Hyd a chyflwr ffyrdd: Ebrill 2020 i Fawrth 2021
Adroddiad sy'n dangos gwybodaeth yn ôl dosbarth y ffordd ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
- Cyfanswm hyd y ffordd yng Nghymru yn 2020-21 oedd tua 35,020 km, cynnydd o 0.4% o'r flwyddyn flaenorol (2019-20). Nid yw cyfanswm hyd ffyrdd yng Nghymru yn newid llawer o flwyddyn i flwyddyn.
- Powys sy'n cynnwys rhwydwaith ffyrdd mwyaf awdurdodau lleol Cymru. Mae ganddi'r gyfran uchaf o'r holl gefnffyrdd (27.3%), ffyrdd B ac C (21.1%) a mân ffyrdd wyneb (12.0%) ac mae'n cyfrif am 15.7% o gyfanswm hyd ffyrdd Cymru.
- Yn 2020-21, roedd angen monitro cyflwr strwythurol yn agos ar 6.4% o'r rhwydwaith traffyrdd a 2.9% o'r rhwydwaith cefnffyrdd. Mae hyn yn cymharu â 6.2% a 2.7% yn y drefn honno yn 2019-20.
Effaith COVID-19
Mae'r datganiad hwn yn llai na'n cyhoeddiad arferol gan na chynhaliwyd rhai arolygon oedd yn bwydo’r adroddiad (e.e. arolwg cyflwr ffyrdd awdurdodau lleol gan Data Cymru, arolwg SCANNER) o ganlyniad i'r pandemig.
Mae chwe dosbarthiad ar gyfer ffyrdd â wyneb caled yng Nghymru: traffyrdd, cefnffyrdd, ffyrdd A sirol, ffyrdd B, ffyrdd C ac is-ffyrdd wyneb caled. Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd, tra bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am ffyrdd A sirol, B, C ac is-ffyrdd wyneb caled.
Casnewydd sydd â'r darn hiraf o draffordd (26 km), sy'n cyfrif am 19.2% o gyfanswm y draffordd yng Nghymru.
Powys sydd â'r rhwydwaith ffyrdd hwyaf gyda 5,508 km o ffordd, ac yna Sir Gaerfyrddin gyda 3,637 km(r). Mae'r rhan fwyaf o'r rhwydweithiau yn y ddau awdurdod hyn yn is-ffyrdd (categorïau B, C ac is-ffyrdd wyneb caled).
(r) Diwygiedig ar 8 Mawrth 2022
Ffyrdd a Reolir gan Lywodraeth Cymru
Cyflwr strwythurol traffyrdd a chefnffyrdd A
O ddiwedd Mawrth 2021, mae canlyniadau arolygon Defflectograff (gweler y nodiadau) yn awgrymu bod rhan fwyaf y rhwydwaith yn cael ei ystyried mewn cyflwr da ar hyn o bryd ac amcangyfrifir na fydd angen monitro 76% o'r draffordd na 85% o gefnffyrdd yn agos am o leiaf 20 mlynedd.
Mae'r adran hon yn ymdrin â chyflwr y rhwydwaith ffyrdd, a chynhelir arolwg bob blwyddyn i ganfod ei gyflwr strwythurol. Dangosodd yr arolwg fod angen monitro 6% o'r draffordd a 3% o'r rhwydwaith cefnffyrdd yn agos ar hyn o bryd. Dangosodd yr arolwg hefyd y bydd angen monitro 3% o'r draffordd a 2.1% o gefnffyrdd yn ystod y 4 blynedd nesaf.
Un ffactor sy'n effeithio ar gyflwr ffyrdd yw swm y traffig. Yn 2020, roedd y traffig yn 2.8 biliwn cilomedr cerbyd ar y draffordd, a 5.2 biliwn cilomedr cerbyd ar gefnffyrdd. Mae traffig fesul darn o'r ffordd yn llawer uwch ar draffyrdd o'i gymharu â chefnffyrdd, ffyrdd sirol ac is-ffyrdd (traffig ffyrdd).
