’r corff llywodraethu
  • yr angen am gyfrinachedd o ran trafodion cyfarfodydd, materion sensitif, a sut mae aelodau unigol yn bwrw eu pleidlais
  • sut i ddelio â gwrthdaro buddiannau a chofrestru buddiannau ariannol, gan beidio â mynd i gyfarfodydd lle mae gwrthdaro o ran buddiannau personol 
  • sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud gan y corff llywodraethu
  • cyfrifoldeb corfforaethol y corff llywodraethu, a allai gynnwys cydgyfrifoldeb am y deilliannau y cytunir arnyn nhw, buddiannau gweithio'n effeithiol fel tîm, i ba raddau y mae llywodraethwyr yn atebol a'r cyfyngiadau ar yr atebolrwydd hwnnw
  • sut gallai cydweithio neu ffedereiddio fod o fudd i'r ysgol a'i dysgwyr
  • pwysigrwydd gweithio'n strategol, monitro a gwerthuso perfformiad yr ysgol drwy ddatblygu cynllun datblygu'r ysgol, hunanwerthusiadau, data perfformiad ac adroddiad y pennaeth

Mae nifer o bwyllgorau statudol gan y corff llywodraethu, gan gynnwys:

  • pwyllgor disgyblu a diswyddo staff
  • pwyllgor apêl disgyblu a diswyddo staff 
  • pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion
  • pwyllgor derbyniadau (ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ac unrhyw ysgol lle mae’r awdurdod lleol wedi dirprwyo awdurdod dros dderbyniadau i gyrff llywodraethu)

Rhaid i gyrff llywodraethu sefydlu gweithdrefnau statudol ar gyfer y canlynol: 

  • panel dethol pennaeth a dirprwy bennaeth
  • arfarnwyr rheoli perfformiad ar gyfer y pennaeth ac arfarnwyr apelau
  • adolygu cyflogau ac apelau’n ymwneud ag adolygu cyflogau
  • cwynion ac apelau’n ymwneud â chwynion 
  • gallu ac apelau’n ymwneud â gallu
  • cwynion

Dylai cyrff llywodraethu hefyd ystyried sefydlu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer y canlynol:

  • chwythu'r chwiban
  • toiledau ysgol
  • datblygu cynaliadwy

Rhaid i lywodraethwyr: 

  • gael hyfforddiant o ran rôl data ysgolion wrth hunanwerthuso a gwella
  • deall nodweddion ysgol effeithiol, drwy gymryd rhan mewn trafodaethau am gynllun datblygu'r ysgol a phroses hunanwerthuso'r ysgol, o leiaf bob tymor
  • ymweld â’r ysgol, er mwyn dod yn gyfarwydd â’r ysgol a dysgu amdani, gan barchu'r protocol ar gyfer ymweliadau ac amlinellu diben yr ymweliad
  • dilyn hyfforddiant a chyfleoedd datblygu yn barhaus; dylid adolygu'r hyfforddiant yn rheolaidd, a dylai'r corff llywodraethu cyfan ddadansoddi'r sgiliau a'r profiadau

Gwybodaeth gefndirol a dolenni perthnasol