Flwyddyn ar ôl y newid pwysig i’r gyfraith i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol, mae nifer o becynnau cymorth magu plant penodol ledled Cymru yn helpu i hybu newidiadau cadarnhaol i fywyd teuluol a chodi ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth newydd.
Daeth y gyfraith newydd, sy’n amddiffyn plant a’u hawliau, i rym ym mis Mawrth 2022 ac mae’n rhoi’r un amddiffyniad rhag ymosodiad i blant ag oedolion yng Nghymru.
Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn rhoi ciplun o safbwyntiau ar ddechrau 2022, ychydig cyn i’r gyfraith ddod i rym. Mae’r ciplun hwn yn dangos bod 71% o rieni/gofalwyr plant saith oed neu iau yn anghytuno ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn, o gymharu â 63% a arolygwyd yn 2021.
Canfu’r adroddiad hefyd y bu cynnydd mewn ymwybyddiaeth o’r gyfraith a chefnogaeth iddi ers 2018, gyda 59% o’r ymatebwyr yn adrodd eu bod o blaid y newid i’r gyfraith o gymharu â 38% yn 2018.
Mae rhieni / gofalwyr cymwys y canfuwyd eu bod wedi torri’r gyfraith yn cael cymorth gan weithwyr magu plant proffesiynol yn rhan o gynllun cymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i’r llys. Mae’r cynllun, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn helpu’r rhieni i osgoi aildroseddu. Yn ystod y chwe mis ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym, roedd 55 o atgyfeiriadau am gymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i’r llys ar draws Cymru gan yr heddlu.
Mae’r rhai sy’n gweithio gyda’r rhieni wedi canmol y ddeddfwriaeth newydd am roi eglurder i’r sector a rhieni ynglŷn â chosbi plant yn gorfforol, a oedd yn faes niwlog o’r blaen.
Dywedodd Sue Layton, Cadeirydd y Rhwydwaith Arweinwyr Strategol Teuluoedd a Magu Plant Cenedlaethol a’r Cydlynydd Magu Plant ar gyfer Gwynedd:
Mae’r ddeddfwriaeth newydd wedi bod yn amhrisiadwy wrth amlygu effaith cosbi corfforol, ac mae’r adnoddau ychwanegol a ddarperir i awdurdodau lleol ar gyfer cymorth magu plant wedi’i deilwra wedi cael eu croesawu. Nid yw’r sefyllfa mor niwlog ag o’r blaen. Mae’r ddeddf yn gosod ffiniau pendant, ac nid yw’n dderbyniol cosbi plentyn yn gorfforol yng Nghymru mwyach.
Ychwanegodd Gwawr Miller, Swyddog Cymorth Magu Plant, Deddf Plant Cymru, Cyngor Gwynedd:
Fe wnaethon ni gryn dipyn o waith codi ymwybyddiaeth cyn i’r gyfraith newid yn rhan o’n sesiynau magu plant. Roedd hyn wedi ein galluogi i sôn am gosbi corfforol a rhoi gwybod i rieni fod y gyfraith yn newid. Ers i’r gyfraith ddod i rym, rydyn ni wedi llwyddo i annog rhieni i fyfyrio ar eu hymddygiad eu hunain a chanolbwyntio ar fathau eraill o ddisgyblu nad ydynt yn cynnwys cosbi corfforol.
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:
Nid yw magu plant bob amser yn rhwydd ac rydym wedi canolbwyntio ar fagu plant yn gadarnhaol, ac yn parhau i wneud hynny. Mae ein hymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo yn fan cychwyn gwych i rieni.
Flwyddyn ers i gosbi corfforol ddod yn anghyfreithlon, rwy’n falch o weld bod y cymorth rydym yn ei gynnig i rieni yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Y ddeddf oedd y sbardun yr oedd ei angen ar y sector i allu darparu eglurder a chymorth ymarferol, a gyda phob blwyddyn sy’n mynd heibio, bydd mwy a mwy o blant a theuluoedd yn gweld budd y ddeddfwriaeth a’r gefnogaeth y mae wedi’i rhoi i hawliau plant yng Nghymru.