Atal sgidio ar draffyrdd a chefnffyrdd A
Mae atal sgidio yn ymwneud ag arwynebau ffyrdd gwlyb neu laith. Mae'n adlewyrchu cyflwr arwyneb y ffordd drwy fesur ymwrthedd rhwng teiars cerbydau a'r ffordd wrth gyflymu, brecio neu gornelu. Cynhelir profion ar arwynebau gwlyb gan fod ffrithiant yn llai ar arwynebau ffyrdd gwlyb a'i bod yn anoddach atal sgidio. Arolygwyd 100% o arwynebau traffyrdd a 95% o arwynebau cefnffyrdd yn 2020-21.
Mae y gallu i atal sgidio ar yr M4 o safon uchel, heb unrhyw arwyneb a arolygwyd o dan lefel ymchwilio yn 2020-21. Ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd, canfuwyd bod 9.5% o'r arwyneb a arolygwyd ar lefel ymchwilio neu'n is na hynny yn 2020-21, i fyny o 8.3% yn y flwyddyn flaenorol.
Nodyn: Yn seiliedig ar ganlyniadau arolwg SCRIM (gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd am ragor o wybodaeth). Nid yw 'ar lefel ymchwilio neu'n is' yn golygu nad yw'r ffyrdd yn ddiogel; mae'n dangos bod angen ymchwilio ymhellach i bennu'r angen i gynnal a chadw'r rhan honno o'r ffordd.
Gwybodaeth am ansawdd
Perthnasedd
Defnyddir yr ystadegau o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau hyd ac amodau ffyrdd ac mewn cyfrifiadau Asesiad o Wariant Safonol (SSA), a ddefnyddir i ddosbarthu cyllid i awdurdodau lleol.
Prydlondeb
Mae'r ystadegau ar hyd ac amodau ffyrdd yn ymwneud â data a gafwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21. Mae ystadegau ar amodau ffyrdd awdurdodau lleol yn ymwneud â data ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20, 2020-21.
Hygyrchedd ac Eglurder
Mae'r bwletin ystadegol hwn wedi'i gyhoeddi ymlaen llaw ac yna'n cael ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau Cymru ac mae tablau ar ein gwefan StatsCymru yn cyd-fynd ag ef.
Cymaroldeb a Chydlyniad
Hyd traffyrdd
Nid oedd unrhyw newidiadau gwirioneddol i hyd y draffordd yn 2018-19 ond newidiodd yr amcangyfrif ychydig oherwydd methodoleg gwell. Dim ond mân newidiadau i hyd y draffordd (yn ogystal â neu minws uchafswm o 0.2 km) y mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi'u gweld, gan arwain at gynnydd cyfunol o 0.3 km yn gyffredinol.
Y ddau eithriad yw'r cynnydd yn Sir Fynwy a Chasnewydd (0.8 km a 0.7 km yn y drefn honno). Mae'r rhain o ganlyniad i gynnwys rhannau o'r ffordd a ddehonglwyd yn flaenorol fel ffordd ymuno; lle mae'r M48 yn ymuno â'r M4 yn Sir Fynwy a lle mae'r A48(M) yn ymuno â'r M4 yng Nghasnewydd. Ystyrir bod y darnau ymuno hyn yn draffyrdd ac nid yn ffyrdd ymuno am nad yw cerbydau'n gadael un ffordd i ymuno â'r llall, maent yn uno gyda'i gilydd.
Amodau ffyrdd awdurdodau lleol
Mewn cyhoeddiadau blaenorol, adroddwyd bod cyflwr y ffyrdd ar gyfer pob awdurdod lleol yn un ffigur sy'n ymwneud â chanran y rhwydwaith ffyrdd cyfan a reolir gan yr awdurdod lleol mewn cyflwr gwael. Mae'r data bellach yn cael eu cofnodi ar wahân yn ôl dosbarth ffordd i roi cynrychiolaeth fwy cywir o berfformiad pob awdurdod lleol. Y rheswm am hyn yw bod ffyrdd C mewn cyflwr gwaeth ar y cyfan na ffyrdd A neu B, felly roedd gan awdurdodau lleol sy'n cynnwys cyfran uwch o ffyrdd C gyfran lawer uwch o ffyrdd mewn cyflwr gwael.
