Bydd gwerth £40 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol a gyhoeddwyd yng Nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn gwella'r ystad iechyd yng Nghymru ac yn cyflymu newidiadau.
Mae'r cyllid cyfalaf yn ffurfio rhan o fuddsoddiad sylweddol, parhaus, i foderneiddio adeiladau ac offer y GIG a helpu i ddarparu modelau gofal newydd.
Bydd yn cael ei anelu'n benodol at ddatblygu canolfannau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol integredig newydd yng Nghymru. Bydd hynny'n gwella mynediad at wasanaethau lleol a gofal yn nes at gartrefi pobl. Bydd yn helpu byrddau iechyd lleol i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer cyfleusterau mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol yn gyflymach yn y dyfodol.
Dywedodd Vaughan Gething:
"Mae'r cyllid sylweddol hwn a gyhoeddwyd yn y Gyllideb derfynol yn newydd gwych i fyrddau iechyd lleol Cymru.
"Rydyn ni'n gwybod bod nifer ohonyn nhw'n awyddus i fynd ati i fuddsoddi mewn datblygiadau i wella'r integreiddio rhwng gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn eu hardaloedd. Bydd y cyllid a gyhoeddwyd yn y Gyllideb derfynol yn eu galluogi nhw i wneud hynny.
"Rydyn ni eisiau i bobl gael mynediad at wasanaethau cymdeithasol ac iechyd mewn amgylchedd modern, addas i'r diben yn eu cymuned leol lle bo hynny'n bosib. Er nad yw'n bosib rhoi rhagor o fanylion ar hyn o bryd, rydyn ni'n disgwyl y bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw'n galluogi pob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru i fwrw ymlaen â phrosiectau newydd sydd yn yr arfaeth, a bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar gyfer cleifion."