Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi bod nifer y lleoedd hyfforddi i feddygon teulu sydd wedi cael eu llenwi yng Nghymru yn uwch na’r targed a osodwyd unwaith eto eleni.
Cafodd y cwota ar gyfer lleoedd hyfforddi i feddygon teulu ei gynyddu o 136 i 160 eleni ac mae 186 o'r lleoedd hynny wedi cael eu llenwi. Mae hyn yn gynnydd o 38% ar y 144 o leoedd hyfforddi a gafodd eu llenwi y llynedd.
Mae'r Gweinidog hefyd wedi bod yn India i godi proffil ymgyrch GIG Cymru i recriwtio meddygon.
Dywedodd Mr Gething:
Rydyn ni unwaith eto wedi llwyddo i orlenwi ein lleoedd hyfforddi i feddygon teulu, y tro hwn yn erbyn ein targed newydd sy'n uwch nag yr oedd. Gyda'r gweithgarwch recriwtio sy'n digwydd y tu allan i Gymru hefyd, rydyn ni wedi gwneud cynnydd gwych wrth recriwtio meddygon i'n Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu rhagori ar ein targed newydd ar gyfer lleoedd hyfforddi i feddygon teulu. Mae ein neges bod Cymru yn lle rhagorol i Weithio, Hyfforddi a Byw ynddo yn amlwg yn cael effaith gartref a thramor. Diolch i'n mentrau hyfforddi ar gyfer meddygon teulu, rydyn ni'n bodloni ein targedau recriwtio mewn ardaloedd sydd wedi cael trafferth denu meddygon yn y gorffennol.
Ond er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni ein targed rhaid inni hefyd edrych y tu hwnt i Gymru, a dyna pam rydw i wedi bod yn India i hybu ein hymdrechion i recriwtio yno.
Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau bod gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y gweithlu medrus sydd ei angen arno i fodloni ein huchelgeisiau hirdymor ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, fel y nodir yn Cymru Iachach.
Mae dau gymhelliant ariannol i'n hymgyrch Hyfforddi Gweithio Byw: £20,000 i hyfforddeion i fod yn feddygon teulu sy'n derbyn swyddi mewn ardaloedd penodedig lle bu'n anodd llenwi swyddi, a chynllun cyffredinol sy'n cynnig taliad untro i bawb sy'n hyfforddi i fod yn feddyg teulu i dalu cost sefyll eu harholiadau terfynol unwaith.
Dywedodd yr Athro Phil Matthews, Cyfarwyddwr Addysg Ymarfer Cyffredinol i Raddedigion, Addysg a Gwella Iechyd Cymru:
Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi yng Nghymru a bod cymaint o feddygon yn dod yma i gael eu hyfforddi.
Mewn ychydig o flynyddoedd, bydd llawer mwy o feddygon teulu yn cymhwyso i helpu Gofal Sylfaenol yng Nghymru i fodloni'r heriau y bydd yn eu hwynebu yn y degawdau sydd i ddod.
Hoffem ddiolch i bob addysgwr a'n holl staff gweinyddol, ym mhob cwr o Gymru, sy'n chwarae rhan i sicrhau bod meddygon teulu yn cael eu hyfforddi am eu gwaith caled parhaus a'u hymrwymiad.
Mae India wedi bod yn gyrchfan bwysig ar gyfer ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddenu mwy o feddygon o'r tu allan i Gymru. Nod yr ymgyrch recriwtio a gynhaliwyd gan Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ar y cyd â'r Gymdeithas Brydeinig Meddygon o Dras Indiaidd, fel rhan o gynllun y Fenter Hyfforddiant Meddygol, yw dod â gweithwyr meddygol proffesiynol o India i weithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru am gyfnod o hyd at 24 mis. Mae'r cynllun sydd o fudd i'r ddwy ochr yn rhoi cyfle i feddygon o dramor weithio a hyfforddi yng Nghymru. Cafodd 108 o feddygon gynnig swyddi yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru drwy'r cynllun hwn y llynedd.
Yn ystod ei ymweliad â India, cafodd Mr Gething gyfarfod â rhai ymgeiswyr sydd wedi ymgeisio am le ar gynllun y Fenter Hyfforddiant Meddygol yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ogystal â chyfarfod â thîm recriwtio Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.