Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi lansio ymgyrch newydd i hyrwyddo Cymru fel lle delfrydol i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu a'u teuluoedd, hyfforddi, gweithio a byw ynddo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad clir i barhau i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol ac i gymryd camau i ddenu mwy o feddygon teulu, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol iechyd eraill i hyfforddi yng Nghymru.

Bydd yr ymgyrch newydd genedlaethol a rhyngwladol hon yn ategu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan y byrddau iechyd i recriwtio staff. Bydd yn cynnig cymorth i feddygon teulu sydd â diddordeb mewn gweithio yng Nghymru, eu cefnogi wrth iddynt symud yma gyda'u teuluoedd, ac yn rhannu gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch yr hyn y gallan nhw ei ddisgwyl wrth ddod i Gymru.

Bydd yr ymgyrch yn targedu myfyrwyr meddygaeth sydd heb ddewis arbenigedd eto yn ogystal â hyfforddeion sy'n dod at ddiwedd eu hyfforddiant, i'w hannog i aros i fyw a gweithio yng Nghymru.  Bydd hefyd o ddiddordeb i feddygon teulu sydd wedi cymhwyso'n ddiweddar, y rhai sydd yng nghyfnodau cynnar eu gyrfaoedd, ynghyd â meddygon teulu profiadol sy'n dymuno cael patrwm gwaith gwahanol neu ddychwelyd i Gymru.

I gyd-fynd â'r ymgyrch newydd hon bydd ffynhonnell wybodaeth newydd, hawdd ei defnyddio hefyd yn cael ei lansio. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am ymarfer cyffredinol yng Nghymru a chymorth dros y ffôn ac ar-lein ar gyfer y rhai sy'n dymuno dychwelyd i weithio yma. Bydd y pwynt cyswllt hwn hefyd yn cynnig cymorth recriwtio uniongyrchol i'r meddygfeydd.  

Caiff cynllun cymhelliant ei gyflwyno i annog myfyrwyr i hyfforddi fel meddygon teulu yn yr ardaloedd hynny sydd wedi cael trafferth ers amser maith i lenwi swyddi.  O dan y cynllun hwn bydd yr hyfforddeion yn cael cyfanswm o £20,000 cyn belled ag eu bod yn cytuno i aros yn yr ardal lle y gwnaethon nhw hyfforddi am gyfnod yr hyfforddiant ac am flwyddyn arall wedi hynny.

Ar ben hyn, bydd taliad untro o £2,000 yn cael ei roi i'r holl hyfforddeion sy'n hyfforddi ar raglenni i arbenigo fel meddyg teulu i'w helpu i ysgwyddo costau’r arholiadau terfynol ar ddiwedd eu cyfnod o astudio yng Nghymru. Bydd y cynlluniau cymhelliant hyn yn eu lle erbyn mis Awst 2017.

Mae Deoniaeth Cymru, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau, hefyd wedi cyhoeddi Cytundeb Addysg newydd ar gyfer meddygon iau Cymru.  Bydd y cytundeb hwn, y cyntaf o'i fath yn y DU, yn gwarantu y bydd amser yn cael ei neilltuo ar gyfer addysg yn ystod wythnos waith meddygon dan hyfforddiant, er mwyn sicrhau eu bod i gyd yn cael mynediad at yr ystod eang o gyfleoedd addysgol fydd o fudd iddyn nhw wrth ddatblygu eu gyrfaoedd.  

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: 

"O fore gwyn tan nos, mae ein canolfannau gofal sylfaenol yn cynnig gwasanaeth arbennig i bobl Cymru, ond ry'n ni’n ymwybodol o'r her o recriwtio a chadw meddygon teulu yn y swydd. Nid yw hon yn broblem sy'n unigryw i Gymru, mae'r un her yn bodoli ledled y DU.

"Mae'n bwysig ein bod yn gweithredu, a hynny cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn gynaliadwy yn y tymor hir.

"Mae'r ymgyrch hon heddiw yn dangos bod Cymru'n fwy na lle gwych i fyw – mae hynny'n amlwg o weld ein trefi a'n dinasoedd ffyniannus, ein traethau, a’n mynyddoedd – mae hefyd yn lle gwych i hyfforddi a gweithio.

"Yn Arolwg Hyfforddeion y Cyngor Meddygol Cyffredinol 2016, allan o bedair gwlad y DU, ni oedd ar y blaen o ran bodlonrwydd cyffredinol wedi i’r meddygon teulu dan hyfforddiant rannu eu barn am eu bodlonrwydd, y profiad, y cyfnod cynefino a’r oruchwyliaeth glinigol.

"Dw i eisiau i feddygon ledled y DU a thu hwnt fod yn ymwybodol bod Cymru'n lle delfrydol i hyfforddi, gweithio a byw ynddo. Mae ymgyrch heddiw'n mynd ymhell wrth gyhoeddi'r neges honno."


Meddai'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

"Mae lansio'r ymgyrch hon heddiw yn deillio o waith caled gennym ni, Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Deoniaeth Cymru, ac rwy'n hynod o falch o'r canlyniad.

"Mae'r ymgyrch newydd yn mynd gam ymhellach na dim rydyn ni wedi ei wneud o'r blaen a bydd yn cyd-fynd â'r gwaith arbennig sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan ein byrddau iechyd i recriwtio staff. Beth sy'n wahanol yw ei fod yn amlygu beth sydd gan y wlad ei hun i'w chynnig i bobl sy'n hyfforddi ac yn gweithio yma.

"Bydd y cymelliadau wrth hyfforddi a'n cytundeb addysg unigryw sy'n gwarantu amser penodol ar gyfer hyfforddiant a gyhoeddwyd heddiw hefyd yn hwb i bobl ddod i Gymru i fod yn feddygon teulu.

"Gellir mesur llwyddiant mewn sawl ffordd, ond yn y pen draw ein gobaith yw gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau am leoliadau hyfforddi ac o ganlyniad bod y lleoedd rydyn ni'n eu hariannu yn cael eu llenwi.

"Slogan yr ymgyrch yw hyfforddi, gweithio, byw – mae'n amser lledaenu'r neges a sicrhau dyfodol llewyrchus i’r sector gofal sylfaenol yng Nghymru."