Arolygon defflectograff
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu dau brif ddull o brosesu data Deffectograff. Defnyddiodd Llywodraeth Cymru'r dull Defflec ar gyfer pob arolwg hyd at 2014-15. Ers 2015-16, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio dull prosesu Pandef.
Mae hyn yn arwain at derfynu'r data rhwng 2014-15 a 2015-16. Fodd bynnag, mae'r newid hwn mewn meddalwedd yn alinio Llywodraeth Cymru â'r dulliau a ddefnyddir gan weddill y DU, gan gynnwys Highways England a Transport Scotland.
Arolygon SCRIM
O ganlyniad i'r amrywiad hwn yn y nodweddion sgidio, tan 2005, cynhaliwyd arolygon SCRIM o'r rhwydwaith cefnffyrdd ar draean o'r rhwydwaith bob blwyddyn, gyda phob darn yn cael ei arolygu deirgwaith yn ystod y flwyddyn (ar ddechrau, canol a diwedd tymor yr arolwg SCRIM).
Fodd bynnag, bu newid yn y dull o arolygu cefnffyrdd o 2005, fel bod mesuriadau ymwrthedd i sgidio bellach yn cael eu gwneud bob blwyddyn o dan un drefn o arolwg blynyddol. Mae'r arolygon wedi'u trefnu fel bod y rhwydwaith, dros gyfnod o dair blynedd, yn cael ei arolygu'n gynnar, yng nghanol ac yn hwyr yn y tymor profi yn y blynyddoedd dilynol, h.y. bydd hyd a arolygwyd yn gynnar yn y flwyddyn gyntaf yn cael ei arolygu yng nghanol y tymor yn yr ail flwyddyn ac yna'n hwyr yn y tymor yn y drydedd flwyddyn.
Mae Highways England (yr Asiantaeth Priffyrdd gynt) wedi trefnu treial cydberthyniad blynyddol ar gyfer cerbydau arolwg SCRIM, sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan TRL. Mae'n ofynnol i bob cerbyd SCRIM sy'n cynnal arolygon ar gefnffyrdd basio'r treial er mwyn cynnal arolygon ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Gall gweithredwyr arolygon SCRIM eraill hefyd fynychu'r treialon, er nad yw'n orfodol. Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol sy'n comisiynu arolygon SCRIM fel arfer yn disgwyl y bydd y cerbydau SCRIM a ddefnyddir ar eu rhwydwaith wedi pasio'r treialon, ac felly yn ymarferol canfuwyd fod pob cerbyd SCRIM sy'n gweithredu yn y DU yn mynd i’r treialon. Yn y treialon, ma'n ofynnol i'r cerbydau SCRIM gynnal arolygon ar nifer o safleoedd sydd â gwahanol lefelau o ymwrthedd i sgid ac mae'r data'n cael ei gymharu i nodi'r allanolynnau. Nod y treialon felly yw sicrhau cysondeb ar draws y fflyd o gerbydau sy'n gweithredu yn y DU.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac yn dynodi cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran ymddiriedaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai pob ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n bodloni'r safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Chwefror 2011 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.
Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- Ychwanegu at a mireinio gwybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi.
- Gwella ein dealltwriaeth o'r gwahanol ffynonellau data a'r fethodoleg y tu ôl iddynt, gan gynnwys eu cryfderau a'u cyfyngiadau.
- Ychwanegu ffynonellau data perthnasol newydd i roi darlun ehangach o'r pwnc.
- Gwell delweddau drwy symleiddio a safoni siartiau a thablau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a'u hadfer pan fydd safonau'n cael eu hadfer.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Mae'r rhain ar gyfer Cymru fwy cyfartal, ffyniannus, gwydn, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog a iaith Gymraeg sy’n ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae'n rhaid eu cymhwyso at y diben o fesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau Llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau a gynhwysir yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
Awst 2022 (dros dro).
Rydym am gael eich adborth
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn y gellir eu darparu drwy e-bost i ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: James Khonje
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SB 27/2021