Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cronfa fenthyciadau gan Lywodraeth Cymru sydd werth miliynau o bunnoedd yn cefnogi busnesau adeiladu bach a chanolig i ddatgloi safleoedd segur ac adeiladu mwy o dai ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, y gronfa yn nigwyddiad brecwast y Sioe Deithiol i Fusnesau Adeiladu Bychan a Chanolig ym Mharc y Scarlets, Llanelli. Nod y digwyddiad hwn yw dangos y gefnogaeth sydd ar gael i gwmnïau adeiladu bychain a chanolig yng Nghymru.

Gellir ad-dalu benthyciad o'r gronfa fenthyciadau, sydd werth £40m, dros gyfnod o bedair blynedd. Rhagwelir y bydd hyn cael ei ail gynnig bedair gwaith dros ddwy flynedd ar bymtheg, gan ategu ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i helpu busnesau adeiladu bach a chanolig i adeiladu cartrefi a rhoi swyddi crefftus i bobl ledled y wlad.

Awgrymwyd mewn ymchwil yn 2015 y gellir adeiladu tua 7,600 o gartrefi ar oddeutu 400 o safleoedd ledled Cymru lle mae gwaith ar stop am resymau sy’n amrywio o waith cyn datblygu, hyfywedd economaidd, i heriau o ran sicrhau cyllid fforddiadwy. Gelwir y safleoedd hyn yn safleoedd segur, ac mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn addas i’w datblygu gan y sector Busnesau Bach a Chanolig. Gellir datgloi’r safleoedd hyn drwy fuddsoddi a rhoi cefnogaeth gynnar, megis ar gyfer gwaith paratoi, gwella seilwaith neu helpu gyda llif arian. 

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio: 

“Mae'r Gronfa Safleoedd Segur yn cynnig cyllid o £40m i fynd i'r afael â’r bwlch hwn yn y farchnad, a bydd ailgylchu’r buddsoddiad hwn yn golygu y bydd £160m ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig dros gyfnod o 17 o flynyddoedd i'w helpu i adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru.

“Rydym yn ymwybodol iawn bod cefnogi cwmnïau adeiladu bach a chanolig yn cael effaith ar yr economi leol, gan eu bod yn defnyddio cyflenwyr lleol i ddod o hyd i adnoddau a sgiliau. 

“Dyma pam ein bod yn targedu busnesau adeiladu llai o faint yn y sioe deithiol hon yn Llanelli. Gan gydweithio â Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a’r cyflenwyr adeiladwyr lleol LBS, rydym yn nodi'n union pa help sydd ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig er mwyn iddynt dyfu a datblygu.

“Rydym wedi ymrwymo i gyflenwi 20,000 o dai fforddiadwy yng Nghymru dros gyfnod y llywodraeth hon, ac mae busnesau adeiladu bach a chanolig yn allweddol os ydym am gyflawni hyn. Drwy roi cefnogaeth iddynt i ddatblygu mwy o safleoedd, byddwn yn helpu'r busnesau hyn i dyfu,  yn helpu i greu swyddi crefftus ac yn cyfrannu at yr economi leol, yn ogystal â chynyddu’r cyflenwad tai.

“Rydym eisoes yn gwybod bod y rhan fwyaf o fusnesau bach a chanolig wedi symud oddi wrth adeiladu tai ar ôl y dirwasgiad ddeng mlynedd yn ôl ac nad ydynt wedi dychwelyd at ddatblygu. Credaf y bydd y gronfa hon yn gallu eu helpu i wneud hyn, gan sicrhau bod y sector tai yn amrywiol a bod mwy o gartrefi'n cael eu hadeiladu.”